Crynodeb

  • ASau yn cymeradwyo cyfyngiadau lleol ond y Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn gwrthwynebu cyfyngiadau lleol eang yn siroedd Abertawe, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg

  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Adolygiad Addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) 2020

  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Ailadeiladu ar ôl Covid-19 – Heriau a Blaenoriaethau

  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Diweddariad ar effeithiau cyllidol Covid-19 a'r rhagolygon ar gyfer y gyllideb yn y dyfodol

  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd

  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tân

  • Dadl: Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol

  1. Adolygiad Addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) 2020wedi ei gyhoeddi 15:00 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Nesaf datganiad gan y Gweinidog Addysg: Adolygiad Addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) 2020.

    Mae dylanwad yr OECD wedi bod ar bolisïau addysg Llywodraeth Cymru ers i ganlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2009 gyflwyno’r hyn a alwodd y Gweinidog Addysg ar y pryd yn ‘dystiolaeth o fethiant systemig’ ac yn ‘alwad i ddeffro system hunanfodlon’.

    Ychydig iawn o welliant a welwyd mewn canlyniadau olynol PISA yn 2012 a 2015.Gwahoddwyd yr OECD felly i roi cyngor ar ddatrysiadau, gan gynnal adolygiad yn 2014 ac ‘Asesiad Polisi Cyflym’ yn 2017 , dolen allanoli lywio strategaethau addysg Llywodraeth Cymru.

    Dywed y Gweinidog Addysg bod canlyniadau Cymru yn PISA 2018, dolen allanol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2019, yn rhoi rhai arwyddion calonogol o gynnydd, gyda’r Gweinidog yn eu disgrifio fel rhai ‘cadarnhaol, ond nid perffaith’. Nid yw sgoriau PISA Cymru bellach yn ystadegol wahanol i gyfartaledd yr OECD ym mhob un o dri phrif faes (darllen, mathemateg a gwyddoniaeth), er eu bod yr isaf o hyd ymhlith gwledydd y DU.

    Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) ym mis Chwefror 2020 , dolen allanolei bod wedi gwahodd yr OECD ar ddiwedd y llynedd i adolygu cynnydd yn erbyn cynllun gweithredu gwella ysgolion Llywodraeth Cymru, Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth Ein Cenedl, dolen allanol,

    ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Eleni bu ysgolion ar gau am fisoedd oherwydd haint coronafeirws

  2. Beth yw'r diweddaraf am ganolfan brofi Covid ym Mangor?wedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae Sian Gwenllian, AS Arfon, yn gofyn i'r trefnydd wneud trefniadau iddi hi allu cael mwy o wybodaeth am ganolfan profi Covid ym Mangor.

    Wrth i nifer yr achosion o'r haint gynyddu yn ei hetholaeth, dywed Ms Gwenllian bod yr etholwyr angen gwybodaeth am bryd fydd canolfan Bangor yn agor a phwy fydd yn cael mynd yno. Ar hyn o bryd mae etholwyr Arfon yn teithio i Landudno neu tu hwnt i gael prawf Covid.

    Dywed Rebecca Evans y bydd hi'n trefnu bod Sian Gwenllian yn siarad â'r gweinidog iechyd, Vaughan Gething.

    Rebecca Evans
  3. Busnes y Senedd am yr wythnosau nesafwedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes sydd nesaf lle rhestrir busnes y Senedd yn y dyfodol hyd at dair wythnos o flaen llaw.

  4. Plaid Brexit yn beirniadu sylwadau'r prif weinidogwedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae arweinydd grŵp Plaid Brexit, Mark Reckless, yn beirniadu'r prif weinidog am ymateb yn chwyrn i feirniadaeth y Ceidwadwyr ar gyfyngiadau coronafeirws.

    Dywed Mr Drakeford ei fod yn glynu wrth ei sylwadau gan honni fod llythyr a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan aelodau'r Ceidwadwyr yn Senedd Cymru ac yn San Steffan yn annog pobl i beidio ufuddhau i'r gyfraith.

  5. 'Angen strategaeth i ddelio ag amserau aros am driniaethau'wedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, yn tynnu sylw at y nifer cynyddol sy'n aros am driniaeth.

    Mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n aros am lawdriniaethau arferol wedi cynyddu 700%, gyda bron i 70,000 yn aros yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law y BBC.

    Dywed Mark Drakeford nad oes dianc rhag y ffaith y bydd pobl yn gorfod aros yn hwy am rai triniaethau yng Nghymru.

