Crynodeb

  • Dim rhagor o farwolaethau covid-19 yng Nghymru yn y 24 awr diwethaf - y pedwerydd tro i hynny ddigwydd yn y saith diwrnod diwethaf

  • Tafarndai a thai bwyta'n cael ailagor, ond y tu allan yn unig

  • Siopau trin gwallt yn ailagor am y tro cyntaf ers y pandemig

  • Cartrefi gofal yn galw am drafodaeth glir am y broses o brofi am Coronafeirws

  1. Rhai wrthi'n barod!wedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich+1 13 Gorffennaf 2020

    Mae ambell dafarn wedi dechrau gweini'n barod!

    Dyma i chi rai sydd wedi cael llymaid cynt nag arfer yn Nhyndyrn, Sir Fynwy heddiw.

    tyndyrn
  2. Peint a phryd... ond y tu allanwedi ei gyhoeddi 08:52 Amser Safonol Greenwich+1 13 Gorffennaf 2020

    Mae tafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn gallu dechrau croesawu cwsmeriaid yn ôl o ddydd Llun ymlaen yn yr awyr agored.

    Ond y darogan yw mai dim ond tua'r hanner fydd yn penderfynu gwneud hynny.

    Bydd rhai o'r enwau mawr fel Wetherspoons a Brains yn disgwyl tan fod gan y cyhoedd hawl i fynd tu fewn ar 3 Awst.

    Y gred yw y bydd y trosiant yn rhyw 25% o'r hyn oedd cyn y cyfnod clo ac mae busnesau annibynnol yn dweud mai dim ond eu hanner fydd yn agor.

    tafarnFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Bore da!wedi ei gyhoeddi 08:50 Amser Safonol Greenwich+1 13 Gorffennaf 2020

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'n llif byw dyddiol ar fore Llun, 13 Gorffennaf.

    Gydol y dydd, dyma'r lle i gael i diweddaraf am y pandemig coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt wrth iddo ddigwydd.

    Bore da iawn i chi.