Crynodeb

  • Cyngor i hunan-ynysu os yn methu blasu neu arogli

  • Galw am gydweithio'n agos gyda chenhedloedd y DU i ddelio â'r coronafeirws

  • Mark Drakeford: Feirws wedi amlygu 'cryfder' datganoli

  1. Nicotîn yn gymorth i daclo Covid-19?wedi ei gyhoeddi 14:59 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    The Guardian

    Mae'r Guardian yn adrodd am arbrawf posib yn defnyddio patsys nicotîn i geisio taclo Covid-19.

    Daw'r cynllun gan feddygon yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn dilyn profion gan wyddonwyr yn Ffrainc.

    Cliciwch yma i ddarllen y stori'n llawn, dolen allanol.

  2. Cynnydd yn nifer dysgwyr Cymraeg wrth ynysuwedi ei gyhoeddi 14:41 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Mae 'na gynnydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd yn dysgu Cymraeg yn ystod y cyfnodo gyfyngiadau cymdeithasol, medd un ganolfan iaith.

    Dywed y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fod dros 8,000 o ddysgwyr newydd wedi dechrau cyrsiau Cymraeg arlein ers cychwyn y pandemig.

    Mae 1,300 o'r rhain yn cynnwys pobl sydd yn dilyn cyrsiau sy'n gyfuniad o wersi gyda thiwtoriaid dros gyswllt fideo ac astudio unigol.

    Un sydd wedi bod yn dilyn cwrs newydd ydy Cheryl George o Bontypridd.

    "Mae dysgu Cymraeg wedi bod ar fy rhestr o bethau i'w wneud ers amser maith. Fe wnes i drio o'r blaen ond fe gymerodd gwaith a fy mywyd drosodd," meddai.

    "Gan fy mod ar gyfnod ffyrlo o'r gwaith, mae gen i'r rhodd o amser. Fe weles i fod y cwrs yma arlein a meddwl ei fod yn berffaith. Roeddwn i chydig yn nerfus a phryderus gan ei fod arlein - sut fyddai'n gweithio?

    "Roedd y sesiwn Zoom gyntaf yn wych! Rwy'n edrych ymlaen at y naw wythnos nesaf a thu hwnt ac i ddatblygu fy ngwybodaeth am yr iaith."

  3. Drakeford: Feirws wedi amlygu 'cryfder' datganoliwedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Pobl yn Llundain yn dechrau gweld "cryfder" datganoli yn sgil y pandemig, medd y Prif Weinidog.

    Read More
  4. Yr ystadegau diweddarafwedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Map marwolaethau

    Mae'r map uchod yn dangos bod byrddau iechyd y de ddwyrain a'r gogledd wedi gweld y nifer uchaf o farwolaethau Covid-19 hyd yn hyn.

    Mae'r graff isod hefyd yn dangos y tuedd dros yr wythnosau diwethaf, wrth i nifer y marwolaethau gwympo'n raddol ers canol Ebrill.

    Graff marwolaethau
  5. Niferoedd achosion a marwolaethau diweddarafwedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi cofnodi 4 yn rhagor o farwolaethau o bobl gyda coronafeirws.

    Mae cyfanswm y meirw bellach yn 1,207.

    Cafodd 101 o achosion newydd o Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru, sy'n golygu bod 12,404 o bobl yma wedi profi'n bositif am yr haint.

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod y gwir ffigyrau yn debyg o fod yn llawer uwch yn y ddau achos.

  6. Dim golff i Geredigion - am y trowedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Twitter

    Mae nifer o glybiau golff ar draws Cymru wedi cael yr hawl i ail-agor eto heddiw - ond nid dyma fydd yr achos yng Ngheredigion medd Golwg360.

    Dywed y cyngor fod y chwe chwrs golff yn yr ardal yn mynd i fod ar gau tan 1 Mehefin, er mwyn cyfyngu ar deithiau yn wyneb y pandemig.

    Y clybiau fydd yn parhau ar gau ydi Clwb Golff Aberystwyth, Clwb Golff Borth ac Ynyslas, Clwb Golff Cilgwyn, Clwb Golff Cwmrhydneuadd, Clwb Golff Penrhos, a Chlwb Golff Aberteifi.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Dechrau ymgyrch goryrruwedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae'r heddlu'n dechrau ymgyrch newydd heddiw gan atgoffa gyrwyr y byddant yn gweithredu yn erbyn rhai sy'n goryrru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Gwadu fod Cymru'n 'dal i fyny' gyda Lloegrwedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford wedi gwadu fod Cymru'n "dal i fyny" gyda Lloegr o ran profi holl breswylwyr a staff cartrefi gofal.

