Crynodeb

  • Cyngor i hunan-ynysu os yn methu blasu neu arogli

  • Galw am gydweithio'n agos gyda chenhedloedd y DU i ddelio â'r coronafeirws

  • Mark Drakeford: Feirws wedi amlygu 'cryfder' datganoli

  1. Heddlu Dyfed-Powys gyda'r nifer uchaf o ddirwyon Covid-19wedi ei gyhoeddi 10:48 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Mae ffigyrau sydd wedi eu cyhoeddi gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn dangos mai Heddlu Dyfed-Powys sydd wedi cyflwyno'r nifer uchaf o ddirwyon i bobl am dorri rheolau Covid-19.

    Hyd at 11 Mai, cafodd 417 o hysbysiadau cosb benodedig - Fixed Penalty Notices - eu cyflwyno i bobl gan Heddlu Dyfed-Powys, sydd dros hanner nifer y dirwyon ar hyd a lled Cymru o 799.

    Fe gyflwynodd Heddlu De Cymru 157 o ddirwyon, cafodd 143 dirwy eu cyflwyno gan Heddlu'r Gogledd, 71 gan Heddlu Gwent, a 11 gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

    Bala
  2. Clybiau golff yn cael agor unwaith etowedi ei gyhoeddi 10:38 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Mae eich clwb golff lleol yn un o'r llefydd all fod yn agor eto heddiw ar ôl i glybiau gael gwybod eu bod yn cael croesawu "aelodau lleol" unwaith eto.

    Dywedodd rheolwr Clwb Golff Castell Morlais ger Merthyr Tudful ei fod yn disgwyl diwrnod prysur.

    "Rydyn ni'n ei gadw i aelodau yn unig, i chwarae yn unigol, ac rydyn ni wedi lleihau faint o bethau allan nhw ddod i gysylltiad â nhw ar y cwrs," meddai Barney Curnock.

    Ond ychwanegodd ei fod yn "grêt i fod ar agor eto".

    GolfFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Achos rheithgor cyntaf Llys y Goron Caerdyddwedi ei gyhoeddi 10:25 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Fe fydd yr achos rheithgor cyntaf yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun ers i gyfyngiadau cymdeithasol ddod i rym.

    Fe fydd yr achos yn cael ei gynnal mewn dau lys gwahanol o fewn y prif adeilad i gydymffurfio gyda rheolau llym cadw pellter.

    Mae'r llys yng Nghaerdydd yn un o lond dwrn o lysoedd drwy'r DU sydd yn ail-ymgynnull, er mwyn dechrau ar y gwaith o gynnal 37,000 o achosion llys sydd wedi eu gohirio o achos y pandemig yng Nghymru a Lloegr.

    Llys Caerdydd
  4. Wedi talu am wyliau a phoeni am eich hawliau?wedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Twitter

    Ydych chi wedi talu am wyliau yr haf hwn, ond yn ansicr am eich hawliau os nad yw'n bosib teithio o achos y pandemig?

    Fe fu Alison Farrar o Safonau Masnach Cymru'n trafod eich hawliau ar Newyddion S4C.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Athrawon cyflenwi 'heb gyflog na chefnogaeth'wedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Mae rhai athrawon cyflenwi sy'n cael eu cyflogi gan gynghorau yn ganolog yn honni eu bod wedi cael eu gadael heb unrhyw gyflog na chefnogaeth ers i ysgolion gau.

    Mae'r rhan fwyaf o athrawon cyflenwi yn cael eu cyflogi gan asiantaethau, sy'n golygu eu bod yn gymwys i fod yn weithwyr ar gennad yn unol â chynlluniau Llywodraeth y DU.

    Ond mae nifer o gynghorau sir y gogledd yn cyflogi athrawon cyflenwi yn ganolog, ac yn ôl undebau dyw nifer ohonynt ddim yn cael cyflog.

    Dywed undeb athrawon UCAC eu bod yn siomedig nad yw pob cyngor yn trin athrawon cyflenwi "ag urddas".

  6. Yr un yw'r neges unwaith etowedi ei gyhoeddi 09:57 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Twitter

    Peidiwch a theithio os nad yw'r daith yn un hanfodol....

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. 'Cyhoeddiadau am Loegr angen bod yn glir'wedi ei gyhoeddi 09:48 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Parc cenedlaethol

    Ar ôl penwythnos braf arall yng Nghymru, mae'r darlun gan Heddlu Gogledd Cymru'n debyg mewn rhannau eraill hefyd.

