Crynodeb

  • 185 achos newydd o Covid-19 yng Nghymru, un farwolaeth yn y 24 awr ddiwethaf

  • Cyfanswm o 66 o ddisgyblion a 63 aelod o staff wedi derbyn canlyniad prawf coronafeirws positif hyd yma

  • Y prif weinidog Mark Drakeford yn dweud mai dim ond un sgwrs fer mae ef wedi ei gael gyda Boris Johnson ers 28 Mai

  • 41 o bobl yn derbyn triniaeth ysbyty oherwydd yr haint ar hyn o bryd, pedwar yn cael triniaeth gofal dwys

  • Rhybudd na fyddai'n syndod petai Merthyr Tudful dan glo unwaith yn rhagor wythnos nesaf

  • Cyfyngiadau llymach eisoes yn Rhondda Cynon Taf a Sir Caerffili oherwydd cynnydd yn achosion Covid-19

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Dyna ni am heddiw, diolch yn fawr am ddilyn ein llif byw.

    I grynhoi, dyma'r prif benawdau o'r gynhadledd:

    • Y prif weinidog Mark Drakeford yn dweud mai dim ond un sgwrs fer mae ef wedi ei gael gyda Boris Johnson ers 28 Mai;
    • Dywedodd y bydd mwy o brofion Covid ar gael wythnos nesaf, gyda mwy yn cael eu prosesu gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru;
    • Dim awgrym ar hyn o bryd o gyfnod clo drwy Gymru gyfan ond Mr Drakeford yn cydnabod bod nifer yr achosion yma ar gynnydd, a'r ffigwr 'R' mwy na thebyg dros 1 yma bellach;
    • 185 achos newydd o Covid-19 yng Nghymru, un farwolaeth yn y 24 awr ddiwethaf.
  2. Cynnig gwobr newydd yn sgil yr haintwedi ei gyhoeddi 14:07 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn galw ar bobl Cymru i helpu i ddod o hyd i bobl fwyaf hynod y wlad, drwy eu henwebu ar gyfer un o Wobrau Dewi Sant.

    Bellach yn eu hwythfed flwyddyn, nod y gwobrau cenedlaethol hyn yw dathlu gwir arwyr Cymru. Eleni, er mwyn adlewyrchu’r cyfraniad a wnaed gan gynifer o bobl yn ystod pandemig y coronafeirws, bydd gwobr newydd i gydnabod gweithwyr hanfodol.

    Mae’r enwebiadau bellach ar agor tan 15 Hydref, a gellir eu gwneud drwy wefan Gwobrau Dewi Sant, dolen allanol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Rhiant i blentyn 3 neu 4 oed yn Rhondda Cynon Taf?wedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Cyngor Rhondda Cynon Taf

    Yn sgil cyfyngiadau lleol ddaeth i rym nos Iau yn sir Rhondda Cynon Taf mae cynllun Gofal Plant Llywodraeth Cymru wedi'i ailgyflwyno.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. 185 o achosion newyddwedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 185 achos newydd o coronafeirws wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru.

    Mae hynny'n golygu bod y cyfanswm sydd wedi cael prawf positif yma bellach yn 20,233.

    Roedd un farwolaeth yn y 24 awr ddiwethaf, gan olygu bod cyfanswm y marwolaethau yn 1,601.

  5. Achosion Covid-19 mewn ysgolionwedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford, ers i ysgolion ddychwelyd, bod cyfanswm o 66 o ddisgyblion a 63 aelod o staff wedi derbyn canlyniad prawf coronafeirws positif.

    "Ond mae'r holl achosion hynny hyd yn hyn yn achosion lle mae'r person wedi dal y feirws y tu allan i'r ysgol, nid y tu mewn i'r ysgol," meddai.

    Dywedodd y prif weinidog mai "dim ond un achos sydd gan fwyafrif yr ysgolion, un myfyriwr neu un aelod o staff - mae'n wahanol yn y mannau problemus yn ne-ddwyrain Cymru".

