Crynodeb

  • Tri chwarter canlyniadau TGAU Cymru yn raddau A* i C - 63% oedd y ffigwr y llynedd

  • Bydd y canlyniadau yn seiliedig ar farn athrawon yn dilyn tro pedol gan Lywodraeth Cymru

  • Daw'r newid ar ôl i 42% o ganlyniadau Safon Uwch gael eu hisraddio ar ôl proses safoni

  • Disgwyl i ganlyniadau TGAU fod yn sylweddol uwch gan na fydd graddau yn cael eu hisraddio

  1. Derbyn y canlyniadau ar e-bostwedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    2/2

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Cafodd system ei sefydlu i ddarparu graddau ar ôl i arholiadau gael eu canslo yn yr haf oherwydd y pandemig.

    Ond cafodd newidiadau eu gwneud ar y funud olaf ar ôl pryderon am annhegwch i ddisgyblion, cyn i'r pwysau cynyddol arwain at drawsnewid y drefn ddydd Llun.

    Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi ymddiheuro'n ddiamod i bobl ifanc Cymru am helyntion y broses ganlyniadau eleni.

    Yn ôl yr arfer, bydd disgyblion yn derbyn eu graddau drwy eu hysgol ond oherwydd y pandemig bydd rhai yn cael e-bost yn hytrach nag ymweld â'r ysgol yn bersonol.

  2. Ni fydd canlyniadau BTEC ar gael heddiwwedi ei gyhoeddi 08:48 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Mae bron i hanner miliwn o fyfyrwyr ar draws Prydain yn wynebu sefyllfa ansicr ar ôl i'r bwrdd arholi, Pearson, benderfynu ar y funud olaf i adolygu graddau cymwysterau galwedigaethol BTEC.

    Dywedodd Pearson y byddan nhw'n ailedrych ar y graddau i wneud yn siŵr eu bod yn cyfateb a rhai Safon Uwch a TGAU, sydd nawr yn cael eu penderfynu ar sail asesiadau athrawon.

    BTECFfynhonnell y llun, PA Media
  3. 'Disgwyl i ganlyniadau TGAU fod yn sylweddol uwch'wedi ei gyhoeddi 08:30 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    1/2

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Mae miloedd o ddisgyblion yng Nghymru yn cael canlyniadau eu harholiadau TGAU ac eleni fe fydd rhain yn seiliedig ar farn eu hathrawon.

    Daw'r newid ar ôl i 42% o ganlyniadau Safon Uwch gael eu hisraddio ar ôl proses safoni.

    Wedi protestiadau, beirniadaeth gref a ffrae wleidyddol, fe wnaeth Llywodraeth Cymru dro pedol ochr yn ochr â newidiadau tebyg mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

    Yn gyffredinol mae disgwyl i ganlyniadau TGAU fod yn sylweddol uwch gan na fydd graddau yn cael eu hisraddio.

  4. 'Hyderus o ganlyniadau teg'wedi ei gyhoeddi 08:18 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Dywedodd Geoff Evans, pennaeth Ysgol Gyfun y Strade yn Llanelli, y byddai'r disgyblion yn cyrraedd a derbyn eu canlyniadau "fel bob blwyddyn".

    "Ond yr un peth gwahanol yn yr ysgol ydy’r pellhau cymdeithasol, ond fe fydd athrawon yn cyflwyno'r canlyniadau i'r plant," meddai.

    "Mae’r canlyniadau'n adlewyrchu'r gwaith yn y flwyddyn a hanner diwetha'."

    Ychwanegodd ei fod yn "hyderus bod y canlyniadau yn deg o ran adlewyrchu gwaith y disgyblion ac athrawon".

    Geoff Evans
  5. 'Dylech ymfalchïo yn eich llwyddiant'wedi ei gyhoeddi 08:08 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Kirsty Williams
    Gweinidog Addysg Cymru

    Wrth ddymuno'r gorau i ddisgyblion TGAU, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams y "bu’n rhaid i chi aberthu nifer o bethau" mewn "amgylchiadau eithriadol".

    “Mae wedi bod yn flwyddyn na welwyd ei thebyg o’r blaen, ac fe fydd heddiw yn teimlo braidd yn wahanol," meddai.

    “Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchiad o’ch gwaith caled, eich cyrhaeddiad blaenorol mewn arholiadau ac asesiadau ysgol, ac yn eich gwobrwyo am hynny, felly dylech ymfalchïo yn eich llwyddiant.

    “Gobeithio y byddwch chi’n cael y graddau roeddech chi’n gobeithio amdanyn nhw, ac y gallwch barhau gyda’ch taith yn yr hydref, boed hynny’n golygu mynd i’r coleg, dechrau ar brentisiaeth neu aros yn yr ysgol.

    “Er y bydd nifer ohonoch chi’n fodlon â’ch canlyniadau ac yn llawn cyffro am y camau nesaf, os nad ydych chi wedi cael y canlyniadau roeddech chi’n gobeithio amdanyn nhw, mae digonedd o opsiynau a chyngor ar Cymru’n Gweithio."

  6. Mae'r aros ar ben...wedi ei gyhoeddi 08:02 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    Mae miloedd o ddisgyblion yng Nghymru yn cael eu canlyniadau TGAU ac eleni fe fydd rhain yn seiliedig ar farn eu hathrawon.

    Daw'r newid ar ôl i 42% o ganlyniadau Safon Uwch gael eu hisraddio ar ôl proses safoni.

    Wedi protestiadau, beirniadaeth gref a ffrae wleidyddol, fe wnaeth Llywodraeth Cymru dro pedol ochr yn ochr â newidiadau tebyg mewn rhannau eraill o'r DU.

    Yn gyffredinol mae disgwyl i ganlyniadau TGAU fod yn sylweddol uwch gan na fydd graddau yn cael eu hisraddio.

    TGAU
  7. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:02 Amser Safonol Greenwich+1 20 Awst 2020

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'n llif byw ar y diwrnod pan fydd miloedd o ddisgyblion Cymru yn derbyn eu canlyniadau TGAU.

    Doedd dim arholiadau eleni wrth gwrs, a hynny oherwydd y pandemig coronafeirws.

    Ond fe fydd y canlyniadau'n bwysig i ddyfodol y disgyblion, ac fe gewch chi'r diweddaraf yma gydol y dydd.

    Bore da i chi!