Crynodeb

  • Y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn annerch y gynhadledd am 12:30

  • Cadarnhad y bydd cyfyngiadau lleol yn cael eu gosod ar Rhondda Cynon Taf

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw, wrth i'r Gweinidog Iechyd gadarnhau y bydd ail sir yng Nghymru yn cael eu gosod dan gyfyngiadau lleol.

    Mae'r holl wybodaeth am y cyfnod clo lleol yn Rhondda Cynon Taf ar gael ar ein hafan.

    Diolch am ddilyn, ac arhoswch yn ddiogel.

  2. 199 o achosion newydd yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 199 achos newydd o coronafeirws wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru.

    O'r rheiny roedd 52 yn Rhondda Cynon Taf, 36 yng Nghaerffili a 15 yng Nghasnewydd

    Mae hynny'n golygu bod y cyfanswm sydd wedi cael prawf positif yma bellach yn 19,880.

    Ond am y 10fed diwrnod yn olynol ni chafodd yr un farwolaeth newydd ei chofnodi yn y 24 awr ddiwethaf, gan olygu bod cyfanswm y marwolaethau yn aros ar 1,597.

  3. Cyfnod clo'n gymhelliant i fenywod ddechrau busneswedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Mae mwy o fenywod yng Nghymru wedi bod yn edrych i ddechrau eu busnesau eu hunain yn ystod y mis ar ôl i'r cyfyngiadau coronafeirws gael eu lleddfu.

    Dywedodd Business in Focus, sy'n darparu sawl gwasanaeth cymorth busnes yng Nghymru, fod y pandemig wedi arwain at bobl yn ailfeddwl eu ffyrdd o fyw, ac eisiau gwell cydbwysedd mewn bywyd.

    Dywedodd y sefydliad fod cyfran uwch o fenywod â diddordeb mewn cyngor cychwynnol ym mis Awst - "cynnydd enfawr" o'i gymharu â'r adeg hon y llynedd.

    Nawr mae galwadau am roi mwy o gymorth i fenywod eraill.

    Mae Cymru Fyw wedi siarad â dwy fenyw am eu profiadau nhw o sefydlu busnesau yn ystod y pandemig.

    Mirain GlynFfynhonnell y llun, Prydferth-flwch
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd Mirain Glyn o Ysbyty Ifan, Sir Conwy, ei hysbrydoli i ddechrau ei busnes Prydferth-flwch ddeufis yn ôl

  4. 'Blip' yw'r problemau profion Covid diweddarwedi ei gyhoeddi 13:44 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Mae prif ymgynghorydd meddygol Cymru wedi dweud mai "blip" yw'r problemau diweddar mae pobl wedi eu hwynebu wrth geisio sicrhau profion Covid-19.

    Fe wnaeth Dr Rob Orford amddiffyn strategaeth Llywodraeth Cymru gan ddweud fod Cymru mewn gwell sefyllfa na Lloegr o achos labordy prosesu profion sydd wedi ei sefydlu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Mae bron i 200,00 o brofion yn aros i gael eu prosesu drwy'r DU, a hynny yn bennaf o achos y pwysau ar brosesu swabiau mewn labordai.

    Mae llawer o bobl wedi lleisio eu hanfodlonrwydd am yr amser mae'n gymryd i archebu profion a'r teithiau hir i ganolfannau profi.

    Ddydd Gwener cafod nifer y profion dyddiol sydd ar gael eu cyfyngu yng Nghymru yn dilyn cynnydd yn y galw ar draws y DU.

    Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, dywedodd Dr Orford: "Rwy'n credu ein bod yn ffodus iawn yng Nghymru o gael ein system ein hunain.

    "O'r dechrau rydym wedi adeiladu system gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd wedi gallu ein cefnogi pan roeddem yn profi trafferthion gyda'r Labordai Goleudy. Felly rwy'n credu mai blip yw hwn sydd angen gwaith arno ond rwy'n ffyddiog fod y capasiti gennym ni."

  5. Cadw tafarndai ar agor yn 'lleihau'r her'wedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Pan ofynnwyd iddo pam nad oedd penderfyniad wedi'i wneud i gau holl dafarndai Rhondda Cynon Taf, yn hytrach na'u hatal rhag agor yn hwyr, dywedodd y Gweinidog Iechyd bod amryw o ffactorau.

    Ychwanegodd ei fod "nid yn unig oherwydd effaith economaidd pobl yn colli busnesau a swyddi".

    "Bydd 'na bobl sy'n parhau i yfed, ac os does 'na ddim cyfleoedd i yfed mewn mannau trwyddedig fe allwn ni weld mwy o bobl yn torri' rheolau ac yfed yng nghartrefi pobl eraill," meddai.

    "Ac fe fyddai hynny'n her llawer mwy sylweddol i ni o ran lledaeniad coronafeirws."

  6. Gething ddim yn yr un cartref estynedig â'i famwedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Rhybuddiodd Vaughan Gething fod angen i fyfyrwyr, fel eraill, feddwl yn ofalus am eu teuluoedd a phwy maen nhw eisiau cynnwys yn eu cartrefi estynedig os ydyn nhw wedi bod yn cymysgu gyda phobl yn y brifysgol.