    "Yng ngweddill Cymru, hyd yn oed lle mae achosion, maen nhw'n ynysig," ychwanegodd.

  6. Bodlon rhoi eich manylion cyswllt?wedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Yng Nghymru, mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod 45% o bobl sy'n ymweld â thai bwyta, tafarn neu le gwallt wedi cael cais i roi manylion cyswllt.

    Dywedodd 23% nad oedden nhw erioed wedi cael cais a 10% arall ei bod wedi cael cais weithiau.

    Roedd llai o bobl yn Lloegr wedi cael cais ond dwy ran o dair yn Yr Alban.

    Nodir bod 78% o bobl yng Nghymru wastad yn fodlon rhoi eu manylion a dim ond 2% oedd wedi dweud na fyddan nhw fyth yn rhannu eu manylion.

    lle gwallt
  7. 'Dim mwy i'w ddweud am gamgymeriad data personol'wedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford nad oes "mwy i’w ddweud" yn dilyn camgymeriad a welodd ddegau o filoedd o fanylion meddygol personol yn cael eu cyhoeddi ar-lein.

    Yn gynharach yr wythnos hon daeth i'r amlwg bod manylion mwy na 18,000 o bobl a brofodd yn bositif am coronafeirws wedi'u cyhoeddi ar gam gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Mae'r corff wedi ymddiheuro, gan feio "gwall dynol unigol", ac mae’n mynnu bod y risgiau o adnabod pobl yn isel.

    Dywedodd Mr Drakeford: "Dyma gyfrifoldeb Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymddiheuro am y toriad data, ac mae delio â thorri data a hysbysu'r awdurdodau angenrheidiol a'i wneud yn gyhoeddus yn fater i Iechyd Cyhoeddus Cymru, cangen annibynnol o iechyd y cyhoedd yma yng Nghymru.

    "Maen nhw wedi gwneud popeth sydd angen ei wneud, a dwi ddim yn credu bod mwy i’w ddweud am y mater hwnnw."

    Ond dydy cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ddim mor barod i anghofio...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Cei Connah: CBDC yn ymchwilio i sylwadauwedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Andy MorrisonFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae sylwadau rheolwr Cei Connah, Andy Morrison, wedi ennyn cryn ymateb

    Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymchwilio i sylwadau gan reolwr Cei Connah bod y clwb wedi "cau ei llygaid" i symptomau o Covid-19 ymysg chwaraewyr y clwb.

    Aeth y gêm yn erbyn Dinamo Tbilisi yng Nghynghrair Europa nos Iau yn ei blaen er i dri chwaraewr brofi’n bositif am Covid-19.

    Dywedodd Mr Drakeford fod CBDC yn "mynd i ganfod y ffeithiau". Bydd y Gymdeithas yn gwneud sylw ar y mater yn ddiweddarach heddiw.

    Ychwanegodd y prif weinidog ei fod yn "cydymdeimlo" â cheisiadau gan glybiau pêl-droed i ganiatáu i gefnogwyr ddychwelyd i wylio gemau.

    Ond dywedodd fod angen i awdurdodau sy’n rhedeg clybiau chwaraeon "roi ymrwymiadau y gallwn ni i gyd fod â hyder y bydd yr ymrwymiadau hyn yn cael eu hanrhydeddu".

  9. 'Mynd i Doncaster sy'n allweddol,' medd y Prif Weinidogwedi ei gyhoeddi 13:29 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae honiadau fod y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi rhoi gwybodaeth anghywir am achosion o Covid cysylltiedig â Doncaster yn ddim mwy nag ymgais i dynnu sylw oddi ar y mater, medd Mr Drakeford.

    Ddydd Mercher fe ddywedodd Vaughan Gething bod dau glwstwr "arwyddocaol" yn sir Rhondda Cynon Taf, un yn ymwneud â chlwb rygbi, ac un arall â grŵp o bobl aeth ar ddiwrnod allan i rasys Doncaster, gan stopio "mewn cyfres o dafarndai ar y ffordd".

    Cafodd yr hanes am ymweliad y grŵp i Doncaster ei ailadrodd mewn cyfweliad diweddarach yn ystod y dydd gan Mr Gething gyda BBC Cymru.

    Yn hwyrach ddydd Mercher fe gyhoeddodd Cwrs Rasio Doncaster ddatganiad ei hun yn dweud nad oeddynt wedi derbyn unrhyw gysylltiad gan y GIG na Llywodraeth Cymru am y digwyddiad.

    Dywed Mr Drakeford: "Mae nifer o bobl yn dod i Gaerdydd ar ddiwrnod rygbi heb docyn ac heb fwriad o fynd i'r gêm.

    "Dyw'r ffaith nad aeth pobl i'r rasys yn Doncaster ddim yma nac acw - yr hyn sy'n allweddol yw fod pobl wedi mynd i Doncaster ac wedi dychwelyd oddi yno wedi'u heintio ac mae'n rhaid ystyried y daith hon wrth weld cynnydd yr achosion yn Rhondda Cynon Taf."

    doncaster
    Disgrifiad o’r llun,

    "Y daith i Doncaster sy'n allweddol," medd y Prif Weinidog

  10. 'Synhwyrol' i drafod mesurau newyddwedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y prif weinidog fod y gwyddonwyr sy'n cynghori llywodraethau'r DU yn dweud, os yw'r feirws yn parhau i gynyddu mewn rhai rhannau o'r Deyrnas Unedig "efallai y bydd angen rhyw fath o seibiant i'w gael o dan reolaeth".

    Dywedodd Mark Drakeford fod "cyfres o fesurau" yn cael eu trafod, rhai ohonyn nhw'n bethau oedd eisoes yn cael eu gwneud yng Nghymru.

    Mae dadl ynghylch a oes "rhaid i ni ystyried cyfres o fesurau" i dorri ar draws "cynnydd cyflym yn y clefyd hwn mewn rhai rhannau o’r wlad", meddai.

    "Rwy'n credu bod hon yn drafodaeth synhwyrol i'w chael, er nad wyf yn credu ei fod yn benderfyniad y byddai angen ei wneud yng Nghymru heddiw neu hyd yn oed yr wythnos nesaf," meddai.

    MD
  11. 'Mwy o brofion wythnos nesaf'wedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    "Bydd mwy o brofion Covid ar gael wythnos nesaf," medd y Prif Weinidog Mark Drakeford, "gyda mwy yn cael eu prosesu gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru."

    Mae rhai profion yn cael eu prosesu gan GIG Cymru ac eraill gan labordai UK Lighthouse sydd wedi wynebu nifer o broblemau yn ystod yr wythnos.

    "Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr," medd Mr Drakeford, "bod pobl o Loegr wedi cael eu profi yn Abercynon - canolfan sydd i fod ar gyfer pobl Rhondda Cynon Taf."

  12. 'Cynllunio ar gyfer mwy o achosion'wedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    "Ry'n ni'n cynllunio ar gyfer mwy o achosion o'r haint ar draws Cymru," medd Mark Drakeford yn y gynhadledd

    "Yn ddiweddarach heddiw bydd astudiaeth gan Brifysgol Abertawe yn dangos pa mor wael y gall pethau fod.

    "Mae'r gallu i wella pethau yn yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod yn ein dwylo ni.

    "Rhaid ufuddhau i'r gorchmynion a chyfyngiadau lleol."

  13. Dim awgrym o gyfnod clo i Gymru gyfanwedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb cwestiynau newyddiadurwyr, gofynnwyd i Mark Drakeford beth a wnaeth o adroddiadau bod Llywodraeth y DU yn ystyried cyfyngiadau newydd ledled Lloegr i arafu’r cynnydd mewn achosion Covid-19.

    Dywedodd y prif weinidog fod yr achos dros fesurau cenedlaethol pellach yng Nghymru "yn fy marn i eto i'w wneud".