    Mae comisiynwyr heddlu wedi galw am gynyddu'r dirwyon i bobl sy'n torri'r rheolau, a dywedodd Mark Drakeford ar BBC Radio Cymru ddydd Llun bod y dirwyon yn cael eu trafod yn gyson gyda'r heddluoedd.

    Dywedodd bod ei lywodraeth yn "gweithio'n galed i gael y neges 'na drosto [yn Lloegr]" ond ei fod o ac arweinwyr Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi galw ar Boris Johnson i sicrhau bod cyhoeddiadau am Loegr yn unig yn cael eu hegluro.

    "Mae'n bwysig hefyd i Lywodraeth y DU i fod yn glir gyda phobl pan yn dweud bod pobl Lloegr yn gallu teithio, yn Lloegr mae hynny."

  8. Dirwyo ymwelwyr yn y gogleddwedi ei gyhoeddi 09:33 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Bu'n rhaid i Heddlu'r Gogledd ddirwyo nifer o ymwelwyr am dorri rheolau Covid-19 dros y penwythnos.

    Dywed y llu fod 26 o ymwelwyr wedi eu gorchymyn i adael ardal y Bermo ddydd Sadwrn, ac fe gafodd pedwar o ddynion eu herlyn a'u gorchymyn i ddychwelyd i ardal Manceinion ar ôl gyrru i'r Bala mewn tri cherbyd.

    Cafodd 11 o bobl eraill o Fanceinion, oedd wedi teithio i Ynys Lawd ym Môn hefyd eu herlyn a'u hebrwng adref o Gaergybi medd yr heddlu.

    Roedd yr 11 yn aelodau o'r un teulu yn teithio mewn tri cherbyd gwahanol.

  9. Cartrefi gofal: 'Nawr yw'r amser'wedi ei gyhoeddi 09:24 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images

    Fe wnaeth Mark Drakeford hefyd drafod y penderfyniad dros y penwythnos i newid y polisi ar brofi mewn cartrefi gofal.

    Bydd staff a phreswylwyr yn cael eu profi bellach, wedi'r newid polisi.

    Dywedodd y prif weinidog bod pwyllgor meddygol Sage yn "dweud mai nawr yw'r amser i newid y polisi".

    "Y'n ni'n mynd yn ôl y wyddoniaeth, nôl ym mis Ebrill o'dd y cyngor yn dweud bod e ddim yn werth e, nawr mae'r sefyllfa wedi newid, y wyddoniaeth wedi newid, y cyngor wedi newid, a ni'n newid y system yng Nghymru."

  10. Profion: 'Sefyllfa wedi newid'wedi ei gyhoeddi 09:13 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    MD

    Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, hefyd wedi bod yn trafod profion y bore 'ma.

    Wrth siarad ar BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi ymuno â'r system Brydeinig gan fod "y sefyllfa wedi newid, ac y'n ni nawr yn bwrw 'mlaen at y cam nesaf yn y system profi".

    Dywedodd y byddai profion yn cael eu cynnal yn y gymuned, ac yn canolbwyntio'n fwy ar "dracio, olrhain a diogelu, ac i wneud hynny mae angen mwy o brofion".

    Er hynny, gwrthododd bod datblygu system i Gymru wedi bod yn wastraff amser, gan ddweud nad oedd y system Brydeinig yn "gweithio i ni" ar y dechrau.

  11. Trefn profion Covid-19 dan y chwyddwydrwedi ei gyhoeddi 08:58 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Athro Sian Griffiths

    Mae profion ar gyfer Covid-19 yn cael sylw heddiw, ar ôl i arbenigwr alw am gydweithio agos rhwng gwledydd y DU wrth ymateb i'r argyfwng.

    Dywedodd yr Athro Sian Griffiths, fu'n flaenllaw yn ymchwiliad Hong Kong i haint SARS, bod angen i'r DU gydweithio er mwyn gallu cystadlu'n rhyngwladol am brofion.

    Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymuno yng nghynllun y DU ar gyfer archebu profion ar gyfer gweithwyr allweddol.

    Dywedodd gweinidog iechyd Cymru nad oes angen system ar wahan i Gymru bellach.

  12. Croesowedi ei gyhoeddi 08:44 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2020

    Bore da a chroeso i'n llif byw ar 18 Mai, ble gewch chi'r newyddion diweddaraf am haint y coronafeirws yn ystod y dydd.