Crynodeb

  • Tri chwarter canlyniadau TGAU Cymru yn raddau A* i C - 63% oedd y ffigwr y llynedd

  • Bydd y canlyniadau yn seiliedig ar farn athrawon yn dilyn tro pedol gan Lywodraeth Cymru

  • Daw'r newid ar ôl i 42% o ganlyniadau Safon Uwch gael eu hisraddio ar ôl proses safoni

  • Disgwyl i ganlyniadau TGAU fod yn sylweddol uwch gan na fydd graddau yn cael eu hisraddio

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    BBC Cymru Fyw

    Dyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw.

    Llongyfarchiadau i bawb a gafodd y graddau TGAU yr oedden nhw wedi gobeithio'u cael heddiw.

    Os ddim, peidiwch digalonni - mae dewisiadau eraill a chyngor ar gael.

    Diolch am ddarllen, a hwyl fawr i chi am y tro.

  2. Neges gan y Gweinidog Addysgwedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Mae cymorth ar gael....wedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Beth ydy cymhwyster 'BTEC'?wedi ei gyhoeddi 11:38 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Fe all disgyblion oed TGAU yng Nghymru astudio am gymhwyster ymarferol BTEC neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny yng Nghymru, Llwybrau Mynediad (Entry Pathways).

    Mae BTEC (neu BTec) yn frand sy'n eiddo i sefydliad Pearson. CBAC sy'n rhedeg Llwybrau Mynediad.

    Nid oes ffigwr pendant yn dangos faint o fyfyrwyr sy'n derbyn graddau gan Pearson yng Nghymru, er i'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ddweud ei fod yn lleiafrif.

    Ni fydd unrhyw ail-raddio cymwysterau galwedigaethol CBAC a bydd y myfyrwyr hynny'n derbyn eu graddau heddiw.

  5. Myfyrwyr BTEC yn cael eu 'trin yn eilradd'wedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Llefarydd Plaid Cymru ar addysg yn dweud ei bod yn teimlo dros y bobl ifanc sydd wedi cael gwybod y bydd y corff arholi Pearson yn edrych eto ar y graddau ar gyfer cymwysterau BTEC.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Cynnydd sylweddol yn y graddauwedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Mae cynnydd sylweddol wedi bod yng nghanlyniadau TGAU eleni o gymharu gyda chanlyniadau y llynedd.

    Daw y cynnydd o ganlyniad penderfyniad y llywodraeth i ddefnyddio asesiadau athrawon fel sail i'r graddau, yn hytrach nag asesiadau allanol.

    Dywed Cymwysterau Cymru fod bron i dri chwarter y graddau eleni rhwng A* ag C, gyda chwarter y canlyniadau yn raddau A* a A - sef cynnydd o18.4% ers y llynedd.

    Bu dadlau ffyrnig wythnos diwethaf yn dilyn cyhoeddiad fod 42% o raddau Safon Uwch oedd wedi eu hasesu'n allanol yn is nag asesiadau athrawon.

    Carina a Betsan
  7. 'Rhaid gwella'r system'wedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Wrth ymateb i'r canlyniadau TGAU, dywedodd Eithne Hughes, Cyfarwyddwr undeb ASCL Cymru:

    "Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr a'u hathrawon. Mae'r amgylchiadau wedi bod yn anodd tu hwnt, ac mae'r genhedlaeth yma o bobl ifanc wedi diodde' ansicrwydd digynsail, ac rydym yn dymuno'r gorau iddyn nhw i'r dyfodol.

    "Dychwelyd at raddau'r ganolfan asesu oedd yr ateb tecaf o dan yr amgylchiadau, ond rhaid i ni gael gwybod pam na chafodd y problemau gyda'r algorithm eu rhagweld.

    "Yn y tymor hir, mae hyd wedi dangos system arholiadau sy'n gorbwysleisio ystadegau. Rhaid i ni wneud yn well."

