Crynodeb

  • Cynnydd bach wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n derbyn y radd uchaf posib, A*

  • Y canlyniadau terfynol ar gyfartaledd dipyn yn is na'r rhai a gafodd eu hamcangyfrif gan athrawon, cyn cael eu haddasu'n ddiweddarach gan y bwrdd rheoli

  • Yr holl arholiadau wedi gorfod cael eu canslo yn sgil y pandemig

  • Y graddau'n seiliedig ar ganlyniadau arholiadau AS, amcangyfrif athrawon a system safoni

  • Newid munud olaf yn golygu nad yw unrhyw un i fod i dderbyn gradd is na'u canlyniad AS

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Diolch am ddilyn ein llif byw heddiw wrth i filoedd o ddisgyblion yng Nghymru dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch.

    Mae cynnydd bach wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n derbyn y radd uchaf posib, A*.

    Ond mae 42.2% o raddau yn is na'r asesiadau gwreiddiol gan athrawon, tra bod 53.7% yr un fath a 4.1% yn uwch.

    Mae'r manylion llawn yn ein stori ar ein hafan, a bydd unrhyw ddatblygiadau ar y wefan trwy gydol y dydd.

    Ac i'r holl ddisgyblion - llongyfarchiadau, a phob lwc at y dyfodol beth bynnag eich llwybr!

  2. Galw am fod yn fwy eglur gyda chanlyniadau TGAUwedi ei gyhoeddi 11:56 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Plaid Cymru

    Mae Plaid Cymru wedi galw am fod yn "fwy trugarog o lawer" i ddisgyblion TGAU yn sgil y newidiadau munud olaf i'r system graddau ar gyfer Safon Uwch.

    Bydd canlyniadau TGAU yn cael eu cyhoeddi wythnos i heddiw.

    Dywedodd llefarydd y blaid ar addysg, Siân Gwenllian, y dylid "cyhoeddi unrhyw newidiadau yn gynt yn hytrach na'n hwyrach".

    “Fe ychwanegodd y newidiadau munud olaf i brosesau graddio Lefel-A at y tensiynau ar gyfer pobl ifanc wrth iddyn nhw ddisgwyl am eu canlyniadau mewn cyfnod sydd eisoes yn eithriadol o bryderus," meddai.

    "Mae hi mor bwysig nad yw'r un peth yn digwydd i ddisgyblion TGAU."

  3. 'Am apelio ac am fynd i'r RAF'wedi ei gyhoeddi 11:51 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    "Mae graddau fi'n iawn - ges i C yn Dylunio a Thechnoleg, C yn Celf ac E yn ymarfer corff - mae rheina'n iawn ond dwi angen edrych mewn i gael yr appeal achos o'n i'n gobeithio cael mwy yn DT, o'n i'n gobeithio cael B o leiaf," meddai Zac Evans o Ysgol Glan Clwyd.

    "Dwi wedi gorffen y cwrs - maen nhw'n iawn am y funud.

    "O'n i'n tamaid yn nerfus am heddiw ond mae'n iawn a na'i copio yn iawn.

    "O'n i'n gobeithio mynd i'r RAF ar ôl hyn a dwi ddim angen graddau i hynna felly dwi'n eitha' solid ar gyfer y dyfodol."

    Zac Evans
  4. 'Israddio A i D, a gradd B yn troi'n U'wedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Mae cynrychiolwyr addysg y chwe chyngor yng ngogledd Cymru yn dweud bod disgyblion ac ysgolion wedi'u methu, a nifer "wedi cael cam gan y broses safoni a ddefnyddiwyd yma yng Nghymru".

    "Hoffem gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru na fydd disgyblion gogledd Cymru dan anfantais nac yn colli cyfleoedd i fynd i'r brifysgol, addysg bellach na llwybr cyflogaeth o'u dewis nhw pan gânt eu cymharu â'u cyfoedion mewn gwledydd eraill yn y DU, Yr Alban yn enwedig," meddai delwyr portffolio addysg y chwe awdurdod lleol a'r consortiwm gwella ysgolion rhanbarthol, GwE.

