Crynodeb

  • Fe wnaeth GDP y DU grebachu 20.4% yn ystod mis Ebrill o achos effaith sylweddol cyfyngiadau cloi y pandemig

  • Canolfan y Mileniwm ynghau tan "o leiaf" Ionawr 2021, gan beryglu 250 o swyddi

  • 10 yn rhagor o bobl wedi marw yng Nghymru ar ôl cael Covid-19

  • Roedd wyth o'r 10 marwolaeth gafodd eu cofnodi heddiw yn y gogledd

  • Cyfradd marwolaethau sy'n ymwneud â coronafeirws bron ddwywaith mor uchel yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o'i gymharu ag ardaloedd lleiaf difreintiedig, mae ffigyrau'n awgrymu

  • Arolwch Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud bod mwy o bobl yn credu y dylai rhagor o weithwyr ddychwelyd i'r gwaith

  • Rhybudd gan y diwydiant harddwch ei bod yn amhosib cadw o fewn y gyfraith ar ymbellhau cymdeithasol

  • Teulu'n rhannu eu "brwydr drawmatig" i gael y prawf coronafeirws cywir i'w tad 90 oed

  1. 'Bron â gorffen' profi pob cartref gofalwedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae addewid i brofi pob person mewn cartref gofal yng Nghymru “bron â gorffen”, meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford - er gwaethaf addewid y byddai’n cael ei wneud erbyn heddiw.

    Mae Mr Drakeford wedi dweud o'r blaen y byddai'r holl breswylwyr yn cael eu profi erbyn 12 Mehefin.

    Ond dywedodd yn y gynhadledd: “Rydym bron â gorffen profi pob preswylydd ac aelod staff cartref gofal yng Nghymru, ac o’r wythnos nesaf ymlaen, byddwn yn parhau i gynnig profion wythnosol i staff mewn cartrefi gofal am y bedair wythnos nesaf.

    “Wrth i’r sefyllfa wella, rydym wedi gallu helpu cartrefi gofal i gynllunio ar gyfer ymweliadau ychwanegol â thrigolion gan deulu a ffrindiau, ar yr amod y gellir gwneud y rhain yn ddiogel ac yn unol â’r canllawiau.”

    Nid yw tri chwarter y cartrefi gofal yng Nghymru wedi cael unrhyw achosion o'r feirws, ychwanegodd.

  2. Drakeford am barhau gyda thactegau pwyllogwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog yn dweud na fydd yn newid o fod yn bwyllog tra'n llacio'r cyfyngiadau, "dim ots pa mor gryf yw'r galwadau".

    Rhybuddiodd y diwydiant twristiaeth ddoe ei fod "ar fin dymchwel" am fod y cyfyngiadau yng Nghymru yn fwy llym na'r rheiny yn Lloegr.

    Mae disgwyl cyhoeddiad am lacio'r cyfyngiadau ymhellach yng Nghymru ymhen wythnos, a dywedodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd na fyddai unrhyw reolau'n cael eu llacio cyn hynny.

    "Ry'n ni'n gallu dewis llwybr ble ry'n ni'n adennill ein rhyddid yn araf, yn ofalus ac yn ddiogel," meddai.

    "Neu fe allwn ni daflu hynny oll i ffwrdd, codi'r cyfyngiadau ar frys a chael y risg fod y feirws angheuol yma ar gynnydd unwaith eto."

    Drakeford
  3. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Cofiwch am y gynhadledd ddyddiolwedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020

    Fe gewch chi'r diweddaraf o'r gynhadledd yma, wrth gwrs. Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford sydd wrthi heddiw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Deintyddfeydd ddim yn ôl i'r arfer nes mis Ionawrwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020

    BBC Radio Wales

    Mae prif swyddog meddygol Cymru yn dweud ei bod yn "bwysig iawn ein bod yn cael deintyddion yn ôl i'r arfer", ond rhybuddiodd y bydd hynny'n cymryd amser.

