Crynodeb

  • 'Dim addewidion' ar ailagor bwytai a thafarndai yng Nghymru

  • 54% o blant yn 'poeni am eu haddysg'

  • Gweinidog tai yn 'benderfynol' o daclo digartrefedd wedi Covid-19

  • Tair marwolaeth arall wedi'i chofnodi yng Nghymru gan ddod â'r nifer i 1,401

  1. Profi pawb mewn cartrefi gofal erbyn Mehefin 12wedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gael ei holi am y system brofi, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn hyderus y bydd pawb mewn cartrefi gofal - yn breswylwyr a staff - wedi cael eu profi erbyn Mehefin 12.

    Diolchodd i awdurdodau lleol a Fforwm Gofal Cymru am sicrhau hynny a dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd canlyniadau'r profion ar gael yn gynt.

  2. Cydymdeimlo â'r diwydiant twristiaethwedi ei gyhoeddi 12:58 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gael ei holi gan James Williams o'r BBC am y diwydiant twristiaeth dywedodd y Prif Weinidog na fydd hi'n bosib i'r diwydiant ddychwelyd eleni i'r hyn yr oedd cyn y cyfyngiadau.

    Mae hynny, meddai, yn unol â phryderon pobl am ymwelwyr yn dod i Gymru ond dywedodd ei fod yn gobeithio darparu ryw gymorth i dwristiaeth ac y byddai llacio unrhyw gyfyngiadau yn cael ei reoli'n ofalus.

    Ychwanegodd ei fod yn cydymdeimlo â'r diwydiant a phwysleisiodd bod unrhyw lacio yn ddibynnol ar sêl bendith cymunedol.

  3. 'Rhestr hir' o bosibiliadau ar lacio cyfyngiadau y tro nesafwedi ei gyhoeddi 12:49 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb cwestiwn ar y posibilrwydd o ganiatáu i fwytai a thafarndai ailagor mewn rhyw fodd, fel sy'n cael ei awgrymu yn Lloegr, dywedodd Mr Drakeford bod hynny'n syniad sy'n cael ei ystyried.

    Dywedodd bod rhestr hir o "syniadau posib" ar gyfer llacio'r rheoliadau ymhellach, ac y byddai rhestr fer yn cael ei llunio'r wythnos nesaf.

    Dywedodd nad oedd modd gwneud addewid, gan fod "llawer iawn o geisiadau eraill yn cael eu gwneud" ar gyfer yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau.

    Mae llacio'r cyfyngiadau yn ddibynnol ar achosion yn dal i gwympo, meddai.

    MD
  4. 'Diolch am wydnwch plant Cymru'wedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r prif weinidog hefyd wedi diolch i blant sydd wedi cyfrannu at yr arolwg cenedlaethol ar gyfnod y feirws.

    Mae'n dweud bod pawb wedi cael profiad unigryw yn ystod y cyfnod yma, ond mae'n "diolch i blant a phobl ifanc Cymru am eu gwydnwch arbennig yn ystod y pandemig".

    Cyn cymryd cwestiynau, mae Mr Drakeford yn annog Cymry i ddefnyddio ap ZOE i olrhain symptomau'r feirws. Mae tua 70,000 o bobl yn ei ddefnyddio bob dydd yng Nghymru.

  5. Nifer achosion yn dal i gwympowedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog wedi dechrau drwy ddweud bod nifer yr achosion newydd o Covid-19 sy'n cael eu hadrodd yn ddyddiol yn cwympo yn raddol.

    Roedd tua 400 o achosion newydd yn ddyddiol ar ddechrau'r cyfnod clo - sydd bellach wedi cwympo i tua 50.

    Os fydd y cwymp yna'n parhau tan yr wythnos nesaf, dywedodd Mr Drakeford y bydd modd llacio mwy o reolau'r cyfnod clo pan fydd yr adolygiad nesaf.

    Mae'r llywodraeth hefyd wedi cadarnhau mewn datganiad bod cyfradd R - graddfa trosglwyddiad y feirws - yn 0.8 yng Nghymru, ac yn sefydlog ar hyn o bryd.

    Am fwy o wybodaeth am y rhif R, cliciwch yma.

  6. Cynhadledd newyddion ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford ar fin dechrau cynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru. Arhoswch gyda ni am y diweddara'.

  7. Pryderon am yr oedi cyn cael canlyniad prawfwedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Mae perchennog cartref gofal ym Môn yn poeni y gallai'r oedi cyn cael canlyniadau profion arwain at ail don o haint coronafeirws yng Nghymru.

