Amserlen: Effaith haint coronafeirws yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 20:54 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mehefin 2020
Ers yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru, mae'r effaith ar fywydau pobl wedi cynyddu.
Read MorePryder bod hawliau dynol preswylwyr wedi'u torri mewn cartrefi gofal
Dirwyon am dorri'r cyfyngiadau wedi'u codi i hyd at £1,920 yng Nghymru
Galw ar Lywodraeth y DU i helpu sector awyrennau Cymru yn sgil diswyddiadau BA
Ers yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru, mae'r effaith ar fywydau pobl wedi cynyddu.
Read MoreDiolch am ddilyn ein tudalen heddiw. Byddwn ni'n dychwelyd eto yfory i roi'r diweddaraf i chi am y pandemig yng Nghymru.
Byddwch yn saff a hwyl am y tro.
Mae'r gweithwyr yn ffatri Ortho Clincial Diagnostics ym Mhencoed yn falch iawn i fod yn rhan o'r frwydr yn erbyn y coronafeirws.
Fe fydd y ffatri ar gyrion Pen-y-bont yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu prawf newydd ar gyfer gwrthgyrff Covid-19 ar gyfer gweithwyr iechyd a gweithwyr gofal.
Mae OCD yn un o nifer o gwmnïau fydd yn cynhyrchu'r prawf gwaed ac mae'r cwmni eisoes yn darparu miliynau o brofion gwrthgyrff ledled y byd.
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd clybiau o Gymru sy'n rhan o'r gynghrair bêl-droed yn Lloegr yn dychwelyd i ymarfer ar 25 Mai.
Mae canllaw gan y corff sy'n reoli'r cynghreiriau, yr EFL, yn datgan y dylai clybiau pêl-droed ddychwelyd yn raddol i hyfforddiant tîm cyntaf pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, yn seiliedig ar gyngor meddygol a gwyddonol.
"Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'r clybiau i sicrhau mai iechyd y chwaraewyr, yr hyfforddwyr a'r staff sy'n dod gyntaf," meddai Dafydd Elis Thomas, Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristaieth.
"Mae ailddechrau hyfforddi ar gyfer ein chwaraeon proffesiynol yn gam cyntaf pwysig, a allai arwain at ailddechrau chwaraeon cystadleuol.
"Bydd chwaraeon yn ailddechrau yn y dyfodol, y tu ôl i ddrysau caeedig i ddechrau, gan ddarparu ffynhonnell adloniant darlledu yn ystod cyfnod pan na fydd cynulliadau torfol yn ymarferol o bosibl.
"Hyd yn hyn nid oes unrhyw amserlenni pendant i hyn ddigwydd."
Ffatri cwmni Americanaidd ger Pen-y-bont i chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu prawf gwrthgyrff.
Read MoreBydd prawf gwrthgorff newydd sy'n cael ei ddatblygu yng Nghymru yn cael ei gyflwyno ledled y DU i ddweud a yw pobl erioed wedi cael Covid-19.
Mae Ortho Clinical Diagnostics (OCD) yn un o nifer o gwmnïau a fydd yn cynhyrchu prawf gwaed newydd ac mae eisoes yn cyflenwi miliynau o brofion gwrthgorff ledled y byd.
Dywed y gweinidog iechyd, Vaughan Gething y bydd Cymru’n penderfynu sut y caiff y prawf ei gyflwyno ond mae disgwyl y bydd ar gael mewn cartrefi gofal.
Daw yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU y bydd miloedd o weithwyr iechyd a gofal yn cael cynnig mynediad i'r profion.
Heddlu Gogledd Cymru
Gydag ail benwythnos Gŵyl y Banc mis Mai bron yma, mae swyddogion Heddlu'r Gogledd yn annog pobl i "barhau gyda'u gwaith da drwy barhau i aros adref".
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Nigel Harrison: “Er ein negeseuon mynych sy'n cynnwys ar y cyfryngau cenedlaethol rydym wedi parhau i weld pobl yn teithio pellterau cwbl afresymol i ogledd Cymru sy'n hynod siomedig."
Mae'r strwythur dirwyon presennol, a oedd yn rhoi dirwy o £60 am y trosedd cyntaf a oedd yn codi i £120 am yr ail drosedd neu fwy, yn cael ei disodli gan strwythur newydd lle mae'r dirwyon yn dyblu am bob trosedd.
Bydd yn codi o £60 i £120 i £1,920 am y chweched trosedd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae 73% o bobl yn dal i deimlo bod y cyfyngiadau sydd ar waith yng Nghymru i reoli'r coronafeirws yn iawn fwy neu lai, yn ôl arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywed yr arolwg bod 90% o'r rhai a holwyd yn ystod wythnos 11-17 Mai yn meddwl y dylai fod yn fwy na thair wythnos cyn i'r ysgolion ailagor.
O ran defnyddio masgiau wyneb, mae 11% o bobl yn nodi eu bod eisoes yn eu defnyddio y rhan fwyaf o'r amser pan fyddan nhw'n mynd allan a 17% yn eu defnyddio weithiau.