    Yn ei sesiwn cwestiwn ac ateb ar BBC Radio Wales dywedodd mai'r bwriad ar hyn o bryd yw y bydd deintyddfeydd yn dychwelyd i'r arfer ym mis Ionawr 2021.

    Cafodd ei gyhoeddi ddoe y bydd triniaethau'n ailddechrau ar 1 Gorffennaf, ond mai achosion brys a phobl sydd wedi cael problemau'n ystod y cyfnod clo fydd yn cael blaenoriaeth.

    DeintyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. 250 o swyddi mewn perygl yng Nghanolfan y Mileniwmwedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020
    Newydd dorri

    Huw Thomas
    Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau BBC Cymru

    Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn mynd i fod ynghau tan “o leiaf” mis Ionawr 2021, gan beryglu 250 o swyddi.

    Dywedodd y ganolfan gelf yng Nghaerdydd y gall 85 o bobl gael eu diswyddo, tra bydd staff achlysurol ddim yn cael eu cyflogi bellach.

    Yr “effaith ddinistriol” ar y diwydiant theatr gan coronafeirws sydd ar fai, yn ôl rheolwr cyffredinol y ganolfan.

    Fe allai'r ganolfan aros ynghau tan Ebrill 2021, ac mae'n wynebu colledion o £20m mewn incwm.

    Caeodd ddrysau Canolfan y Mileniwm ar 17 Mawrth yn sgil y rheolau ar ymbellhau cymdeithasol.

    Mae mwy o wybodaeth am y stori yma ar ein hafan.

    Canolfan y MileniwmFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. S4C: Hysbysebion am ddim i elusennauwedi ei gyhoeddi 11:18 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020

    golwg360

    Mae golwg360 yn adrodd bod S4C yn gadael i elusennau gael hysbysebion am ddim ar y sianel, dolen allanol.

    O’r wythnos nesaf ymlaen, bydd S4C yn dangos hysbysebion gan elusennau sy’n helpu pobl yn ystod cyfnod y pandemig.

    Bydd S4C hefyd yn cynnig cannoedd o bunnau er mwyn talu am greu’r hysbysebion.

    “Mae S4C yn cynnig cymhorthdal o hyd at £500 i helpu i gael yr hysbyseb ar yr awyr. Byddai modd cael hysbyseb syml am tua £500,” meddai llefarydd y sianel wrth golwg360.

    Elusen atal digartrefedd Shelter Cymru fydd un o’r cyntaf i fanteisio ar y cynnig.

    Yr Egin, S4C
  8. Triniaeth i waredu ar '99.99% o feirysau' ar drenauwedi ei gyhoeddi 11:03 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020

    Mae triniaeth bwerus sy'n "cael gwared ar 99.99% o feirysau a bacteria" yn cael ei chwistrellu tu fewn i drenau Great Western Railway mewn ymdrech i gadw teithwyr yn ddiogel.

    Mae'r cwmni yn honni bod y driniaeth wedi profi'n llwyddiannus i atal Covid-19 am hyd at 28 diwrnod.

    Dywedodd GWR bod y driniaeth yn well i'r amgylchedd na thriniaethau eraill hefyd, gan ddefnyddio dim alcohol na chemegau peryglus.

    Great Western RailwayFfynhonnell y llun, Great Western Railway
  9. 'Gobaith yn parhau' i ailagor y diwydiant chwaraeonwedi ei gyhoeddi 10:47 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020

    BBC Sport Wales

    Mae prif weithredwr dros dro Chwaraeon Cymru'n credu bod gobaith i ailddechrau rhai chwaraeon dros yr haf.

    Ond dywedodd Brian Davies hyd yn oed pe bai'r cyfyngiadau'n cael eu llacio, ei bod yn annhebygol y bydd modd cymryd rhan yn ochr gymdeithasol chwaraeon.

    "Ar hyn o bryd camau bychan allwn ni eu cymryd. Y neges fydd 'mewn ac allan' cyn gynted â phosib," meddai.