    Dywed Glyn Williams sy'n rhedeg cartref gofal Gwyddfor ym Modedern bod amser allweddol yn cael ei golli rhwng cynnal y prawf a chael y canlyniad.

    Mae arbenigwyr gwyddonol y llywodraeth yn dweud bod y system olrhain "yn fwyaf llwyddiannus" pan y ceir canyniadau profion o fewn 24 awr.

    Dywed Mr Williams ei bod wedi cymryd 70 awr i gael canlyniad un aelod o staff yn ei gartref yr wythnos diwethaf, ac yn ffodus bod y canlyniad hwnnw yn negatif.

    "Ond petai'n positif, byddai wedi bod yn rhy hwyr i atal lledaeniad yr haint," meddai Mr Williams.

    Dywed Mario Kreft, Cadeirydd Fforwm Gofal Cymru: "Mae'n hynod bwysig bod pobl mewn cartref gofal - yn breswylwyr a staff - yn cael eu profi a bod y canlyniadau yn dod yn fuan er mwyn atal lledaeniad yr haint.

    "Rhaid i ni ddysgu gwersi o'r misoedd diwethaf fel nad ydym yn ailadrodd yr un camgymeriadau - yn enwedig os ydym yn mynd i gael ton arall o'r haint yn ddiweddarach eleni."

    Ddydd Sul dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford mai nod Llywodraeth Cymru oedd "prosesu'r profion yn gynt".

    dynes oedrannus
  8. Mark Drakeford i arwain cynhadledd newyddionwedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Y Prif Weinidog Mark Drakeford fydd yn ateb cwestiynau yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru ymhen hanner awr.

    Mae disgwyl i Mr Drakeford roi diweddariad i ni am y sefyllfa yng Nghymru wedi'r penwythnos.

  9. Cyfnod cloi i blant: 'Her, aberth a rhwystredigaeth'wedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Profiadau pobl ifanc Cymru mewn pandemig - argraffiadau dau, o'r de a'r gogledd, ar y cyfnod cloi.

    Read More
  10. 'Arolwg Comisiynydd wedi llywio ein penderfyniadau'wedi ei gyhoeddi 11:29 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Ry'n ni eisoes wedi cyfeirio at arolwg y Comisiynydd Plant - mae modd gweld canlyniadau llawn yr arolwg yma.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Cerdd amserol Bardd y Mis Radio Cymruwedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    BBC Radio Cymru

    Emyr Davies yw Bardd y Mis Radio Cymru yn ystod Mehefin a dyma ei gerdd amserol sy'n diolch i'r gweithwyr yn ystod y pandemig.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Parciau yn agor yn rhannol i bobl leolwedi ei gyhoeddi 10:47 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Mae rhannau o ddau o barciau cenedlaethol Cymru yn ailagor i bobl leol heddiw.

    Cafodd y parciau a mannau eraill o brydferthwch eu cau ddiwedd Mawrth wedi i dorfeydd heidio i fannau poblogaidd fel Pen y Fan ac Eryri.

    Bydd meysydd parcio Parc Cenedlaethol Arfordriol Penfro yn agor a rhannau o Barc Cenedlaethol y Bannau - fe fydd mannau poblogaidd fel Pen y Fan yn parhau ar gau.

    Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn parhau ar gau - ond deallir bod yna baratoadau ar gyfer ailagor.

    Dim ond pobl sy'n byw yn lleol all fynd i'r parciau. Mae rheolau Cymru yn nodi bod modd i bobl o ddau gartref gyfarfod y tu allan ond rhaid sicrhau ymbellhau cymdeithasol o ddau fetr a pheidio teithio ymhellach na phum milltir o adref.

    Pen y Fan
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd Pen y Fan yn parhau i fod ar gau

  13. Profion gyrru: Hyfforddwr yn galw am gyngorwedi ei gyhoeddi 10:32 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Mae diffyg gwybodaeth ynghylch ailgychwyn profion gyrru'n gadael hyfforddwyr gyrru "yn y tywyllwch".

    Read More
  14. 'Penderfynol' taclo digartrefedd wedi Covid-19wedi ei gyhoeddi 10:15 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Mae'r gweinidog tai yn dweud ei bod yn "hollol benderfynol" na fydd yn rhaid i bobl ddigartref fynd yn ôl ar y strydoedd ar ôl yr argyfwng coronafeirws.

