Crynodeb

  • Pryder bod hawliau dynol preswylwyr wedi'u torri mewn cartrefi gofal

  • Dirwyon am dorri'r cyfyngiadau wedi'u codi i hyd at £1,920 yng Nghymru

  • Galw ar Lywodraeth y DU i helpu sector awyrennau Cymru yn sgil diswyddiadau BA

  1. Cyngor Pen-y-bont yn rhagweld colled o £9mwedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr

    Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn dweud y gallai golli dros £9m yn nhri mis cyntaf y flwyddyn ariannol oherwydd y pandemig.

    Dywedodd y cyngor ei fod yn amcangyfrif y bydd angen gwariant ychwanegol o £5m mewn meysydd fel offer diogelwch personol a darparu llety argyfwng i bobl ddigartref.

    Mae'r cyngor hefyd yn dweud ei fod yn rhagweld y bydd yn colli £4m o incwm oherwydd bod safleoedd fel canolfannau hamdden a meysydd parcio ynghau.

  2. Amddiffyn y driniaeth o gartrefi gofalwedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Fe wnaeth Dr Andrew Goodall hefyd amddiffyn y ffordd y mae cartrefi gofal wedi cael eu trin yn ystod y pandemig.

    Roedd yn ymateb i raglen BBC Wales Investigates, ble mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ymchwilio i'r posibilrwydd fod Llywodraeth Cymru wedi torri hawliau pobl oedrannus.

    Dywedodd Dr Goodall bod camau wedi'u cymryd "o ddechrau'r pandemig" i gefnogi cartrefi gofal.

    "Mae hynny'n cynnwys gofyn i newid amseroedd ymweld, darparu mwy o gymorth a chefnogaeth i atal gwasgaru heintiau," meddai.

  3. 'Cywirdeb o 98% ydy'r disgwyliad'wedi ei gyhoeddi 13:19 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    O ran profion gwrthgorff, dywedodd Dr Goodall fod gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething wedi bod “mewn cysylltiad â llywodraeth y DU ynglŷn â beth fyddai rhai o’r mesurau gweithredol hyn yn ei olygu”.

    "[G]an weithio ledled y DU, a gweithio ar draws y pedair gwlad, rydym wedi bod yn datblygu cynigion i sicrhau bod modd cyrchu'r profion gwrthgorff hyn a'u defnyddio," meddai.

    "Wrth sôn am brofion gwrthgyrff yn cael eu gwerthu yn fasnachol ar-lein, dywedodd Dr Goodall: "Mae gennym drothwy, hynny yw disgwyliad, y dylem fod â chywirdeb dros 98% gyda'r profion.

    "Byddwn i'n bryderus petai pobl yn cael myediad i brofion ar lefelau is na hynny oherwydd fe all hynnny roi rhai canlyniadau ffug i unigolion a gallai hynny wedyn, efallai, ddylanwadu ar eu gweithredoedd."

  4. Disgwyl i Gymru fod yn rhan o brofion gwrthgorffwedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Fe awgrymodd Dr Goodall ei fod yn disgwyl i Gymru fod yn rhan o gynlluniau am brofion gwrthgorff coronafeirws newydd.

    Pwrpas y profion ydy nodi a ydy rhywun wedi cael y feirws, ac felly efallai y bydd gan y person yna imiwnedd o'r feirws am gyfnod o amser.

    Mae disgwyl i weinidogion Llywodraeth y DU gyhoeddi bod y fath brofion ar gael yn ddiweddarach heddiw.

    Dywedodd Dr Goodall fod Llywodraeth Cymru yn gobeithio i "barhau i fanteisio ar ddull pedair gwlad yn y maes hwn".

  5. Mwyafrif cleifion gofal critigol ddim â Covid-19wedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru mae pennaeth GIG Cymru wedi dweud bod mwyafrif y bobl sy'n cael eu trin mewn unedau gofal critigol ddim yn gleifion Covid-19.

    Dywedodd Dr Andrew Goodall hefyd bod llai na 10% o gleifion sydd angen triniaeth ysbyty am coronafeirws angen gofal mewn unedau critigol.

