Dim gorfodaeth bellachwedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 13 Gorffennaf 2020
Llywodraeth Cymru
Dywedodd Mr Drakeford na fyddai Llywodraeth Cymru yn gorfodi gwisgo mwgwd mewn siopau, ond y bydd rhai busnesau yn gofyn i bobl eu gwisgo.
Ychwanegodd bod y sdctor manwerthu wedi gwneud "ymdrech aruthrol i gyflwyno mesurau i gadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys sustemau un-ffordd, cyfyngu ar nifer y bobl sydd yn y siop ar yr un pryd a gosod sgriniau".
Ond dywedodd: "Ar hyn o bryd pan mae coronafeirws yn llai amlwg, nid ydym yn gorfodi mygydau mewn mannau cyhoeddus eraill er y gallai pobl ddewis eu gwisgo.
"Gallai'r cyngor newid os fydd coronafeirws yn dechrau cynyddu eto."