Crynodeb

  • Gosod cyfyngiadau lleol mewn grym ym Mlaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

  • Y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething fu'n cynnal cynhadledd Llywodraeth Cymru

  • Gwyddonwyr Llywodraeth y DU yn rhybuddio y gallwn weld 50,000 o achosion y dydd erbyn canol Hydref

  1. Brechlyn i rai erbyn diwedd y flwyddyn?wedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Llywodraeth y DU

    Dywedodd Syr Patrick Vallance yn ystod y gynhadledd yn Lloegr fod y gwaith o ddod o hyd i frechlyn yn mynd yn dda.

    Ychwanegodd fod y "DU mewn safle da" a'i bod yn bosib y byddai brechlyn ar gael erbyn diwedd y flwyddyn mewn niferoedd bychain ar gyfer rhai grwpiau.

    "Yn y cyfamser, mae'n rhaid i ni gael rheolaeth ar y sefyllfa," meddai.

  2. '6,000 yn cael eu heintio yn ddyddiol'wedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Llywodraeth y DU

    Wrth gyfeirio at ffigyrau gwledydd Prydain dywedodd Syr Patrick Vallance fod yna gynnydd o ran pob oedran.

    Fe gafodd prif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth San Steffan ei holi a oedd y cynnydd yn adlewyrchiad syml bod yna fwy o brofion yn cael eu cynnal.

    "Na," meddai yn syml, gan ddweud fod ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau ac astudiaethau eraill yn dangos hynny.

    "Mae yna amcangyfrif fod tua 70,000 o bobl yn y DU ar hyn o bryd wedi eu heintio, a bod tua 6,000 yn cael eu heintio yn ddyddiol," meddai

    prawfFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Ail gyfnod clo cenedlaethol 'ddim ar fin digwydd'wedi ei gyhoeddi 11:37 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Nid yw cyfnod clo cenedlaethol arall ar hyd Cymru "ar fin digwydd, ond mae o hyd yn bosib," meddai'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.

    Daw ei sylwadau yn dilyn rhybudd gan Lywodraeth y DU am gyfyngiadau llymach i ddod yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19 ym mhedair cenedl y DU.

    Mae dwy sir yng Nghymru - Caerffili a Rhondda Cynon Taf - yn destun cyfyngiadau lleol ar y funud.

    Ychwanegodd Mr Gething y gellid ystyried camau rhanbarthol.

    Wrth siarad ar BBC Radio Wales fore dydd Llun, dywedodd: "Nid ydw i'n credu fod [cyfnod clo cenedlaethol] ar fin digwydd, ond mae o hyd yn bosib."

    Mae rhagor ar y stori yma ar ein hafan.

    CaerffiliFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Lleiafrif o'r boblogaeth â gwrthgyrffwedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Llywodraeth y DU

    Yn ôl Syr Patrick Vallance - prif ymgynghorydd meddygol Lloegr - mae tua thair miliwn o bobl ym Mhrydain - neu 8% o'r boblogaeth - â gwrthgyrff i'r haint, sy'n golygu bod y mwyafrif helaeth ohonom heb amddiffyniad i'r feirws.

    Pe bai rhywun â gwrthgyrff, mae'n awgrymu eu bod eisoes wedi cael y feirws.

    Mae nifer y bobl sydd â gwrthgyrff ychydig yn uwch yn y dinasoedd mawrion - a gall fod mor uchel â 17% yn Llundain.

  5. Coronafeirws yn 'broblem am chwe mis arall'wedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Llywodraeth y DU

    Dywedodd yr Athro Chris Whitty wrth y gynhadledd deledu y bydd coronafeirws yn "broblem am chwe mis arall".

    "Mae'r tymhorau yn ein herbyn ni. Rydyn ni nawr yn mynd i'r tymhorau y mae feirysau resbiradol yn ffynnu ynddynt," meddai Prif Swyddog Meddygol Lloegr.

    Ychwanegodd ei bod yn debygol y bydd coronafeirws yn fwy o broblem yn yr hydref a'r gaeaf.

    "Mae'r cyfnod nesaf yma o chwe mis yn un sydd angen ei gymryd o ddifrif," meddai.

  6. Cadarnhau achos o Covid-19 yn Ysgol Aberconwywedi ei gyhoeddi 11:17 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Cyngor Sir Conwy

    Mae achos o Covid-19 wedi cael ei gadarnhau yn chweched dosbarth Ysgol Aberconwy yng Nghonwy.

    Dywedodd datganiad ar wefan yr ysgol ddoe bod yr ysgol wedi gwneud cais i bob disgybl chweched dosbarth hunan-ynysu a pharhau gyda'u haddysg o adref.

    Bydd pob blwyddyn arall yn parhau i fynychu'r ysgol.

    Dywedodd y pennaeth, Ian Gerrard: "Mae'r mesurau rydyn ni wedi'u rhoi mewn lle yn golygu bod grwpiau yn cael eu cadw ar wahân, a bod unrhyw ardaloedd sydd wedi'u heffeithio ar y safle yn cael eu glanhau yn drwyadl."

  7. 'Cyfle olaf' i osgoi cyfyngiadau ym Mhen-y-bontwedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr

    Mae arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhybuddio trigolion eu bod yn wynebu eu "cyfle olaf" er mwyn osgoi cyfyngiadau llymach yn y sir er mwyn atal lledaeniad Covid-19.

    Dywedodd y Cynghorydd Huw David bod achosion wedi cynyddu'n sydyn dros yr wythnos ddiwethaf, a hynny "heb unrhyw ffynonellau amlwg allai egluro pam fod hyn wedi digwydd".

    "Mewn ardaloedd ble mae cyfnod clo lleol eisoes mewn lle fel Caerffili a Rhondda Cynon Taf roedd mwyafrif yr achosion yn gallu cael eu cysylltu â digwyddiadau penodol, ond nid hynny sy'n digwydd yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr," meddai.

    "Mae'r cynnydd sydyn mewn achosion positif yn bryder enfawr.

    "Mae'r data yn cael ei ystyried yn ofalus iawn, a dylai pobl ddeall ei bod yn bosib iawn y bydd angen gweithredu pellach ym Mhen-y-bont i gadw pobl yn ddiogel a dadwneud y cynnydd mewn achosion."

  8. 'Y DU yn mynd i'r cyfeiriad anghywir'wedi ei gyhoeddi 11:04 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Mae Prif Swyddog Meddygol Lloegr ar fin dechrau ei ddatganiad teledu, a ddaw yn sgil cyfarfod â Phrif Weinidog y DU Boris Johnson a gweinidogion eraill ddoe.

    Bydd yr Athro Chris Whitty yn dweud bod "y duedd yn y DU yn mynd i'r cyfeiriad anghywir, ac rydyn ni ar bwynt allweddol yn y pandemig".

    Ddoe cafodd 3,899 o achosion eu cofnodi yn y DU - 199 o'r rheiny yng Nghymru.

    Mae adroddiadau bod Mr Johnson yn ystyried cyfnod clo o bythefnos yn Lloegr er mwyn ceisio rheoli'r cynnydd mewn achosion.

    WhittyFfynhonnell y llun, PA Media
  9. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 11:00 Amser Safonol Greenwich+1 21 Medi 2020

    Bore da a chroeso i'n llif byw ar ddydd Llun, 21 Medi.

    Byddwn yn dod â'r diweddaraf o gynhadledd Prif Swyddog Meddygol Lloegr, Chris Whitty i chi o 11:00, ac yna bydd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn annerch cynhadledd Llywodraeth Cymru o 12:30.

    Arhoswch gyda ni am y diweddaraf.