Crynodeb

  • 185 achos newydd o Covid-19 yng Nghymru, un farwolaeth yn y 24 awr ddiwethaf

  • Cyfanswm o 66 o ddisgyblion a 63 aelod o staff wedi derbyn canlyniad prawf coronafeirws positif hyd yma

  • Y prif weinidog Mark Drakeford yn dweud mai dim ond un sgwrs fer mae ef wedi ei gael gyda Boris Johnson ers 28 Mai

  • 41 o bobl yn derbyn triniaeth ysbyty oherwydd yr haint ar hyn o bryd, pedwar yn cael triniaeth gofal dwys

  • Rhybudd na fyddai'n syndod petai Merthyr Tudful dan glo unwaith yn rhagor wythnos nesaf

  • Cyfyngiadau llymach eisoes yn Rhondda Cynon Taf a Sir Caerffili oherwydd cynnydd yn achosion Covid-19

  1. Covid-19 yn 19fed achos marwolaeth ymawedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Haint coronafeirws bellach yw'r 19fed achos mwyaf cyffredin o farwolaeth yng Nghymru, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

    Mae'r ffigyrau, sydd newydd eu cyhoeddi, yn dangos bod y gyfradd marwolaethau oherwydd Covid-19 wedi gostwng am y pedwerydd mis yn olynol.

    Ym mis Awst roedd y niferoedd yn 11 marwolaeth ymhob 100,000 yng Nghymru - ond yn Lloegr roedd niferoedd y rhai a fu farw o ganlyniad i'r haint yn is (7.2 ymhob 100,000).

    Ym mis Ebrill, pan oedd yr haint yn ei anterth, roedd y ffigwr yn 495.1 ymhob 100,000.

  2. Ciwiau yn Aberdârwedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Roedd yna dipyn o giwiau y tu allan i fanc yn Aberdâr yng Nghwm Cynon fore Gwener.

    Cafodd cyfyngiadau llymach eu cyflwyno yno am 6 o'r gloch neithiwr.

    banc Aberdar
  3. 'Angen ufuddhau i'r cyfyngiadau'wedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Mae rheolau llym eisoes mewn grym yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf.

    Daeth y rheolau newydd i rym yn Rhondda Cynon Taf nos Iau, gan gyfyngu ar hawliau pobl i deithio i mewn ac allan o'r sir, ac i gyfarfod ag eraill.

    Dywedodd Beth Winter, AS Llafur Cwm Cynon, wrth Post Cyntaf bod y "cynnydd cyflym sydd wedi digwydd mewn achosion yn golygu fod rhaid cymryd camau... ac os bydd rhaid i ni gyflwyno cyfyngiadau lleol mwy llym, dyna fydd yn digwydd".

    Pwysleisiodd yr angen i bawb ddilyn y cyfyngiadau ond mynegodd bryder ynghylch eu heffaith ar deuluoedd difreintiedig.

    "Ni 'di cael llawer o bobl yn cysylltu yn bryderus iawn am bob math o broblemau maen nhw'n disgwyl o ran y cyfyngiadau yma," meddai.

    Daeth cyfyngiadau llymach i rym yn Rhondda Cynon Taf nos Iau
    Disgrifiad o’r llun,

    Daeth cyfyngiadau llymach i rym yn Rhondda Cynon Taf nos Iau

  4. Cyfyngiadau lleol ym Merthyr a Phen-y-bont?wedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

    Mae cyfarwyddwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dweud na fyddai'n syndod ganddo petai Merthyr Tudful dan glo unwaith yn rhagor wythnos nesaf.

    Yn ôl Dr Kelechi Nnoaham, cyfarwyddwyr iechyd cyhoeddus y bwrdd, mae achosion coronafeirws ar gynnydd yno, yn ogystal ag ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

    Dywedodd Dr Nnoaham ar Radio Wales ddydd Gwener: "Petawn ni dan glo ym Merthyr wythnos nesaf, fyddwn ni ddim yn synnu - rwy'n bendant yn gobeithio y gallen ni osgoi hynny.

    "Yn fy marn i, mae cynnydd llawer cyflymach wedi bod ym Mhen-y-bont er bod niferoedd yn gymharol isel mewn mannau.

    "Ond os edrychwch chi ar y cynnydd o wythnos i wythnos ym Mhen-y-bont a chymharu hwnnw â Merthyr fyddwn i yn bendant yn dod â Phen-y-bont i'r darlun o ran angen deall mwy ynghylch beth sy'n mynd ymlaen."

    MerthyrFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd yna ddyfalu yn gynharach yn y mis y byddai cyfyngiadau'n cael eu cyflwyno ym Merthyr Tudful

  5. Achos positif mewn ysgol gynraddwedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Cyngor Sir Conwy

    Y bore 'ma, mae Cyngor Sir Conwy wedi cadarnhau bod disgybl ysgol gynradd wedi cael prawf positif am coronafeirws.

    Mae'r disgybl yn mynychu Ysgol Nant y Groes ym Mae Colwyn.

    Mae rhieni a staff wedi cael gwybod ac wedi derbyn cyngor a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Dywed y cyngor fod "staff perthnasol a disgyblion eraill wedi derbyn cyngor i hunan-ynysu yn unol â chanllaw Llywodraeth Cymru".

    Ysgol Nant y Groes, Bae ColwynFfynhonnell y llun, Google
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r disgybl yn mynychu Ysgol Nant y Groes, Bae Colwyn

    Dywedodd y Cyng Julie Fallon, aelod cabinet dros Addysg: "Mae’r gwaith olrhain cysylltiadau yn digwydd ar hyn o bryd ac os ydi unrhyw un yn cael eu nodi fel cyswllt gydag achos a gadarnhawyd o Covid-19, yna bydd swyddog cyswllt o’r tîm Profi Olrhain a Diogelu yn cysylltu er mwyn rhoi cyngor priodol."

  6. Prynhawn dawedi ei gyhoeddi 11:59 Amser Safonol Greenwich+1 18 Medi 2020

    Croeso atom ni i'r llif newyddion.

    Fe gewch chi'r diweddaraf o gynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru yma ynghyd â ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r straeon diweddaraf yn gysylltiedig â'r haint.