    Dywedodd fod y sefyllfa yng Nghymru gyda'r feirws "mor amrywiol", ac mewn rhai lleoedd roedd nifer yr achosion yn gostwng ac nid yn codi.

    Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi parhau i ofyn i bobl weithio gartref os gallan nhw drwy gydol y pandemig, yn wahanol i weinidogion y DU.

    mark drakeford
  14. Wrecsam yn 'brawf y gall pethau wella'wedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanega'r Prif Weinidog fod modd i bethau ddod yn well wrth i'r sefyllfa waethygu.

    "Edrychwch ar Wrecsam," meddai, "mae'r achosion yno heddiw yn isel iawn wedi nifer fawr o achosion mewn ffatri brosesu bwyd yn yr haf."

  15. Covid-19: 41 o bobl yn yr ysbytywedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford bod 41 o bobl yn derbyn triniaeth ysbyty oherwydd yr haint ar hyn o bryd, ac mae pedwar o bobl yn cael triniaeth gofal dwys.

    "Ry'n ni wedi dysgu llawer yn ystod y chwe mis diwethaf ond mae e dal yn haint newydd, yn heintus iawn a does yna ddim llawer o driniaethau effeithiol," meddai.

    "Mae'r ymdrechion i ganfod brechlyn yn parhau."

  16. Profi dros 9,000 y dyddwedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    "Ry'n ni'n profi dros 9,500 o bobl y dydd ond mae problemau UK Lighthouse Lab yn effeithio ar y gwaith," medd y Prif Weinidog.

    Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gofnodi tair marwolaeth yn eu ffigyrau dyddiol ddoe.

    "Ry'n yn meddwl am eu teuluoedd a'u ffrindiau ac mae hyn yn ein atgoffa ein bod yn delio â haint difrifol," ychwanegodd Mr Drakeford.

  17. Drakeford yn feirniadol o Lywodraeth y DUwedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford mai dim ond un sgwrs fer mae ef wedi ei gael gyda Phrif Weinidog y DU, Boris Johnson ers 28 Mai.

    "Mae hyn yn annerbyniol yn syml i unrhyw un sy’n credu y dylem fod yn wynebu argyfwng y coronafeirws gyda’n gilydd," meddai.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ers amser am system ffurfiol ar gyfer trafodaethau rheolaidd rhwng y llywodraethau datganoledig a Llundain i gytuno ar ffordd ymlaen.

    "Byddai cyfarfod dibynadwy hyd yn oed unwaith yr wythnos yn ddechrau," meddai.

    "Rwy’n gwneud y ddadl hon nid oherwydd y dylem i gyd wneud yr un pethau, ond oherwydd bod bod o amgylch yr un bwrdd yn caniatáu i bob un ohonom wneud y penderfyniadau gorau ar gyfer y cenhedloedd yr ydym yn eu cynrychioli."

  18. Ffigwr R dros un yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog yn ychwanegu bod nifer yr achosion yng Nghymru ar gynnydd.

    Wythnos yn ôl roeddem wedi croesi y ffigwr o 20 achos ymhob 100,000 ond heddiw mae'r gyfradd 15 pwynt yn uwch.

    "Sefyllfa siroedd Caerffili a Rhondda Cynon Taf, sy'n gyfrifol am hyn yn bennaf," meddai, "ac mae'r ffigwr R rhwng 0.7 a 1.2.

    "Ry'm yn credu ei fod dros un yng Nghymru."

    graffFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  19. Cadw golwg ar Ferthyr a Chasnewyddwedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae hon wedi bod yn wythnos lle mae achosion o'r haint wedi codi, medd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a bu'n rhaid cyflwyno cyfyngiadau lleol yn sir Rhondda Cynon Taf.

    "Byddwn yn adolygu'r sefyllfa yno ymhen pythefnos," meddai, "ac yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa ym Merthyr a Chasnewydd."

  20. Gwyliwch yn fyw nawrwedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter