Crynodeb

  • 22 yn rhagor o farwolaethau Covid-19 sy'n mynd â'r cyfanswm yng Nghymru i 1,154

  • Gwrthbleidiau Cymru yn galw am system brofi credadwy cyn codi cyfyngiadau

  • Busnesau yn galw am grantiau i'w helpu i fedru gweithredu ymbellhau cymdeithasol yn y gweithle

  • Economi'r DU wedi crebachu o 2% yn y tri mis hyd at Mawrth 2020 oherwydd coronafeirws

  1. Rheolau yn 'gymysglyd'wedi ei gyhoeddi 11:18 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Wales Online

    Mae Wales Online wedi bod yn siarad gyda phobl sydd yn byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. , dolen allanolMae'r trigolion maen nhw wedi holi yn dweud bod y rheolau yn gymysglyd.

    Mae Cassie Stephens yn byw yng Nghasnewydd ond yn teithio i'w gwaith yn Lloegr ac yn dweud nad yw hi'n siŵr beth mae fod i wneud.

    Ar hyn o bryd mae'n gorfod cerdded i'w gwaith o Gas-gwent am nad oes llawer o drafnidiaeth gyhoeddus.

  2. Manteision uwchsain ar yr ysgyfaintwedi ei gyhoeddi 11:05 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    golwg360

    Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn sôn am y manteision o ddefnyddio uwchsain er mwyn monitro'r difrod sydd wedi ei wneud ar yr ysgyfaint os yw claf wedi cael y feirws, dolen allanol.

    Fel arfer mae uwchsain yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cleifion beichiog ac anafiadau cyhyrol.

    Nawr mae’r brifysgol wedi cyhoeddi tystiolaeth a chanllawiau cynnar ar y defnydd o uwchsain medd Golwg360 a mae'r ymchwil yn cael ei ddefnyddio ar draws y byd.

  3. 'Anobaith' i'r ifancwedi ei gyhoeddi 10:49 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    BBC Wales News

    Mae'r pandemig wedi gadael ei ôl ar bobl ifanc. Yn eu plith mae Jared Thomas o Dde Cymru sydd fel arfer yn torri coed. Ond yn sgil y feirws does dim galw am ei waith.

    Pan ddigwyddodd yr argyfwng economaidd dwytha fe aeth graddedigion i chwilio am waith yn y sector manwerthu, teithio a gwestai medd y felin drafod Resolution Foundation.

    Ond nawr mae'r sectorau hynny ar gau gan adael llai o opsiynau i bobl.

    Mae'r corff yn annog llywodraeth y DU i gynnig mwy o gefnogaeth ariannol i'r rhai sy'n gadael ysgol ac eisiau swyddi lle maent yn cael eu hyfforddi tra'n gweithio.

    JaredFfynhonnell y llun, Jared Thomas
    Disgrifiad o’r llun,

    "Dwi ddim yn gwybod pryd fydd yna fwy o alw am y gwaith" meddai Jared sydd yn torri coed

  4. Dyma'r gwersi am heddiw....wedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Pryder am dwf mewn ymwelwyrwedi ei gyhoeddi 10:32 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Mae Heddlu'r Gogledd wedi ategu'r neges na ddylai pobl deithio i Eryri.

    Daw'r neges yn sgil sylw gan wefan sy'n boblogaidd ymysg cerddwyr sy'n dangos cynnydd mawr mewn diddordeb ers i gyfyngiadau gael eu llacio yn Lloegr.

    Roedd hynny wedi eu harwain i feddwl y byddai llawer yn ceisio teithio i Eryri cyn hir.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Y Senedd yn cwrdd heddiwwedi ei gyhoeddi 10:22 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Bydd ailagor busnesau yn 'gostus'wedi ei gyhoeddi 10:10 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    BBC Radio Cymru

    Yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach Cymru, mae ail-agor busnesau yn mynd i fod yn gostus i nifer.

    Ar y Post Cyntaf dywedodd ei llefarydd Llŷr ap Gareth: "Yr alwad ydy, pan ddaw hi yn amser i ail agor busnesau - ac mae nifer wedi cau dros gyfnod eithaf hir bellach heb incwm - bydd angen i'r busnesau hyn allu addasu i gyfyngiadau pellter cymdeithasol.

    "I nifer, mae hyn yn mynd i fod yn dipyn o sialens, mae staff yn mynd i fod angen ail-ddysgu sut i wneud pethau. Ryda'n ni felly yn galw am grant felly i helpu busnesau i allu addasu.

    "Mae sawl busnes yn mynd i gael trafferth cyflwyno'r cyfyngiadau a sicrhau incwm i allu gwneud bywoliaeth. Mae angen i bobl allu hyfforddi ar gyfer y newidiadau a dod 'nôl i ryw fath o normalrwydd newydd, bydd angen rhyw fath o amserlen fras."

  8. Rheolau gwahanol 'wedi creu problemau'wedi ei gyhoeddi 09:42 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    BBC Radio Cymru

    Bu Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru heddiw a dywedodd:

    "Pan roedd Boris Johnson yn siarad nos Sul wnaeth e ddim ei gwneud hi'n glir bod llawer o'r hyn oedd yn ei gyhoeddi yn berthnasol i Loegr ac nid i Gymru.

    "Ond ers hynny dwi'n meddwl bod y dadlau yn y wasg wedi ei gwneud hi yn glir bod y sefyllfa yng Nghymru ar Alban yn wahanol i Loegr.

    "Roedd Mark Drakeford a'r Alban yn awyddus iawn i gadw mewn 'lock step' i bawb fyd yr un ffordd. Dewis Bris Johnson oedd hi i wneud pethau yn wahanol ac mae hyn wedi creu problemau.

    "Y neges sy'n rhaid i ni gyfleu ydy na all bobl deithio yma i hamddena. Rydan ni wedi siarad efo'r Comisiynwyr yn Lloegr i ddweud hyn hefyd. Mae'r rheolau yn wahanol."

  9. Dim mygydau gorfodolwedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    BBC Radio Wales

    Roedd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton yn siarad ar Radio Wales y bore 'ma, gan egluro'r penderfyniad i beidio gorfodi pobl Cymru i wisgo mygydau pan allan yn gyhoeddus.

    Dywedodd Dr Atherton nad oedd am i ddiwylliant o gywilyddio pobl am beidio gwisgo mwgwd ddatblygu - Cymru yw'r unig wlad yn y DU i beidio argymell eu gwisgo.

    Ychwanegodd bod buddion gwisgo mwgwd wedi eu gorbwysleisio, a bod rhai anfanteision hefyd.

    Roedd yn dadlau bod hylendid sylfaenol ac ymbellhau cymdeithasol yn gallu gwneud mwy o wahaniaeth na gwisgo mwgwd, ond dywedodd: "Fy nghyngor i yw y gall pobl eu defnyddio os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny, ond na ddylen nhw fod yn orfodol"

  10. Canolfan asesu newydd i Fangorwedi ei gyhoeddi 09:18 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gweithio gyda meddygon teulu ardal Arfon i sefydlu canolfannau asesu er mwyn ceisio rheoli triniaeth cleifion gyda symptomau Covid-19 yn y gymuned.

    Bydd y ganolfan ddiweddaraf yn agor yr wythnos yma yn y stadiwm sy'n cael ei ddefnyddio gan Glwb Pêl-droed Dinas Bangor er mwyn asesu cleifion yr ardal.

    Ni fydd profion coronafeirws ar gael yno, a dim ond cleifion sydd wedi gwneud apwyntiad fydd yn cael eu gweld gan feddygon fel Dr Catrin Elis Williams a Dr Nia Hughes (sydd yn y llun).

    nantporthFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
  11. Canmoliaeth y cyfansoddwr!wedi ei gyhoeddi 08:57 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Twitter

    Daeth criw o weithwyr y Gwasanaeth Iechyd at ei gilydd i recordio fersiwn Zoom o glasur Simon and Garfunkel - Bridge Over Troubled Water - ar gyfer Ysbyty'r Enfys ar safle Venue Cymru yn Llandudno.

    Mae sawl un wedi canol y fersiwn... gan gynnwys neb llai na'r cyfansoddwr, Paul Simon!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Cwmnïau angen grantiau i addasu i'r rheol dau fetrwedi ei gyhoeddi 08:49 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Cais hefyd am gynllun twristiaeth i helpu cwmnïau oroesi ar ôl colli busnes gwanwyn a haf eleni.

    Read More
  13. Economi'r DU yn crebachu'n gyflymwedi ei gyhoeddi 08:43 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Fe wnaeth economi'r DU grebachu'n gyflymach nag unrhyw adeg ers y cwymp ariannol yn 2007 yn chwarter cyntaf eleni oherwydd coronafeirws.

    Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod yr economi wedi crebachu o 2% yn y tri mis hyd at Mawrth 2020, a hynny'n dilyn dim twf yn chwarter olaf 2019.

    Mae arbenigwyr yn disgwyl cwymp pellach yn ail chwarter y flwyddyn cyn i'r economi ddechrau adfywio.

    arian
  14. Negeseuon gwahanol yn gwneud gwaith yn anoddachwedi ei gyhoeddi 08:27 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    BBC Radio Wales

    Wrth siarad ar Radio Wales y bore 'ma, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent fod y gwahaniaeth yn y negeseuon rhwng Cymru a Lloegr yn gwneud gwaith yr heddlu'n anoddach.

    Dywedodd Pam Kelly: "Mae'n rhoi mwy o heriau i ni yn sicr, ond nid brwydr rhwng Cymru a Lloegr neu rhwng deddfau gwahanol yw hyn, ond brwydr yn erbyn y feirws.

    "Yr hyn yr ydym yn gwneud yw apelio ar bobl i ddefnyddio synnwyr cyffredin, ac fe fyddwn ni'n sicrhau bod eu hymddygiad yn unol gyda beth yr ydym yn ei ddweud yma yng Nghymru - arhoswch adre, arhoswch yn ddiogel, arhoswch yn lleol ac achubwch fywydau."

  15. Bore da i chiwedi ei gyhoeddi 08:16 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'n llif byw ar fore Mercher, 13 Mai.

    Yma y cewch chi'r holl bytiau o newyddion diweddaraf am coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys y gynhadledd newyddion ddyddiol gan Llywodraeth Cymru a'r ffigyrau diweddaraf.

    Arhoswch gyda ni tan tua 18:00... bore da i chi!