Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2020
Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw - mae'r holl wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar ein hafan.
Diolch am ddilyn, ac arhoswch yn ddiogel.
Y Prif Weinidog Mark Drakeford fu'n cynnal y gynhadledd am 12:30
Tafarndai, tai bwyta a chaffis yng Nghymru yn gorfod cau am 22:00 bob nos o ddydd Iau
Apêl ar bobl Cymru ond i deithio os ydy hynny'n angenrheidiol
Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw - mae'r holl wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar ein hafan.
Diolch am ddilyn, ac arhoswch yn ddiogel.
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Tydi pentref Y Felinheli ddim yn bentref anarferol, ond eleni mae’n llawn o straeon anghyffredin.
Er y bydd trigolion y pentref ar lan Afon Menai yn siŵr o gofio'u profiadau am weddill eu hoes, mae rhai tebyg i’w canfod ym mhob cwr o'r wlad eleni.
Stori Y Felinheli ydy stori Cymru gyfan yn 2020.
I nodi chwe mis ers dechrau cyfnod clo Covid-19, mae Cylchgrawn Cymru Fyw yn adrodd profiadau aelodau cyffredin o’r gymuned mewn cyfnod anghyffredin iawn.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 389 achos newydd o coronafeirws wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru.
O'r rheiny roedd 93 yn Rhondda Cynon Taf, 47 ym Mlaenau Gwent, 37 yn Abertawe a 35 yng Nghaerdydd.
Mae hynny'n golygu bod y cyfanswm sydd wedi cael prawf positif yma bellach yn 21,548.
Cafodd dwy o farwolaethau eu cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf hefyd, gan olygu bod y cyfanswm yn codi i 1,605.
Trafnidiaeth Cymru
Mae Trafnidiaeth Cymru yn honni fod 78% o ddefnyddwyr y rheilffyrdd yng Nghymru bellach yn cydymffurfio gyda'r ddeddf ac yn gwisgo mygydau ar drenau.
Mae gwisgo mwgwd ar drafnidiaeth gyhoeddus yn orfodol yng Nghymru ers 27 Gorffennaf. Ond roedd nifer wedi cwyno nad oedd hynny'n digwydd mewn gwirionedd.
Nawr mae ystadegau Trafnidiaeth Cymru yn awgrymu bod 78% o'u cwsmeriaid yn cydymffurfio ar drenau.
Ond yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid i gwsmeriaid nawr wisgo gorchuddion wyneb ym mhob ardal gaeedig gan gynnwys mewn gorsafoedd, ar blatfformau ac mewn meysydd parcio.
Ycchwanegodd Trafnidiaeth Cymru bod bron i 500 o bobl wedi cael eu atal rhag teithio am beidio gwisgo mwgwd.
Mae'r cyflymder y mae profion cartref ar gyfer Covid-19 yn cael eu prosesu yng Nghymru wedi gostwng eto.
Dim ond 4.4% o brofion gafodd eu prosesu gan Labordai Goleudy o fewn 24 awr yn yr wythnos ddiwethaf - i lawr o 10% bythefnos yn ôl.
Fe wnaeth bron i ddau draean o'r profion gymryd o leiaf tridiau i gael eu prosesu.
Mae'r galw enfawr am brofion a diffyg capasiti i'w prosesu wedi cael ei roi fel rheswm dros y gostyngiad.
Cafodd 6,300 o brofion cartref eu prosesu yn yr wythnos oedd yn dechrau ar 14 Medi - mwy na dwbl y nifer yn yr wythnosau cyn hynny.
Plaid Brexit
Mae Aelod Plaid Brexit o'r Senedd, Mandy Jones wedi dweud bod "negeseuon cymysg" Prif Weinidog Cymru yn achosi pryder i'r cyhoedd.
"Mae'r cyhoeddiad gan y Prif Weinidog am gyfyngiadau mwy llym ar fywydau pobl wedi golygu bod nifer yn bryderus na fyddan nhw'n cael teithio mwyach," meddai.
"Fe wnaeth y Prif Weinidog ddweud yn amlwg y dylai pobl fod yn gwneud teithiau hanfodol yn unig, ond heddiw mae wedi dweud y gall pobl barhau i fynd ar wyliau yng Nghymru, er iddo ailadrodd y dylai pobl deithio os ydy hynny'n hanfodol yn unig.
"Mae'r diffyg eglurder yn bryderus iawn."
Llywodraeth Cymru
Ychwanegodd y Prif Weinidog ei fod yn gobeithio na fydd pobl yn defnyddio'r cyfyngiadau newydd ar weini alcohol ar ôl 22:00 i fod "ar ras" i yfed cymaint â phosib cyn hynny.
Rhybuddiodd y byddai unrhyw un sy'n cael parti yn eu cartrefi ar ôl i dafarndai gau yn torri'r rheolau Covid-19 ac y gallan nhw gael dirwy.
"Rwy'n credu y bydd y mwyafrif o bobl yn parhau i ymddwyn yn rhesymol, ac na fyddan nhw'n meddwl am y rheol 22:00 fel ras i yfed cymaint â phosib yn y munudau olaf," meddai wrth y gynhadledd.
Llywodraeth Cymru
Dywedodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd bod "dim tystiolaeth" fod ymwelwyr yn dod i Gymru wedi arwain at gynnydd yn nifer yr achosion coronafeirws.
"Mae coronafeirws ar ei isaf yn yr ardaloedd gwyliau yng Nghymru," meddai.
"Mae'r ymwelwyr ry'n ni wedi'u cael hyd yma wedi bod yn ymddwyn yn gyfrifol ac wedi'n helpu i gadw Cymru'n ddiogel."
Dywedodd ei fod wedi ceisio perswadio Boris Johnson ddoe i gynghori pobl i deithio pan fo hynny'n hanfodol yn unig.
"Fe wnes i sylweddoli na wnaeth e wneud hynny yn y neges y rhoddodd i bobl yn Lloegr," meddai.
Llywodraeth Cymru
Bydd trafodaethau yn digwydd dydd Mercher ynglŷn ag os dylai niferoedd mewn priodasau gael eu lleihau, meddai’r Prif Weinidog.
Ar hyn o bryd mae hawl gan 30 o bobl fynd i briodas ond mae’r ffigwr wedi haneru rŵan yn Lloegr.
Dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi gofyn am dystiolaeth os yw cael 30 o bobl mewn priodas wedi arwain at gynnydd yn y feirws yng Nghymru.
“Os yw’r dystiolaeth hynny yn bodoli bydd rhaid i ni weithredu er mwyn lleihau'r nifer sydd yn gallu mynychu," meddai.
"Os nad oes tystiolaeth ei fod yn gwneud unrhyw ddrwg yna dwi’n credu y bydd hynny yn ein harwain i’r cyfeiriad arall."
Llywodraeth Cymru
Mae’r niferoedd sy'n gallu cael gofal plant yn dibynnu ar faint o le sydd yn y lleoliadau penodol hynny, meddai’r Prif Weinidog.
Dywedodd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw ffigwr penodol pan ofynnwyd a oedd yna gyfyngiad ar y niferoedd fyddai'n gallu cael gofal.
“Mae gan wahanol lefydd gofal plant wahanol niferoedd o ystafelloedd, gofod gwahanol ar gael iddynt ac mae’n rhaid gwneud penderfyniad ar sail faint o blant all fod yn ddiogel mewn un lleoliad,” meddai.
Ychwanegodd mai dyma’r un agwedd mae’r llywodraeth wedi mabwysiadu ar gyfer angladdau.
Dywedodd hefyd fod gofal plant yn “hanfodol” ac yn “rheswm rhesymol i deithio”.
Llywodraeth Cymru
Dywedodd y Prif Weinidog wrth y gynhadledd bod "yr arwyddion cynnar yn galonogol" ynglŷn â'r mesurau a osodwyd yng Nghaerffili er mwyn atal lledaeniad Covid-19.
Mae'r cyfyngiadau lleol wedi bod mewn grym yno ers pythefnos bellach, a dywedodd Mark Drakeford bod y ffigyrau diweddaraf yn dangos bod nifer yr achosion yn gostwng yno.
Dywedodd ei fod yn ddiolchgar i'r bobl leol am chwarae eu rhan wrth ddod â'r sefyllfa dan reolaeth.
Llywodraeth Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llywodraeth Cymru
Fe wnaeth y Prif Weinidog egluro na fydd tafarndai a bwytai yn cael gweini alcohol ar ôl 22:00, yn hytrach na gorfod cau eu drysau bryd hynny.
Dywedodd Mark Drakeford nad oes rhaid i bobl gael eu gyrru allan o'r dafarn am union 22:00.
Ychwanegodd bod tystiolaeth o ardaloedd ble mae cyfyngiadau lleol bellach mewn grym fod "lleiafrif bychan o bobl yn yfed yn hwyr yn y nos ac yn ymddwyn mewn ffyrdd sy'n peri risg i bobl eraill", ac mai dyna oedd y rhesymeg dros gau ynghynt.
Llywodraeth Cymru
Dywedodd Mr Drakeford nad yw'r cyngor i osgoi teithio diangen yn golygu na ddylai pobl ymweld â thafarndai a bwytai neu fynd ar wyliau.
Ond byddai’n “ffafrio” mynd i dafarn neu fwyty yn agos i adref yn hytrach na mynd yn y car ymhellach i ffwrdd i wneud yr un peth.
Ychwanegodd nad oedd yn credu bod angen cyfraith ar hyn o bryd i orfodi pobl i aros yn eu hardaloedd lleol.
“Dyw hyn ddim yn neges ynglŷn â pheidio mynd i siopa neu letygarwch neu ar wyliau. Mae’n gofyn i bobl i feddwl am y siwrnai maent yn gwneud,” meddai.
Llywodraeth Cymru
Yn ogystal â'r cyfyngiadau llymach ar y sector lletygarwch, fe wnaeth Mark Drakeford gadarnhau y bydd arian ar gael i roi cymorth i bobl sydd ar gyflogau is os oes yn rhaid iddyn nhw hunan-ynysu.
"I bobl sy'n cael cais i hunan-ynysu byddwn yn darparu taliad o £500 i gefnogi pobl sydd ar incwm isel," meddai.
"Byddwn yn gwneud newid i'r gyfraith Gymreig er mwyn atal cyflogwyr rhag ei gwneud yn anodd i weithwyr hunan-ynysu pan fo angen."
Llywodraeth Cymru
Dyw Cymru ddim yn wynebu'r un pwysau â gweddill rhannau o Brydain yn sgil coronafeirws medd y Prif Weinidog.
Er hynny dywedodd yn ystod y gynhadledd Llywodraeth Cymru bod angen y cyfyngiadau newydd gafodd eu cyflwyno ddoe er mwyn “osgoi argyfwng arall yma”.
“Yn ffodus dydyn ni ddim yn wynebu'r un pwysau â llefydd eraill o Brydain, diolch yn rhannol i’r agwedd fwy gofalus rydyn ni wedi dilyn yma yng Nghymru, a’r mesurau wnaethon ni gadw yn eu lle, fel cynghori pobl i weithio o adref pan fo’n bosib," meddai.
Llywodraeth Cymru
Dywedodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd bod achosion Covid-19 ar gynnydd yng Nghymru ar ôl "gostwng yn gyson" dros yr haf.
Ond ychwanegodd ei fod yn "ddarlun cymysg" ar draws y wlad.
"Mewn rhai rhannau o Gymru, yn enwedig yr ardaloedd yn ne Cymru ble ry'n ni wedi cyflwyno cyfyngiadau lleol, mae lefelau uchel o'r haint a thystiolaeth ei fod yn lledu yn y gymuned," meddai'r Prif Weinidog.
"Ond ymhellach i'r gorllewin ac mewn rhannau o ogledd Cymru mae'r cyfraddau yn llawer is."
Dywedodd bod ysbytai wedi dechrau gweld mwy o gleifion sydd angen triniaeth oherwydd Covid-19 a bod mwy o farwolaethau hefyd.
Ychwanegodd Mr Drakeford bod galw enfawr am brofion, a bod 70,000 o bobl yng Nghymru wedi derbyn canlyniad prawf yr wythnos ddiwethaf.
Llywodraeth Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Does "dim achos" i gyflwyno cyfyngiadau mwy caeth mewn ardaloedd newydd yng Nghymru ar hyn o bryd medd y Prif Weinidog.
Y sefyllfa bresennol yw bod chwe ardal yn ne Cymru o dan gyfyngiadau lleol.
Mae angen amser i weld os yw'r mesurau yma yn gweithio er mwyn atal lledaenu Covid-19, meddai Mark Drakeford.
Ond ychwanegodd y gallai siroedd eraill wynebu'r un dynged pe byddai rhaid gwneud hynny.
"Does dim achos eto i ehangu'r mesurau yma i awdurdodau lleol eraill ond fe fyddwn ni yn cadw llygaid barcud arnynt ac yn eu hadolygu yn ddyddiol," meddai wrth BBC Breakfast.
Dywedodd mai'r trothwy ar gyfer gweithredu mewn ardaloedd eraill fyddai cynnydd yn y niferoedd a chyfradd y rhai sy'n profi'n positif i'r feirws. Nid dyma'r sefyllfa ar hyn o bryd, meddai.
Cyngor Ceredigion
Mae busnes yng Ngheredigion wedi cael ei gau am dorri rheolau coronafeirws.
Mae hysbysiad cau wedi’i gyflwyno gan swyddogion trwyddedu i The Mill Inn yn Aberystwyth.
Bydd y dafarn yn aros ynghau nes ei bod yn gallu dangos ei bod wedi gwneud gwelliannau ac yn bodloni gofynion y rheoliadau.
Dywedodd y cyngor mewn datganiad: "Bydd y cyngor yn bendant yn gweithredu os darganfyddir bod unrhyw fusnes yn euog o dorri rheoliadau Covid-19.
"Er mwyn diogelu'r cyhoedd, mae angen i bob busnes sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r rheoliadau drwy’r amser."