Crynodeb

  • Rhybudd y gallai busnesau sydd ddim yn cydymffurfio gyda rheolau gael eu cau

  • Marwolaethau i lawr i lefel dechrau mis Mawrth medd y Swyddfa Ystadegau Gwladol

  • Ailddechrau'r cynllun gofal plant am ddim

  • Galwad i wneud pob ymdrech i ddiogelu dyfodol busnesau bach Cymru

  1. Swyddi Dixons Carphone a Pizza Expresswedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Mae disgwyl i ragor o siopau ddiflannu oddi ar y stryd fawr wrth i gwmniau Dixons Carphone (sy'n berchen ar y siopau Currys PC World) a'r bwytai Pizza Express gyhoeddi eu bod nhw'n ystyried cau rhai o'u canghenau.

    Fe allai 1,500 o swyddi fod yn y fantol gyda'r cwmni arlwyo wrth iddyn nhw edrych ar gynlluniau i gau 67 o'u bwytai.

    Ac yn ôl Dixons Carphone, fe fyddan nhw'n cael gwared ar 800 o swyddi.

    Arwydd Pizza ExpressFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Ystadegau calonogolwedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Mae nifer wythnosol y bobl a fu farw ble roedd cadarnhad neu amheuaeth eu bod â coronafeirws wedi gostwng i'r lefel isaf ers mis Mawrth.

    Yn ôl gwybodaeth ddiweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd saith o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 yn ystod y saith diwrnod hyd at 24 Gorffennaf, o'i gymharu ag 11 yn ystod yr wythnos flaenorol.

    Dyma'r ffigwr isaf ers yr wythnos hyd at 20 Mawrth, pan gofnodwyd dwy farwolaeth.

    covidFfynhonnell y llun, getty
  3. Ymhen 20 munud....wedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Cyfnod gwarchod yn dod i benwedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Ailddechrau'r cynllun gofal plant am ddimwedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn ailddechrau'r cynllun gofal plant am ddim i rieni plant 3 a 4 oed sy'n gweithio.

    Cafodd y polisiei ohirio ym mis Ebrill er mwyn rhyddhau cyllid ar gyfer gofal plant i weithwyr allweddol yn sgil y pandemig.

    Mae'r Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr o addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant i'r rhai sy'n gymwys.

    meithrinfaFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Prynhawn da i chiwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2020

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'n llif byw ar ddydd Mawrth, 4 Awst.

    Bydd cynhadledd newyddion wythnosol Llywodraeth Cymru'n digwydd am 12:30, ac fe gewch chi'r manylion yma wrth iddo ddigwydd.

    Prynhawn da i chi.