    Yn adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru o'r cyfyngiadau ar 18 Mehefin byddan nhw'n ystyried ailagor cyfleusterau chwaraeon er mwyn i athletwyr elît - ond sydd ddim yn broffesiynol - allu ailddechrau hyfforddi.

    Bydd hefyd yn ystyried os oes modd ailagor cyfleusterau chwaraeon awyr agored.

    Brian Davies
  10. 'Neiniau a theidiau angen parhau i ddisgwyl am y tro'wedi ei gyhoeddi 10:33 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020

    BBC Radio Wales

    Mae neiniau a theidiau sydd eisiau gafael yn eu hwyrion ac wyresau angen parhau i ddisgwyl am y tro, medd prif swyddog meddygol Cymru.

    Mae Dr Frank Atherton wedi bod yn ateb galwadau gan wrandawyr BBC Radio Wales y bore 'ma. Roedd Dr Atherton yn ymateb i gwestiwn gan ddynes yn ei 80au oedd eisiau gafael yn ei gor-ŵyr.

    "Dydy rhoi cwtsh iddo ddim y peth iawn i wneud i'r un ohonoch chi ar hyn o bryd," meddai.

    Ond dywedodd Dr Atherton ei bod yn bosib na fydd yn rhaid disgwyl yn rhy hir i wneud hynny.

    "Os ydy pethau'n parhau i fynd i'r cyfeiriad cywir bydd y mathau yna o gyfyngiadau - fel pobl yn cwrdd â'u hwyrion - yn rhywbeth y byddwn yn ystyried llacio yn fuan," meddai.

    Dr Frank AthertonFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  11. Mwy yn cefnogi ailagor siopau a dychwelyd i'r gwaithwedi ei gyhoeddi 10:18 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020

    Mae mwy o bobl erbyn hyn yn credu y dylai gweithwyr sydd ddim yn rhai hanfodol ddychwelyd i'r gwaith o fewn y tair wythnos nesaf, ac mae 'na gefnogaeth hefyd i siopau a chanolfannau cymdeithasol ailagor.

    Mae'r arolwg, gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn nodi mai dynion sydd fwyaf o blaid agor siopau, gweithleoedd a lleoliadau cymdeithasol wrth i'r ofnau am yr haint leihau.

    Wyth wythnos yn ôl, dangosodd arolwg bod 64% o bobl yn poeni llawer am golli rhywun i'r feirws. Mae hyn bellach wedi gostwng i 50%.

    Ond mae 47% wedi dweud y byddai'n well ganddynt i'r cyfyngiadau bara nes nad oes unrhyw siawns o ddal y feirws ac y mae'r nifer sy'n teimlo'n ynysig "bob amser neu'n aml" wedi aros ar 20%.

    Mae'r adroddiad yn seiliedig ar atebion 611 o bobl rhwng 1-7 Mehefin.

    CaerdyddFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
  12. Technoleg rithwir yn lleddfu'r baich i staff y GIGwedi ei gyhoeddi 10:02 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020

    BBC Radio Wales

    Mae staff y gwasanaeth iechyd wedi bod yn defnyddio technoleg rithwir mewn ymgais i leddfu'r pwysau arnynt a gwella eu hiechyd meddwl.

    Dywedodd Dr Kim Smallman o Brifysgol Caerdydd wrth BBC Radio Wales y bore 'ma mai'r nod yw cadw meddyliau staff rheng flaen oddi ar y pandemig am gyfnod.

    "Maen nhw'n cael eu cymryd i fyd gwahanol," meddai.

    Ychwanegodd Dr Smallman bod y dechnoleg wedi cael ei groesawu gan staff uned gofal critigol Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

    "Dywedon nhw ei fod yn eu helpu i gysgu ac anghofio am eu pryderon am gyfnod," meddai.

    GIGFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg
  13. Teulu'n flin wedi anwybodaeth ysbyty am brawf Covid-19wedi ei gyhoeddi 09:45 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020

    Dyw'r newid ym mholisïau Llywodraeth Cymru ddim wastad wedi'i drosglwyddo i staff rheng flaen, medd Mario Kreft, cadeirydd Fforwm Gofal Cymru sy'n cynrychioli cannoedd o ddarparwyr gofal.

    Daw ei sylwadau wedi i deulu ddweud iddynt wynebu "brwydr drawmatig" i gael y prawf coronafeirws iawn ar gyfer trosglwyddo eu tad 90 oed o Ysbyty Brenhinol Gwent i gartref gofal.

    Aeth Denis Jenkins i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ym mis Mai am fod ganddo symptomau Covid-19 ond gan fod y prawf yn negyddol cafodd ei ryddhau o'r ysbyty.

    Dywed ei ddwy ferch eu bod wedi gorfod gwneud tri chais am brawf "olrhain cyflym" i gwrdd â gofynion y cartref gofal yr oedd yn mynd iddo.

    Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ei "pholisi ar gyfer profi mewn cartrefi gofal wedi'i addasu wrth i dystiolaeth wyddonol newid".

    Denis JenkinsFfynhonnell y llun, Llun teulu
  14. Sarhad o weithwyr siopau wedi dyblu'n ystod y pandemigwedi ei gyhoeddi 09:29 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020

    BBC Radio Wales

    Mae swyddog undeb yng Nghymru'n dweud ei fod "wedi synnu" gyda'r ffigyrau bod sarhad o weithwyr siopau ac archfarchnadoedd wedi dyblu yn ystod y pandemig.

    Dywedodd Nick Ireland o undeb USDAW wrth Radio Wales bod hynny "yn anffodus yn rhywbeth oedd i'w weld cyn y pandemig" ond bod y cyfnod clo wedi arwain at fwy o ddigwyddiadau o'r fath.

    Ychwanegodd bod siopwyr yn gallu mynd yn rhwystredig pan fo angen iddyn nhw ddisgwyl mewn ciw, neu pan nad yw'r eitemau maen nhw eisiau ar gael.

    "Ry'n ni hefyd wedi gweld cwsmeriaid yn gwrthod cadw pellter cymdeithasol - yn taro mewn i staff," meddai.

    "Diogelwch ein haelodau a'r cyhoedd yw ein blaenoriaeth - ni ddylai siopau fod ar agor os nad ydyn nhw'n dilyn y canllawiau ac yn gweithredu'n ddiogel."

    SiopaFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Cadw dau fetr yn 'amhosib' i driniaethau harddwchwedi ei gyhoeddi 09:15 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020

    Mae derbyn triniaethau harddwch mwy neu lai yn dasg amhosib heb dorri'r gyfraith o ymbellhau cymdeithasol, medd rhai yn y diwydiant.

    Gyda nifer o salonau a siopau harddwch bellach wedi cau ers sawl wythnos mae un perchennog yn mynnu mai "hwn yw'r cyfnod i baratoi".

    Yn ôl Julie Howatson Broster, o Salon Visage yn Ninbych, bydd sicrhau hylendid manwl a defnyddio cyfarpar diogelwch yn rhan o'r broses newydd.

    Mae mwy ar y stori yma ar ein hafan.

    Disgrifiad,

    'Amhosib 'neud harddwch heb gyffwrdd cyrff pobl'

  16. Y gostyngiad misol mwyaf erioed i economi'r DUwedi ei gyhoeddi 09:05 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Fe wnaeth economi'r DU leihau 20.4% ym mis Ebrill - y gostyngiad mwyaf ers i gofnodion ddechrau yn 1997 - wrth i effaith llawn y cyfnod clo ddod i'r amlwg.

    Cafodd y ffigyrau eu hamlinellu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fore heddiw.

    Mae'r gostyngiad dair gwaith yn fwy na'r hyn a welwyd drwy gydol trafferthion economaidd 2008 a 2009.

    Stryd wagFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Croeso i'r llifwedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2020

    Bore da a chroeso i'r llif byw ar ddydd Gwener, 12 Mehefin.

    Arhoswch gyda ni am y newyddion diweddaraf am y pandemig yng Nghymru a thu hwnt drwy gydol y dydd.