Crynodeb

  • Cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n hawlio budd-dal diweithdra

  • Rhybudd y bydd hi'n anodd i bobl ifanc ddod o hyd i swydd

  • Pryder milfeddygon na all y diwydiant oroesi'r argyfwng

  1. Llyfr yn esbonio sefyllfa coronafeirws i blantwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Cyfanswm o 1,852 wedi marw â coronafeirwswedi ei gyhoeddi 13:28 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod nifer y marwolaethau'n gostwng.

    Read More
  3. "Ychydig o gynnydd" yn y raddfa R yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Roedd yna "ychydig o gynnydd" yr wythnos ddiwethaf yng Nghymru yn y raddfa y mae Covid-19 yn cael ei drosglwyddo, yn ôl ymgynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.

    Ar 12 Mai, yn ôl Y Gell Cyngor Technegol, roedd yna gonsensws fod y ffigwr R yng Nghymru rhwng 0.7 ac 1.

    Roedd rhwng 0.7 a 0.9 yr wythnos flaenorol. Y gred yw bod R "bron yn sicr o dan 1, ond fe allai fod yn agos at 1".

    Mae Llywodraeth Cymru'n ceisio cadw R dan 1 - ffactor sy'n hollbwysig o ran penderfynu sut a phryd mae modd llacio'r cyfyngiadau teithio a chymdeithasu.

  4. Cyhoeddi tystiolaeth wyddonolwedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Ystyried gadael i bobl gyfarfod anwyliaid tu allan i'w cartrefiwedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Vaughan Gething fod y llywodraeth yn ystyried gadael i bobl gyfarfod eu hanwyliaid estynedig, a hynny yn yr awyr agored.

    Fe wnaeth ei sylwadau yn dilyn cyhoeddi'r cyngor diweddaraf gan y grŵp gwyddonol sydd yn cynghori'r llywodraeth.

    Dywedodd Y Gell Cyngor Technegol ar 12 Mai fod Covid-19 yn debygol o bydru'n sydyn iawn yn yr aer ac ar arwynebedd sydd yng ngoleuni'r haul.

    Yng Ngogledd Iwerddon caiff hyd at chwech o bobl o dai gwahanol gyfarfod yn yr awyr agored, ac yn Lloegr fe gaiff unigolion gyfarfod un person arall o du hwnt i'w teulu agos yn yr awyr agored.

  6. Prisiau PPE wedi cynydduwedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Vaughan Gething fod prisiau cyfarpar diogelwch PPE wedi cynyddu'n sylweddol mewn rhai achosion wrth i'r alwad fyd-eang am gyfarpar gynyddu.

    Ychwanegodd fod y sefyllfa yn mynd i barhau am fisoedd i ddod.

  7. Cynllun peilot i olrhain pobl mewn pedwar bwrdd iechydwedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Vaughan Gething y bydd pedwar bwrdd iechyd yn cymryd rhan mewn cynllun peilot o olrhain pobl sydd wedi bod mewn cysylltiad gydag eraill sydd wedi eu heintio gan Covid-19.

    "Byddwn yn peilota olrhain cyswllt mewn pedair ardal bwrdd iechyd - Cwm Taf Morgannwg, Powys, Betsi Cadwaladr a Hywel Dda.

    "Bydd pob cynllun peilot yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol a'u staff", meddai.

    Fe fydd y cynllun peilot yn para am bythefnos a hynny ar raddfa fechan.

  8. Y Gweinidog Iechyd yn trafod y diweddarafwedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Vaughan Gething sydd yn arwain y gynhadledd ddyddiol i'r wasg ar ran Llywodraeth Cymru heddiw.

    Mae'n dweud y bydd system genedlaethol yn cael ei datblygu yng Nghymru er mwyn dilyn trywydd pobl sydd wedi cael eu heintio gyda Covid-19.

