Crynodeb

  • Cynnydd bach wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n derbyn y radd uchaf posib, A*

  • Y canlyniadau terfynol ar gyfartaledd dipyn yn is na'r rhai a gafodd eu hamcangyfrif gan athrawon, cyn cael eu haddasu'n ddiweddarach gan y bwrdd rheoli

  • Yr holl arholiadau wedi gorfod cael eu canslo yn sgil y pandemig

  • Y graddau'n seiliedig ar ganlyniadau arholiadau AS, amcangyfrif athrawon a system safoni

  • Newid munud olaf yn golygu nad yw unrhyw un i fod i dderbyn gradd is na'u canlyniad AS

  1. Prifysgol Aber: 'Ystyried y cyd-destun cyn penderfynu'wedi ei gyhoeddi 09:40 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Mae Dewi Phillips yn aelod o dîm recriwtio Prifysgol Aberystwyth.

    Dywedodd ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru: "Ni'n awyddus i fod mor gefnogol ag sydd yn bosib a sicrhau bod unrhywun sydd wedi cael B ac A uwch yma yn Aberystwyth yn cael cyfle i ymuno gyda ni.

    "Ni yn mynd i ystyried cyd-destun ehangach wrth benderfynu a ddylid cynnig lle i unigolion falle sydd ddim wedi derbyn graddau gofynnol yn sgil y drefn asesu amgen a ddatblygwyd eleni.

    "Ni jest eisiau pwysleisio i beidio panicio - bydd lot, lot o gymorth i gael, dim jest wrthon ni ond wrth benaethiaid chweched dosbarth yn yr ysgol, swyddogion gyrfaoedd fel soniwyd, ond mae 'na dîm gyda nifer fawr o diwtoriaid derbyn ganddon ni ar y galwadau yma bore 'ma a trwy gydol y dydd."

  2. Kirsty Williams: 'Rydych chi wedi aberthu’n fawr'wedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi dymuno'n dda i'r holl ddisgyblion sydd wedi derbyn eu canlyniadau heddiw, gan ychwanegu bod "digon o opsiynau a chyngor ar gael".

    "Rwyf am ddanfon fy nymuniadau gorau at bawb sy'n derbyn graddau Safon Uwch, UG, Bagloriaeth Cymru a Chymwysterau Galwedigaethol heddiw," meddai.

    "Oherwydd y llu o newidiadau y bu'n rhaid i ni eu gwneud eleni mewn amgylchiadau eithriadol, rydych chi wedi aberthu’n fawr.

    "Ond mae gennych bob rheswm i fod yn falch o'r holl waith yr ydych wedi ei wneud, a fydd o gymorth i chi, ac o'r penderfyniad yr ydych wedi ei wneud i oresgyn yr amser heriol hwn.

    "Rwy'n gobeithio y cewch chi'r graddau roeddech chi wedi gobeithio amdanyn nhw, a gallwch barhau â'ch taith addysgol yn yr hydref.

    "Er y bydd llawer ohonoch yn fodlon ar eich canlyniadau ac yn llawn cyffro am eich cam nesaf, os na chawsoch yr hyn yr oeddech wedi'i obeithio, mae digon o opsiynau a chyngor ar gael ar Cymru’n Gweithio."

    Kirsty Williams
  3. 'Amser i weld effaith y system newydd'wedi ei gyhoeddi 09:33 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Ar ôl i'r arholiadau gael eu canslo, roedd y gwaith o benderfynu ar raddau yn anochel yn gymhleth.

    Mae hynny wedi ei waethygu gan newidiadau munud olaf i'r system - wedi'i ysgogi gan bryder ynghylch effaith proses safoni ledled y DU, sydd wedi gostwng graddau a oedd wedi cael eu hamcangyfrif gan athrawon.

    Mae data a ryddhawyd heddiw yn dangos bod dros 40% o raddau Safon Uwch yng Nghymru wedi'u haddasu yn is.

