Crynodeb

  • Chwech yn rhagor o farwolaethau Covid-19

  • Pryder bod rhieni di-Gymraeg yn troi at addysg Saesneg

  • Bron i ddwy ran o dair o bobl sydd wedi eu heintio â haint coronafeirws yn fenywod

  1. Effaith yr haint ar y diwydiannau creadigolwedi ei gyhoeddi 09:28 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Twitter

    Mae Theatr Genedlaethol Cymru eisiau cefnogi gweithiwr theatr llawrydd Cymraeg ei iaith o Gymru i ymuno â’r Tasglu Llawrydd Cenedlaethol.

    Nod y Tasglu Llawrydd yw cefnogi’r ddeialog rhwng gweithwyr llawrydd, sefydliadau, cyllidwyr a’r llywodraeth a chefnogi llais yr hunangyflogedig yn y sgyrsiau i ddod ynglŷn â sut rydym yn rheoli’r ymateb i argyfwng Covid-19 ac adferiad y sector celfyddydau perfformio.

    Y prynhawn yma bydd cynrychiolwyr o'r diwydiannau creadigol yn cyflwyno tystiolaeth ger bron y Senedd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Mwy o fenywod wedi'u heintiowedi ei gyhoeddi 09:17 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    Mae bron i ddwy ran o dair o bobl sydd wedi eu heintio â coronafeirws yn fenywod, yn ôl ystadegau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Dywed TUC Cymru y dylai'r wybodaeth gael ei defnyddio er mwyn cydnabod nad yw menywod sydd yn gweithio ar y rheng flaen ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd yn cael eu talu ddigon na'i gwerthfawrogi yn ddigonol.

    Yn ôl ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) mae pedwar o bob pump person sydd yn gweithio ym meysydd iechyd neu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn fenywod.

    Mae ffigyrau swyddogol Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn nodi bod 64% o'r holl achosion coronafeirws sydd wedi cael diagnosis yn fenywod.

    merched gofal iechydFfynhonnell y llun, Reuters
  3. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:56 Amser Safonol Greenwich+1 25 Mehefin 2020

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'n llif dyddiol - lle cewch y newyddion diweddaraf am haint coronafeirws a'i sgil effeithiau.

    Ein prif stori heddiw yw wrth iddi ddod i'r amlwg bod posibilrwydd y bydd rhaid i rieni Cymru barhau i ddysgu o adref yn rhannol y flwyddyn nesaf, cynyddu mae'r pryderon am effaith hynny ar addysg cyfrwng Cymraeg.

    Mae mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg, RHAG, yn lansio arolwg o rieni addysg cyfrwng Cymraeg i holi am eu teimladau ers dechrau argyfwng coronafeirws.

    Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn cydnabod yr heriau mae pob rhiant yn eu hwynebu gyda dysgu o gartref ar hyn o bryd.

    Jade WilliamsFfynhonnell y llun, Jade Williams