    Yn ôl Dr Goodall roedd arbenigwyr wedi credu'n wreiddiol y byddai'r gyfran yn llawer uwch.

    Dywedodd Dr Goodall bod mwy o ddynion na menywod yn cael triniaeth mewn unedau gofal critigol, ac mai cyfartaledd oedran cleifion yn yr unedau ydy 56.

    Ychwanegodd bod pobl fel arfer yn yr ysbyty am ddiwrnod neu ddau yn unig cyn cael eu symud i ofal critigol, a bod tua 75% o'r rheiny angen peiriant i'w helpu anadlu o fewn eu 24 awr gyntaf yn yr uned.

    Dr Andrew Goodall
  6. Gwyliwch gynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymruwedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Cynghorau 'heb allu gwneud mwy dan yr amgylchiadau'wedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Mae ymateb cynghorau Cymru i'r pandemig coronafeirws yn dangos bod llywodraeth leol yn gallu ymdopi â galw marw pan fo angen, yn ôl arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

    Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, sydd hefyd yn arweinydd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf bod cynghorau wedi gwneud popeth o fewn eu gallu dan yr amgylchiadau, a bod staff wedi bod yn wych.

    Yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd Senedd Cymru, dywedodd y Cynghorydd Morgan bod awdurdodau wedi gorfod darparu nifer o wasanaethau ar fyr rybudd.

    "Mae mwyafrif ein staff yn byw yn yr awdurdod lleol maen nhw'n ei wasanaethu, a'r cymunedau hynny yw'r rheswm fod staff wedi cyflawni cymaint," meddai.

    "Ledled Cymru ac o ran llywodraeth leol, fe fyddan ni wedi cynllunio pethau'n wahanol, ond dan yr amgylchiadau dydw i ddim yn credu y gallwn ni fod wedi gwneud llawer mwy."

    Andrew Morgan
  8. Dim ond 35 o gleifion wedi'u trin mewn ysbytai maeswedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu mai dim ond 35 o gleifion sydd wedi cael triniaeth hyd yma yn yr 19 o ysbytai maes sydd wedi'u sefydlu ar draws y wlad.

    Cafodd yr ysbytai eu sefydlu mewn llai nag wyth wythnos mewn ymateb i'r argyfwng coronafeirws.

    Cafodd 6,000 o welyau ychwanegol eu trefnu o fewn chwe wythnos, gan bron ddyblu'r capasiti yng Nghymru.

    "Mae cyfanswm o 35 o bobl wedi cael gofal mewn ysbytai maes hyd yn hyn ac maen nhw'n rhan bwysig o'n strategaeth ehangach i ymateb i'r coronafeirws," meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

    "Byddan nhw'n cael eu defnyddio yn hyblyg dros y misoedd nesaf a byddwn yn cynnal adolygiad cenedlaethol ym mis Mehefin."

    Principality
  9. Fydd myfyrwyr prifysgolion yn ôl ym mis Medi?wedi ei gyhoeddi 11:52 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Wrth siarad ar y Post Cyntaf bore 'ma, dywedodd Dafydd Trystan o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol - corff sy'n cynorthwyo addysg Gymraeg uwch - bod "cynllunio manwl iawn" yn digwydd i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael eu dysgu ym mis Medi.

    Felly allai prifysgolion ddechrau cynnig cyrsiau tebyg i rai'r Brifysgol Agored?

    "[Mae] gan y Brifysgol Agored brofiad helaeth iawn o gynnig cyrsiau mwy neu lai yn gyfan gwbl ar-lein," meddai. "Mae ganddyn nhw enw rhagorol ar draws y byd o wneud hynny, ac mae'r opsiwn hynny ar gael i fyfyrwyr.

    "Ond yr hyn dwi'n disgwyl gweld gan brifysgolion yw rhyw fath o gyfuniad o ddarlithoedd ar-lein neu wedi eu recordio ar ryw ffurf, ac wedyn dysgu wyneb yn wyneb, ble mae hynny'n briodol, mewn grwpiau llai.