Fe gafodd 554 o bobl eu holi.
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ap newydd gwerth £650,000 fydd yn galluogi i feddygon teulu, parafeddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i gael cyngor arbenigol pan fyddan nhw'n adolygu a thrin cleifion.
Bydd Consultant Connect yn cael ei ddefnyddio gan GIG Cymru i helpu i ymdrin â’r achosion o Covid-19 a chefnogi’r gwasanaeth gofal sylfaenol yn yr hirdymor i gynnig gwell cyngor ac arweiniad i gleifion.
Y gobaith yw y bydd yr ap yn atal ymweliadau diangen i’r ysbyty ac yn sicrhau bod y bobl hynny sydd angen triniaeth yn yr ysbyty yn ei chael.
Dywedodd gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething y bydd yr ap yn "helpu i gefnogi gweithwyr gofal sylfaenol i benderfynu ar y driniaeth gywir ar gyfer eu cleifion".
“Bydd yn arbed amser gwerthfawr i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn lleihau nifer yr ymweliadau y mae’n rhaid i gleifion eu gwneud i’r ysbyty, ar adeg pan fo ein gwasanaeth iechyd o dan bwysau ychwanegol."
Aids a Covid-19 - gwersi o'r gorffennol
Read MoreCambrian News
Mae'r Cambrian News yn adrodd, dolen allanol bod hyd at 20 o aelodau staff mewn ysbyty ym Mhowys wedi cael eu gorfodi i hunan-ynysu oherwydd achos o Covid-19.
Mae'n debyg fod y bobl sy’n gweithio yn Ysbyty Sir Drefaldwyn yn Y Drenewydd mewn gwahanol swyddi, o lanhawyr i nyrsys.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Mae sawl aelod o staff yn Ysbyty Sir Drefaldwyn wedi profi’n bositif am Covid-19 neu mae ganddyn nhw symptomau Covid-19.
“Mae’r rhain yn cynnwys peswch parhaus newydd, twymyn, a cholli synnwyr blas neu arogl."
Galw ar fusnesau sydd ar gau yn sgil argyfwng Covid-19 i gyfrannu bwyd dros ben i fanciau bwyd y sir.
Read MoreMae cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn galw ar wledydd y DU i weithio gyda'i gilydd.
Dywedodd Mr Jones y byddai gweithio ar y cyd yn buddio'r economi yn rhyngwladol hefyd.
Mae gwledydd datganoledig y DU wedi cymryd agweddau gwahanol tuag at y cyfyngiadau yn sgil y pandemig.
Cyngor Sir Penfro
Ar drothwy penwythnos Gŵyl y Banc arall, mae ymwelwyr a pherchnogion ail gartref yn Sir Benfro wedi cael eu hannog gan yr awdurdod lleol i beidio â theithio yno.
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’r mwyafrif helaeth o bobl o’r tu allan i’n sir sy’n ufuddhau i’r cyfyngiadau cloi,” meddai arweinydd Cyngor Sir Penfro, David Simpson.
"Mae angen i'r cydymffurfiad a'r cydweithrediad yna i barhau dros y penwythnos.
“Mae hyn yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd o ystyried y newid yn rheolau yn Lloegr.”
Pwysleisiodd y Cynghorydd Simpson: “Mae'r neges yn aros yr un peth. Byddwn yn croesawu ein hymwelwyr yn ôl pan fydd yn ddiogel dychwelyd."
Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio wedi i graffiti gwrth-Gymreig gael ei ddarganfod yn Yr Wyddgrug.
Cafodd y geiriau "All Welsh die of Covid - scum" eu paentio ar y pafin ar ystâd Hafod Alyn yn y dref nos Fawrth.
Mae'r graffiti bellach wedi cael ei glirio, ac mae'r heddlu'n dweud eu bod yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd â mwy o wybodaeth.
Bwrdd iechyd yn ymddiheuro am atal triniaeth cleifion iechyd meddwl yn y gogledd mewn camgymeriad.
Read MoreMae Prif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon wedi cyhoeddi y bydd holl ysgolion y wlad yn ailagor o 11 Awst.
Bydd staff yn dychwelyd ym mis Mehefin i baratoi dosbarthiadau ar gyfer cynllun ble bydd cymysgedd o ddysgu mewn ysgolion a gartref.
Dywedodd gweinidog addysg Cymru ddoe nad oedd hi am osod dyddiad eto ynglŷn â phryd y bydd ysgolion yn ailagor yma.
Y bwriad yn Lloegr ydy i ysgolion ddechrau ailagor o 1 Mehefin - penderfyniad sydd wedi denu beirniadaeth gan undebau addysg.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod naw pherson arall gyda Covid-19 wedi marw dros y 24 awr ddiwethaf.
Mae hynny'n golygu bod cyfanswm o 1,247 wedi marw ar ôl cael prawf positif yng Nghymru hyd yma.
Mae 12,846 o bobl wedi cael prawf positif yma bellach - 166 yn fwy ers ddoe.
Fydd gŵyl Eid ddim yr un peth oherwydd coronafeirws ond mae'r un traddodiadau yn parhau
Read More