    VG
  9. Cynhadledd i'r wasg y llywodraeth ar fin cychwynwedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Cyngor wrth deithio ar fws...wedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Yr arlwy ar raglen Dros Ginio heddiwwedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Y sêr ifanc sy'n methu cystadlu oherwydd Covid-19wedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Dau o sêr chwaraeon ifanc Cymru yn poeni am golli cyfle ar y llwyfan rhyngwladol oherwydd Covid-19.

    Read More
  13. Cerddor yn cwyno am fethu defnyddio ei gwchwedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Twitter

    Mae cerddor enwog o Fanceinion wedi cwyno nad yw'n gallu cael mynediad at ei gwch newydd yma yng Nghymru, gan nad yw'n cael croesi'r ffin o achos gwaharddiadau teithio Covid-19.

    Roedd Bernard Sumner, gynt o fandiau New Order a Joy Division, wedi gobeithio mwynhau ei gwch ond fe ddaeth y gwaharddiadau a'i gynlluniau i ben yn ddisymwth meddai.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. "Cadwch ffydd gyda'r celfyddydau"wedi ei gyhoeddi 11:38 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Mae prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru wedi apelio ar lywodraethau Cymru a'r DU "i gadw ffydd" gyda'r diwydiannau creadigol tu hwnt i gyfnod y cynllun ffyrlo, sydd i fod i ddod i ben ym mis Hydref.

    Mewn tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu Senedd Cymru, dywedodd Nick Capaldi fod miloedd yn elwa o'r cynllun a bod y "miliynau" sydd wedi'i wario "yn hanfodol i gadw'r unigolion a mudiadau yma i fynd".

    Dywedodd hefyd fod llawer o artistiaid a pherfformwyr wedi troi i'r we i rannu eu gwaith, a bod rhai'n llwyddo'n well nag eraill.

    "Un o'r pethau mwyaf anodd a heriol o ran gwaith digidol yw canfod ffordd o gael arian am y gwaith.

    "Dydw i ddim yn nabod yr un mudiad nag artist na fyddai'n well ganddyn nhw fod o flaen cynulleidfa fyw nag eistedd mewn ystafell wely'n cyfathrebu â sgrîn."

    Logo CCCFfynhonnell y llun, Cyngor Celfyddydau Cymru
  15. Ailagor canolfannau ailgylchu Sir Gaerfyrddinwedi ei gyhoeddi 11:27 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Cyngor Sir Gaerfyrddin

    Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ail-agor ei bedair Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref o'r wythnos nesaf ymlaen.

    Ond o hyn allan fe fydd rhaid gwneud apwyntiadau cyn mynd a gwastraff i'r canolfannau hyn medd y cyngor, ac ni fydd unrhyw un sy'n cyrraedd y safle heb apwyntiad yn cael mynediad.

    Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rwy'n gwybod bod llawer o bobl wedi bod yn aros yn amyneddgar i'r canolfannau ailgylchu ail-agor, ond dim ond yn unol â chyngor y Llywodraeth y gallem wneud hynny a dim ond ar ôl i ni gwblhau'r mesurau rheoli cywir i ganiatáu i'r canolfannau gael eu hail-agor yn ddiogel ac yn synhwyrol.

    "Rydym yn gwybod y bydd llawer o bobl am wneud apwyntiad, ond dim ond y rhai hynny na allant storio eu gwastraff yn ddiogel gartref neu gael gwared ar wastraff drwy ein casgliadau ymyl y ffordd y dylai gwneud apwyntiad.

    "Bydd y sefyllfa hon yn cael ei hadolygu'n gyson, yn enwedig yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf...Bydd unrhyw ddiweddariadau yn cael eu postio ar dudalennau newyddion a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor."

  16. Mân drafferthion "i'w disgwyl" yn nyddiau cynnar cynllun profionwedi ei gyhoeddi 11:16 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    BBC Radio Wales

    Mae Llywodraeth Cymru'n rhagweld mân drafferthion yn y dyddiau cyntaf ar ôl ymuno â chynllun profion y DU, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru.