    "[Fe] fydde'n fy synnu'n fawr iawn os oes 'na brifysgolion yn dweud y bydd y ddarpariaeth gyfan ar gyfer 2020-21 ar-lein. Dwi ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd, a dwi'n disgwyl y bydd 'na gefnogaeth wyneb yn wyneb i fyfyrwyr, naill ai ym mis Medi neu drwy raglen dreigl. Fe allasai'r flwyddyn gyntaf ddod 'nôl yn gyntaf."

  10. £166m - Cost sefydlu 19 o ysbytai maes i Gymruwedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    19 o ysbytai maes, 6,000 o welyau, wyth wythnos o adeiladu, 35 o gleifion - £166m yw'r bil.

    Read More
  11. £164,500 i fwrdd iechyd y gogledd gan y Capten Tom Moorewedi ei gyhoeddi 11:33 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Mae dros £20m gafodd ei godi gan y Capten Tom Moore wedi cael ei ddosbarthu i elusennau'r gwasanaeth iechyd ar draws y DU.

    Un o'r sefydliadau sydd wedi derbyn swm sylweddol ydy Elusen Awyr Las Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sydd wedi cael £164,500 gan y gronfa.

    Dywedodd y gwasanaeth iechyd bod y rhoddion "eisoes yn cael effaith enfawr, ac fe fyddan nhw'n parhau i wneud hynny".

    Tom MooreFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Gwnewch y pethau bychain...wedi ei gyhoeddi 11:20 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. 'Gwallgo' i geisio ailddechrau cynghreiriau pêl-droedwedi ei gyhoeddi 11:07 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    BBC Radio Wales

    Mae cyn-ymosodwr Cymru, Nathan Blake yn dweud ei bod yn "wallgo" i bêl-droedwyr ailddechrau ymarfer a chynnal gemau nes i wasgariad Covid-19 gael ei atal.

    Fe wnaeth y mwyafrif o dimau Uwch Gynghrair Lloegr ailddechrau hyfforddi ddoe, ond mae rhai chwaraewyr wedi gwrthod gwneud hynny oherwydd eu pryderon.

    Dywedodd Blake na fyddai ef yn dychwelyd i ymarfer pe bai yn yr un sefyllfa.

    "Fyddwn i ddim yn rhoi fy hun mewn perygl," meddai wrth BBC Radio Wales y bore 'ma.

    "Fyddwn i ddim yn disgwyl i unrhyw gefnogwyr roi eu hunain mewn perygl yn dod i wylio gemau chwaith."

    Nathan BlakeFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Nathan Blake yn ymarfer gyda Chymru yn Rwsia yn 2003

  14. Atal triniaeth cleifion iechyd meddwl yn 'sgandal'wedi ei gyhoeddi 10:53 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Plaid Cymru

    Mae Sian Gwenllian, Aelod Senedd Cymru dros Arfon wedi beirniadu nad yw rhai cleifion iechyd meddwl yn derbyn triniaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ystod pandemig Covid-19.

    Fe wnaeth BBC Cymru adrodd ddoe bod triniaeth rhai cleifion iechyd meddwl yn y gogledd wedi cael ei atal ar ei hanner yn sgil coronafeirws.

    Dywedodd Ms Gwenllian fod y sefyllfa fel "sgandal", gan honni ei bod yn "gwbl annerbyniol bod meddygon yn BCUHB yn cael cyfarwyddiadau i adael i gleifion iechyd meddwl fynd".

    Mae Ms Gwenllian wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad brys o’r sefyllfa, a sicrwydd o fuddsoddiad ychwanegol parhaus yn y system gofal iechyd meddwl.

    Sian Gwenllian
  15. Dyblu nifer y gwelyau ysbyty ledled Cymruwedi ei gyhoeddi 10:41 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Cymru wedi bron dyblu nifer y gwelyau ysbyty ar draws y wlad mewn llai na deufis trwy greu ysbytai maes.

    Dywedodd Llywodraeth Cymru bod 6,000 o welyau ychwanegol wedi'u creu trwy droi lleoliadau - gan gynnwys Stadiwm Principality, stiwdio deledu a pharc gwyliau - yn ysbytai dros dro.