    Dywedodd fod gweinidog iechyd Lloegr Matt Hancock wedi gwneud cyhoeddiad am brofion "ar ddydd Gwener yr wythnos ddiwethaf".

    Ar 28 Ebrill dywedodd Mr Hancock fod "unrhyw un sydd yn byw neu weithio mewn cartref gofal yn gallu cael gafael ar fynediad i brawf, petai ganddyn nhw symptomau neu beidio".

    Yn ystod y gynhadledd i'r wasg ddyddiol, dywedodd Mr Drakeford fod hyn yn golygu fod preswylwyr "yn gallu gofyn am brawf os oedden nhw am gael un" - ond nid oedd hyn yn golygu fod pob preswyliwr a staff yn cael prawf.

    Ddydd Gwener fe ddywedodd Mr Hancock y byddai pawb mewn cartrefi gofal yn Lloegr yn cael prawf hyd yn oed os nad oedden nhw'n dangos symptomau.

    Ddydd Sadwrn fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai profion yn cael eu hymestyn i breswylwyr cartrefi gofal a'u staff yma.

    Dywedodd Mr Drakeford fod na wahaniaeth sylfaenol rhwng cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Sadwrn a chyhoeddiad Matt Hancock at 28 Ebrill:

    "Ni fydd yn dibynnu, fel gwnaeth polisi Lloegr, ar geisiadau'n dod i mewn. Mae hyn yn newid sylweddol mewn polisi ac mae'n newid yn Lloegr a Chymru.

    "Mae'n bolisi maen nhw wedi ei gael mewn lle ers ddydd Gwener, a pholisi yr ydym wedi ei osod ers dydd Sadwrn."

  9. Dechrau llacio cyfyngiadau'r Alban o 28 Maiwedi ei gyhoeddi 12:58 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020
    Newydd dorri

    BBC Cymru Fyw

    Mae prif weinidog yr Alban wedi cyhoeddi y gall y cyfyngiadau cymdeithasol yn y wlad ddechrau gael eu llacio o 28 Mai ymlaen.

    Fe allai'r llacio olygu fod pobl yn cael cyfarfod eraill tu allan i'w cartrefi medd Nicola Sturgeon, ac fe fydd mwy o weithgarddau awyr agored yn cael eu caniatau hefyd.

  10. Cynyddu dirwyon 'os oes tystiolaeth i gefnogi hynny'wedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Cyn troi at y cwestiynau, dywedodd Mr Drakeford y byddai'r llywodraeth yn ystyried dirwyon unwaith eto yn sgil tystiolaeth newydd gan yr heddluoedd.

    Wrth ateb cwestiwn gan y BBC, dywedodd y byddai'n edrych ar y wybodaeth sydd wedi dod i law heddiw, ond ei fod eisiau sicrhau bod y dirwyon yn "gymesur".

    Dywedodd y byddai'n fodlon cynyddu'r dirwyon os ydy'r dystiolaeth yn "cefnogi'r achos dros wneud hynny".

  11. Lefelau traffig yn parhau'n iselwedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mr Drakeford hefyd yn rhoi diweddariad ar ôl siarad gyda heddluoedd Cymru heddiw.

    Mae'n dweud bod lefelau traffig yn parhau'n llawer is na'r arfer, a bod nifer y dirwyon sydd wedi eu rhoi wedi haneru ers gŵyl y banc.

    Er hynny, mae'n dweud bod adroddiadau o bobl yn tagu neu boeri ar heddweision wrth iddyn nhw wneud eu gwaith yn ei bryderu'n fawr.

  12. Arian ychwnaegol i gefnogi iechyd meddwl mewn ysgolionwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Y prif weinidog sy'n siarad yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru heddiw.

    Wrth nodi dechrau wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl, mae Mark Drakeford yn dweud ei bod hi'n bwysig i ni gyd ystyried ein hiechyd meddwl yn ystod y cyfnod yma.

    Yn ogystal â niwed Covid-19 ei hun, mae Mr Drakeford yn dweud bod angen sicrhau nad yw'r mesurau i daclo'r feirws yn cael effeithiau gormodol ar yr economi, addysg ein plant a'n hiechyd meddwl.

    Mae'n dweud bod £3.75m ychwanegol ar gael heddiw i gefnogi iechyd meddwl mewn ysgolion, gan gynnwys cefnogaeth newydd i blant dan 11 oed.

  13. Y gynhadledd i'r wasg ddyddiol cyn hirwedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Poeni am golli'r tŷ a chael amser efo'r plant: dwy ochr hunan-ynysuwedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Mae heriau mawr ar y gorwel i deulu Karen MacIntyre Huws sy'n ynysu ers naw wythnos

    Read More
  15. Ar Dros Ginio heddiwwedi ei gyhoeddi 11:58 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Dyma flas o'r arlwy ar Dros Ginio gyda Dewi Llwyd nes ymlaen. Y rhaglen yn dechrau am 13:00.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Cyfyngiadau newydd i ganolfanau ailgylchu Penfrowedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Cyngor Sir Penfro

    Mae Cyngor Sir Penfro wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid i'r cyhoedd archebu amseroedd arbennig wrth fynd â sbwriel i chwe chanolfan ailgylchu'r sir yn y dyfodol.

    Fe fydd y canolfannau'n ailagor ar ddydd Mawrth 26 Mai, ac fe fydd cyfle i archebu amser o ddydd Mercher 9 Mai ymlaen.

    Dywed y cyngor y bydd yn rhaid i'r cyhoedd gadw at reolau ymbellhau caeth yn y canolfannau pan fyddant yn ailagor.

    Yr wythnos diwethaf cafodd y cynghorau sir ganiatâd gan y llywodraeth i baratoi i agor canolfannau ailgylchu.

  17. Y cyngor am olchi dwylo'r un mor berthnasolwedi ei gyhoeddi 11:36 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Twitter

    Mae'n teimlo'n bell yn ôl ers i ni glywed y neges am bwysgrwydd golchi ein dwylo am y tro cyntaf wrth i'r pandemig ymledu ym mis Mawrth.

    Ond mae prif swyddog meddygol Cymru Dr Frank Atherton yn ailategu pwysigrwydd golchi dwylo unwaith eto heddiw, gan fod gwneud hyn yn hanfodol i atal y feirws rhag lledaenu.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Cyngor newydd am ynysu os yn methu arogli neu flasuwedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Mae pedwar prif swyddog meddygol y DU yn cynghori pobl sydd wedi dangos symptomau o fethu ag arogli neu flasu i hunan ynysu.

    Dywed y prif swyddogion, yn cynnwys Dr Frank Atherton, prif swyddog meddygol Cymru, y dylai pobl hunan ynysu os ydynt yn dangos symptomau o ddioddef o anosmia - sef colli neu newid yn y gallu i arogli.

    Fe all hefyd effeithio ar allu unigolion i flasu, gan fod cysylltiad agos rhwng blasu ag arogli.

    Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y swyddogion: "Rydym wedi bod yn monitro'r data newydd a'r dystiolaeth yn agos, ac yn dilyn ystyriaeth drylwyr rydym yn ddigon hyderus i awgrymu'r mesur newydd hwn.

    "Dylai unigolion eraill o fewn cartref yr unigolyn sy'n dangos symptomau hunan ynysu am 14 niwrnod hefyd, fel rhan o'r canllawiau presennol.

    "Dylai'r unigolyn hefyd aros adref am saith niwrnod neu hirach os ydynt yn parhau i ddangos symptomau heblaw am dagu neu golli'r gallu i flasu neu arogli."

  19. Canllaw iechyd meddwl argyfwng Covid-19wedi ei gyhoeddi 11:13 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Twitter

    Mae na ganllaw ar gael yn Gymraeg ar y we i bobl sy'n profi gofid a gor-bryder yn yn ystod argyfwng Covid-19.

    Ffrwyth llafur gwefan Meddwl.org ac adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yw'r canllaw newydd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Neges yr Urdd: Covid-19 yn 'ddeffroad i'r byd'wedi ei gyhoeddi 10:59 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Urdd Gobaith Cymru

    Disgrifiad,

    Neges Ewyllys Dda Urdd Gobaith Cymru 2020

    Mae angen sicrhau nad ydy'r gwersi a ddaw yn sgil argyfwng coronafeirws yn cael eu hanghofio - dyna ydy neges pobl ifanc Cymru.

    Fel rhan o Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd eleni, mae'r mudiad ieuenctid yn galw ar arweinwyr y byd i fynd i'r afael â "beiau mawr byd modern".

    Un sydd wedi bod yn gweithio ar y neges eleni ydy Caitlin Kelly, newyddiadurwr ac ymgyrchydd o Lundain.

    Dywedodd: "Mae'n anodd i bobl ifanc ar hyn o bryd, maent yn dioddef yn fwy o dlodi a chaledi achos yr ynysu."

    "Mae'r neges felly yn symbol o undod pwysig ar y foment."