Crynodeb

  • Bydd yn rhaid i dafarndai, caffis a bwytai yng Nghymru gau am 22:00 bob nos o dan fesurau newydd i reoli cyfradd gynyddol coronafeirws, mae BBC Cymru yn deall

  • Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru hefyd ofyn i bobl beidio â theithio'n ddiangen mewn darllediad teledu am 20:05 heno

  • Boris Johnson, Prif Weinidog y DU, wedi cadarnhau cyfres o fesurau newydd i Loegr yn sgil cynnydd yn achosion coronafeirws

  • Bydd rhaid i gwsmeriaid a staff siopau a'r diwydiant lletygarwch wisgo masgiau dan do yn Lloegr, oni bai am pan maen nhw'n yfed neu fwyta

  • Ni fydd mwy na 15 o bobl yn cael mynychu priodasau, a fydd dim mwy na 30 yn cael bod yn bresennol mewn angladdau yn Lloegr

  • Yr Alban wedi cadarnhau mesurau tebyg, yn ogystal â chyhoeddi na fydd pobl o gartrefi gwahanol yn cael cyfarfod y tu fewn

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru yn "cadw golwg" ar niferoedd coronafeirws mewn wyth sir yng Nghymru

  • Am 18:00 heno, trigolion Pen-y-Bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd yn wynebu cyfyngiadau newydd

  1. Covid-19: Beth ydy'r mesurau diweddaraf yng Nghymru?wedi ei gyhoeddi 07:07 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2020

    Mark Drakeford yn cyflwyno rhagor o gyfyngiadau gan gynnwys cau tafarndai a thai bwyta awr yn gynt.

    Read More
  2. Hwyl fawr am y trowedi ei gyhoeddi 18:25 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Diolch i chi am ddilyn ein llif byw heddiw wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws newid yma yng Nghymru ac yng ngweddill y DU.

    Bydd yr ymateb yn llawn i'r rheolau newydd ar Cymru Fyw, wrth gwrs, ac ar raglen Newyddion ar S4C o 19:30 heno.

    Fe fyddwn ni'n ôl ar y llif byw yfory wrth i Mark Drakeford siarad o gynhadledd Llywodraeth Cymru.

    Tan hynny, diolch am ymuno a byddwch yn ddiogel.

  3. Disgwyl i Gymru gau tafarndai a bwytai am 10wedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020
    Newydd dorri

    Bydd yn rhaid i dafarndai, caffis a bwytai yng Nghymru gau am 22:00 bob nos o dan fesurau newydd i reoli cyfradd gynyddol coronafeirws, mae BBC Cymru yn deall.

    Mae'r mesurau, i ddod i rym ddydd Iau am 18:00, yn dilyn penderfyniadau tebyg gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban.

    Bydd gwerthiant alcohol o siopau ac archfarchnadoedd hefyd yn cael ei stopio ar ôl 22:00.

    Mae'n debyg hefyd y bydd yn ofynnol i dafarndai ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig.

    Disgwylir i'r Prif Weinidog ailadrodd y dylai pobl weithio gartref os allan nhw, mewn neges i'w darlledu yn ddiweddarach. Mae disgwyl iddo hefyd ofyn i bobl beidio â theithio'n ddiangen.

    Bydd datganiadau Boris Johnson a Mark Drakeford yn cael eu darlledu ar y teledu o 20:00 heno.

  4. 'Mater o wythnosau' cyn i achosion 'gynyddu'n sydyn'wedi ei gyhoeddi 17:48 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

    Mae cyrff cyhoeddus ar draws ardal Cwm Taf Morgannwg wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd y prynhawn yma'n rhybuddio y gallai nifer y cleifion yn ysbytai'r ardal "godi'n sydyn" mewn "mater o wythnosau" os nad oes mwy'n cael ei wneud i daclo Covid-19.

    Dywedodd arweinwyr cynghorau Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, Bwrdd Iechyd Cwm Taf, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Heddlu'r De fod cynnydd yn nifer yr achosion "yn bryder cynyddol".

    "Mae'n rhwystredig bod rhai pobl sydd heb fod yn dilyn y canllawiau dal ddim yn gwneud," meddai Dr Kelechi Nnoaham, cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

    "Maen nhw'n ymlacio yn enwedig o gwmpas pobl maen nhw'n 'nabod - mae'n rhaid i hyn stopio."

    Ychwanegodd bod y twf mewn achosion wedi'i weld ymhlith y grŵp oedran 40+, a bod y feirws yn lledaenu'n aml rhwng teulu a ffrindiau.

    "Mae 'na fygythiad go iawn nawr mai dim ond wythnosau sydd i fynd nes y bydd yr achosion cymunedol yma'n troi mewn i lefelau uchel o bobl yn yr ysbyty," meddai.

    "Y gwir yw bod nifer y cleifion ysbyty yn cynyddu'n barod - nid myth yw hyn."

  5. Llun o Carwyn Jones 'yn gorchuddio'i wyneb â hances'wedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Twitter

    Mae'r cyn-brif weinidog Carwyn Jones wedi cael ei feirniadu am ddefnyddio hances boced i orchuddio'i wyneb mewn siop hufen iâ.

    Cafodd llun ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos Mr Jones yn dal yr hances yn erbyn ei geg a'i drwyn yn siop Fablas ym Mhorthcawl.

    Mae rheolau Llywodraeth Cymru'n dweud bod rhaid gwisgo mwgwd mewn siopau, gan gynnwys wrth brynu a chasglu bwyd.

    Gallai hynny olygu gorchuddion wyneb sydd wedi'u gwneud adref, ond dylen nhw gael eu dal yn eu lle gyda llinyn neu glipiau, yn hytrach na'r dwylo.

    Ond dywedodd Mr Jones nad oedd wedi gwneud dim o'i le a bod y feirniadaeth yn "wirion".

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter

    Mewn datganiad yn ddiweddarach, dywedodd Mr Jones: "Nid oedd yn glir bod angen i mi wisgo mwgwd yn yr adeilad hwn. Serch hynny, mi wnes i estyn am fy masg tra roeddwn i y tu mewn ond sylweddolais fy mod i wedi gadael y blwch o fasgiau yn y car.

    "Y peth gorau oedd defnyddio hances lân dros fy ngheg a'm trwyn fel gorchudd wyneb.

    "Yn eironig roeddwn i newydd ddod o ganolfan arddio lle roeddwn i'n gwisgo mwgwd."

  6. Maes carafanau Bae Trecco i gau am y trowedi ei gyhoeddi 17:15 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Bae TreccoFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae perchnogion maes carafanau Bae Trecco ger Porthcawl wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cau eu drysau am y tro o ganlyniad i'r cyfyngiadau newydd sydd ar fin dod i rym.

    Bydd Pen-y-bont ar Ogwr, fel tair sir arall, yn ymuno â Rhondda Cynon Taf a Chaerffili mewn cyfyngiadau Covid-19 newydd o 18:00 heno ymlaen.

    Mae Parkdean Resorts wedi gofyn i unrhyw un sydd ar y safle ar hyn o bryd i adael mor fuan ag y gallen nhw, ac i'r rheiny sydd heb gyrraedd eto i beidio teithio.

    Bydd cwsmeriaid yn cael cynnig arian yn ôl, nodyn credyd gwerth 120% o'u harcheb, neu'r opsiwn i archebu lle mewn maes carafanau gwahanol gyda'r cwmni.

  7. Apelio ar ffans Elvis i gadw draw o Borthcawlwedi ei gyhoeddi 16:54 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr

    gwyl elvis
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r ŵyl flynyddol ym Mhorthcawl fel arfer yn denu degau ar filoedd o bobl

    Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi galw ar bobl oedd wedi bwriadu teithio i Borthcawl y penwythnos yma ar gyfer Gŵyl Elvis i beidio dod.

    Fe gyhoeddodd y trefnwyr fis diwethaf nad oedd yr ŵyl am fynd yn ei blaen eleni, ond er hynny mae pryder y gallai rhai pobl deithio o rannau eraill o Brydain beth bynnag, yn enwedig os ydyn nhw eisoes wedi archebu lle i aros.

    Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn un o'r siroedd diweddaraf i ddod dan gyfyngiadau newydd Llywodraeth Cymru, a hynny o 18:00 heno ymlaen.

    Mae'n golygu nad oes unrhyw un i fod i deithio i mewn ac allan o'r sir heb reswm da.

    Ychwanegodd y cyngor y byddai swyddogion Heddlu'r De ar strydoedd Porthcawl yn ystod y penwythnos i gadw golwg ar y sefyllfa.

  8. Ffigwr dyddiol uchaf yn y DU ers mis Maiwedi ei gyhoeddi 16:40 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Roedd 4,926 o achosion coronafeirws newydd yn y DU yn y 24 awr ddiwethaf, yn ôl Llywodraeth y DU.

    Dyma'r ffigwr uchaf ers 7 Mai (5,614). Mae dros 400,000 o bobl yn y DU wedi dal yr haint erbyn hyn.

    Bu farw 37 o bobl - gyda'r cyfanswm yn y DU bellach yn 41,825.

    Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 281 o achosion newydd - y ffigwr dyddiol uchaf yng Nghymru ers 20 Ebrill.

  9. Pryderu am y coronafeirws?wedi ei gyhoeddi 16:35 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Twitter

    Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cyhoeddi fideo yn pwysleisio'r camau all pobl gymryd i leihau eu risg o ddal coronafeirws.

    Mae'r pwyslais mwyaf o hyd ar geisio osgoi cwrdd â phobl dan do cymaint â phosib, gan mai dyna ble mae'r feirws yn lledaenu hawsaf.

    Dylai pobl hefyd ddilyn canllawiau hylendid a golchi dwylo os ydyn nhw'n mynd i lefydd cyhoeddus, yn enwedig os ydyn nhw'n cyffwrdd pethau.

    Mae gwisgo mwgwd hefyd yn ffordd o leihau'r risg o drosglwyddo Covid-19 yn yr aer.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. 'Ystyried cau tafarndai am 22:00 yng Nghymru'wedi ei gyhoeddi 16:14 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried gorfodi tafarndai yng Nghymru i gau am 22:00, meddai’r gweinidog iechyd Vaughan Gething.

    Bydd Llywodraeth y DU yn gorfodi tafarndai i gau am 22:00 yn Lloegr o ddydd Iau.

    Mae tafarndai mewn ardaloedd clo lleol eisoes yn gorfod cau yng Nghymru am 23:00.

    "Rydyn ni’n ystyried a ddylid symud i 22:00," meddai wrth Senedd Cymru sy’n eistedd ym Mae Caerdydd.

    "Mae yna rywbeth am gysondeb yno a allai fod o gymorth gyda’r neges."

    Vaughan Gething

    Dywedodd fod Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried a ddylid gofyn i dafarndai ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig, gan fod llywodraeth y DU yn gofyn i dafarndai Lloegr wneud hynny.

    Mae disgwyl cadarnhad o'r newidiadau i'r cyfyngiadau yng Nghymru yn ddiweddarach heddiw.

  11. 12 o fyfyrwyr wedi cael prawf positifwedi ei gyhoeddi 16:05 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Prifysgol Abertawe

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cael gwybod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 12 o fyfyrwyr yno wedi cael prawf positif am coronafeirws.

    Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Mae ein pryderon uniongyrchol ar gyfer y myfyrwyr yr effeithir arnynt a'u teulu ynghyd ag iechyd a lles cymuned ehangach y brifysgol.

    "Rydym yn deall y bydd pryder am y datblygiad hwn ond gallwn sicrhau myfyrwyr, staff, ymwelwyr a'r gymuned ehangach mai eu diogelwch yw ein prif flaenoriaeth.

    "Rydym yn gweithio'n agos gyda'r GIG a ICC sy'n arwain ar yr ymateb i'r datblygiad hwn ac yn dilyn y strategaeth profi, olrhain, diogelu. Mae ICC yn ein diweddaru ni am yr amgylchiadau ac unrhyw gamau pellach."

  12. Sut mae trigolion yn teimlo am gyfyngiadau lleol?wedi ei gyhoeddi 15:55 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Bydd cyfyngiadau pellach yn dod i rym mewn rhyw ddwyawr (18:00) yn siroedd Pen-y-Bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd.

    Mae Rhys Bebb yn byw yng Nghasnewydd ac roedd newydd ddechrau ei swydd newydd gyda Screen Alliance Wales ychydig cyn y cyfnod clo ym mis Mawrth.

    "Dim ond unwaith rwy' wedi cyfarfod â fy rheolwr," meddai. "Mae rhywun yn gorfod derbyn cyfyngiadau pellach a dyw e ddim yn syndod i ddweud y gwir eu bod wedi'u cyflwyno yn yr hydref.

    "Fel cyn-athro rwy'n gwybod bod hwn yn gyfnod heintus beth bynnag a nifer o'r plant yn dal rhywbeth wedi iddyn nhw ddychwelyd i'r ysgol. Gobeithio nawr y bydd pethau'n dod yn well wedi hyn."

    Meryl
    Disgrifiad o’r llun,

    Meryl Darkins

    Dywed Meryl Darkins, sy'n byw yn Nhredegar ym Mlaenau Gwent ei bod yn siomedig iawn ond ei bod yn deall y rhesymau.

    "Mae'n nheulu i yn byw yng Nghaerffili a dydyn nhw ddim yn gallu gadael beth bynnag," meddai.

    "Mae'r cyfyngiadau yn y ddwy sir yn golygu hefyd nad wyf i'n gallu mynd i'r capel yn Rhymni. Roeddwn i wedi dechrau cynnal gwasanaethau ym mis Awst. Ydw rwy'n siomedig ond yn deall pam, wrth gwrs."

  13. Beirniadu Drakeford am annerch y genedl ar y teleduwedi ei gyhoeddi 15:31 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn siarad heno am 20:05 ar BBC Cymru ac yn rhoi mwy o wybodaeth yfory yng nghynhadledd y llywodraeth.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter

    Ond nid pawb sy'n hapus gyda'r penderfyniad.

    Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price y dylai'r pleidiau gael y cyfle i ddangos "cefnogaeth" a "c[h]raffu...lle mae rhaid".

    Mae cyfarfod llawn o'r Senedd yn digwydd ar hyn o bryd, ac mae modd dilyn y diweddaraf ar Senedd Fyw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 2
  14. Drakeford i ofyn am lai o deithio diangenwedi ei gyhoeddi 15:17 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi galw ar i bobl yng Nghymru leihau teithio nad yw'n angenrheidiol.

    Daw hyn cyn iddo wneud cyhoeddiad ar gyfyngiadau pellach yn ddiweddarach heno.

    Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, pa ystyriaeth a roddwyd i wahardd teithio nad yw'n hanfodol o ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau llymach, a gweddill y DU i Gymru.

    "Byddaf yn dweud rhywbeth yn ddiweddarach heddiw ynglŷn â cheisio annog pobl yng Nghymru, dim ond i wneud y teithiau hynny sy’n wirioneddol angenrheidiol," meddai’r prif weinidog.

    "Rwy’n credu y dylai pob un ohonom fod yn gofyn i’n hunain - 'a yw’r daith honno’n hanfodol mewn gwirionedd?'

    "Oherwydd y lleiaf o bobl rydych chi'n cwrdd â nhw, y lleiaf o deithiau rydych chi'n eu gwneud, y lleiaf o berygl rydych chi'n ei beri i chi'ch hun ac i eraill."

  15. Gweithiwr Tesco yng Ngwynedd yn profi'n bositifwedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Mae aelod o staff mewn archfarchnad Tesco yng Ngwynedd wedi profi'n bositif am Covid-19.

    Mae'r aelod o staff yn gweithio yn Tesco Extra ym Mangor, a gofynnwyd i'r person hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl y prawf positif yn gynharach yn y mis.

    Mae'n debyg i'r gweithiwr ddal yr haint y tu allan i'r gwaith.

    Dywedodd llefarydd ar ran Tesco: "Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth.

    "Rydym wedi cyflwyno mesurau helaeth ar draws ein holl siopau i helpu i gadw pawb yn ddiogel, gan gynnwys sgriniau amddiffynnol ym mhob til, arwyddion pellhau cymdeithasol a glanhau dwfn yn rheolaidd."

    Tesco ExtraFfynhonnell y llun, Google
  16. Sawl achos positif sydd yn ysgolion Cymru?wedi ei gyhoeddi 14:55 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Dywedodd Prif Weinidog Cymru fod achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi mewn 275 ysgol yng Nghymru ers 1 Medi.

    Wrth siarad yng nghyfarfod llawn y Senedd, dywedodd Mark Drakeford fod 147 o ddisgyblion a 135 o aelodau staff wedi'u heffeithio ar y cyfan.

    Mewn 198 ysgol allan o'r 275 gafodd eu heffeithio, dim ond un achos oedd yn yr ysgol.

    Mae'r data'n dangos mai cael eu cymryd i'r ysgol, yn hytrach na dal yr haint yn yr ysgol, oedd wedi digwydd, yn ôl Mr Drakeford.

    Mae modd dilyn y cyfarfod ar Senedd Fyw.

  17. Yr Alban yn cyhoeddi mesurau newyddwedi ei gyhoeddi 14:44 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Mae Prif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon wedi cyhoeddi cyfres o gyfyngiadau coronafeirws newydd.

    Yn wahanol i Loegr, ni fydd pobl o gartrefi gwahanol yn cael cyfarfod y tu fewn yn unman yn Yr Alban. Mae hynny eisoes yn wir yn Glasgow.

    Fe gadarnhaodd hefyd y byddai'r Alban, fel Lloegr, yn gofyn i fwytai a thafarndai gau am 22:00.

    Cafodd 383 o profion Covid-19 positif eu cofnodi yn Yr Alban yn y 24 awr ddiwethaf - gan godi'r cyfanswm yno i 25,009.

    NS
  18. Pa siroedd sydd yn agos at weld cyfyngiadau pellach?wedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Rhondda CTFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd 77 o achosion positif o Covid-19 eu cofnodi yn Rhondda Cynon Taf yn y 24 awr ddiwethaf - y ffigwr uchaf yng Nghymru

    Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod Merthyr Tudful (112.7) a Rhondda Cynon Taf (102.4) yn parhau'n bell ar y blaen o ran nifer yr achosion am bob 100,000 person dros y saith diwrnod diwethaf.

    Y pedair sir arall sydd dan gyfyngiadau ar hyn o bryd yw Blaenau Gwent (68.7), Pen-y-bont ar Ogwr (65.3), Casnewydd (39.4) a Chaerffili (38.7).

    Yn ogystal â hynny mae wyth sir ar restr y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn "cadw golwg" arno rhag ofn bod y gyfradd yn parhau i godi.

    Y rheiny yw Sir Gaerfyrddin (34.4), Caerdydd (27.5), Abertawe (25.9), Bro Morgannwg (22.5), Sir Ddinbych (20.9), Ynys Môn (20.0), Sir y Fflint (19.9) a Sir Conwy (18.8).

    Mae gweddill siroedd Cymru i gyd o dan 12 achos am bob 100,000 person - y gyfartaledd ar draws y wlad ar hyn o bryd ydy 32.1.

  19. Ffigwr dyddiol uchaf ers diwedd Ebrillwedi ei gyhoeddi 14:11 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae 281 o achosion newydd o coronafeirws wedi cael eu cadarnhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Dyma'r ffigwr dyddiol uchaf ers 20 Ebrill.

    Nid oes unrhyw farwolaethau pellach, sy'n golygu bod cyfanswm y marwolaethau yn parhau i fod yn 1,603.

    Cyfanswm yr achosion bellach yw 21,159. Er, fel y dangosodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gynharach heddiw, mae'r ffigyrau yma'n uwch mewn gwirionedd.

    Yn y 24 awr ddiwethaf, roedd 77 o'r achosion yn Rhondda Cynon Taf, 34 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 30 yng Nghaerdydd, 28 yn Abertawe a 20 ym Merthyr Tudful.

  20. Oedi pellach i ddechrau tymor Wrecsam?wedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Chwaraeon BBC Cymru

    Gallai'r penderfyniad i beidio â chaniatáu i unrhyw gefnogwyr fynychu gemau chwaraeon ym mis Hydref gael effaith ar ddechrau tymor pêl-droed Wrecsam.

    Oherwydd y cyfyngiadau sy'n parhau, mae sôn na fydd y Gynghrair Genedlaethol yn ailddechrau fis nesaf, a hynny gan fod cymaint o glybiau ar y lefel hwnnw yn dibynnu ar incwm o werthiant tocynnau i'w cynnal.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter