Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:57 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai 2020
Dyna ni ar y llif byw am heddiw, ond fe gewch chi'r diweddara' ar ein gwefan am weddill y noson.
Diolch am ddilyn.
Covid-19: Ardaloedd difreintiedig yn dioddef mwy
'AS o Sir Gaerhirfryn ar Ynys Môn cyn cyfyngiadau'
'Clymu dwylo' heddlu drwy beidio cynyddu dirwyon
Dyna ni ar y llif byw am heddiw, ond fe gewch chi'r diweddara' ar ein gwefan am weddill y noson.
Diolch am ddilyn.
Mae cynlluniau ar waith i ailagor llyfrgelloedd yng Nghasnewydd, Blaenau Gwent a Chaerffili, yn dilyn y newid i reolau gan Lywodraeth Cymru.
Er hynny, ni fydd llyfrgelloedd Sir Fynwy a Thorfaen yn agor am beth amser eto, yn ôl y Gwasanaeth Newyddion Democratiaeth Leol.
Mae'r llywodraeth wedi caniatau i gynghorau gynllunio ar gyfer ailagor rhai gwasanaethau fel llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu.
Wrth ymateb i gwestiwn yn y gynhadledd, mae dirprwy prif-swyddog meddygol Lloegr yn dweud mai dychwelyd i ymarfer yn ddiogel fydd y cam cyntaf i chwaraeon proffesiynol dros Brydain.
Does dim manylion wedi eu cyhoeddi eto i glybiau pêl-droed a rygbi proffesiynol Cymru.
Dywedodd yr Athro Jonathan Van-Tam y byddai'n rhaid adolygu'r drefn ymarfer cyn meddwl am gemau cystadleuol.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Grant Shapps sydd yng ngofal y gynhadledd heddiw.
Mae wedi rhoi braslun o'r cynllun i ailddechrau'r wlad a'r economi, a hefyd wedi ailadrodd y cais i bobl osgoi trafnidiaeth gyhoeddus wrth deithio i'r gwaith os yn bosib.
Mae Mr Shapps hefyd wedi rhoi manylion ar welliannau i'r rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd yn Lloegr.
Cafwyd cadarnhad ben bore 'ma fod 33,614 o bobl wedi marw yn y DU wedi prawf coronafeirws positif – cynnydd o 428 mewn 24 awr.
233,151 oedd cyfanswm yr achosion o'r haint, yn ôl Adran Iechyd San Steffan.
Roedd y ffigyrau hefyd yn dangos fod 126,064 o brofion wedi eu cynnal, neu eu postio, ddydd Mercher - y trydydd tro i'r llywodraeth gyrraedd y targed o 100,000 o brofion y diwrnod, yn ôl eu meini prawf diweddaraf.
BBC Radio Cymru
Mae'r rhaglen yn dechrau am 17:00, yn ôl yr arfer.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae myfyrwraig nyrsio o Fro Morgannwg oedd ar beiriant anadlu am 22 diwrnod ar ôl cael Covid-19 wedi cael rhodd annisgwyl o £5,000 gan y canwr Rod Stewart.
Cafodd Natasha Jenkins, sy'n fam i dri o blant, ei tharo'r wael cyn Sul y Mamau a bu'n rhaid iddi gael gofal dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Cafodd fideo dirdynnol o'i haduniad gyda'i phlant wrth ddychwelyd adref ei rhannu'n helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Natasha wrth BBC Cymru ei bod yn gwella'n dda erbyn hyn, a bod cynrychiolydd y canwr wedi cysylltu â hi cyn iddi dderbyn llun ohono gyda neges a siec.
"Pan welish i beth roedd Rod Stewart wedi danfon ata'i, ro'n i'n hollol gob-smacked," meddai. "Roedd yn beth hollol hyfryd a charedig iddo wneud."
Mae Natasha nawr yn ystyried defnyddio'r arian i godi calon ei plant, gan ychwanegu: "Maen nhw wedi bod trwy gymaint."
Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Bydd teithiau bws ychwanegol yn cael eu trefnu yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr o ddydd Llun ymlaen i helpu gweithwyr allweddol a phobl eraill sydd angen gwneud siwrne hanfodol.
Y bwriad yw i'r bysus gludo hanner y cyfanswm posib arferol o deithwyr fel bod modd i bawb fod yn ddigon pell oddi wrth ei gilydd.
Bydd gofyn hefyd i deithwyr osgoi defnyddio arian parod, os yn bosib.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Heddlu Dyfed Powys
Mae canolfannau garddio wedi cael agor yng Nghymru ers dechrau'r wythnos, ond dyma'r heddlu'n atgoffa'r cyhoedd bod angen osgoi teithio'n bell i'w cyrraedd - ac mae'r un peth yn wir am draethau.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
... medd aelod o'r grŵp Melin Melyn, oedd i fod i berfformio ar un o lwyfannau Gŵyl Green Man eleni wrth i'r digwyddiad gael ei ganslo.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae fideo o gôr rhithiol arbennig, sy'n cynnwys staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi derbyn canmoliaeth gan Mark Drakeford.
Ddoe roedd y perfformiad wedi derbyn canmoliaeth gan Paul Simon, cyfansoddwr y gân.
Yn y fideo mae nifer o staff y GIG yn canu'r gân enwog Bridge Over Troubled Water ochr-yn-ochr â chantorion lleol a phroffesiynol fel teyrnged i staff yr ysbyty maes newydd, Ysbyty Enfys, sydd wedi ei adeiladu yn Venue Cymru, Llandudno.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae ras feicio Taith Prydain eleni wedi cael ei chanslo oherwydd yr argyfwng coronafeirws.
Roedd y gystadleuaeth i fod i ddigwydd rhwng 6-13 Medi, gyda dau o'r wyth cymal yng Nghymru.
Dywed y trefnwyr y bydden nhw'n cadw'r un llwybrau wrth symud y ras i 5-12 Medi 2021.
Mae hynny'n golygu y bydd y pedwerydd cymal rhwng Dinbych a Llanfair-ym-Muallt, a'r pumed cymal i Gaerfaddon yn dechrau yn Aberdâr.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Ystadegau Cymru wedi rhannu gwybodaeth am waith y Gwasanaeth Iechyd a'r nifer o farwolaethau yng Nghymru yn ystod y pandemig, a hynny ar ffurf nifer o graffiau cyfleus.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mwy o geir ar y ffyrdd ac adroddiadau o ymwelwyr mewn tai haf yn codi "tensiynau" ar yr ynys.
Read MoreIechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi cofnodi 10 yn rhagor o farwolaethau o bobl gyda coronafeirws.
Mae cyfanswm y meirw bellach yn 1,164.
Cafodd 128 o achosion newydd o Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru, sy'n golygu bod 11,834 o bobl yma wedi profi'n bositif am yr haint.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod y gwir ffigyrau yn debyg o fod yn llawer uwch yn y ddau achos.