Crynodeb

  • Y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn annerch y gynhadledd am 12:30

  • Cadarnhad y bydd cyfyngiadau lleol yn cael eu gosod ar Rhondda Cynon Taf

  1. 5,000 o welyau i ddelio â'r gaeaf 'anoddaf eto'wedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Bydd 5,000 o welyau ysbyty ychwanegol - hanner mewn ysbytai maes - i ymdopi â phwysau'r gaeaf, gan gynnwys y posibilrwydd o ail don o Covid-19.

    Wrth amlinellu Cynllun y Gaeaf GIG Cymru ddoe, dywedodd y Gweinidog Iechyd fod disgwyl i'r gaeaf fod yr "anoddaf eto".

    Mae'r capasiti ychwanegol wedi'i sefydlu er mwyn delio â'r sefyllfa waethaf posib.

    Yn y cyfamser, bydd y brechlyn ffliw ar gael i holl deuluoedd pobl sydd ar y rhestr gwarchod.

    Fe allwch chi gael y manylion yn llawn ar ein hafan.

    Ysbyty maes
  2. 58,860 o brofion wedi'u prosesu mewn wythnoswedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Er y feirniadaeth o'r system brofi mae'r ffigyrau diweddaraf yn dweud mai dydd Gwener, 11 Medi oedd y diwrnod y cafodd y mwyaf o brofion eu cynnal hyd yn hyn yng Nghymru - 10,949.

    Cafodd cyfanswm o 58,860 o brofion eu prosesu yn yr wythnos honno - tua 70% o'r rheiny yn rhwydwaith Labordai Goleudy Llywodraeth y DU a'r gweddill gan labordai sy'n cael eu rhedeg gan GIG Cymru.

    Ond am yr ail wythnos yn olynol does dim gwybodaeth ynglŷn â pha mor sydyn y cafodd cleifion ganlyniad o'r Labordai Goleudy oherwydd "problemau yn mapio'r data".

    Ar gyfer yr wythnos hyd at 24 Awst dim ond 8% o brofion cartref gafodd eu prosesu o fewn 24 ar, a 24% o fewn 48 awr.

    Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru cafodd 74% o brofion yn y gymuned eu prosesu o fewn 24 gan labordai GIG Cymru yr wythnos ddiwethaf - y perfformiad gorau ers i'r data ddechrau gael ei gyhoeddi ym mis Mehefin.

    Hefyd cafodd 89% o brofion mewn ysbytai eu prosesu gan labordai GIG Cymru o fewn 24 awr.

    ProfiFfynhonnell y llun, PA Media
  3. 'Angen i Gething fynd i'r afael â phrofion Covid-19'wedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Dylai'r Gweinidog Iechyd "fynd i'r afael" â phrofi am coronafeirws, yn ôl cadeirydd Pwyllgor Iechyd Senedd Cymru.

    Dywedodd AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Dr Dai Lloyd bod Vaughan Gething wedi "dewis bod yn rhan o system y DU" ac o'r herwydd "ni allai ddweud 'nad fy mai i yw e, mae e lawr i'r DU'."

    Mae Mr Gething wedi dweud fod trafferthion yn Labordai Goleudy Llywodraeth y DU yn "annerbyniol" ond fe fynnodd ddydd Mercher na fyddai'n "synhwyrol" i beidio â'u defnyddio nawr.

    Mae pobl sy'n dymuno cael profion Covid-19 wedi trafod eu rhwystredigaeth dros hyd yr amser mae'n ei gymryd i gael un a pha mor bell mae disgwyl iddyn nhw deithio.

    Mae mwy ar y stori yma ar ein hafan.

    PrawfFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Croeso i'r llifwedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2020

    Prynhawn da a chroeso i'n llif byw o gynhadledd coronafeirws Llywodraeth Cymru ar ddydd Mercher, 16 Medi.

    Y Gweinidog Iechyd, Vaughan gething fydd yn annerch y gynhadledd am tua 12:30.

    Arhoswch gyda ni am yr holl ddatblygiadau.