Crynodeb

  • Gosod cyfyngiadau lleol mewn grym ym Mlaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

  • Y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething fu'n cynnal cynhadledd Llywodraeth Cymru

  • Gwyddonwyr Llywodraeth y DU yn rhybuddio y gallwn weld 50,000 o achosion y dydd erbyn canol Hydref

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw, wrth i'r Gweinidog Iechyd gadarnhau y bydd pedair sir arall yng Nghymru yn cael eu gosod dan gyfyngiadau lleol.

    Mae'r holl wybodaeth am y cyfyngiadau lleol ym Mlaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr ar gael ar ein hafan.

    Diolch am ddilyn, ac arhoswch yn ddiogel.

  2. 234 achos newydd o Covid-19 yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 234 achos newydd o coronafeirws wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru.

    O'r rheiny roedd 40 yn Rhondda Cynon Taf, 31 yng Nghaerdydd ac 20 ym Mlaenau Gwent.

    Mae hynny'n golygu bod y cyfanswm sydd wedi cael prawf positif yma bellach yn 20,878.

    Ni chafodd unrhyw farwolaethau eu cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf, gan olygu bod y cyfanswm yn aros ar 1,603.

  3. 'Profiad cwbl wahanol i fyfyrwyr prifysgol eleni'wedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Mae myfyrwyr sy'n dechrau ar fywyd prifysgol y mis hwn yn wynebu "profiad gwahanol iawn" medd UCM Cymru - sefydliad sy'n cynrychioli dros chwarter miliwn o fyfyrwyr o'r sectorau addysg uwch ac addysg bellach.

    Yn sgil cyfyngiadau Covid-19, mae nifer o ddigwyddiadau wythnos y glas wedi eu canslo a bydd yn rhaid i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf ffurfio swigod gyda chyd-fyfyrwyr nad ydynt o bosib wedi'u cyfarfod o'r blaen.

    Dim ond chwech o bobl o'r un aelwyd estynedig sy'n gallu cyfarfod y tu mewn yng Nghymru.

    Dywed Becky Ricketts, o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, ei bod yn ofni y bydd unigrwydd yn fwy o broblem eleni.

    Mae mwy ar y stori hon ar ein hafan.

    MyfyrwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Annog pawb i gael brechiad ffliw i 'warchod y GIG'wedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Mae'r actor Michael Sheen yn arwain yr ymgyrch i annog pawb i gael brechiad ffliw eleni.

    Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn paratoi am dymor anodd dros y gaeaf wrth geisio delio gyda Covid-19 a thymor y ffliw arferol.

    Mae pobl sy'n gymwys yng Nghymru yn cael ei hannog i gael y brechiad i "warchod eich hunain, eich cymunedau a'r GIG".

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio eu hymgyrch ffliw fwyaf erioed heddiw.

    Mewn fideo gafodd ei baratoi i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae Mr Sheen yn rhybuddio bod Covid-19 yn dal o gwmpas yng nghanol pryderon am ail don o'r haint.

    Michael SheenFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
  5. Mesurau newydd 'bron yn bendant' yn Yr Albanwedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Mae Prif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon wedi dweud ei bod "bron yn bendant" y bydd mesurau newydd i atal coronafeirws yn cael eu cyflwyno yno o fewn "y cwpl o ddyddiau" nesaf.

    Dywedodd wrth gynhadledd i'r wasg yno y bydd hi hefyd yn cael trafodaeth â Boris Johnson heddiw a'i bod yn gobeithio y bydd y mesurau newydd yn cael eu cyflwyno "ar y cyd rhwng pedair gwlad" y DU.

    Ychwanegodd bod angen gweithredu wrth i nifer yr achosion gynyddu, gan gefnogi'r cyngor gan yr Athro Chris Whitty a Syr Patrick Vallance yn eu cynhadledd nhw y bore 'ma.

    Cafodd 255 achos newydd o Covid-19 eu cadarnhau yn Yr Alban yn y 24 awr ddiwethaf.

    Nicola SturgeonFfynhonnell y llun, PA Media
  6. Trafodaethau rhwng llywodraethau yn 'gam ymlaen'wedi ei gyhoeddi 13:23 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Cafodd Vaughan Gething ei holi ynglŷn ag oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried cymryd rhan mewn cyfyngiadau fyddai'n cael eu gosod ledled y DU.

    "Mae'n bosib y bydd angen mesurau ledled y DU" meddai'r Gweinidog Iechyd.

    Mae disgwyl i Mark Drakeford a Boris Johnson gynnal cyfarfod yn ddiweddarach heddiw.

    "Mae'n bosib y bydd mesurau ledled y DU yn cael eu mabwysiadu, ond bydd hynny angen i'r pedair gwlad i weithredu eu grymoedd a'u cyfrifoldebau i wneud hynny," meddai.

    "Mae'n gam fydd o gymorth o glywed fod Prif Weinidog y DU yn mynd i siarad â Phrif Weinidog Cymru.

    "Y ffordd orau i sicrhau cydweithrediad yw i'r pedair gwlad siarad â'i gilydd ar lefel arweinwyr ar yr un pryd."

    Boris Johnson
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd Boris Johnson a Mark Drakeford yn cael trafodaethau yn ddiweddarach heddiw

  7. Myfyrwyr ddim am gael 'profiad traddodiadol'wedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ni fydd myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn cael "profiad traddodiadol" wrth ddechrau eu cyrsiau, meddai'r Gweinidog Iechyd.

    Dywedodd Vaughan Gething wrth y gynhadledd y byddai unrhyw un sy'n cael eu dal yn trefnu partïon mawr yn wynebu dirwyon mawr.

    "Mae'n rhaid i ni ofyn i bobl ganfod ffordd o gael profiad prifysgol sy'n dilyn y rheolau, a derbyn y bydd yn brofiad gwahanol i un traddodiadol," meddai.

  8. Cyfyngiadau ar gyfer Cymru gyfan yn bosibwedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'n bosib y bydd angen mesurau ar gyfer Cymru gyfan unwaith eto er mwyn atal lledaeniad coronafeirws, yn ôl y Gweinidog Iechyd.

    Ond dywedodd wrth y gynhadledd ei bod yn debygol y bydd y cyfyngiadau yn llai llym na'r rhai a welwyd ym mis Mawrth.

    "Mae'n bosib y byddwn ni'n cyrraedd pwynt, os yw'r lledaeniad yn parhau, y bydd angen gweithredu ymhellach ar draws ranbarth o Gymru, neu'r holl wlad," meddai.

    "Mae'r cyfyngiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili yn llai llym na'r rhai ar ddiwedd Mawrth.

    "Felly mae'n bosib y bydd mesurau ar gyfer Cymru gyfan, sydd efallai yn fyr o'r mesurau gafodd eu cyflwyno ar 23 Mawrth."

  9. Trafod ymateb rhanbarthol yn y de-ddwyrainwedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Vaughan Gething y byddai'n cwrdd â chynrychiolwyr deg o siroedd Cymru - o Abertawe i'r ffin gyda Lloegr - ynghyd â byrddau iechyd a'r heddlu fory.

    Yn ystod y gynhadledd i'r wasg dywedodd Mr Gething fod pobl yn teithio yn gyson o amgylch y rhanbarth.

    "Mae'n gwneud synnwyr pan fydd chwech o'r 10 awdurdod o 18:00 yfory yn destun cyfyngiadau, i gael trafodaeth o'r fath am y rhanbarth," meddai.

    "Mae hynny er mwyn sicrhau nad ydym ni ond yn aros i bethau ddigwydd."

    Ychwanegodd pe bai angen rhagor o gyfyngiadau ar draws yr holl ranbarth "yna wrth gwrs fe allwn wneud y penderfyniad hwnnw".

  10. 'Gwneud popeth posib i osgoi cyfyngiadau cenedlaethol'wedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Mae'n rhaid i weinidogion a llywodraethau wneud popeth posib i osgoi cyfyngiadau cenedlaethol arall am y byddai'r effaith economaidd ac ar iechyd cyhoeddus yn drychinebus.

    "Mae angen i ni weld cyfyngiadau lleol sy'n seiliedig ar ddata manwl a chywir, ac ailddechrau annog pobl hŷn neu fregus i gysgodi.

    "Mae'n rhaid i ni oll chwarae ein rhan gan gadw at y rheolau ar gadw pellter cymdeithasol, mygydau a golchi dwylo, a gweld ymgyrch gan Lywodraeth Lafur Cymru i wasgaru'r neges yn effeithiol."

  11. Dim amserlen ar gyfer codi'r cyfyngiadau lleolwedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd nad yw'n gallu rhoi amserlen ynglŷn â pha mor hir y bydd y cyfyngiadau lleol mewn grym.

    Ond ychwanegodd bod achosion yn gostwng yn Sir Caerffili ers cyflwyno'r cyfyngiadau lleol, sydd wedi rhoi "nodyn o obaith".

    "Mae'n bosib gweld gwelliannau os ydy pobl yn dilyn y rheolau, fel sydd wedi digwydd yng Nghaerffili," meddai.

    Dywedodd Vaughan Gething y byddai'n cymryd "tua phythefnos i'r mesurau gael effaith".

  12. Beth mae'r cyfyngiadau yn ei olygu?wedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Gething y byddai'r cyfyngiadau ym Mhen-y-bont, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd yr un fath â'r rhai sydd eisoes mewn grym yn Rhondda Cynon Taf.

    "Fe fydd pobl ddim yn cael dod i mewn na gadael yr ardaloedd heb esgus rhesymol, fel teithio i'r gwaith neu addysg," meddai.

    "Fe all pobl ond cwrdd â'i gilydd yn yr awyr agored am y tro.

    "Ni fydd gan bobl hawl i gwrdd ag aelodau o'r teulu estynedig dan do am y tro, na chwaith hawl i ffurfio teulu estynedig.

    "Fe fydd yn rhaid i dafarndai a chlybiau gau am 23:00."

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd y byddai hefyd yn gorfodi tafarndai yn sir Caerffili i gau am 23:00 a hynny yn dilyn "cais gan bartneriaid lleol yng Ngwent" am y fath fesurau.

  13. O ble mae'r achosion wedi dod?wedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Vaughan Gething bod Pen-y-bont yn bryder oherwydd bod cynnydd sydyn wedi bod yn nifer yr achosion yno.

    Bydd canolfan brofi yn cael ei sefydlu yno yr wythnos hon, meddai.

    Ym Mlaenau Gwent dywedodd y Gweinidog Iechyd bod achosion wedi'u cysylltu â thafarndai a diffyg cadw pellter cymdeithasol, ond bod achosion hefyd ymysg staff cartrefi gofal ac ysgolion.

    Dywedodd bod yr achosion yng Nghasnewydd wedi lledu yn dilyn parti mewn tŷ ar ddiwedd Awst, a bod hynny yn ei dro wedi gwasgaru o amgylch tafarndai’r sir.

    Vaughan Gething
  14. Achosion Merthyr wedi'u cysylltu â dau glwstwrwedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd bod yr achosion ym Merthyr wedi'u cysylltu â dau glwstwr, sef cyflogwr mawr a thafarn.

    Ond ychwanegodd bod nifer o glystyrau bychan i'w gweld ar draws y sir oherwydd "diffyg cadw pellter".

    "I ddechrau roedd mwyafrif yr achosion ymysg grwpiau o bobl ifanc ond nawr ry'n ni'n gweld achosion ym mhob grŵp o ran oedran," meddai Vaughan Gething.

    Ychwanegodd bod 34 o bobl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn derbyn triniaeth am coronafeirws.

  15. Mesurau rhanbarthol hefyd dan ystyriaethwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth fanylu ar ei benderfyniad dywedodd Mr Gething fod Pen-y-bont ar Ogwr a Blaenau Gwent wedi dangos cynnydd mwy dros gyfnod o saith diwrnod na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan.

    Ychwanegodd fod y cynnydd mewn achosion ym Merthyr a Chasnewydd wedi parhau, er gwaethaf mesurau gan gynghorau lleol yna yn ystod y 10 diwrnod diwethaf.

    Fe fydd y cyfyngiadau yn dod i rym yn y pedair sir uchod am 18:00 fory.

    Dywedodd Mr Gething hefyd y bydd yn cynnal trafodaethau brys gyda chynghorau sir, byrddau iechyd a heddluoedd yn y de - o Abertawe i'r ffin gyda Lloegr er mwyn trafod y sefyllfa ranbarthol ac a fydd angen rhagor o fesurau.

  16. Pedair sir arall yng Nghymru i wynebu cyfyngiadau lleolwedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020
    Newydd dorri

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi yn y gynhadledd y bydd pedair sir arall yng Nghymru yn destun cyfyngiadau lleol tebyg i'r rheiny sydd eisoes mewn grym yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf.

    Dywedodd Vaughan Gething y bydd cyfnod clo lleol yn dod i rym ym Mlaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr o 18:00 yfory.

    Dros yr wythnos ddiwethaf mae nifer yr achosion wedi cynyddu ym mhob un o'r siroedd hynny.

    Ym Merthyr gwelwyd 94.5 o achosion positif ar gyfer pob 100,000 o boblogaeth - y gyfradd uchaf yng Nghymru dros yr wythnos ddiwethaf.

    46.2 oedd y ffigwr ym Mhen-y-bont, 45.3 yng Nghasnewydd a 42.9 ym Mlaenau Gwent.

  17. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Disgwyl 'cyhoeddiad pwysig am gyfyngiadau lleol'wedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Lleoliad blynyddoedd cynnar i gau wedi achos o Covid-19wedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Cyngor Powys

    Mae Cyngor Powys wedi cadarnhau bod yn rhaid i leoliad blynyddoedd cynnar yn ne'r sir gau ar ôl i blentyn brofi’n bositif am Covid-19.

    Mae Camau Bach Llanfaes yn Aberhonddu wedi cau ar ôl i’r awdurdodau ddweud wrth dri aelod o staff am hunan-ynysu ar ôl i blentyn brofi’n bositif.

    Mae 14 o blant eraill yn hunan-ynysu hefyd.

    Bydd y lleoliad yn parhau i fod ynghau tan ddydd Gwener, 25 Medi, a dywedodd yr awdurdod bod yn "lleoliad wedi cael ei lanhau’n drylwyr drwyddi draw".

  20. 'Posib y bydd 50,000 o achosion y dydd erbyn canol Hydref'wedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Llywodraeth y DU

    Fe allwn ni weld 50,000 o achosion y dydd erbyn canol mis Hydref os nad oes mwy o fesurau yn cael eu cyhoeddi, yn ôl gwyddonwyr Llywodraeth y DU.

    Yn ôl Syr Patrick Vallance “fe allai hynny olygu 200 o farwolaethau pob dydd erbyn mis Tachwedd”.

    Rhybuddiodd ein bod ar bwynt tyngedfennol yn y pandemig ac rydym yn teithio i’r cyfeiriad anghywir.

    Ychwanegodd bod y feirws yn dyblu pob saith diwrnod ar hyn o bryd ac os nad ydy’r pandemig yn newid cyfeiriad, mi fyddwn mewn “sefyllfa anodd”.

    Ychwanegodd yr Athro Whitty: “Os nad ydym yn gwneud digon ac mae’r feirws yn mynd allan o reolaeth, mi fydd ‘na nifer sylweddol o farwolaethau uniongyrchol ac anuniongyrchol, ond os rydym yn mynd rhy bell i’r cyfeiriad arall, mi allwn ni wneud niwed i’r economi fydd yn achosi mwy o ddiweithdra a thlodi a gall hyn greu problemau iechyd yn yr hir dymor.

    "Mae’n rhaid i ni gadw’r ddwy ochr mewn golwg."

    Syr Patrick VallanceFfynhonnell y llun, PA Media