    Gobaith y llywodraeth yw y bydd cyhoeddiad neithiwr yn rhoi hyder ychwanegol nad yw disgyblion dan anfantais.

    Ond bydd yn cymryd peth amser i weithio allan effaith lawn system a gafodd ei ddylunio ar gyfer amgylchiadau unigryw eleni.

  4. Canran uwch yn derbyn gradd A*wedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020
    Newydd dorri

    Mae cynnydd bach wedi bod yn nifer y myfyrwyr Safon Uwch sydd wedi derbyn y radd uchaf posib, A*.

    Mae'r ffigyrau swyddogol hefyd yn dangos bod 98.6% o'r myfyrwyr yn ennill A* - E, gyda 10.8% o'r ymgeiswyr wedi llwyddo i gael A*.

    Yng Nghymru, mae bechgyn yn parhau i berfformio'n well na'r merched ar radd A*, gan gofnodi 0.8% ar y blaen.

    Ar y graddau eraill, mae'r merched yn parhau i wneud yn well na'r bechgyn, gyda merched yn llwyddo yn 99% o'u harholiadau A* - E o'i gymharu â 98.2% o'r bechgyn.

    O ran canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol, mae'r canlyniadau'n dangos cynnydd bach, gyda 22.2% o'r holl raddau a ddyfarnwyd yn rhai A, o'i gymharu â 20.3% yn 2019.

    Mae canran yr ymgeiswyr yn ennill graddau A - E yn dangos twf bach, gyda 91.4% yn ennill y graddau hyn.

  5. Y 'normal newydd'?wedi ei gyhoeddi 09:25 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Glan Clwyd

    Dyma sut mae disgyblion Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy wedi bod yn derbyn eu canlyniadau'r bore 'ma.

  6. 'Ishe profi dy hun ar ddiwedd y flwyddyn'wedi ei gyhoeddi 09:20 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Un arall sy'n derbyn ei chanlyniadau heddiw ydy Begw Rowlands, sydd ag uchelgais i astudio drama, ond cyn hynny fe fydd hi'n treulio blwyddyn yn gweithio.

    Mae hi wedi bod yn cynorthwyo mewn ysbyty wrth aros am ei chanlyniadau ac mae'n gobeithio cyfuno hynny gyda mwy o waith drama dros y flwyddyn nesaf.

    "Ti'n 'neud yr holl waith yna, ti ishe profi dy hun ar ddiwedd y flwyddyn," meddai.

    "Ma' rhai pobl yn 'neud yn well mewn arholiadau nag eraill, ac wedyn falle bod graddau targed rhai pobl yn is.

    "Ond fi'n siŵr mai'r ffordd ma' nhw wedi mynd ati yw'r ffordd decaf - gobeithio. Gobeithio bydd pawb yn cael y graddau maen nhw'n haeddu."

    Begw

    "Fi byth wedi bod yn berson sy'n poeni am arholiadau a graddau. Ma' mam wastad yn dweud 'os ti'n neud dy orau, dim ots be ti'n cael.'

    "S'dim arholiad i fi allu dweud 'aeth hwnna'n dda' neu 'aeth hwnna ddim yn dda' so fi'n ymlacio am y peth a chymryd beth sy'n dod. S'dim ffordd o wybod felly s'dim pwynt poeni am beth chi methu rheoli."

  7. 'Am aros yn lleol i gadw'r Gymraeg'wedi ei gyhoeddi 09:16 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ym Maesteg, fel mewn ysgolion eraill, mae'r disgyblion wedi bod yn cyrraedd ar amseroedd penodol i dderbyn eu canlyniadau.

    Dywedodd Charlie Birch ei bod hi'n hapus iawn gyda'i chanlyniadau.

    Roedd cael gwybod yn wreiddiol na fyddai'n rhaid iddi sefyll arholiad yn "rhyddhad" ond dywedodd bod "cyfnod anodd" wedi dilyn.

    Er hynny, mae'n canmol y broses o arholi: "Dwi'n meddwl mae'n [system] deg i gymharu gyda gwledydd eraill yn y DU, mae Cymru wedi 'neud job dda o ddarparu y canlyniadau."

    Mae Charlie nawr yn gobeithio mynd i astudio peirianneg cemegol ym Mhrifysgol Abertawe.

    "Ro'n i eisiau aros yn lleol i gadw'r Gymraeg i fod yn onest. Does neb yn fy nheulu i'n siarad Cymraeg, felly do'n i ddim eisiau mynd i Loegr neu i wlad arall rhag i hynny sbarduno colli fy Nghymraeg."

    Charlie
  8. Cyngor ar sut i ymdopi gyda'ch canlyniadau gan Bitesizewedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Llywodraeth 'wedi anghofio' am bobl ifancwedi ei gyhoeddi 09:05 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Mae sawl disgybl wedi dweud ar raglen Post Cyntaf iddyn nhw dderbyn graddau is na'r disgwyl.

    Mae Deio Owen wedi bod yn astudio yng Ngholeg Meirion Dwyfor, ac fe gafodd raddau is na'i safon AS.

    "Dwi'm yn siŵr pryd na be'... Dwi'm yn gw'bod be' 'di'r system apêl, felly dwi'm yn gw'bod be' dwi am 'neud rŵan.

    "Dyle fo gael ei drwsio ond dwi ddim yn gw'bod pryd, felly mae hyn yn peri gofid i fi rŵan."

    Dywedodd ei fod yn teimlo bod pobl ifanc wedi cael eu "hanghofio gan y llywodraeth" dros y misoedd diwethaf, a bod "dim lot o arweiniad ar sut 'da ni'n symud ymlaen i'r bennod nesa' yn ein bywydau ni".

    Ychwanegodd ei fod yn teimlo bod colegau addysg bellach wedi cael llai o gymorth ac arweiniad nag ysgolion yn ystod cyfnod y pandemig.

    Deio
  10. 'Mwy o bobl yn cystadlu am swyddi'wedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Gyrfa Cymru

    Yn ôl ffigyrau Gyrfa Cymru, mae tri chwarter disgyblion TGAU a Safon Uwch yn poeni am eu graddau ac mae 38% o fyfyrwyr Safon Uwch yn dweud bod y pandemig wedi effeithio ar eu cynlluniau.

    Dywedodd Stephen Williams o Gyrfa Cymru ei bod hi'n naturiol bod pobl ifanc yn poeni am y canlyniadau ond pwysleisiodd bod 'na gymorth a chyngor ar gael wrth edrych ymlaen i'r cam nesa.

    "O be dwi'n gweld o ddydd i ddydd mae 'na dal lawer o swyddi ar gael allan yna," meddai.

    "Beth mae rhaid i bobl ifanc feddwl am ydy'r ffaith bod 'na fwy o bobl yn cystadlu am y swyddi yna nawr.

    "Felly y ffordd fysan ni'n helpu nhw fasa trio helpu nhw i weithio allan beth sydd yn mynd i neud iddyn nhw sefyll allan i gyflogwr."

  11. 'Ffrindiau wedi cael graddau is na'u graddau AS'wedi ei gyhoeddi 08:56 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Un o'r miloedd o ddisgyblion sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw ydy Glesni Rhys o Fodedern.

    Roedd hi'n astudio Cerddoriaeth, Cymraeg ac Addysg Grefyddol a llwyddodd i gael A*, A a B.

    Dywedodd wrth y Post Cyntaf y bore 'ma: “Yn dilyn y cyhoeddiad neithiwr fod pawb yn disgwyl cael graddau sydd ddim yn is na graddau AS mae 'na gryn dipyn o drafod ymysg ffrindiau am hynny bore 'ma.

    "Mae rhai o ffrindiau fi wedi cael graddau sydd yn is na eu graddau AS, felly dan ni ddim yn siŵr beth yw’r broses yn dilyn heddiw ynglŷn â hynny.

    "Ydyn nhw'n mynd i dderbyn y radd maen nhw fod i gael yn hwyrach mlaen? Ond yn sicr dan ni am ddathlu heddiw.

    "O'n i yn edrych 'mlaen at fynd i brifysgol i astudio llais, ond bellach dwi wedi derbyn swydd fel cymhorthydd am flwyddyn.

    "Dwi'n edrych 'mlaen at 'neud y gwaith am flwyddyn a mynd i brifysgol y flwyddyn nesaf."

  12. Disgyblion 'ddim yn gwybod beth i ddisgwyl'wedi ei gyhoeddi 08:50 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Un o'r disgyblion hynny sy'n ansicr am beth sydd i ddod ydy Ceri Vaughan Jones o Fro Morgannwg.

    "Pan chi'n neud arholiadau chi'n gwybod sut fath o raddau chi'n mynd i gael, ond yn amlwg nawr dy'n ni ddim yn gwybod beth i ddisgwyl," meddai.

    "Yn wreiddiol, o'dd peidio gwneud arholiadau'n swnio fel rhywbeth eitha' ideal achos bydde dim rhaid gwneud yr holl waith adolygu, yr holl waith caled diwedd y flwyddyn i gael y graddau.

    "Ond nawr yn edrych nôl arno fe mae'n creu bach o ansicrwydd."

    Ceri

    Mae wedi gwneud cais i astudio yn y brifysgol flwyddyn nesaf felly mae'n dibynnu ar gael y graddau angenrheidiol i sicrhau ei le.

    Mae'n dawel obeithiol ac yn cydnabod bod rhaid bod yn hyblyg yn yr amgylchiadau presennol.

    "Fy nghynlluniau ar hyn o bryd yw dal i gymryd blwyddyn allan cyn mynd i'r brifysgol a gobeithio mynd i Sbaen yn y flwyddyn newydd neu hyd yn oed yn hwyrach am gwpl o fisoedd i ddatblygu fy Sbaeneg.

    "Does dim modd newid y sefyllfa, bydd rhaid cymryd un cam ar y tro a chroesi bysedd."

  13. Canmol y gweinidog mewn sefyllfa 'anodd'wedi ei gyhoeddi 08:44 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Dywedodd Suzy Davies o'r Blaid Geidwadol fod y "system [yng Nghymru] ac yn Lloegr yn lot gwell na’r Alban – a dyna lle oedd y storm yma wedi dechrau".

    "Mae Covid wedi effeithio ar bawb – yma yng Nghymru [mae'r] gweinidog [addysg] wedi 'neud y peth gorau gyda Cymwysterau Cymru a WJEC gyda'r sefyllfa anodd.

    "Ac mae’n werth cofio wrth gwrs bod y prifysgolion yn gwybod beth sydd wedi bod yn digwydd hefyd dros y pedair gwlad a siŵr maen nhw yn mynd i gymryd beth sydd wedi digwydd i gyfrif pan maen nhw yn derbyn neu beidio derbyn rhywun sydd wedi cael cynnig wrthyn nhw.

    "Os bydd cwestiwn o ddisgyblion gyda graddau sydd yn isel iawn o’i gymharu gyda beth oedd yn cael ei ofyn, yna mae cwestiwn arall yn fan'na ac mae’n bwysig i ddisgyblion yn y sefyllfa yna ddeall pam bod nhw wedi cael y graddau mor isel o’i gymharu gyda beth oedden nhw yn disgwyl."

    Suzy Davies
  14. Newidiadau'n achosi 'poen meddwl a dryswch'wedi ei gyhoeddi 08:38 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    UCAC

    Mae un undeb addysg wedi ymateb i "warant" y Gweinidog Addysg na fydd unrhyw ymgeisydd yn derbyn gradd Safon Uwch sy’n is na’u gradd Uwch Gyfrannol ac y bydd adolygiad o’r hawl i apêl.

    Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Bydd ein haelodau’n croesawu unrhyw gam fydd yn sicrhau bod eu myfyrwyr yn derbyn eu haeddiant ac na fyddent yn cymharu’n anffafriol a’u cyfoedion mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol.

    "Fodd bynnag, mae’r ffaith bod angen y newidiadau hyn yn fater o bryder sylweddol iawn. Mae’r holl newidiadau, ar y funud olaf, yn debygol o achosi straen, poen meddwl a dryswch."

  15. Cymwysterau Cymru: Gwiriwch eich canlyniadauwedi ei gyhoeddi 08:31 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Cymwysterau Cymru

    Yn sgil y newidiadau munud olaf i'r system graddau mae Cymwysterau Cymru yn dweud y dylai disgyblion wirio eu graddau heddiw.

    Ychwanegodd y corff "na ddylai dysgwyr Safon Uwch dderbyn canlyniad gradd mewn pwnc yn Haf 2020 sy'n is na'u gradd lefel UG gyfatebol".

    "Os yw'r radd yr un fath neu'n uwch, yna nid oes angen gweithredu," meddai'r datganiad.

    "Os yw'r radd yn is, caiff ei disodli gan yr un radd â'r hyn a gafwyd ar gyfer y Safon UG - bydd CBAC yn cyhoeddi graddau diwygiedig cyn gynted â phosibl.

    "Os oes angen, dylai dysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i Addysg Uwch gysylltu â'u darpar brifysgol i roi gwybod iddynt am y newid."

  16. Newid munud olaf i'r system yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 08:20 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Yn dilyn newid munud olaf gan Lywodraeth Cymru, ni fydd canlyniadau graddau Safon Uwch disgyblion yn is na'r rhai yr oeddynt wedi eu cyflawni fel gradd mewn arholiadau AS.

    Roedd y llywodraeth wedi ymgynghori ar y funud olaf er mwyn osgoi sefyllfa fel yn Yr Alban.

    Mae'r gwrthbleidiau wedi croesawu'r newid, ond dywedodd Plaid Cymru ei fod yn gyfaddefiad bod y system yn ddiffygiol o'r dechrau.

    Mewn datganiad brynhawn ddoe dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams ei bod yn "hyderus" bod y system "yn deg i fyfyrwyr, yn gadarn yn yr hyn y mae'n ei fesur a'r arwyddion i gyflogwyr a phrifysgolion".

    Ond er hynny, dywedodd bod rhaid sicrhau nad yw newidiadau mewn rhannau eraill o'r DU yn "rhoi myfyrwyr o Gymru dan anfantais".

    Ychwanegodd bod modd sicrhau myfyrwyr, cyflogwyr a phrifysgolion bod graddau yng Nghymru yn adlewyrchiad teg o'r gwaith.

    Kirsty WilliamsFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  17. Croeso i'r llifwedi ei gyhoeddi 08:15 Amser Safonol Greenwich+1 13 Awst 2020

    Bore da a chroeso i'n llif byw ar fore Iau, 13 Awst - diwrnod mawr i filoedd o ddisgyblion yng Nghymru wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch.

    Ers i'r holl arholiadau orfod cael eu canslo yn sgil y pandemig, mae'r broses o benderfynu pa raddau y bydd disgyblion yn eu derbyn wedi bod yn un ddadleuol.

    Mae systemau Lloegr a'r Alban wedi cael eu newid yn dilyn beirniadaeth bod nifer o ddisgyblion wedi derbyn graddau llawer is na'r disgwyl.

    Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod y system yma yn fwy cywir, gydag addewid na fydd graddau Safon Uwch disgyblion yn is na'u gradd AS.