    Dywed Mr Davies bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru "ddyblu ei hymdrechion" ac mae'n galw am strategaeth i ddelio ag amserau aros.

    Mae'r prif weinidog yn nodi nad yw Mr Davies wedi cynnig unrhyw awgrym am sut i ddelio â'r problemau.

    Fe ddaeth y ffigyrau diweddara i'r amlwg yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru.

    Ym mis Medi roedd 69,212 o bobl yng Nghymru yn aros am lawdriniaethau arferol, o'i gymharu â 9,925 yn yr un cyfnod y llynedd.

    Dywedodd y byrddau iechyd fod Covid-19 wedi achosi "amharu sylweddol" ond fod y cleifion mwyaf brys yn cael eu blaenoriaethu.

    Dywedodd Chris Wilson, llawfeddyg orthopedig yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, fod y ffigyrau yn dorcalonnus ond nid yn syndod.
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywedodd Chris Wilson, llawfeddyg orthopedig yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, fod y ffigyrau yn dorcalonnus ond nid yn syndod.

  6. Dim ateb o Lundain am lythyr cyfyngiadau teithiowedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae Mr Drakeford yn dweud wrth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod peidio cael ateb gan brif weinidog San Steffan i'w lythyr am gyfyngiadau teithio yn "gwbl amharchus, nid i fi ond i'r Senedd ac i bobol Cymru".

    Mae Mr Drakeford yn ychwanegu ei fod yn edrych ar yr un pryd ar fesurau pellach ac yn ystyried a ydynt yn gallu codi cyfyngiadau lleol. Mae'n dweud bod mesurau lleol wedi llwyddo'n rhannol.

    Rhaid peidio oedi'n ddiangen, medd Adam Price wrth ateb y prif weinidog.

    Adam Price
  7. 'Angen cosbau llymach i'r rhai sy'n torri rheolau'wedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Wrth ymateb i'r AS annibynnol Caroline Jones, dywed Mr Drakeford bod Llywodraeth Cymru yn ystyried a ddylai hysbysiadau cosb rheolau coronafeirws newid er mwyn delio a phartïon mewn cartrefi.

    Dywed Caroline Jones bod angen cosbau llymach i'r rhai sy'n torri rheolau.

  8. 'Llywodraeth yn buddsoddi er budd pobl ifanc'wedi ei gyhoeddi 13:38 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ymateb mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn dweud bod y llywodraeth wedi buddsoddi'n hael mewn hyfforddiant, prentisiaethau ac addysg bellach ac addysg uwch.

    Wrth gyfeirio at gwestiwn yn ymwneud â thrafnidaeth dywed y Prif Weinidog bod y llywodraeth yn gweithio gyda chwmnïau trafnidiaeth gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru i sicrhau fod pobl ifanc yn gallu cyrraedd eu canolfannau addysg yn ddiogel.

    Mark Drakeford
  9. Effaith yr haint ar bobl ifanc?wedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Mae mwyafrif o'r cwestiynau yn gysylltiedig â haint coronafeirws gyda nifer o aelodau yn gofyn am effaith yr haint ar yr etholaeth y maen nhw'n ei chynrychioli.

    Bydd Darren Millar, Gorllewin Clwyd, yn gofyn i'r Prif Weinidog am ddatganiad am fynediad at fannau addoli yng Nghymru.

    Lynne Neagle, Torfaen sy'n gofyn y cwestiwn cyntaf ac mae hi'n gofyn: Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i liniaru effaith pandemig COVID-19 ar bobl ifanc yng Nghymru?

    Mae'r pandemig coronafeirws wedi cynyddu'r rhwystrau sy'n wynebu pobl ifanc sy'n chwilio am waith, medd elusen y Prince's Trust.

    Mae ei hymchwil yn awgrymu bod 44% o bobl ifanc 16-25 oed a gafodd eu holi yn dweud bod eu disgwyliadau bellach yn is.

  10. Cynnal y cyfarfod ar ffurf hybridwedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Senedd Cymru

    Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

    Mae'r cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd yn sgil haint coronafeirws.

  11. Prynhawn dawedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich+1 6 Hydref 2020

    Senedd Fyw

    Croeso i Senedd Fyw. Bydd y cyfarfod llawn yn cychwyn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

    Mae modd gweld holl drafodaethau'r prynhawn drwy wasgu'r botwm fideo ar frig y dudalen hon.