    Cyhoeddwyd ddydd Llun fod unrhyw un dros bump oed gyda symptomau coronafeirws nawr yn gymwys i gael prawf Covid-19.

    Dywedodd Dr Frank Atherton wrth raglen Breakfast with Claire Summers: "Mae rhaglenni ar raddfa fawr yn wynebu rhwystrau weithiau ac rydym, wrth gwrs, yn disgwyl hynny yn nyddiau cyntaf y profion yma, a aeth ar-lein megis ddoe".

    Ychwanegodd y bydd yna lawer o waith dysgu "yn y diwrnod neu ddau nesaf" wrth weithredu'r cynllun.

    "Yn gyffredinol, rydych yn gweld galw uchel iawn pan fo system newydd fel hon yn dod i rym, yna mae'n gostwng ychydig... a bydd angen i'r system, fel ymhob achos, wella wrth fynd rhagddo."

    ProfionFfynhonnell y llun, Reuters
  17. Cymru, Lloegr a Llanrwstwedi ei gyhoeddi 10:58 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Effaith Covid-19 ar Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn agos at y cyfartaledd Ewropeaidd

    Read More
  18. Gyrru i gors anobaithwedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Twitter

    Mae'n ymddangos fod rhai'n fodlon gyrru i unrhyw le er mwyn cael rhywfaint o ddifyrrwch y dyddiau hyn - hyd yn oed os yw hynny'n groes i reolau caeth Covid-19.

    Dyma'r hyn welodd swyddogion Heddlu'r Gogledd yn ardal Wrecsam - ac fe fydd y gyrrwr yn wynebu dirwy am ei ffolineb.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. ... a dyma ymateb Llywodraeth Cymruwedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    BBC Radio Cymru

    2/2

    Ychwanegodd Huw Tudor: "Pan fydd hyn i gyd ar ben mae'r busnes twristiaeth ym Mhrydain yn mynd i fynd yn wyllt, dwi ddim yn credu y bydd yna garafán na fythynnod ar gael i neb!

    "Mae'n rhaid cofio mai cwmnïau bach yw'r rhan fwyaf o'r busnesau gwely a brecwast y mae pobl yn hoffi dod iddyn nhw, a does neb wedi edrych ar ein hôl ni."

    Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ariannu'r pecyn mwyaf hael o gymorth i fusnesau yn y Deyrnas Gyfunol.

    "Rydym yn parhau i ymgysylltu a'n partneriaid ar sut i ddefnyddio'r cronfeydd sy'n weddill i gefnogi'r rheiny sydd mewn angen, gan gynnwys busnesau nad ydyn ni wedi gallu eu cyrraedd hyd yma."

  20. Cyfnod anodd i fusnesau gwely a brecwastwedi ei gyhoeddi 10:32 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    BBC Radio Cymru

    1/2

    Mae Huw Tudor yn cadw gwesty gwely a brecwast gyda chwe ystafell wely ym Mhen-y-bont ar Ogwr ond mae'r cyfyngiadau coronafeirws yn golygu ei fod wedi colli gwerth £28,000 o fusnes eisoes wrth i bobl ganslo'u gwyliau.

    "Dydy hynny ddim yn cynnwys yr hyn y gallwn ni gael oddi ar y stryd, y cerddwyr, y twristiaid, y partïon, y priodasau ac yn y blaen," dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf.

    Yn wahanol i Loegr, dydy busnesau gwely a brecwast ddim, ar y cyfan, yn talu trethi busnes ac felly dydyn nhw ddim yn gallu hawlio cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

    "Dwi wedi bod drwy bob linc gan fy nghyfrifydd ond does dim byd allan yna i bobl fel ni," meddai.

    "Oherwydd ein bod ni yn gwmni, yn fusnes teuluol yn cyflogi neb yn benodol, achos bod dim ffyrlo, dim trethi VAT, does gen i hawl i ddim ar hyn o bryd."

    Arwydd gwely a brecwast