Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 17:48 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020
A dyna ni am wythnos arall ar y llif byw. Diolch i chi gyd am ymuno. Dyma'r prif benawdau o heddiw:
- 10 yn rhagor o bobl wedi marw yng Nghymru ar ôl cael Covid-19 gan fynd â chyfanswm y marwolaethau yma i 1,435;
- Canolfan Mileniwm Cymru yn mynd i gau tan "o leiaf" mis Ionawr 2021 gan beryglu 250 o swyddi;
- GDP y DU wedi crebachu 20.4% yn ystod mis Ebrill o achos effaith cyfyngiadau cloi y pandemig;
- Ffigyrau'n awgrymu bod cyfradd marwolaethau sy'n ymwneud â coronafeirws bron ddwywaith mor uchel yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o'i gymharu ag ardaloedd lleiaf difreintiedig;
- Y prif weinidog, Mark Drakeford yn dweud na fydd yn newid ei ddull o ystyried newidiadau i'r cyfyngiadau, "pa bynnag mor uchel yw'r galwadau" iddo wneud hynny.
Bydd Cymru Fyw yn dod â'r straeon diweddaraf i chi dros y penwythnos fel yr arfer, ac fe fydd y llif byw yn ôl ddydd Llun. Tan hynny, cadwch yn saff a diolch eto am ddilyn.