Crynodeb

  • Bydd yn rhaid i dafarndai, caffis a bwytai yng Nghymru gau am 22:00 bob nos o dan fesurau newydd i reoli cyfradd gynyddol coronafeirws, mae BBC Cymru yn deall

  • Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru hefyd ofyn i bobl beidio â theithio'n ddiangen mewn darllediad teledu am 20:05 heno

  • Boris Johnson, Prif Weinidog y DU, wedi cadarnhau cyfres o fesurau newydd i Loegr yn sgil cynnydd yn achosion coronafeirws

  • Bydd rhaid i gwsmeriaid a staff siopau a'r diwydiant lletygarwch wisgo masgiau dan do yn Lloegr, oni bai am pan maen nhw'n yfed neu fwyta

  • Ni fydd mwy na 15 o bobl yn cael mynychu priodasau, a fydd dim mwy na 30 yn cael bod yn bresennol mewn angladdau yn Lloegr

  • Yr Alban wedi cadarnhau mesurau tebyg, yn ogystal â chyhoeddi na fydd pobl o gartrefi gwahanol yn cael cyfarfod y tu fewn

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru yn "cadw golwg" ar niferoedd coronafeirws mewn wyth sir yng Nghymru

  • Am 18:00 heno, trigolion Pen-y-Bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd yn wynebu cyfyngiadau newydd

  1. Cwestiynau i Mark Drakefordwedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Senedd Fyw

    Mae cyfarfod llawn o Aelodau Senedd Cymru bellach wedi dechrau - gyda rhai yn y Siambr ei hun, ac eraill yn ymuno dros gyswllt fideo.

    Maen nhw'n dechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford - gallwch ddilyn y cyfan yn fyw ar y llif byw yma.

    SeneddFfynhonnell y llun, Senedd
  2. Mwy o achosion positif yng Ngholeg Sir Gârwedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Mae Coleg Sir Gâr wedi cadarnhau dau achos arall o Covid-19 ymhlith eu myfyrwyr, gan olygu bod cyfanswm y profion positif bellach wedi codi i bump.

    Dywedodd y coleg fodd bynnag nad oedd hyn yn newydd eu cyfarwyddyd i fyfyrwyr pynciau U2, sef y dylen nhw hunan ynysu a pharhau i dderbyn eu gwersi ar-lein nes o leiaf dydd Llun 5 Hydref.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Ysgol gynradd yn gorfod cau am bythefnoswedi ei gyhoeddi 13:19 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Cyngor Blaenau Gwent

    Bydd ysgol gynradd ym Mlaenau Gwent yn cau'n gyfan gwbl am bythefnos oherwydd bod cymaint o staff yn gorfod hunan-ynysu ar hyn o bryd.

    Dywedodd y cyngor sir y byddai'r addysg yn Ysgol Gynradd Ystruth ym Mlaenau yn parhau i ddigwydd ar-lein, a hynny er lles y disgyblion.

    Ychwanegodd yr awdurdod lleol nad oedd yr ysgol yn cau oherwydd achosion Covid-19, ond oherwydd nad oedd modd darparu addysg llawn mewn modd diogel oherwydd y prinder staff.

    Mae Blaenau Gwent yn un o bedwar sir newydd yng Nghymru gafodd eu rhoi dan gyfyngiadau newydd ddoe.

  4. Cosbau llymach am dorri rheolauwedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Llywodraeth y DU

    Dywed Mr Johnson y bydd y mesurau "ond yn gweithio os yw pobl yn cydymffurfio", ac yn tynnu sylw at y rhai "yn ddi-ffael" sy'n torri'r rheolau.

    O ganlyniad, dywedodd y byddai cosbau llymach i unrhyw un a fyddai'n torri'r rheolau diweddaraf.

    Dywedodd y bydd y dirwyon o £10,000 a gafodd eu rhoi i bobl nad oedd yn hunan-ynysu nawr yn cael ei ymestyn i fusnesau.

    A bydd y gosb am fethu â gwisgo mwgwd neu dorri 'rheol chwech' yn dyblu i £200, meddai.

    Mae'n bwysig nodi, wrth gwrs, mai mesurau ar gyfer pobl yn Lloegr ydy'r rhain ar hyn o bryd. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad yn ddiweddarach heddiw.

  5. Cyfyngiadau am chwe mis arall?wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Llywodraeth y DU

    Mae'n chwe mis ers i'r cyfnod clo gwreiddiol ddod i rym - a nawr mae Mr Johnson yn awgrymu y gallai'r cyfyngiadau presennol barhau am tua chwe mis arall.

    Dywedodd na fyddai Llywodraeth y DU yn gwrando i'r rheiny oedd am adael i'r feirws ledaenu'n naturiol drwy'r boblogaeth - ond nad oedden nhw chwaith eisiau mynd yn ôl i'r math o gyfyngiadau llymach a welwyd ym mis Mawrth.

    Mewn ymateb i gyhoeddiad Mr Johnson, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur - Syr Keir Starmer - y byddai'n annog pobl i ddilyn cyfarwyddyd newydd y llywodraeth.

  6. Cyfyngiadau Covid-19 newydd yn Lloegrwedi ei gyhoeddi 12:49 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Llywodraeth y DU

    Mae Boris Johnson wedi cadarnhau sawl mesur newydd yn Lloegr er mwyn ceisio atal lledaeniad Covid-19.

    Yn eu plith mae gofyn i bobl unwaith eto i weithio o adref os yn bosib, a gorfodaeth ar dafarndai i gau am 22:00.

    Bydd rhaid i gwsmeriaid a staff siopau a'r diwydiant lletygarwch hefyd wisgo masgiau dan do ym mhobman, oni bai am pan maen nhw'n yfed neu fwyta.

    Ni fydd mwy na 15 o bobl yn cael mynychu priodasau, a fydd dim mwy na 30 yn cael bod yn bresennol mewn angladdau.

    Ychwanegodd bod disgwyl i'r llywodraethau datganoledig gyhoeddi "camau tebyg" nes ymlaen.

    Boris Johnson
  7. Disgwyl cyhoeddiad gan Johnsonwedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Mae disgwyl i Brif Weinidog y DU, Boris Johnson wneud datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin unrhyw funud.

    Dywedodd Llywodraeth y DU nos Lun y byddai bwytai, tafarndai a bariau yn Lloegr yn gorfod cau am 22:00 o ddydd Iau ymlaen.

    Ond yn dilyn trafodaethau yn ystod cyfarfod Cobra y bore 'ma, mae'n debyg y bydd mwy o newidiadau maes o law.

    Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud y byddan nhw'n gwneud datganiad ddiweddarach heddiw.

  8. Profion Covid-19 i bob ysgol yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cael offer profi Covid-19 er mwyn ceisio atal lledaeniad y feirws.

    Pwysleisiodd y llywodraeth mai dim ond staff sydd yn dangos symptomau ddylai gael prawf, ac y dylen nhw hefyd hunan ynysu tan eu bod nhw wedi cael y canlyniad.

    Daw hynny yn dilyn galwad gan undebau addysg i flaenoriaethu profion ar gyfer staff ysgolion.

    disgyblionFfynhonnell y llun, PA Media
  9. Disgwyl mwy o fesurau Covid-19 yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020
    Newydd dorri

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi rhyddhau datganiad yn dilyn y trafodaethau rhwng Mark Drakeford ac arweinwyr gwledydd eraill y DU yn gynharach heddiw.

    "Yn y cyfarfod fe wnaehton nhw drafod sawl cam DU-gyfan y gallen nhw gymryd mewn ymateb i'r cynnydd yn lledaeniad Covid-19 - rhai ohonynt, fel yr angen i weithio i adref ble mae'n bosib, sydd eisoes mewn grym yng Nghymru," meddai llefarydd.

    "Bydd y Prif Weinidog yn amlinellu nes ymlaen heddiw pa gamau pellach fydd yn cael eu cymryd yng Nghymru.

    "Fe wnaeth y Prif Weinidog hefyd groesawu ymrwymiad Prif Weinidog y DU i gael cysondeb yn y drefn o wneud penderfyniadau ar draws y DU gyfan, gyda llywodraethau datganoledig yn cael rôl glir a phwysig yn y broses honno."

    Daw'r sylwadau hynny yn dilyn beirniadaeth gan Mr Drakeford yr wythnos diwethaf o'r diffyg cyfathrebu rhwng Boris Johnson ac arweinwyr y gwledydd datganoledig dros yr wythnosau diwethaf pan oedd hi'n dod at daclo coronafeirws.

  10. Dim torf i gêm Cymru a Lloegr yn Wembleywedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Llywodraeth y DU

    bale a rooneyFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Sgoriodd Gareth Bale y tro diwethaf i Gymru herio Lloegr - yn Euro 2016 - ond yn anffodus colli wnaethon nhw y diwrnod hwnnw yn Lens

    Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu gohirio cynlluniau i ddechrau gadael i nifer cyfyngedig o gefnogwyr fynychu digwyddiadau chwaraeon yn Lloegr o 1 Hydref ymlaen.

    Roedd bwriad i adael hyd at 1,000 o gefnogwyr i mewn i rai gemau a digwyddiadau, ond mae hynny bellach wedi ei oedi yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion.

    Dydy Llywodraeth Cymru heb roi unrhyw awgrym eto eu bod nhw'n paratoi i adael i bobl fynychu digwyddiadau chwaraeon.

    Ond mae'r penderfyniad ar gyfer Lloegr yn edrych fel cadarnhad na fydd unrhyw dorf yno ar gyfer y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Lloegr yn Wembley ar 8 Hydref.

    Mewn ymateb dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru mai mater i Gymdeithas Bêl-droed Lloegr a Llywodraeth y DU oedd cael torf yno ai peidio, ond nad oedden nhw wedi cael unrhyw drafodaethau'n ddiweddar am werthiant tocynnau.

  11. 'Rheol chwe pherson' o hyd dan dowedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi atgoffa pobl unwaith eto mai dim ond nifer cyfyngedig o bobl - a hynny o'r un cartref estynedig yn unig - sydd yn cael cyfarfod dan do o hyd.

    Mae hawl wrth gwrs i hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored, cyn belled â'u bod nhw'n cadw at y rheolau ar bellter cymdeithasol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. 'Neges Cymru ar weithio o adref heb newid'wedi ei gyhoeddi 11:52 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi atgyfnerthu ei neges y dylai pobl yng Nghymru weithio o adref pan fo hynny'n bosib.

    Daw ei sylwadau ar ôl i aelod cabinet y DU, Michael Gove ddweud y dylai pobl yn Lloegr weithio o adref os yn bosib. Yn flaenorol, roedd Llywodraeth y DU wedi annog pobl i fynd yn ôl i'r gwaith.

    "Yma yng Nghymru dydyn ni erioed wedi newid ein neges ar weithio o adref," meddai Mr Drakeford wrth Sky News.

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images

    "Rydyn ni wedi dweud drwy gydol yr amser os gallwch chi weithio'n llwyddiannus gartref, dyna'n union beth rydyn ni am i chi ei wneud.

    "Y lleiaf o bobl rydych chi'n cwrdd â nhw, y lleiaf o bellter rydych chi'n ei deithio, y lleiaf o risg rydych chi'n ei beri i chi'ch hun ac i eraill, felly byddwn ni'n atgyfnerthu'r neges honno heddiw ochr yn ochr â'r neges o'r newydd ar lefel y DU."

  13. Cwsmeriaid tafarn 'yn rhoi'r manylion anghywir'wedi ei gyhoeddi 11:41 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Cyngor Ynys Môn

    Mae Cyngor Môn wedi galw ar drigolion lleol i sicrhau eu bod nhw'n rhoi eu manylion yn gywir ac yn glir pan maen nhw'n ymweld â bwytai a thafarndai ar yr ynys.

    Daw hynny yn dilyn achos o dafarn yng Nghaergybi ble mae swyddogion olrhain cysylltiadau wedi methu â chysylltu efo sawl person oedd wedi bod yno yr un pryd â rhywun gafodd brawf Covid-19 positif.

    Roedd hynny, medden nhw, am bod llawer o'r manylion un ai heb gael eu hysgrifennu'n glir, neu yn gwbl anghywir.

    "O ganlyniad, rydym yn wynebu’r posibilrwydd o’r feirws yn lledaenu yn eang yn y gymuned gan achosi mwy o farwolaethau o ganlyniad i Covid-19, sefyllfa a fyddai’n drychinebus," meddai prif weithredwr Cyngor Môn, Annwen Morgan.

    Ychwanegodd: "Dydy o ddim yn anodd ac yn y pen draw fe allech helpu Ynys Môn i osgoi cyfnod clo lleol a mesurau llawer fwy caeth; fel yr ydym wedi’i weld mewn nifer o siroedd eraill yng Nghymru yn ddiweddar."

    Cyngor Mon
  14. Ymwelwyr o ardaloedd clo Lloegr yn 'bryder' i gymunedauwedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Abersoch wedi bod yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr yn ystod y pandemig
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Abersoch wedi bod yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr yn ystod y pandemig

    Mae pryder bod twristiaid o ardaloedd yn Lloegr sydd â chyfyngiadau lleol mewn grym yno yn parhau i allu ymweld â gogledd Cymru.

    Mae'n rhaid i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd sydd dan gyfyngiadau lleol yn ne Cymru gael "esgus rhesymol" dros groesi ffiniau'r sir, fel mynd i'r gwaith neu addysg.

    Ond mae'r rheolau'n wahanol yn Lloegr, ble mae hawl gan bobl sy'n byw dan gyfyngiadau lleol i fynd ar wyliau.

    Oherwydd hynny mae pryderon bod pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn Lloegr - ble mae lefelau uchel o'r feirws - yn parhau i ymweld â gogledd-orllewin Cymru.

    Dywedodd Llywodraeth Cymru mai "mater i Lywodraeth y DU ydy'r mesurau yn Lloegr".

    Dywedodd Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian: "Dydy o'm i weld yn gwneud llawer o synnwyr i mi fod pobl sy'n byw yng Nghaerffili a'r Rhondda a llefydd eraill sydd bellach mewn clo lleol ddim yn cael teithio allan o'u hardal - a dwi'n cytuno 'efo hynny - ond ar y llaw arall bod pobl sydd mewn sefyllfa debyg iawn i'r trigolion hynny yn cael teithio allan o'u hardaloedd nhw [yn Lloegr]."

  15. 'Cadw golwg' ar wyth sir wrth i niferoedd Covid godiwedi ei gyhoeddi 11:19 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Rhybudd bod "rhaid ystyried" cyfyngiadau lleol mewn wyth sir pellach ble mae'r feirws ar gynnydd.

    Read More
  16. Un wedi marw mewn wythnos yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 11:12 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Yng Nghymru, bu un farwolaeth yn ymwneud â Covid-19 a gofrestrwyd yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 11 Medi - marwolaeth yn yr ysbyty yn Wrecsam, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    Mae hyn dair yn llai na'r wythnos flaenorol a 0.2% o'r holl farwolaethau.

    Dyma'r ffigwr wythnosol isaf ers i'r pandemig ddechrau.

    graffFfynhonnell y llun, ONS

    Cafodd Lloegr 97 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19, ac yna Gogledd Iwerddon gyda saith marwolaeth a'r Alban gyda phump.

    Mae cyfanswm y marwolaethau cofrestredig sy'n cynnwys Covid-19 yng Nghymru hyd at 11 Medi bellach yn 2,570.

    Mae marwolaethau 'gormodol' - sy'n cymharu marwolaethau cyffredinol â'r cyfartaledd pum mlynedd - tua'r un lefel â'r hyn a welsom yn 2015-19. Bu mwy na 2,000 o farwolaethau gormodol yng Nghymru hyd yn hyn eleni.

  17. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich+1 22 Medi 2020

    Diolch am ymuno â ni heddiw. Byddwn ni'n dod â'r newyddion diweddaraf i chi wrth i wleidyddion gyfarfod yn Llundain i drafod cyfyngiadau pellach yn sgil cynnydd yn achosion coronafeirws drwy gydol y DU.

    Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn y cyfarfod Cobra, gyda Prif Weinidog y DU, Boris Johnson ac arweinwyr Yr Alban a Gogledd Iwerddon i drafod y sefyllfa ar draws y DU.

    Yma yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud eu bod nhw'n "cadw golwg" ar niferoedd coronafeirws mewn wyth sir, ar ben y rhai sydd eisoes yn destun camau ychwanegol i reoli'r haint.

    Mae cyfyngiadau lleol eisoes mewn grym yn Rhondda Cynon Taf a Sir Caerffili, ac am 18:00 heno, bydd trigolion Pen-y-Bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd yn wynebu cyfyngiadau o'r newydd hefyd.

    Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae disgwyl i Boris Johnson ddatgelu fwy o newidiadau i Loegr - ac o bosib y DU gyfan - yn ddiweddarach heddiw