Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 17:48 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020
BBC Cymru Fyw
A dyna ni gan dîm y llif byw am heddiw ar y diwrnod
- y dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y gallai rhagor o gyfyngiadau gael eu llacio yng Nghymru os yw nifer yr achosion yn parhau i ostwng.
- Nodwyd hefyd y bydd pawb sydd mewn cartref gofal yn cael prawf Covid-19 erbyn dydd Gwener.
- Dangosodd arolwg bod dros hanner o blant Cymru yn poeni am waith ysgol ac mae'r rhai sy'n dysgu gyrru yn poeni nad oes eglurder am bryd y byddan nhw yn gallu sefyll eu prawf.
- Cofnodwyd tair marwolaeth arall yng Nghymru gan ddod â'r nifer swyddogol i 1,401.
Bydd y straeon diweddaraf i'w gweld ar wefan Cymru Fyw ac fe fydd y llif newyddion yn ôl bore fory.
Tan hynny - hwyl a diolch am ddarllen.