  8. Be' nesa? Mae cyngor ar gael...wedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Addo lle i bob disgybl mewn colegwedi ei gyhoeddi 10:42 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Mae'r corff sy'n cynrychioli colegau addysg bellach ledled Cymru wedi addo sicrwydd o le coleg "i bob ymadawr ysgol sy'n derbyn canlyniadau heddiw".

    Dywed ColegauCymru y byddai colegau'n "hyblyg ac yn deg yn eu proses dderbyn, gan gynnig gwell cofrestriad ac asesiad cychwynnol".

    "Bydd y newyddion a ddaeth prynhawn ddoe o’r oedi cyn cyhoeddi cymwysterau BTEC gan y sefydliad dyfarnu Pearson hefyd yn cael ei ystyried," meddai datganiad.

    "Bydd hyn yn sicrhau bod pob myfyriwr yn cael ei roi ar y cwrs mwyaf addas, ac yn un sy'n ystyried eu dewisiadau cyn belled ag y bo modd."

    Dywedodd cadeirydd ColegauCymru, Dafydd Evans ei bod wedi bod yn gyfnod "hynod bryderus", ac mae'n "annog myfyrwyr i gysylltu â'u coleg lleol i ddarganfod mwy am yr opsiynau sydd ar gael iddynt".

  10. 'Mwy nerfus'wedi ei gyhoeddi 10:37 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Wrth i George dderbyn ei ganlyniadau yn Ysgol Uwchradd Prestatyn heddiw dywedodd: "Fe wnes i'n dda iawn, a dwi'n rili hapus.

    "Fe fyddai dal well gen i fod wedi sefyll yr arholiadau.

    "Roeddwn i'n lot mwy nerfus gan nad oeddwn ni'n medru dibynnu ar fy hunan i gael y graddau, a dydy o heb fod yn ddelfrydol i bawb."

    george
  11. Poeni am y dyfodolwedi ei gyhoeddi 10:26 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Mae derbyn ei chanlyniadau yn Ysgol Creuddyn wedi tynnu'r pwysau o yswgyddau Caitlyn. Dywedodd:

    "Dwi wedi cael y graddau oeddwn i angen i neud Lefel A a dwi'n hapus.

    "Wrth gwrs mi oeddwn i'n nerfus ar ol clywed be ddigwyddodd i bobl lefel A, a na'th o neud fi'n fwy nerfus - o'n i'n poeni am fy nyfodol- ond dwi'n hapus 'wan."

    Caitlin
  12. 'Ymddiried yn yr athrawon'wedi ei gyhoeddi 10:15 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Dywedodd Luisa Thomas - Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ym Merthyr Tudful: "Mae'r disgyblion wedi gwneud yn arbennig o dda.

    "Roedd hi'n bwysig iawn i Lywodraeth Cymru ymddiried yn yr athrawon i ddarogan y graddau cywir i'n mynyrwyr."

    luisa thomas
  13. Llongyfarchiadau!wedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. 'Gweithio'n galed'wedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Roedd Sameer yn un arall gafodd ei blesio wrth dderbyn ei ganlyniadau yn Ysgol Creuddyn heddiw.

    Dywedodd: "O'n i'n poeni ychydig ar ol sut mae pethau wedi bod yn mynd ond dwi'n hapus a dwi wedi cael mewn i'r chweched - dwi di pasio nhw gyd efo A's a B's.

    "Doeddwni ddim yn gwybod be i ddisgwyl rili ac oedd o jest yn waeth oherwydd doedd predicted grades fi ddim yn wych ond dwi di bod yn gweithio'n rili caled ers hynna- dwi'n hapus rwan.

    "Doeddwn i ddim yn hapus bod na ddim arholiadau - oedd lot o fy ffrindiau yn hapus yn cael graddau tebygol nhw a dim arholiadau ond o'n i isho sefyll yr arholiadau achos dwi'n neud yn well yno nag yn y dosbarth."

    Sameer
  15. Addasu canlyniadau Safon Uwch hefydwedi ei gyhoeddi 09:45 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Roedd y penderfyniad i roi graddau ar sail asesiadau athrawon - yn dilyn pryder bod y drefn wreiddiol o safoni yn annheg - yn anochel yn golygu canlyniadau uwch.