    "Yn sgil cael y canlyniadau y bore yma, dywed nifer sylweddol o ysgolion nad oes ganddynt ddealltwriaeth na hyder yn y broses safoni a fabwysiadwyd yng Nghymru, sydd wedi arwain at gryn anghysondebau ar lefel dysgwyr a phynciau mewn ysgolion unigol.

    "Mae'r diffyg tryloywder yn bryderus iawn."

    Dywedodd eu datganiad bod rhai enghreifftiau yn cynnwys disgybl oedd wedi cael gradd A gan athro yn cael ei hisraddio i D, a disgybl arall wedi cael gradd B wedi'i hisraddio i U.

  5. Pryder na fydd y darlun yn llawn tan yr wythnos nesafwedi ei gyhoeddi 11:37 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    UCAC

    Mae undeb addysg UCAC yn dweud eu bod yn pryderu na fydd y darlun yn llawn tan ddechrau wythnos nesaf, er eu bod yn awyddus i ganmol "gwaith caled ymgeiswyr, athrawon, darparwyr cymwysterau a rheoleiddwyr".

    Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Dilwyn Roberts-Young: “Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod gwaith caled a llwyddiant ymgeiswyr ac athrawon heddiw, er gwaetha’r sefyllfa heriol iawn sydd yn ein hwynebu.

    "Rydym hefyd yn cydnabod ei fod yn debygol mai dyma’r gweithdrefnau orau i ymateb i’r heriau oedd yn wynebu CBAC a Chymwysterau Cymru.

    "Fodd bynnag, erys pryderon mawr fod anghysondebau lu yn parhau ar lefel unigolion a chanolfannau, hyd yn oed o ystyried ‘gwarant’ y Gweinidog Addysg neithiwr.

    “Mae’n anorfod bod y newidiadau munud olaf a chanlyniadau unigolion am greu pryder di angen a mawr obeithiwn na welwn ail adrodd hyn wythnos nesaf."

  6. 'Pwysig codi'r ffôn a siarad gyda phrifysgolion'wedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Dywedodd y seicolegydd Dr Nia Williams o Brifysgol Bangor ar y Post Cyntaf ei bod yn bwysig i ddisgyblion godi'r ffôn a siarad gyda phrifysgolion os ydy eu graddau yn is na'r disgwyl.

    “I’r rhai sydd yn ffynnu dan bwysau arholiad - rheiny sydd i weld yn gallu cyflawni eu gorau yna - mae wedi bod yn broses anodd iawn iddyn nhw," meddai.

    "Da ni yn anghofio weithiau pan ni yn trafod y ffactorau negyddol ynghlwm wrth arholiadau, da ni yn anghofio y cohort 'ma o ddisgyblion sydd yn ffafrio cael eu mesur ar ganlyniad arholiad.

    “Mae ein llinellau ffôn ni ar agor i unrhyw berson ifanc yna sydd falle yn teimlo bod nhw ddim wedi cael y graddau sydd yn adlewyrchu eu llawn botensial nhw bore 'ma.

    "Fydden i yn awgrymu bod nhw yn codi’r ffôn i drafod hyn gyda'r prifysgolion achos mi ydyn ni yn ymwybodol bod hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn a bod yr adlewyrchiad y radd ddim yn adlewyrchiad o botensial llawn y person ifanc - mae’n bwysig iddyn nhw beidio digalonni a chodi'r ffôn i siarad."

    Dr Nia Williams
  7. '10-15% o ddisgyblion am elwa o'r cyhoeddiad ddoe'wedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd 10-15% o ddisgyblion yn elwa o'r cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg ddoe na fydd canlyniadau Safon Uwch disgyblion yn is na'u canlyniadau AS.

    Y gred yw y gallai hynny effeithio ar raddau hyd at 4,500 o ddisgyblion.

    Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi tynnu'r datganiad uchod yn ôl.

  8. Y Gweinidog Addysg 'ddim yn ymddiried mewn athrawon'wedi ei gyhoeddi 11:11 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. ''Sa 'di gallu mynd unrhyw ffordd'wedi ei gyhoeddi 11:00 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Lois

    Dywedodd Lois Roberts, disgybl Blwyddyn 13 yn Ysgol Glan Clwyd: "Dwi 'di cael tair B yn Daearyddiaeth, Ymarfer Corff a Iechyd a Gofal a 'di cael A yn BAC a dwi'n bwriadu mynd i Cardiff Met i 'neud Speech and Language Therapy - dwi'n hapus!

    "O'n i 'mond wedi rhoi un dewis i lawr felly dwi'n falch o weld ei fod wedi gweithio allan - 'sa 'di gallu mynd unrhyw ffordd.

    "Mae'n rhyddhad mawr - dwi 'di bod yn meddwl amdano fo ers mor hir rŵan a ma' jest gyd drosodd fel'a!"

  10. Annog disgyblion i apeliowedi ei gyhoeddi 10:46 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Dywedodd cyn-gyfarwyddwr arholiadau ac asesu Cydbwyllgor Addysg Cymru, Derec Stockley ar raglen y Post Cyntaf fod penderfyniad Gweinidog Addysg Cymru ddoe yn un "doeth iawn dan yr amgylchiadau".

    "Mae'n amlwg fod gwleidyddion yn Lloegr wedi panicio'n llwyr ar ôl yr hyn ddigwyddodd yn yr Alban, ac mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i sicrhau tegwch i ddisgyblion fan hyn.

    "Ond mewn sefyllfaoedd lle nad yw disgyblion wedi gallu sefyll arholiadau, mae gan Gymru dystiolaeth gadarn sydd ddim ar gael mewn gwledydd eraill - sef yr arholiadau uwch gyfrannol.

    "Ac os nad ydyn nhw wedi cael y graddau yr oeddynt yn eu dymuno, byswn i'n dweud wrthyn nhw i gyd i apelio."

    Derec Stockley
  11. Llongyfarchiadau gan y Prif Weinidogwedi ei gyhoeddi 10:37 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. 'Saith blynedd o waith - ond dim ni sy'n penderfynu'wedi ei gyhoeddi 10:29 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Dywedodd Dylan Sandland o Ysgol Glan Clwyd, er nad oedd wedi cael y graddau yr oedd yn ei obeithio, mae wedi cael ei dderbyn i fynd i Fanceinion i astudio biomeddygaeth.

    "Ges i ABC pan o'n i angen tair A - ro'n i braidd yn siomedig o hynna ond dwi wedi cael mewn a dwi'n hapus rŵan," meddai.

    "O weld canlyniadau fi mi oeddwn i braidd yn siomedig yn enwedig efo Cemeg oherwydd mae pobl yn stryglo yn y flwyddyn gyntaf ac yn 'neud yn well wedyn ond ges i C.

    "'Da ni wedi neud saith blynedd o'r gwaith caled ac wedyn mae'r canlyniad yn cael ei benderfynu gan rywun... wel, dim ni.

    "Dwi'n meddwl bod o wedi gweithio dipyn bach i fi ond dwi'n gallu gweld efallai dim i rai ar draws y wlad."

    Dylan
  13. 'Dim angen poeni' os yw graddau'n is na rhai ASwedi ei gyhoeddi 10:24 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru'n dweud na ddylai myfyrwyr Safon Uwch boeni os ydyn nhw wedi derbyn graddau sy'n is na'u graddau AS.

    Dywedodd llefarydd y bydd CBAC yn darparu'r graddau cywir iddyn nhw "cyn gynted â phosib".

    Maen nhw'n annog myfyrwyr i drafod gyda'r prifysgolion o'u dewis i drafod y sefyllfa, ac y dylai'r prifysgolion allu eu cynghori.

    "Bydd llai o fyfyrwyr tramor na'r disgwyl yn astudio yng Nghymru a'r DU oherwydd coronafeirws - maen nhw'n disgwyl y bydd digon o lefydd i fyfyrwyr Cymreig astudio," meddai'r llefarydd.

