Crynodeb

  • ASau yn cymeradwyo cyfyngiadau lleol ond y Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn gwrthwynebu cyfyngiadau lleol eang yn siroedd Abertawe, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg

  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Adolygiad Addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) 2020

  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Ailadeiladu ar ôl Covid-19 – Heriau a Blaenoriaethau

  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Diweddariad ar effeithiau cyllidol Covid-19 a'r rhagolygon ar gyfer y gyllideb yn y dyfodol

  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd

  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tân

  • Dadl: Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 20:22 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    A dyna ni o'r Siambr am heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd fory am 1.30pm.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Cymeradwyo'r cynnig i fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliolwedi ei gyhoeddi 20:21 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Cafodd cynnig Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol ei gymeradwyo.

    Roedd 48 o blaid, ni wnaeth yr un aelod ymatal ac roedd tri yn erbyn.

  3. Cymeradwyo cynnig cydsyniad deddfwriaethol y Bil pysgodfeyddwedi ei gyhoeddi 20:17 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Cafodd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil pysgodfeydd ei gymeradwyo - roedd 42 o blaid, wnaeth neb ymatal ac roedd 10 yn erbyn.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechydwedi ei gyhoeddi 20:14 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae Aelodau o'r Senedd yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 ar gyfer ardaloedd Llanelli, Abertawe a Chaerdydd a Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen.

    Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

    Mae’r diwygiad yn dynodi y siroedd a nodwyd uchod ac ardal Llanelli yn ardaloedd diogelu iechyd lleol sy’n ddarostyngedig i gyfyngiadau a gofynion penodol.

    Roedd 46 o blaid, wnaeth neb ymatal ac roedd 6 yn erbyn wrth ystyried cyfyngiadau Llanelli ac ar y cyfyngiadau eraill roedd 28 o blaid, fe wnaeth 9 ymatal ac roedd 15 yn erbyn.

    Llanelli
    Disgrifiad o’r llun,

    Daeth cyfyngiadau lleol i rym yn Llanelli ddiwedd Medi

  5. Rhaid i fangre sy'n gwerthu alcohol (i'w yfed yn y fangre) gau am neu cyn 10.20pmwedi ei gyhoeddi 20:10 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae ASau yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020. Mae'r diwygiadau

    (a) yn darparu, mewn mangre sydd wedi ei thrwyddedu ar gyfer gwerthu alcohol i’w yfed yn y fangre, na chaiff bwyd neu ddiod ond ei weini neu eu gweini i gwsmeriaid sy’n eistedd (yn ddarostyngedig i esemptiadau penodol ar gyfer prydau bwffe, ffreuturau yn y gweithle a mangreoedd mewn sefydliadau addysgol fel ffreuturau mewn prifysgolion), a bod rhaid i gwsmeriaid fod yn eistedd pan fyddant yn bwyta’r bwyd hwnnw neu’n yfed y ddiod honno;

    (b) yn darparu na chaiff mangre sydd wedi ei thrwyddedu ar gyfer gwerthu alcohol (pa un ai i’w yfed yn y fangre neu heb fod yn y fangre) weini na chyflenwi alcohol ar ôl 10.00 p.m. (ac na chaiff weini na chyflenwi alcohol eto cyn 6.00 a.m. y bore canlynol);

    (c) yn darparu bod rhaid i fangre sydd wedi ei thrwyddedu ar gyfer gwerthu alcohol i’w yfed yn y fangre gau am neu cyn 10.20 p.m. (ac na chaiff ailagor cyn 6.00 a.m. y bore canlynol);

    (d) yn dileu’r esemptiad sy’n gymwys mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod rhag y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb, gan roi yn lle hynny esgus rhesymol i gwsmeriaid beidio â gwisgo gorchudd wyneb pan fyddant yn eistedd.

    Roedd 37 o blaid, fe wnaeth 9 ymatal ac roedd 6 yn erbyn.

    alcoholFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Y Llywydd yn caniatáu Neil McEvoy i siaradwedi ei gyhoeddi 20:04 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae Neil McEvoy, aelod annibynnol, yn cyflwyno ei welliannau - gwelliannau na gafodd eu dewis. Yn eu plith mae iawndal i'r rhai a ddioddefodd yn sgil sgandal Windrush ac mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i ychwanegu modiwl ar hil a dosbarth at ymchwiliad Tŵr Grenfell.

    Mae e hefyd am gydnabod yr angen i ddiweddaru'r asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb er mwyn canolbwyntio ar y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a hyrwyddo unwaith eto gronfa fwy amrywiol o bobl sy'n gwneud penderfyniadau sy'n cynrychioli pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

  7. 'Dim anghydraddoldeb hiliol strwythurol yng Nghymru a'r DU'wedi ei gyhoeddi 19:51 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae Neil Hamilton sy'n AS annibynnol yn dweud nad oes "anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol yng Nghymru a'r DU" a dywed bod rhai grwpiau gwrth-hiliol "wedi'u cymell yn wleidyddol".

  8. 'Torri nifer o reolau sefydlog (Y Senedd)'wedi ei gyhoeddi 19:40 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn gwneud sylw o'r trydariad isod sy'n "torri, fi ddim yn gwybod, faint o reolau sefydlog (y Senedd)".

    Mae'n dweud wrtho os yw'n tynnu ei orchudd ceg a rhoi ei brop o'r neilltu y bydd yn cael siarad.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. 'Ddim wedi dewis unrhyw welliant i'r cynnig trawsbleidiol ar hiliaeth'wedi ei gyhoeddi 19:30 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Cafodd gwelliannau y ddau aelod annibynnol Neil McEvoy a Neil Hamilton ddim mo'u dewis gan y Llywydd Elin Jones.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliolwedi ei gyhoeddi 19:00 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Nesaf mae Jane Hutt cynnig bod y Senedd yn cefnogi yn llwyr

    a) y frwydr fyd-eang i gael gwared â hiliaeth ac ideoleg hiliol ac ymdrechu tuag at Gymru sy’n fwy cyfartal, gan fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol; a

    b)egwyddorion Confensiwn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD).

    2. Yn galw am ddiweddariad gan Gomisiwn y Senedd ar ddatblygiad datganiad trawsbleidiol ar gyfer Cymru sy’n ymgorffori egwyddorion CERD.

    3. Yn croesawu gwaith diwyd y Grŵp Cynghorol BAME ar COVID-19, a gydgadeirir gan y Barnwr Ray Singh a’r Dr Heather Payne, yr Is-grŵp Asesu Risg a gadeirir gan yr Athro Keshav Singhal a’r Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol a gadeirir gan yr Athro Emmanuel Ogbonna ac yn galw am i Lywodraeth Cymru sicrhau bod argymhellion Adroddiad yr Athro Ogbonna yn cael eu gweithredu’n llawn ac ar gyflymder.

    4. Yn cydnabod yr angen am Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb strwythurol a systemig, ac i hybu cyfleoedd i bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

    janet hutt
  11. Angen ailgylchu 70% o wastraff cartrefi a busnesau masnachol a diwydiannol erbyn 2025wedi ei gyhoeddi 18:49 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae Hannah Blythyn (Delyn) , dolen allanolyn cynnig bod y Senedd yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd , dolen allanolyn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Medi 2020.

    Targed Llywodraeth Cymru yw ailgylchu 70% o wastraff cartrefi a busnesau masnachol a diwydiannol erbyn 2025 a 90% o wastraff gweithgareddau adeiladu a dymchwel erbyn 2019/20.

    Byddai taro'r targedau hyn yn cefnogi ymdrechion Cymru i fod yn economi gylchol, lle caiff adnoddau eu cadw i'w defnyddio mor hir â phosibl ac yr adenillir ac adfywir pob cynnyrch ar ddiwedd ei fywyd. Daw hyn â manteision i'r economi, swyddi a'r amgylchedd a bydd yn:

    • Arbed costau i fusnesau drwy osgoi’r dreth dirlenwi
    • Gwneud busnesau’n fwy cystadleuol drwy leihau costau deunyddiau
    • Creu swyddi yn y sector trin gwastraff
    • Diogelu cyflenwadau adnoddau i'n sector gweithgynhyrchu
    • Helpu i brysuro'r economi gylchol yng Nghymru drwy annog busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru i ddefnyddio deunyddiau eildro a gesglir yng Nghymru
    • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
    • Lleihau llygredd yng Nghymru

    Mae'r cynnig yn cael ei dderbyn gan Aelodau o'r Senedd.

  12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tânwedi ei gyhoeddi 18:36 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae Hannah Blythyn (Delyn) , dolen allanolyn cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diogelwch Tân i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

    Cafodd Bil Diogelwch Tân Llywodraeth y DU (y Bil) ei ddarlleniad cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin ar 19 Mawrth 2020. Noddir y Bil gan y Swyddfa Gartref.

    Diben y Bil yw sicrhau bod y Gorchymyn Diogelwch Tân yn glir yn yr ystyr ei fod yn gymwys i waliau allanol (ac unrhyw beth sydd ynghlwm wrthynt sy’n cynnwys cladin a balconïau) a drysau mynedfa fflatiau i adeiladau preswyl amlfeddiannaeth.

    Mae'r Bil yn un rhan o'r ymateb i wella diogelwch adeiladau ar ôl y tân yn Nhŵr Grenfell ym mis Gorffennaf 2017.

    Yn unol â Rheolau Sefydlog 29.1 a 29.2, mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn ofynnol oherwydd bod darpariaethau yn y Bil yn addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd neu’n dod o fewn ei chymhwysedd.

    Ar 30 Ebrill 2020, gosododd Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (y Memorandwm) gerbron y Senedd4 mewn perthynas â'r Bil.

    Mae'r cynnig yn cael ei gymeradwyo gan Aelodau'r Senedd yn ddiwrthwynebiad.

    grenfell
  13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeyddwedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae Aelodau o'r Senedd yn trafod ar hyn o bryd cael cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd.

    Mae Lesley Griffiths (Wrecsam) , dolen allanolyn cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Pysgodfeydd i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

    Mae’r Bil yn darparu ar gyfer:

    • amcanion polisi mewn perthynas â physgodfeydd, pysgota a dyframaethu, datganiadau pysgodfeydd a chynlluniau rheoli pysgodfeydd;

    • mynediad i bysgodfeydd Prydain;

    • trwyddedu cychod pysgota;

    • pennu a dosbarthu cyfleoedd pysgota; • creu cynlluniau ar gyfer codi tâl am ddal pysgod môr heb yr awdurdod i wneud hynny;

    • grantiau ar gyfer pysgota, dyframaethu neu gadwraeth forol

    • adennill costau sy'n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau cyhoeddus sy'n ymwneud â physgod neu bysgota;

    • rhoi pwerau i wneud darpariaethau pellach mewn cysylltiad â physgodfeydd, dyframaethu neu anifeiliaid dyfrol;

    • gwneud darpariaeth ar gyfer is-ddeddfau a gorchmynion mewn perthynas â chamddefnyddio pysgodfeydd môr; ac at ddibenion cysylltiedig.

    pysgodfeydd
  14. Pleidleisio yn erbyn y cyfyngiadau 'yn gam difrifol'wedi ei gyhoeddi 17:41 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae Andrew RT Davies yn dweud y bydd y Ceidwadwyr yn pleidleisio yn erbyn cyfyngiadau lleol siroedd Caerdydd, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg.

    Y ddadl yw os cael cyfyngiadau lleol iawn yn Llanelli, pam dim cyhoeddi mwy o ddata i ddangos a yw'n bosib cael cyfyngiadau mor lleol mewn rhannau eraill o Gymru.

    Bydd Plaid Brexit hefyd yn pleidleisio yn erbyn.

    Mae Plaid Cymru dal yn ystyried sut i bleidleisio.

    Mae'r gweinidog iechyd, Vaughan Gething, yn rhybuddio y byddai pleidleisio yn erbyn y cyfyngiadau "yn gam difrifol".

  15. Diweddariad ar effeithiau cyllidol Covid-19 a'r rhagolygon ar gyfer y gyllideb yn y dyfodolwedi ei gyhoeddi 16:32 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Nesaf datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Diweddariad ar effeithiau cyllidol Covid-19 a'r rhagolygon ar gyfer y gyllideb yn y dyfodol.

    Ym mis Mai dywedodd Rebecca Evans bod "effeithiau datblygol a dinistriol pandemig y coronafeirws, sy'n gofyn am wario digyffelyb gan y Llywodraeth yn ddi-oed ac ar raddfa fawr heb ei debyg ers y rhyfel.

    Ychwanegodd bod y rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus yn llwm. Yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, gallai diffyg ariannol y DU fod yn £273 biliwn eleni. Mae hynny bum gwaith yn uwch na'r disgwyl ddeufis yn unig yn ôl (ym mis Mawrth) adeg cyllideb y DU, ac yn sylweddol uwch nag yr oedd ar anterth y benthyca yn ystod yr argyfwng ariannol ddegawd yn ôl.

    Dywedodd hefyd bod "fframwaith cyllidol yn diogelu ein cyllideb rhag ergydion economaidd ledled y DU. O ganlyniad, dylai effaith net llai o weithgarwch economaidd a derbyniadau treth ar ein cyllideb eleni fod yn fach, ond byddwn, wrth gwrs, yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa hon."

    profi covid
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae cynghorau wedi gweld £165m o gynnydd yn eu gwariant ers mis Ebrill

  16. Lleihau diweithdra a chefnogi pobl ifanc i aros mewn addysg ymhlith y blaenoriaethauwedi ei gyhoeddi 16:03 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae'r adroddiad Ail-greu ar ôl COVID-19: Yr Heriau a’r Blaenoriaethau , dolen allanolyn nodi bod angen:

    • lleihau diweithdra a rhoi’r cyfle gorau i bawb ddod o hyd i waith teilwng â rhagolygon hirdymor a’i gadw, gan ychwanegu gwerth at raglen Kickstart Llywodraeth y DU;
    • cefnogi ein holl bobl ifanc i aros mewn addysg ac i ddal i fyny yn yr ysgol ac yn y coleg;
    • cynyddu’r gwaith o adeiladu tai cyngor a thai cymdeithasol i sicrhau mwy bod mwy o dai o ansawdd uchel ar gael ledled Cymru, gan fuddsoddi yn arbennig mewn tai carbon isel ar raddfa briodol a chan uwchraddio’r stoc tai yn enwedig tai cymdeithasol;
    • cynyddu’r buddsoddiad yng nghanol ein trefi lleol i helpu i adeiladu cymunedau gwydn ac i fanteisio ar y modd y mae’r coronafeirws wedi gwneud i bobl ganolbwyntio’n fwy ar y cymunedau lle maent yn byw;
    • manteisio ar y cyfleoedd a gynigir drwy newid patrymau gweithio a theithio i adeiladu ar dreialon trafnidiaeth gyhoeddus sy’n ymateb i’r galw, gan weithio gydag undebau llafur, awdurdodau lleol a theithwyr;
    • canolbwyntio ar yr economi ‘bob dydd’/sylfaenol ac yn cefnogi twf ac annibyniaeth busnesau sydd â phencadlys yng Nghymru er mwyn meithrin gwydnwch economi Cymru yn wyneb y coronafeirws a diwedd Cyfnod Pontio’r UE;
    • cefnogi’r GIG i adennill tir a gollwyd o ran trin cyflyrau nad ydynt yn gysylltiedig â’r coronafeirws.
    taiFfynhonnell y llun, Thinkstock
  17. Ailadeiladu ar ôl Covid-19 – Heriau a Blaenoriaethauwedi ei gyhoeddi 15:43 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Nesaf datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles: Ailadeiladu ar ôl Covid-19 – Heriau a Blaenoriaethau.

    jeremy miles
  18. Plaid Cymru: 'Angen cysylltu'r weledigaeth â 'r hyn sy'n ymarferol'wedi ei gyhoeddi 15:31 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae angen gwreiddio'r cwricwlwm, medd Sian Gwenllian o Blaid Cymru, a sicrhau nad oes diffyg cysylltiad rhwng y weledigaeth a'r hyn sy'n ymarferol ddisgwyliedig yn sgil heriau fel cyllid annigonol a Covid. Mae'n gofyn hefyd a yw'n syniad gohirio'r cwriwcwm newydd.

    Dywed Kirsty Williams ei bod yn asesu effaith Covid bob dydd ar y byd addysg.

    Sian Gwenllian
  19. 'Llawer i'w wneud'wedi ei gyhoeddi 15:17 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae Suzy Davies o'r Blaid Geidwadol yn mynegi pryderon am gydlyniad, cysondeb, safonau a deall sut i gynnal aseiniadau.

    "Mae yna "lawer i'w wneud", meddai.

    suzy davies
  20. Gweinidog Addysg: Y Llywodraeth wedi ymateb i'r heriauwedi ei gyhoeddi 15:11 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae Kirsty Williams yn dweud bod yr adroddiad yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r heriau a osodwyd mewn adroddiadau blaenorol a’i bod wedi sefydlu cydlyniad i wahanol elfennau’r polisïau ac eglurder o ran y weledigaeth – gan sicrhau bod sail gryf i weithwyr addysg proffesiynol allu gwneud ‘cenhadaeth ein cenedl’ yn rhywbeth sy’n bersonol iddynt.

    kirsty