    Mae tri chwarter canlyniadau TGAU yn uwch nag C, o gymharu gyda 63% llynedd.

    A gydag ail-asesu canlyniadau Safon Uwch, mae 41% yn A* neu A – lan o 30% wythnos diwetha.

    Er bod y canlyniadau’n anghyson o’u cymharu gyda blynyddoedd eraill, mae’r Gweinidog Addysg yn mynnu bod ganddyn nhw hygrededd ac yn cydnabod gwaith caled y disgyblion.

  16. Dathlu ar ôl 'blwyddyn anodd'wedi ei gyhoeddi 09:37 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Ffion a Tom
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Ffion a Tom wrth eu boddau gyda'u canlyniadau

    Mae disgyblion Ysgol y Strade wedi bod yn derbyn eu canlyniadau ac mae rhai wedi serennu.

    Dywedodd Ffion: "Ges i A* i gyd. Fi'n bles iawn - dim lot o eiriau i ddisgrifo!

    "Mae wedi bod yn gyfnod digynsail a do'n i ddim yn siwr be i ddisgwyl. Rwy'n falch bod Kirsty Williams wedi dweud mai graddau athrawon fydd y canlyniadau - roedd rhai Safon Uwch yn annheg iawn."

    Bydd Ffion yn aros yn y chweched dosbarth i wneud Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Busnes.

    Dywedodd Tom ei fod yn hapus iawn o fod wedi derbyn 9A* a 3A.

    Roedd neithiwr fel "noson cyn Dolig", meddai.

    "Roedd eisiau meddwl yn iawn yn seicolegol a meddyliol a falle fyddai’r athrawon yn rhoi be fi moyn. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd."

  17. Cynnydd sylweddol yn y canlyniadauwedi ei gyhoeddi 09:32 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020
    Newydd dorri

    Mae canlyniadau TGAU wedi cynyddu'n sylweddol ar y llynedd gyda bron i dri chwarter y graddau wedi'u dyfarnu yn A* i C, ar ôl penderfyniad i'w seilio ar asesiad athrawon.

    Dywedodd Cymwysterau Cymru mai eu "hamcangyfrif gorau" oedd bod 74.5% o raddau TGAU wedi'u dyfarnu yn A*-C, o'i gymharu â 62.8% yn 2019.

    25.9% oedd y graddau A* ac A, i fyny o 18.4% y llynedd.

  18. BTEC: Llai o bryder yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 09:27 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    BBC Radio Wales

    Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud na fydd y cyhoeddiad am raddau BTEC yn effeithio ar y mwyafrif yng Nghymru.

    Wrth siarad ar Radio Wales y bore 'ma, dywedodd Kirsty Williams bod oddeutu 6,000 o bobl ifanc yng Nghymru wedi anelu am gymhwyster tebyg i BTEC, ond bod "y mwyafrif llethol" yn gwneud cymhwyster galwedigaethol gan CBAC o'r enw 'Llwybrau Mynediad' yn hytrach na'r BTEC gan gorff arholi Pearson.

    Ni fydd cymhwysterau Llwybrau Mynediad yn cael eu hailraddio.

  19. Miriam ar ben ei digonwedi ei gyhoeddi 09:18 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Un o'r cyntaf i gael ei chanlyniadau yn Ysgol Creuddyn, Llandudno, oedd Miriam.

    "Oedd o'n anodd - doeddwn i ddim yn disgwyl cael canlyniadau da iawn ar ol beth gath pobl yn eu lefel A.

    "Oeddwn ddim yn siwr os baswn i'n cael neud rhai cyrsiau ar lefel A ond oeddwn i'n gobeithio 'swn i'n pasio popeth - dwi'n hapus rwan".

    miriam
  20. Canlyniadau yn Llandudnowedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Mae disgyblion Ysgol Creuddyn yn Llandudno wedi dechrau cyrraedd i gael eu canlyniadau TGAU y bore 'ma....

    Creuddyn