Crynodeb

  • Angen gwirfoddolwyr o Gymru i brofi brechlyn newydd

  • Apêl gan gymunedau gwledig wrth geisio ymdopi â'r pandemig

  • Canfod cyffuriau, arfau ac arian yn ystod y cyfnod clo

  1. Canfod cyffuriau, arfau ac arian ar batrolau Covid-19wedi ei gyhoeddi 09:52 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai 2020

    Heddlu

    Dros 300 o gerbydau, cyffuriau Dosbarth A ac arfau troseddol.

    Dyna rai o'r pethau sydd wedi eu canfod gan heddluoedd Cymru dros yr wythnosau diwethaf wrth gynnal fwy o archwiliadau o gerbydau.

    Mewn un cerbyd roedd 2kg o gocên a £30,000.

    Wrth i'r heddlu gynnal patrolau Covid-19, maen nhw'n dweud bod troseddwyr yn "fwy amlwg gan fod llai o gerbydau ar y ffyrdd".

  2. Bydd yr heddlu 'yn amlwg' dros y penwythnoswedi ei gyhoeddi 09:39 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai 2020

    BBC Radio Wales

    Bu Prif Gwnstabl Heddlu Gwent ar Radio Wales y bore 'ma i drafod y penwythnos i ddod.

    Dywedodd Pam Kelly: "Mae'r mwyafrif yng Nghymru - 90-95% - yn gwrando. Dros y gŵyl banc diwethaf fe welson ni ddathliadau VE Day, a dydyn ni ddim am weld hynny'n cael ei ailadrodd.

    "Ers hynny mae'r rheolau wedi newid rhwng Cymru a Lloegr. Fe fyddwn ni'n amlwg iawn ac yn atal pobl, oherwydd fedrwn ni ddim fforddio cael pobl yn dod i Gymru a lledu'r feirws pan y'n ni wedi gwneud mor dda yn atal yr ymlediad hyd yma."

  3. Rhybudd ar drothwy gŵyl y bancwedi ei gyhoeddi 09:24 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai 2020

    Parc Cenedlaethol Eryri ar gau

    Mae'r tri pharc cenedlaethol yng Nghymru wedi rhyddhau datganiad ar y cyd yn rhybuddio pobl i beidio a mentro i'r ardaloedd dros y penwythnos:

    "Tra bod Cymru’n parhau i fod wedi llwyrgloi, mae pryderon yn cynyddu y bydd pobl yn anwybyddu rheoliadau ac yn ceisio cael mynediad i ardaloedd poblogaidd y Parciau Cenedlaethol dros benwythnos gŵyl y banc gan roi cymunedau gwledig bregus y parciau mewn mwy o berygl.

    "Mae awdurdodau’r parciau am atgoffa holl drigolion y DU bod Cymru yn parhau i fod wedi llwyrgloi, ac mai dim ond teithiau hanfodol a ganiateir yma."

  4. Gofal yn y gymunedwedi ei gyhoeddi 09:15 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai 2020

    Disgrifiad,

    Mae Ysbyty Bryn Beryl yn gofalu am gleifion yn y gymuned

    O brofion rhyngwladol am frechlyn i waith yn gofalu am gleifion yn y gymuned.

    Mae ysbytai cymunedol yn chwarae rhan bwysig yn y frwydr yn erbyn Covid-19 ac maen nhw wedi gorfod addasu i ddelio hefo'r sefyllfa.

    Rydyn ni wedi cael cipolwg ar y gwaith hanfodol hynny yn Ysbyty Bryn Beryl ger Pwllheli.

  5. Angen gwirfoddolwyr o Gymru i brofi brechlyn Covid-19wedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai 2020

    Prawf

    Ein prif stori y bore 'ma ydy'r ymgyrch i recriwtio 500 o wirfoddolwyr o Gymru er mwyn profi brechlyn newydd yn erbyn y coronafeirws.

    Prifysgol Rhydychen sy'n datblygu'r cyffur, sy'n un o nifer o frechlynnau sy'n cael eu datblygu dros y byd.

    Bydd y gwirfoddolwyr yng Nghymru yn gweithio ym meysydd gofal ac iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

  6. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:56 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai 2020

    Bore da a chroeso i'n llif byw fydd â'r diweddaraf am bandemig y coronafeirws yn ystod y dydd.