Crynodeb

  • Chwech yn rhagor o farwolaethau Covid-19

  • Pryder bod rhieni di-Gymraeg yn troi at addysg Saesneg

  • Bron i ddwy ran o dair o bobl sydd wedi eu heintio â haint coronafeirws yn fenywod

  1. Cynlluniau posib ar gyfer ailagor y Seneddwedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gyfeirio at ailagor y Senedd, dywed y gweinidog cyllid ei bod yn awyddus nad oes yr un aelod o dan anfantais gan nad yw'n gallu bod yn bresennol.

    Yn y gynhadledd ddyddiol dywedodd bod yna gynlluniau ar y gweill allai olygu bod 20 aelod ym Mae Caerdydd a 40 ar-lein.

    "Rhaid sicrhau fod profiad pawb yr un fath," meddai ac ychwanegodd fod y canllaw pum milltir yn cymhlethu pethau ond petai'r sefyllfa yn parhau i wella fe fyddid yn gwaredu'r rheol honno ar 6 Gorffennaf.

    Senedd
  2. Gweinidog yn deall 'heriau' awdurdodau lleolwedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw'r Gweinidog Cyllid yn tanamcangyfrif yr heriau sydd gan gynghorau lleol o ganlyniad i'r pandemig.

    Yn Lloegr mae rhai cynghorau'n pryderu y byddant yn mynd i'r wal o achos costau coronafeirws

    Dywedodd Rebecca Evans: "Rydym mewn safle gwell yng Nghymru am ein bod wedi blaenoriaethu gwariant ar lywodraeth leol drwy gydol y cyfnod o gyni ariannol.

    "Mae awdurdodau yn Lloegr wedi dioddef yn sylweddol yn ystod y ddegawd ddiwethaf ond rydym mewn lle gwell. Maen nhw'n fwy gwydn yma ond nid wyf yn tanamcangyfrif y sialens.

    "Rydym wedi adnabod rhai o'r pwysau gwirioneddol y mae cynghorau yn eu hwynebu. Rydym wedi sefydlu cronfa galedi cynghorau lleol gwerth £180m. Mae hyn yn cynnwys £40m ar gyfer gofal cymdeithasol - y cyfarpar PPE ychwanegol sydd ei angen a'r staff ychwanegol sydd ei angen i lewni gwaith staff sydd yn sâl.

    "Mae hefyd yn cynnwys arian sydd ar gael i blant sydd yn derbyn cinio ysgol am ddim dros yr haf. Ni oedd y cyntaf yn y DU i wneud hyn", ychwanegodd.

    RE
  3. Dim dyddiad penodol ar gyfer ailagor tafarndaiwedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gyfeirio at dafarndai dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, nad oes dyddiad penodol eto ar gyfer ailagor.

    Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd heb ddyddiad penodol ac mae'r gwrthbleidiau wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod amserlen.

    Wrth ymateb yn y gynhadledd dywedodd: "Ni allaf roi dyddiad hyd yma ond ychwanegodd bod trafodaethau gyda'r diwydiant yn parhau ond bod hi'n anodd iawn fod yn benodol gan nad yw hi'n bosib gwybod hyd a lled yr haint yn ystod yr wythnosau nesaf.

    "Mae'r camau nesaf ar gyfer ailagor wedi cael eu cydlynu ac mae hynny yn cynnwys trafodaethau ar gael mwy o lefydd eistedd tu allan mewn trefi a dinasoedd er mwyn helpu'r diwydiant," ychwanegodd.

  4. Dilynwch y diweddaraf o'r gynhadledd ddyddiolwedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Triniaeth Covid-19: Cymru'n chwarae 'rhan allweddol'wedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth siarad yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru i'r wasg brynhawn dydd Iau, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans fod Cymru'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddarganfod triniaethau gwell ar gyfer coronafeirws.

    Dywedodd fod 2,850 o bobl yn y wlad yn cymryd rhan mewn "astudiaethau iechyd cyhoeddus brys".

    Ychwanegodd fod enghreifftiau o hyn yn cynnwys gwaith yr Athro Chris Butler, sydd yn gweithio'n rhan amser i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg. Mae'n arwain astudiaeth ar draws y DU sydd yn ceisio darganfod triniaethau i bobl oedrannus er mwyn gwella'n gynt gan osgoi gorfod mynd i ysbytai am driniaeth.

    Dywedodd y gweinidog fod y Swyddfa Ystadegau yn ymestyn ei arolwg haint Covid-19 i gynnwys Cymru am y tro cyntaf.

    Bydd 500 o dai yng Nghymru yn cymryd rhan yn yr arolwg i ddechrau, gyda 500 yn ychwanegol bob wythnos wedyn wrth i'r arolwg ddatblygu.

    Mae disgwyl y bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu cyhoeddi yng nghanol mis Gorffennaf.

    Gweinidog
  6. Undeb yn galw am daliad bonws llawn i weithwyr gofalwedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Mae undeb Unison wedi ysgrifennu at y prif weinidog Boris Johnson yn galw arno i sicrhau fod gweithwyr gofal yn cael cadw taliad bonws Llywodraeth Cymru yn llawn.

    Dywed yr undeb fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod peidio tynnu cyfraniadau treth ag Yswiriant Cenedlaethol o'r taliadau £500 roddwyd i weithwyr gofal am eu gwaith yn ystod y pandemig yng Nghymru.

    Ychwanegodd Unison y gallai'r taliadau bonws effeithio ar daliadau Credyd Cynhwysol y gweithwyr sydd yn hawlio'r budd-dal hwnnw, gan ostwng y bonws i gyn lleied â £125 mewn rhai achosion.

    Mae Llywodraeth Cymru o blaid rhoi taliad llawn di-dreth o £500 i'r gweithwyr iechyd medd yr undeb.

  7. Cynhadledd ddyddiol y llywodraeth yn fuanwedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Problemau Prifysgolionwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Clywyd ar raglen y Post Cyntaf bod coronafeirws yn achosi heriau sylweddol i'r sector addysg uwch yn Nghymru.

    Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) yn amcangyfrif y gallai ein prifysgolion ni golli incwm o rhwng £200m a £400m yn y flwyddyn academaidd nesaf ac mae na bryderon arbennig am allu'r colegau i ddenu myfyrwyr o dramor.

    Fe ddywedodd yr Athro Medwin Hughes, Is Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. wrth raglen y Post Cyntaf y bore 'ma fod 'na "ansicrwydd gwirioneddol wrth i ni wynebu sesiwn newydd y flwyddyn academaidd sydd i ddod...

    "Wrth i ni weld y consyrn ynglŷn â myfyrwyr o dramor, a hefyd wrth gwrs, myfyrwyr o Gymru a'r DU, mae'n gyfnod dyrys iawn, iawn. O weld llai o fyfyrwyr, mae hynny'n golygu llai o incwm.

    "Ar hyn o bryd, mae prifysgolion yn gorfod cynllunio ar gyfer y dyfodol, a dyna pam mae'r trafodaethau gyda'r llywodraethau mor bwysig, i sicrhau fod 'na isadeiledd ariannol i roi cymorth, yn y tymor byr, ac i sicrhau y gall prifysgolion wneud cyfraniad sylweddol i'r dyfodol.

    "Y neges glir gan brifysgolion Cymru, ydy'n bo ni'n paratoi yn fanwl ar gyfer y myfyrwyr sy'n dod i Gymru, er mwyn iddyn nhw gael profiad academaidd ardderchog."

  9. Port yn pobiwedi ei gyhoeddi 11:48 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Twitter

    Porthmadog oedd un o'r llefydd poethaf yn y DU ddoe meddai Derek Brockway - ac mae'n poethi yno'n barod heddiw hefyd!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Canllawiau ailagor addoldai wedi eu cyhoeddiwedi ei gyhoeddi 11:37 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Yr un yw'r neges - arhoswch yn lleol:wedi ei gyhoeddi 11:24 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Yr haint yn fwy tebygol o effeithio ar bobl ar gyflogau iswedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Canolfan Llywodraethiant Cymru

    Mae’r rhai ar y cyflogau isaf yng Nghymru ddeg gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael eu heffeithio gan drefniadau cau o ganlyniad i Covid-19 na’r rhai ar y cyflogau uchaf, dengys ymchwil. Dywed y papur briffio gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, dolen allanol fod bron i hanner y rhai sy’n dod â’r incwm lleiaf adref yn gweithio mewn swyddi a orfodwyd i stopio oherwydd y cyfnod clo.Yn ogystal â’r rhai ar gyflogau isel, mae'r astudiaeth yn dangos bod yr aflonyddwch economaidd a achosir gan y Coronafeirws hefyd yn cael ei deimlo arwaf gan weithwyr iau, menywod a'r rhai o gefndiroedd BAME.Mae ymchwilwyr yn amcangyfrif bod tua 228,000 o weithwyr yng Nghymru wedi'u cyflogi mewn sectorau wedi'u cau o ganlyniad i fesurau cadw pellter cymdeithasol, sef 16% o'r boblogaeth oed gwaith.Roedd gweithwyr o dan 25 oed bron i deirgwaith yn fwy tebygol o fod yn gweithio yn y sectorau hyn. Mae'r effaith hefyd yn amrywio yn ôl rhyw, gyda 18% o weithwyr benywaidd yn gweithio mewn sectorau sydd wedi cau i lawr o gymharu â 14% o weithwyr gwrywaidd.Mae'r astudiaeth yn dangos bod hyn wedi cael effaith arbennig o galed ar fenywod iau, gyda 39% o'r holl weithwyr benywaidd o dan 25 oed yn gweithio mewn sectorau sydd wedi cau.Roedd dros ddwy ran o bump (44%) o weithwyr o ethnigrwydd Bangladeshaidd yn cael eu cyflogi cyn yr argyfwng mewn sectorau sydd bellach wedi cau. Roedd hyn bron i dair gwaith cyfran y rhai o ethnigrwydd Gwyn Prydain (16%) ac o gymharu â 24% o ethnigrwydd Du Caribïaidd ac 17% o ethnigrwydd Pacistanaidd.Mae'r adroddiad hefyd yn dadansoddi'r gweithwyr yng Nghymru sydd wedi'u dynodi'n weithwyr allweddol, sy'n gyfran lawer uwch o weithlu Cymru ar 31%, o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 26%. Yng Nghymru, mae 14% o'r boblogaeth o oed gwaith yn cael eu cyflogi fel gweithwyr allweddol ym maes iechyd, dwbl y nifer yn Llundain (7%).Mae menywod yng Nghymru ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu dynodi'n weithwyr allweddol na dynion, yn ôl y canfyddiadau.Mae'r ymchwil yn dangos bod gweithwyr o gefndiroedd BAME ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu cyflogi yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol na gweithwyr o ethnigrwydd Gwyn Prydain. Mae'r dadansoddiad hwn yn dilyn tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, dolen allanol bod unigolion BAME yn profi effeithiau iechyd mwy difrifol gan Covid-19.

  13. Cadwch hyd buwch oddi wrth eich gilydd!wedi ei gyhoeddi 10:57 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Un ffordd o fesur pethau!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Ailagor Tŵr Eiffelwedi ei gyhoeddi 10:47 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Mae Tŵr Eiffel wedi ailagor wedi iddo fod ar gau am y cyfnod hwyaf ers yr Ail Ryfel Byd.

    Ond fe fydd yna gyfyngiadau ar nifer yr ymwelwyr, bydd yn rhaid gwisgo mwgwd ac fe fydd pob man uwchben yr ail lawr ar gau.

    Fydd y lifft ddim yn gweithio tan 1 Gorffennaf.

    Mae'r tŵr yn denu oddeutu saith miliwn o ymwelwyr yn flynyddol, fel arfer.

    Twr EiffelFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Canlyniadau'r arolwg yn llawnwedi ei gyhoeddi 10:34 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    2/2

    Dyma rai o ganlyniadau arolwg mis Mai:

    • 93% o rieni sydd â phlentyn mewn ysgol gynradd ac 85% o rieni sydd â phlentyn mewn ysgol uwchradd yn fodlon bod yr ysgol yn dod o hyd i ffyrdd o gefnogi eu plant gyda’u dysgu.

    • 75% o bobl yn dweud eu bod yn hapus ar y cyfan, gyda 41% o bobl yn dweud eu bod wedi teimlo’n bryderus yn ystod y cyfnod.

    • 85% o bobl yn teimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol (+13% ers y llynedd)

    • Dywedodd pedwar o bob pump o’r bobl sy’n gweithio y byddent yn cael cyflog llawn pe bai’n rhaid iddynt hunanynysu a dywedodd 44% o bobl eu bod yn gallu gwneud y rhan fwyaf o’u gwaith, neu eu gwaith i gyd, gartref.

    Mae canlyniadau llawn yr arolwg ar gael ar dudalennau gwe yr Arolwg Cenedlaethol, dolen allanol.

  16. Arolwg yn canfod fod Cymru yn hapus ar y cyfanwedi ei gyhoeddi 10:27 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    1/2

    Mae canlyniadau ymchwil newydd gan Lywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi.

    Fel rhan o’r Arolwg Cenedlaethol misol newydd dros y ffôn, gofynnwyd cwestiynau i 3,000 o bobl o bob rhan o Gymru am lesiant ac unigrwydd, cyflogaeth, cyllid, tlodi bwyd, apwyntiadau meddyg teulu, gofal cymdeithasol ac addysg i ddarganfod sut mae’r pandemig wedi effeithio ar eu bywydau nhw.

    Er bod argyfwng y coronafeirws wedi achosi ansicrwydd na welwyd mo’i debyg o’r blaen, mae’r arolwg yn dangos bod pobl Cymru yn hapus ar y cyfan a bod ganddynt ymdeimlad o ysbryd cymunedol. Fodd bynnag, yn naturiol, maent yn teimlo’n fwy pryderus nag arfer.

  17. 'Camgymeriadau ar ddechrau'r argyfwng'wedi ei gyhoeddi 10:15 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    BBC Radio Wales

    Wrth siarad am y pandemig ar Radio Wales fore Iau, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price ei fod yn credu bod camgymeriadau wedi cael eu gwneud ar ddechrau'r argyfwng.

    "Roedden ni'n rhy hir," meddai, "yn cyflwyno'r cyfyngiadau ac mae hynny yn wir am Gymru a Lloegr.

    "Yn benodol mae yna fethiant wedi bod i amddiffyn y sector cartrefi gofal a dwi'n credu ein bod wedi symud bant yn rhy gloi wrth y polisi profi ac olrhain ym mis Mawrth - polisi sydd bellach wedi'i adfer.

    "Mae hynny, yn drist iawn, wedi'i adlewyrchu yn nifer y marwolaethau yng Nghymru a'r DU."

  18. Profiad merch cwpl byddarwedi ei gyhoeddi 10:06 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Yn sgil cyfyngiadau Covid-19 'dyw Mary Ebenezer o Langeitho ddim wedi gweld ei rhieni ers ddechrau Mawrth ac y mae hynny'n "sobor o anodd", meddai, "ond doedd dim dewis arall".

    Mae rhieni Mary, Gerwyn a Lorraine Williams yn fyddar ac mae ei mam yn ddall hefyd.

    "Y peth pwysicaf yw bod Mam a Dad yn saff - petaen nhw'n gorfod mynd i ysbyty, fe fyddai hynny'n anodd gan nad yw staff ysbyty, gan amlaf, yn gallu arwyddo," meddai.

    Gerwyn a LorraineFfynhonnell y llun, Briallt Wyn Williams
  19. 'Siomedig nad oedd modd ymestyn y tymor ysgol'wedi ei gyhoeddi 09:47 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Ar raglen frecwast Radio Wales, dywedodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ei fod hi'n newyddion siomedig nad yw plant yn dychwelyd i'r ysgol am bedair wythnos.

    "Yn bersonol," meddai, "dwi'm yn credu y bydd hanes yn edrych yn ffafriol ar ddigwyddiadau'r wythnosau diwethaf.

    "Mae'n drueni fod y bedair wythnos o addysg oedd y plant wedi cael addewid ohonynt wedi gostwng i dair.

    "Ry'n yn dweud ein bod yn ymrwymedig i ddelio â thlodi plant yng Nghymru ond ry'n ni methu ymestyn y tymor ysgol o wythnos. Mae hynny'n siom gwirioneddol."

  20. Royal Mail am gael gwared ar filoedd o swyddiwedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Mae cwmni Royal Mail wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cael gwared ar 2,000 o swyddi rheoli ar draws y DU o ganlyniad i argyfwng coronafeirws.

    Mae'r cwmni yn ceisio arbed £330 miliwn yn ystod y ddwy flynedd nesaf.