  14. 'Beth ddigwyddodd yn Yr Alban yn digwydd yma'wedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Jonathan Powell ydy Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Wrecsam

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. 'Nifer o opsiynau ar gael i bobl ifanc'wedi ei gyhoeddi 10:16 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Gyrfa Cymru

    Yn siarad ar raglen Post Cyntaf, dywedodd Emlyn Evans o Gyrfa Cymru mai'r "peth gorau i ddisgyblion ei wneud os yn ansicr ynglŷn â'u dyfodol ydy i gysylltu â nhw, neu gyda chynghorydd gyrfa annibynnol broffesiynol".

    "Mae 'na nifer o opsiynau ar gael i'r bobl ifanc, nid oes rhaid i bawb fynd i brifysgol, mae'r opsiwn o fentro i'r byd gwaith, boed mewn swyddi neu brentisiaethau, neu hyd yn oed trio gwaith gwirfoddol am flwyddyn falle.

    "Mae 'na gyrsiau galwedigaethol ar gael mewn colegau addysg bellach lleol hefyd."

  16. 'Y canlyniadau ddim yn meddwl cymaint'wedi ei gyhoeddi 10:08 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Bu Gwenllian Griffiths, o Fethel ger Caernarfon, yn helpu i ofalu am ei thad fu'n wael iawn gyda Covid-19 ar ddechrau'r cyfnod clo.

    Bydd Gwenllian yn un o'r miloedd sy'n derbyn eu canlyniadau Safon Uwch yng Nghymru heddiw ac mae ei bryd ar astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

    Ond gyda'r graddau y tu hwnt i'w rheolaeth hi bellach, a'r misoedd diwetha' wedi bod mor ansicr, mae ei theimladau'n gymysg iawn.

    "Dwi'n nerfus iawn o ran y canlyniadau ond dwi'n teimlo, i bobl ifanc, dydy'r canlyniadau ddim yn meddwl cymaint i ni am bod ni ddim wedi cael arholiad i weithio tuag ato fo," meddai.

    Darllenwch ei stori'n llawn yma.

    Gwenllian Griffiths
  17. 'Rhywbeth mawr o'i le'wedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Aelod Môn o Senedd Cymru ar Twitter

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Crynodeb o'r darlun hyd ymawedi ei gyhoeddi 09:56 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    stats
  19. 'Cymwysterau eleni yr un mor werthfawr'wedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Cymwysterau Cymru

    Mae Cymwysterau Cymru'n dweud bod canlyniadau arholiadau eleni "yr un mor werthfawr ag unrhyw flwyddyn arall".

    Dywedodd prif weithredwr y corff, Philip Blaker: "Roedd canslo arholiadau yn golygu bod yn rhaid i ni ddod o hyd i ffordd arall o ddyfarnu graddau.

    "Mae'r dull rydym wedi ei ddewis yn ystyrlon ac yn gadarn, ac wedi'i ystyried yn ofalus er mwyn bod mor deg â phosibl dan yr amgylchiadau, gan ddiogelu gwerth y canlyniadau.

    "Gwnaethom ymgynghori’n helaeth ar gynlluniau graddio eleni a ddenodd filoedd o ymatebion, a thros hanner ohonynt gan bobl ifanc, a bu’n gymorth i osod ein cwys wrth lunio’r broses ddyfarnu graddau a’r trefniadau apelio."

    Dywedodd y corff bod y canlyniadau "wedi cynyddu yng Nghymru ond maent yn weddol debyg i'r blynyddoedd diwethaf".

  20. Faint o'r graddau sydd wedi cael eu newid?wedi ei gyhoeddi 09:45 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Yn dilyn yr asesiad gan athrawon, roedd 40.4% o'r holl raddau Safon Uwch yn A neu A*, ond cafodd hynny ei ostwng i 29.9% erbyn y canlyniadau terfynol.

    Roedd Llywodraeth Cymru wastad wedi dweud y byddai'n rhaid safoni'r graddau oedd wedi'u rhoi gan athrawon er mwyn sicrhau bod y canlyniadau'n cyd-fynd â'r blynyddoedd diwethaf.

    O'r holl raddau Safon Uwch sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw, roedd 42.2% yn is na'r hyn oedd wedi'i roi gan athrawon, 53.7% wedi derbyn yr un radd, a 4.1% wedi cael gradd uwch.