    Mae hi'n galw ar gynghorau i ddod o hyd i gartrefi parhaol i'r cannoedd o bobl sydd wedi cael llety dros dro yn ystod y pandemig.

    Fe dalwyd am westai, ystafelloedd myfyrwyr a hosteli ar ddechrau'r pandemig er mwyn i dros 800 o bobl ddigartref gael rhywle i fyw.

    Nawr mae 'na £20m arall ar gael i dalu am adeiladu cartrefi newydd neu drosi eiddo gwag fel bod "pawb sydd â chartref yn aros mewn cartref," yn ôl y gweinidog Julie James.

    Digartrefedd
  15. 'Risg torfeydd yn bryder'wedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    BBC Radio Wales

    Hefyd yn ymateb i'r protestiadau dros y penwythnos, dywedodd prif swyddog nyrsio Cymru bod "rhywfaint o risg gyda digwyddiadau torfol sydd yn bryder".

    Dywedodd yr Athro Jean White wrth BBC Radio Wales ei bod yn deall y teimladau cryf sydd wedi eu dangos yn sgil marwolaeth George Floyd, "ond buaswn i yn dweud nad yw coronafeirws wedi diflannu eto".

    Dywedodd: "Mae'n dal i ledaenu yn ein cymunedau, er ar lefel isel. Ond mae 'na risg wrth i bobl ddod i gysylltiad agos gyda'i gilydd er ei fod tu allan sy'n llai peryglus na thu mewn."

    Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall beth maen nhw'n ei wneud a'r risg iddyn nhw ac eraill drwy dorri'r rheolau."

    Protest
  16. Protestiadau: 'Angen cydbwysedd'wedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Fe welodd Cymru sawl protest dros y penwythnos wrth i bobl ymateb i farwolaeth George Floyd yn yr UDA.

    Roedd trefnwyr yn dweud bod y gwrthdystiadau yn dilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol, ond mae rhai wedi eu beirniadu am ymgynnull ar gyfnod pan mae rheolau ynysu dal mewn grym.

    Dywedodd comisiynydd heddlu de Cymru bod angen "cydbwysedd".

    Ychwanegodd Alun Michael: "Os ydych chi'n edrych ar y ffordd y gwnaeth pobl ymddwyn yn y brotest yng Nghaerdydd er enghraifft, roedd y rhan fwyaf yn cadw at y rheolau ymbellhau.

    "Roedd pobl oedd yn paratoi'r brotest yn ymwybodol iawn o'r pwysigrwydd atal lledaeniad y feirws. Mae'n falans anodd iawn pan bod pethau mor bwysig yn digwydd yn rhyngwladol i sicrhau ein bod ni yn gwneud y peth iawn."

    protest
  17. Oedi cyfnod clo yn 'ffactor allweddol'wedi ei gyhoeddi 09:18 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    BBC Radio Wales

    Roedd oedi cyn cyflwyno cyfnod clo ym Mhrydain yn "ffactor allweddol" yn lledaeniad y feirws yn y wlad, yn ôl academydd o Brifysgol Aberystwyth.

    Dywedodd yr Athro Michael Woods, sy'n arwain ymchwil i'r feirws, bod yr oedi yn "ffactor allweddol wrth esbonio pam bod gan y DU y lefel uchaf o farwolaethau Covid-19 yn Ewrop".

    Yn siarad ar BBC Radio Wales, dywedodd bod sefyllfa'r DU o'i gymharu ag Ewrop "wir yn sefyll allan oherwydd bod lefel difrifol o'r salwch wedi lledaenu i bron pob ardal".

  18. 54% o blant yn poeni am eu haddysgwedi ei gyhoeddi 09:06 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Mae 54% o bobl ifanc Cymru yn pryderu y byddan nhw'n colli tir gyda'u gwaith ysgol oherwydd argyfwng coronafeirws, yn ôl arolwg.

    Roedd llawer o blant yn dweud eu bod yn mwynhau agweddau fel treulio mwy o amser gyda theulu a chael ymarfer corff bob dydd.

    Ond roedd cyfradd uchel o blant yn gweld eisiau eu ffrindiau, yn poeni am effaith y feirws ar eu teuluoedd, ac yn poeni am eu haddysg.

    Fe wnaeth 23,719 o blant rhwng 3-18 oed lenwi holiadur yn gofyn am eu teimladau a'u meddyliau yn ystod y pandemig.

    Plant
  19. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:56 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Croeso i'r llif byw ar 8 Mehefin. Fe gewch chi'r diweddara' am y coronafeirws yma drwy gydol y dydd.