    Dywedodd ei fod ef ei hun wedi penderfynu peidio cynnwys ei fam yn ei gartref estynedig, gan ei bod hi'n fwy bregus a'i fod yntau'n dod i gyswllt â mwy o bobl yn rhinwedd ei swydd.

    "Dwi'n mynd â'r siopa ac yn ei adael tu allan. Dwi ddim yn mynd i mewn achos dwi'n cydnabod mod i'n risg uwch na fy chwaer," meddai.

    "Mae hi ar y llaw arall yn gweld llai o bobl ac felly yn mynd mewn, mae hi'n rhan o gartref estynedig fy mam."

  7. Dilynwch lif byw Senedd Fywwedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Senedd Fyw

    Mae llif byw Senedd Fyw wedi dechrau, gyda'r cyfarfod llawn yn dechrau am 13:30.

    Fe allwch chi ddilyn hwnnw trwy glicio yma.

  8. Cyfyngiadau 'am gyn lleied o amser â phosib'wedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd Andrew RT Davies, llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd yn y Senedd, y dylai'r cyfyngiadau yn Rhondda Cynon Taf fod mewn lle "am gyn lleied o amser â phosib".

    "Dylid gwneud pob ymdrech i osgoi sefyllfaoedd tebyg mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, gan gynnwys dysgu o'r cyfyngiadau lleol yma," meddai.

    Ychwanegodd y dylai'r Gweinidog Iechyd esbonio rhai o'r gwahaniaethau rhwng y rheolau yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf, sy'n cynnwys cyfyngiadau llymach ar oriau agor tafarndai.

  9. 'Y feirws ddim yn lledu ymysg disgyblion'wedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd wrth y gynhadledd ei bod yn "amlwg iawn" o'r dystiolaeth yng Nghymru a'r Alban bod heintio ymysg staff ysgolion yn digwydd o "gydweithio â'i gilydd neu oedolion eraill tu allan i'r ysgol" yn hytrach na gan ddisgyblion.

    "Cyswllt rhwng oedolion sy'n parhau i fod y ffactor mwyaf, a'r pryder mwyaf," meddai Vaughan Gething.

    Ychwanegodd ei fod yn disgwyl y bydd rhagor o ddosbarthiadau yn gorfod hunan-ynysu "wrth i ni fynd trwy'r hydref a'r gaeaf".

    Dywedodd bod cyfraddau presenoldeb yn "parhau'n uchel iawn".

  10. Leanne Wood yn 'siomedig ond ddim wedi synnu'wedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Plaid Cymru

    Mae Aelod o'r Senedd Rhondda, Leanne Wood wedi dweud ei bod hi'n "siomedig ond ddim wedi synnu" wrth glywed am y cyfyngiadau newydd.

    "Roedd hyn yn rhywbeth roedden ni wedi ofni yn dilyn cynnydd yn y cyfraddau heintio," meddai.

    Ychwanegodd y dylai pawb nawr ddilyn y rheolau ar ymbellhau cymdeithasol, golchi dwylo, cyfarfod tu allan yn unig, a rhoi manylion i swyddogion olrhain.

    "Y cyflymaf gawn ni hyn dan reolaeth, y cyflymaf allwn ni lacio'r cyfyngiadau, a'r saffaf fydd ein hanwyliaid."

  11. Teithwyr A470 yn cael mynd drwyddo o hydwedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd y cyfyngiadau yn Rhondda Cynon Taf yn golygu nad oes hawl teithio i mewn ac allan o'r sir onibai bod rheswm da dros wneud, fel gorfod mynychu'r gwaith neu'r ysgol.

    Ond mae'n debyg bod hawl gyrru drwy'r sir heb stopio - rhywbeth fydd yn arbennig o berthnasol i unrhyw un sy'n defnyddio ffordd yr A470 yn rheolaidd.

  12. 'Anodd' i fyfyrwyr gadw ar wahânwedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb cwestiwn ynghylch cyngor i fyfyrwyr sydd ar fin dychwelyd i'w prifysgolion yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf, dywedodd Vaughan Gething bod y cyngor "yr un peth iddyn nhw a gweddill y wlad".

    "Y peth pwysig yw meddwl am natur y cyswllt 'dych chi'n ei gael, yn enwedig dan do," meddai.

    Ychwanegodd y dylai pobl geisio gweld "nifer llai o bobl", gan gydnabod fodd bynnag y gallai hynny fod yn "anodd iawn i fyfyrwyr prifysgol".

  13. Tafarndai yn 'ffactor gwirioneddol' yng ngwasgariad y feirwswedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Yn ôl y Gweinidog Iechyd mae tafarndai wedi bod yn "ffactor gwirioneddol" yng ngwasgariad coronafeirws yn Rhondda Cynon Taf.

    Mae'r cyfyngiadau newydd yn fwy caeth na'r rhai yng Nghaerffili, ble does dim cyfyngiadau ar amseroedd agor tafarndai a bariau.

    Ond bydd yn rhaid i dafarndai gau am 23:00 yn Rhondda Cynon Taf dan y cyfyngiadau newydd.

