Crynodeb

  • Rhybudd y gallai busnesau sydd ddim yn cydymffurfio gyda rheolau gael eu cau

  • Marwolaethau i lawr i lefel dechrau mis Mawrth medd y Swyddfa Ystadegau Gwladol

  • Ailddechrau'r cynllun gofal plant am ddim

  • Galwad i wneud pob ymdrech i ddiogelu dyfodol busnesau bach Cymru

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 14:23 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    BBC Cymru Fyw

    Dyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw - diolch am ddarllen.

    Fe fyddwn ni nôl ddydd Mawrth nesaf am y gynhadledd wythnosol nesaf gan Lywodraeth Cymru, ac yn dychwelyd cyn hynny os fydd mater o bwys yn codi yn hanes y pandemig Covid-19 yng Nghymru.

    Hwyl fawr i chi.

  2. 'Mwynhewch gyfleusterau Abertawe - yn ofalus'wedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Un o dafarndai Wind Street, AbertaweFfynhonnell y llun, Wales News Service

    Wrth ymweld a rhai o dafarndai a bwytai Abertawe mae Arweinydd Cyngor y Ddinas wedi canmol ymdrechion busnesau lleol i ddarparu llefydd diogel i bobl fwynhau eu harlwy.

    Ond fe wnaeth Rob Stewart rybuddio pobl bod angen parhau i fod yn ofalus.

    “Mae’r neges yn parhau i fod yn syml", meddai.

    "Byddwch yn ddiogel a mwynhewch Abertawe yn gyfrifol. Mae'r cyngor yma i gefnogi pobl Abertawe ac rydyn ni am iddyn nhw aros yn ddiogel - dydyn ni ddim eisiau mynd yn ôl i sefyllfa lle mae'n rhaid i ni ddychwelyd i'r cyfnod cloi."

  3. Yr ystadegau diweddarafwedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    marwolaethau
    graffeg
  4. Nodyn o rybudd...wedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Un farwolaeth yn rhagorwedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi'r ffigyrau diweddaraf am effaith y pandemig yng Nghymru.

    Yn y 24 awr diwethaf cofnodwyd un yn rhagor o farwolaethau yma gan fynd â'r cyfanswm i 1,566.

    Cadarnhawyd 22 achos newydd o coronafeirws sy'n golygu bod 17,361 o achosion bellach yng Nghymru.

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cydnabod bod y gwir nifer yn debygol o fod yn llawer uwch yn y ddau achos.

  6. Beth am wisgo mygydau?wedi ei gyhoeddi 13:49 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ymateb i gwestiwn yn y gynhadledd wythnosol yn gynharach, dywedodd Eluned Morgan mai cyfrifoldeb ar y cyd rhwng "trafnidiaeth a'r heddlu" yw gweithredu'r ddeddf sy'n gorfodi gwisgo mwgwd ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

    Mae ychydig o dystiolaeth ar wefannau cymdeithasol bod nifer o bobl yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus a ddim yn gwisgo mwgwd.

    Mae'r ddeddf yng Nghymru yn gwneud hynny'n orfodol ar drenau, bysys a thacsis.

  7. Y Ceidwadwyr yn beirniadu'r cynnig gofal plantwedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Cymru wedi iddyn nhw gyhoeddi y bydd y cynnig gofal plant yn cael ailgychwyn.

    Cafodd y cynllun i rieni plant 3 a 4 oed sy'n gweithio ei atal ym mis Ebrill oherwydd y pandemig, ond mae nawr yn cael ailgychwyn.

    Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig fe wnaeth "atal ceisiadau (ar y pryd) achosi llawer o bryder i rieni a theuluoedd na fydden nhw yn gallu defnyddio'r gwasanaeth hanfodol hwn wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio yng Nghymru, gan ganiatáu iddynt ddychwelyd i'r gwaith.

    “Bydd y pryder hwn wedi gwaethygu oherwydd y rhybudd byr rhwng y cyhoeddiad a phan fydd y cynnig yn ailgychwyn", meddai Laura Anne Jones AS.

  8. App newydd i gynorthwyo teithiowedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    golwg360

    Yn ôl Golwg360 mae myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd wedi datblygu ap newydd sydd yn "hwyluso’r defnydd o drenau a bysiau" yn sgil y coronafeirws.

    Ar yr ap mae modd i deithwyr ddewis sedd ddiogel i eistedd ynddi.

    Mae’r ap hefyd yn cyfrifo’r nifer uchaf o bobol all eistedd mewn cerbyd ar y tro.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Edrych ymlaen i'r hydrefwedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Drwg a da y cyfnod clo i rieni bachgen awtistigwedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    "Roedd hi'n anodd peidio gweld Joel ond dwi'n meddwl bod y cyfnod clo wedi rhoi annibyniaeth iddo."

    Read More
  11. Cadw cyflenwadau o gyffuriau oherwydd Brexitwedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gasglu cyffuriau wrth gefn os na fydd cytundeb masnach rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd, meddai Eluned Morgan.

    Dywedodd: "Mae cadw cyffuriau wrth gefn yn rhywbeth yr ydym wedi ystyried o ddifri, ac yn rhywbeth y gwnaethom ni y tro diwethaf i ni gredu y bydden ni'n gadael heb gytundeb.

    "Mae'r dyddiad yn Rhagfyr yn agosau, felly mae'r gwaith yna'n parhau yng Nghymru."

  12. Pryder am bobl yn ymgynnullwedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mynegodd Eluned Morgan bryder am fod niferoedd o bobl yn ymgynnull mewn mannau cyhoeddus.

    Dywedodd:"Efallai bod angen edrych ar y neges, yn enwedig i bobl ifanc, am y peryglon o ymgynnull hyd yn oed mewn mannau cyhoeddus.

    "Os fyddan nhw'n torri'r rheolau, yna cyfrifoldeb yr heddlu yw gweithredu'r gyfraith."

  13. Paratoi am ail donwedi ei gyhoeddi 12:49 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Llywodraeth Cymru

    "Rydym wedi bod yn gwneud paratoadau sylweddol ar gyfer copa arall o achosion coronafeirws yn y gaeaf. Ry'n ni'n hyderus ein bod wedi gwneud trefniadau i gael digon o PPE a lle mewn ysbytai pe byddai hynny'n digwydd.

    "Mae'r rhan fwyaf o'r ysbytai maes hefyd yn dal ar gael os fydd eu hangen."

  14. Canlyniadau profionwedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb cwestiwn am brofion Covid, dywedodd Ms Morgan fod 84% o bobl gafodd brawf wedi cael y canlyniad o fewn diwrnod a 98% o fewn dau ddiwrnod, felly roedd y sefyllfa'n well nag yn Lloegr.

    Roedd hynny, meddai, yn ganolog wrth edrych ymlaen at ysgolion yn dychwelyd yn yr hydref.

  15. Rhybudd gan y gweinidogwedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Eluned Morgan: "Ond wrth i ni weld nifer yr achosion yn codi mewn rhannau eraill o Ewrop, gan gynnwys Lloegr, mae ein gallu i weithredu'n dibynnu ar bob un ohonom yn parhau i ddilyn y rheolau: busnesau a chwsmeriaid.

    "Os ydym am barhau ar agor, rhaid i fusnesau gadw mesurau lliniaru mewn lle. Rhaid i chi gadw pellter cymdeithasol ar eich eiddo, a rhaid casglu manylion eich cwsmeriaid os ydych yn fusnes lletygarwch.

    "Mae'r mwyafrif ohonom yn dilyn y gyfraith i atal ymlediad y feirws, ond hoffwn orffen drwy ddweud hyn wrth y lleiafrif bach - pobl a busnesau - sydd ddim.

    "Fe fyddwn ni'n gweithredu i orfodi'r rheolau yng Nghymru."

    Ychwanegodd bod newidiadau wedi bod i bwerau yr wythnos hon sy'n cynnwys cau busnesau unigol os fyddai angen gwneud hynny pe byddai bygythiad i iechyd pobl.

  16. Clod i 'ddyfeisgarwch' AmGenwedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Llywodraeth Cymru

    "Mae wedi bod yn dda gweld cymaint o'n gwyliau barhau ar-lein... o'r Gelli Gandryll i'r Urdd, ac i'r Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon.

    "Llongyfarchiadau i’r Wyl AmGen ar ei dyfeisgarwch – mae dros 400,000 wedi cymryd rhan yn barod, ac er cymaint y trueni nad ydw i yn Nhregaron yr wythnos hon, mae wedi bod yn wych gweld cymaint o’n diwylliant yn cael ei ddathlu’n ddigidol ar hyd a lled y byd."

  17. Canmol ymdrechionwedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd: "Rwy'n falch ein bod nawr mewn sefyllfa i ddechrau mwynhau rhai o'r pethau yna eto; mae hynny yn ganlyniad i'n hymrechion ni oll i warchod iechyd cyhoeddus ac i gefnogi'r sectorau yma.

    "Ac wrth i'r sefyllfa iechyd cyhoeddus wella yng Nghymru, rydym wedi cyhoeddi canllawiau i ailagor y busnesau yma cam wrth gam."

  18. Pecyn cymorthwedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Llywodraeth Cymru

    Pwysleisiodd Eluned Morgan fod Llywodraeth Cymru wedi "gweithredu'n gyflym" i warchod busnesau rhag rhai o effeithiau gwaethaf coronafeirws.

    "Fe wnaethon ni sefydlu pecyn o gymorth gwerth £1.7bn i gydweithio gyda'r gefnogaeth gan lwyodraeth y DU sy'n golygu bod busnesau Cymru'n gallu derbyn y cynnig mwyaf hael o gymorth yn unman yn y DU."

  19. Covid yn 'fwy nag argyfwng iechyd'wedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Llywodraeth Cymru

    Yn arwain y gynhadledd heddiw mae'r Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Iaith Gymraeg, Eluned Morgan.

    Dywedodd: "Mae coronafeirws yn fwy nag argyfwng iechyd. Mae wedi effeithio ar bob rhan o'n bywydau a'n heconomi.

    Mae'r sectorau diwylliant, lletygarwch, chwaraeon a digwyddiadau wedi cael eu taro'n arbennig o wael."

    Eluned Morgan
  20. Yn fyw nawr...wedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020