    Mae'r llywodraeth wedi gwario £166m yn sefydlu'r 19 o ysbytai maes yng Nghymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Cynyddu dirwyon 'ddim yn mynd yn ddigon pell'wedi ei gyhoeddi 10:28 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    BBC Radio Wales

    Yn sgil y cyhoeddiad y bydd dirwyon am dorri'r cyfyngiadau yn codi i aildroseddwyr o yfory ymlaen, mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys yn dweud nad yw'r cosbau'n ddigon llym.

    "Mae'n galonogol fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar heddluoedd Cymru," meddai Dafydd Llywelyn wrth BBC Radio Wales y bore 'ma.

    "Ond yn bersonol rwy'n siomedig nad yw'r ddirwy wedi ei newid i atal pobl rhag torri'r rheolau yn y lle cyntaf.

    "Roeddwn i yn galw am gael y ddirwy ar gyfer y drosedd gyntaf yn uwch, oherwydd yr hyn ry'n ni'n ei weld yn Nyfed-Powys ydy pobl yn teithio o bell yn dod i'n hardaloedd twristaidd."

    Dafydd Llywelyn
  17. Torfeydd o Birmingham wedi teithio i'r Barriwedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Cyngor Bro Morgannwg

    Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi mynegi eu rhwystredigaeth bod torfeydd o bobl wedi teithio i'r Barri ddoe.

    Dywedodd bod mwyafrif y bobl gafodd eu gyrru gartref wedi teithio yno o ardal Birmingham, gan bwysleisio nad yw'r cyfyngiadau ar deithio wedi eu llacio yng Nghymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. 'Fe ddylen nhw fod wedi bod yn profi o'r dechrau'wedi ei gyhoeddi 10:01 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Yn sgil y pryder bod cartrefi gofal yng Nghymru wedi torri hawliau dynol preswylwyr, bu rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru'n siarad â Kim Ombler, sy'n berchen ar Gartref Gofal Glan Rhos ym Mrynsiencyn ac yn aelod o Ffromwn Ofal Cymru.

    "Mae'n amser pryderus i'r sector ac rwy'n credu nad ydyn nhw wedi rhoi'r profion i bobl hŷn mewn cartrefi, na phobl sy'n dod i mewn i gartrefi o ysbytai chwaith," meddai.

    "Mae 'na bobl wedi cael prawf positif sydd heb symptomau, yn rhai o'r staff neu rai o'r cleifion felly fe ddylen nhw fod wedi bod yn profi o'r dechrau.

    "Roedden ni ofn yn y dechau ond rydyn ni wedi bod yn lwcus yn Glan Rhos efo neb yn cael symptomau."

    "Rydan ni wedi cau ein drysau ers 13 Mawrth felly dydyn ni ddim wedi cael neb yn dod mewn nag allan o'r cartref ac mae'r staff yn ymbellhau yn gymdeithasol."

    Cartref GofalFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Graddio heb seremoni: Profiadau myfyrwyr o'r pandemigwedi ei gyhoeddi 09:48 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Cyfnod arholi yw hi i brifysgolion ar hyn o bryd ond mae asesiadau wedi gorfod cael eu hail-ystyried o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws.

    Mae llawer o arholiadau wedi symud ar-lein ond mae'r trefniadau yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs.

    Yn ôl arolwg gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr mae dau draean o fyfyrwyr yng Nghymru yn poeni am sut bydd y bydd y feirws yn effeithio ar eu cymhwyster terfynol.

    Gohebydd Addysg BBC Cymru sydd wedi bod yn siarad â myfyrwyr am eu profiadau yn sgîl y feirws.

    MyfyrwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Dros bum miliwn o bobl wedi cael coronafeirwswedi ei gyhoeddi 09:34 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Mae nifer y bobl sydd wedi cael Covid-19 ar draws y byd wedi cyrraedd pum miliwn bellach, yn ôl data sy'n cael ei gasglu gan Brifysgol Johns Hopkins.

    Hyd yma, mae cyfanswm o 328,172 o bobl wedi marw o ganlyniad i'r feirws.

    AngladdFfynhonnell y llun, AFP