    "Mae bar wedi cael ei gau ym Mhontypridd ar ôl i gyfres o dorri rheolau gael eu dal ar CCTV, cafodd safle trwyddedig ei gau yn Nhonypandy ac mae rhybudd wedi'i roi i far arall ym Mhontypridd a siop barbwr yn Nhonypandy," meddai Vaughan Gething.

    Ychwanegodd bod 50 o safleoedd eraill wedi cael eu hasesu gan swyddogion dros y penwythnos a'u bod yn debygol o weithredu yn erbyn rhai o'r rheiny hefyd.

  14. Adolygu'r cyfyngiadau ar ôl pythefnoswedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb cwestiynau'r wasg, dywedodd Mr Gething y byddai'r cyfyngiadau yn Rhondda Cynon Taf yn cael eu hadolygu ar ôl pythefnos.

    Ond ychwanegodd bod gweinidogion angen aros rhyw dwy i dair wythnos cyn gweld effaith llawn y cyfyngiadau.

    Dywedodd bod lle i fod yn galonogol o ystyried y cyfyngiadau sydd eisoes mewn grym yng Nghaerffili, gan fod y twf yn nifer yr achosion newydd yno yn dechrau arafu.

    vaughan gething
  15. Rhagor o fanylion am beth yn union yw'r rheolauwedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd wrth y gynhadledd, o 18:00 yfory: "Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn na gadael ardal Cyngor Rhondda Cynon Taf heb esgus rhesymol, fel teithio i'r gwaith neu addysg.

    "Bydd pobl yn gallu cwrdd tu allan am y tro. Ni fydd pobl yn gallu cwrdd aelodau o'u cartref estynedig tu mewn, na ffurfio cartref estynedig am y tro.

    "Bydd yn rhaid i bob safle trwyddedig gan gau am 23:00 yn Rhondda Cynon Taf.

    "Mae'n rhaid i bawb dros 11 oed wisgo mygydau mewn mannau cyhoeddus dan do - fel yw'r achos ledled Cymru."

  16. Dau glwstwr 'sylweddol' wedi'u canfodwedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Vaughan Gething bod sawl clwstwr o coronafeirws wedi eu canfod yn Rhondda Cynon Taf, a bod dau ohonyn nhw'n rhai "sylweddol".

    Roedd un, meddai, yn gysylltiedig â chlwb rygbi a thafarn yn Rhondda isaf, tra bod y llall yn ymwneud â thrip i rasys Doncaster "wnaeth stopio mewn sawl tafarn ar y ffordd".

    "Jyst fel yng Nghaerffili, rydyn ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion dros gyfnod byr, sydd yn gysylltiedig â phobl yn cymdeithasu heb gadw pellter cymdeithasol, a chyfarfod yng nghartrefi ei gilydd," meddai Mr Gething.

    "Rydyn ni hefyd wedi gweld achosion yn gysylltiedig â phobl yn dychwelyd o wyliau tramor."

  17. Cyhoeddi cyfyngiadau lleol yn Rhondda Cynon Tafwedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020
    Newydd dorri

    Mae'r Gweinidog Iechyd wedi cadarnhau y bydd cyfyngiadau lleol yn cael eu gweithredu ar sir Rhondda Cynon Taf o 18:00 yfory.

    Bydd y cyfyngiadau'n debyg i'r rheiny sydd eisoes mewn grym yng Nghaerffili.

    Mae 165 o achosion wedi cael eu cadarnhau yno yn yr wythnos ddiwethaf - mwy nag unrhyw sir arall yng Nghymru.

    Mae 82.1 o achosion ar gyfer pob 100,000 o boblogaeth - dim ond Caerffili (82.8) sydd â chyfradd uwch.

    Mae cyfradd y bobl sy'n cael profion positif - 4.3% - yn uwch nag unrhyw sir arall yng Nghymru hefyd.

    Rhondda
  18. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Rhyddhau data: 11 diwrnod cyn i'r prif weinidog wybodwedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Daeth i'r amlwg ddydd Llun bod manylion dros 18,000 o bobl oedd wedi cael profion positif am coronafeirws wedi cael eu cyhoeddi ar-lein yn dilyn camgymeriad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Dywedodd y corff iechyd bod data 18,105 o bobl yng Nghymru ar gael ar-lein am 20 awr ar 30 Awst.

    Yn y mwyafrif o achosion roedd blaenlythrennau, dyddiad geni, ardal ddaearyddol a rhyw, gyda'r corff yn dweud bod y "risg iddynt gael eu hadnabod yn isel".

    Ond ar gyfer 1,926 o bobl sy'n byw mewn "cartrefi nyrsio neu leoliadau caeedig eraill" roedd enw'r lleoliad hefyd wedi'i gyhoeddi.

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymddiheuro am y camgymeriad.

    Ond ddoe daeth i'r amlwg na gafodd y Prif Weinidog wybod am y digwyddiad am 11 diwrnod ar ôl i'r Gweinidog Iechyd gael gwybod.

    LabordyFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Y gynhadledd yn dechrau mewn 10 munudwedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter