Canllawiau newydd 'ddim yn golygu peidiwch mynd ar wyliau'wedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2020
BBC Radio 4
Mae Mark Drakeford wedi egluro nad yw'n cynghori pobl yn erbyn mynd ar eu gwyliau yn sgil y canllawiau newydd.
Mae pobl yng Nghymru yn cael eu hannog i deithio dim ond os oes angen gwneud hynny er mwyn atal lledaeniad coronafeirws.
Gofynnwyd iddo ar BBC Radio 4 y bore 'ma os oedd hynny'n golygu peidio mynd ar wyliau, a dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn "bosib iawn" cael gwyliau yng Nghymru "heb deithio'n bell o gwbl".
"Mae'n rhaid i bobl wneud y penderfyniadau hynny ar sail eu hamgylchiadau eu hunain, felly dy'n ni ddim yn dweud 'peidiwch mynd ar wyliau'," meddai.