Crynodeb

  • Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cadarnhau cynlluniau am gyfnod clo cenedlaethol byr

  • 979 achos newydd a phum marwolaeth yn cael eu cofnodi yng Nghymru

  • Y rheolau newydd ar deithio i mewn i Gymru o ardaloedd gyda lefelau uchel Covid-19 yn dod i rym heddiw

  • Y Prif Weinidog yn dweud bod 'cadw ysgolion ar agor yn flaenoriaeth'

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni am heddiw ar y diwrnod y cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd cyfnod clo cenedlaethol byr yn cael ei gyflwyno yng Nghymru.

    Bydd yr union fanylion yn cael eu cyhoeddi ddydd Llun wrth i drafodaethau gael eu cynnal dros y penwythnos.

    Mae 979 achos newydd wedi'u cadarnhau yng Nghymru - y nifer fwyaf o achosion ar un diwrnod ers dechrau'r pandemig.

    Cafodd pump marwolaeth hefyd eu cofnodi.

    Heno am 6 cyfyngiadau i atal pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn y DU sydd â lefelau uchel o coronafeirws rhag teithio i Gymru yn dod i rym.

    Bydd y newyddion diweddaraf ar wefan Cymru Fyw ond wrth dîm y llif newyddion byw - hwyl am y tro.

    Cadwch yn ddiogel.

  2. Dirwyon fydd yr opsiwn olafwedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Bydd heddluoedd Cymru yn darparu rhagor o swyddogion ar y ffyrdd pan fydd y gwaharddiad ar deithio o rannau o'r DU yn dod i rym heno.

    Dywed Mark Drakeford mai dirwyon fyddai'r "opsiwn olaf, nid yr opsiwn cyntaf" a'i bod yn bosib y bydd meddalwedd sy'n darllen plât rhifau ceir yn cael ei ddefnyddio i adnabod pobl sy'n teithio o ardaloedd ble mae cyfraddau uchel o achosion.

    heddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Cadarnhau 979 achos newydd a phum marwolaethwedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 979 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yn y 24 awr ddiwethaf.

    Dyma'r nifer fwyaf o achosion i gael eu cyhoeddi yng Nghymru ar un diwrnod ers dechrau'r pandemig.

    Cafodd pump o farwolaethau eu cofnodi hefyd.

    O'r achosion newydd, roedd 175 yng Nghaerdydd, 120 yn Rhondda Cynon Taf, 86 yn Abertawe a 79 ym Mhen-y-bont.

    Ers dechrau'r pandemig mae 34,005 o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19 yng Nghymru, a 1,703 o'r rheiny wedi marw.

  4. Mwy o achosion yn Ysbyty Brenhinol Gwentwedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Mae 40 o gleifion a phedwar aelod o staff wedi cael prawf positif o Covid yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

    Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ddydd Llun bod achosion o'r haint yno ond mae'r niferoedd wedi codi o 14 i 40.

    Does dim hawl i ymweld â chlaf yn yr ysbyty heblaw bod trefniadau penodol wedi'u gwneud o flaen llaw.

    royal gwentFfynhonnell y llun, Robyn Drayton/Geograph
  5. Pryderon Cyngor Sir Gâr am achosion o'r haintwedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Cyngor Sir Gaerfyrddin

    Dywed llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin "bod y parth diogelu iechyd sy'n cwmpasu rhan fawr o Lanelli yn gweithio'n dda ac yn helpu i leihau nifer yr achosion positif o Covid-19; fodd bynnag, mae pryderon yn cynyddu ynghylch lledaeniad Covid-19 mewn mannau eraill yn Sir Gaerfyrddin.

    "Yn Sir Gaerfyrddin, er bod yr achosion yn parhau i fod wedi'u crynhoi yn Llanelli (sef 87.4 fesul 100,000 o'r boblogaeth ar hyn o bryd*), caiff clystyrau bach o'r feirws eu canfod ledled y sir.

    "Ar hyn o bryd 64.8 fesul 100,000 o'r boblogaeth yw cyfradd yr haint ar gyfer Sir Gaerfyrddin, ac eithrio parth diogelu iechyd Llanelli.

    "Mae'r gyfradd ar gyfer y sir gyfan, gan gynnwys parth diogelu iechyd Llanelli, ar hyn o bryd yn 71.5 fesul 100,000 o'r boblogaeth."

  6. 'Dydy hyn ddim wedi cael ei drin yn y ffordd iawn o gwbl'wedi ei gyhoeddi 13:28 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Dywedodd David Rowlands, Aelod o'r Senedd dros grŵp newydd yr Independent Alliance for Reform: "Dydyn ni ddim yn credu bod hyn wedi cael ei drin yn y ffordd iawn o gwbl.

    "Er enghraifft, hyd yn oed heb gyfnod clo ni fyddai mwyafrif llethol y wlad yn cael y feirws, ac o'r rheiny bydd 80% yn cael symptomau bychan iawn neu ddim symptomau o gwbl.

    "Yr hyn dylen ni fod yn ei wneud ydy canolbwyntio ar sicrhau bod y rheiny sy'n fregus yn cysgodi mewn rhyw ffordd, yn enwedig mewn cartrefi gofal ac ysbytai."

  7. Cyngor Ceredigion yn croesawu cyfnod clo byr posibwedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Cyngor Ceredigion

    Y bore 'ma pan oedd Llywodraeth Cymru ystyried cyhoeddi cyfnod clo byr, dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn ar raglen y Post Cyntaf: "Ar ôl gweld y dystiolaeth rydw i o blaid cyflwyno hyn am ei bod hi yn well gwneud hyn nawr a cheisio rheoli'r afiechyd cyn cyfnod y Nadolig achos dyna pryd mae pobl yn gwario fwyaf.

    "Rwy'n ymwybodol y byddai clo nawr yn effeithio efallai ar fusnesau twristiaeth ond un o'r pethau ddaeth o'r trafodaethau gydag arweinwyr eraill oedd y pwysigrwydd i roi pecynnau ariannol i gefnogi busnesau fyddai'n cael eu taro gan glo byr.

    "O edrych ar y data mae nifer yr achosion yng Ngheredigion yn cynyddu am fod pobl yn dod mewn i'r sir

    "Roedd criw o fyfyrwyr newydd wedi cynyddu'r niferoedd yma ac wrth lwc mae hynny wedi ei gyfyngu i gampws y brifysgol.

    "Ond o'r achosion sydd ar hyd a lled y sir wrth ymholi ymhellach, maen nhw wedi bod yn yr ardaloedd lle mae'r afiechyd yn fwy cyffredin felly maen nhw'n ei gario nôl.

    "Dyna pam fy mod i yn croesawu y gwaharddiad teithio o'r ardaloedd lle mae'r afiechyd yn drwch.'

  8. 'Pethau am fynd yn fwy anodd'wedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog mai ei neges i bobl Cymru ydy bod "pethau am fynd yn fwy anodd".

    "Mae'n well o lawer ein bod ni oll yn gweithredu gyda'n gilydd nawr, cyfyngu ar gyfarfod â phobl eraill dan do, teithio pan eich bod chi angen gwneud hynny'n unig," meddai.

    "Mae'r rheiny yn gyfraniadau syml, yngyd â chadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo - y pethau ry'n ni oll yn gwybod sy'n gwneud gwahaniaeth.

    "Fe fydd hynny'n lleihau'r cyfnod sy'n rhaid i ni fyw dan y cyfyngiadau yma a sicrhau bod yr hyn ry'n ni'n ei wneud yn fwy effeithiol."

  9. Rhun ap Iorwerth yn dweud bod newid term yn allweddolwedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Mae Rhun ap Iorwerth ar ei gyfrif trydar yn dweud ei fod yn falch bod y Prif Weinidog yn defnyddio yn Saesneg y term 'firebreak' yn hytrach na 'circuit breaker'.

    Mae'n dweud ei fod ef wedi awgrymu'r term i'r Gweinidog Iechyd bore 'ma.

    Mae'r term 'torrwr cylched' yn awgrymu ein bod yn hapus i droi mewn cylchoedd. 'Allwn ni ddim', mae'n ychwanegu,

    Mae 'firebreak' yn awgrymu gweithredu'n wahanol.

  10. Cyfyngiadau am fod mewn grym am 'gyfnod penodol o amser'wedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd, pe bai cyfnod clo llym yn dod i rym, y byddai hynny am "amser penodol", ac felly'n wahanol i'r cyfnod yn gynharach eleni.

    "Wedi cyfnod penodol o amser, bydd angen set newydd o reolau," meddai.

    "Ni fydd yn cael ei ymestyn am gyfnod amhenodol fel oedd yn digwydd yn gynharach eleni - ni fyddai hynny yn circuit breaker."

  11. 'Cadw ysgolion ar agor yn flaenoriaeth'wedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Cadw ysgolion ar agor ydy "ein blaenoriaeth bennaf", meddai'r Prif Weinidog.

    Yn annerch y gynhadledd dywedodd y bydd Llywodraeth Cymru yn "gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw ysgolion ar agor".

    "A fyddwn ni'n gallu gwneud hynny'n llawn? Mae hynny yn fater sy'n rhan o'r trafodaethau," meddai.

    "Ond rydw i eisiau pwysleisio i bawb bod hynny yn flaenoriaeth."

    DisgyblionFfynhonnell y llun, PA Media
  12. Ceidwadwyr: 'Dylid fod wedi ailalw'r Senedd'wedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Twitter

    Ar ei gyfrif trydar mae'r Ceidwadwr Andrew RT Davies yn dweud na ddylai Mark Drakeford fod wedi cyhoeddi'r cyfnod clo byr mewn cynhadledd.

    Os yw pethau mor ddifrifol, dylid fod wedi galw'r Senedd yn ôl ar frys ddydd Llun a chyflwyno datganiad yr adeg honno.

  13. Y cyfyngiadau am fod yn debyg i'r rhai ym mis Mawrthwedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog y byddai'r clo llym yn gweithio "yn yr un modd ag y gwnaeth 'nôl ym mis Mawrth ac Ebrill eleni".

    "Roedd teithio allweddol yn bosib hyd yn oed pan oedd y cyfnod clo mwyaf difrifol mewn grym, a'n bwriad yw dyblygu hynny cymaint â phosib," meddai.

    Ychwanegodd na fyddai'r cyfyngiadau "union yr un fath oherwydd bod materion eraill mae'n rhaid i ni eu hystyried".

    Dywedodd Mr Drakeford y byddai'r cyfnod clo llym yn debyg i'r cyfyngiadau yn gynharach eleni ond bod hynny mewn grym am gyfnod llawer hirach.

  14. Cefnogaeth i fusnesau yn 'allweddol' cyn clo o'r fathwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae gweinidogion yn paratoi cynlluniau ar gyfer pecyn newydd o gefnogaeth i fusnesau cyn penderfynu a fyddan nhw'n rhoi cyfyngiadau llym mewn grym am gyfnod byr, meddai Mr Drakeford.

    Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi £140m o gefnogaeth i fusnesau yng nghyfnod diweddaraf eu cynllun i adfer yn economaidd.

    Ond dywedodd y Prif Weinidog wrth y gynhadledd y bydd angen "mynd ymhellach na hynny" pe bai cyfyngiadau llymach yn dod i rym.

    Ychwanegodd ei fod hefyd wedi ysgrifennu at y Canghellor Rishi Sunak i holi a fyddai cefnogaeth ar gael i gyd-fynd ag unrhyw gyfyngiadau o'r fath.

    "Ry'n ni'n gwybod bod mwy o waith i'w wneud er mwyn sicrhau bod gennym fel Cabinet yr holl fanylion cyn gwneud y penderfyniad terfynol," meddai.

    "Yn allweddol i'r penderfyniad yna fydd pecyn o gefnogaeth i fusnesau."

  15. Pam aros tan ddydd Llun?wedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ei fod yn aros tan ddydd Llun cyn cyflwyno'r cyfnod clo byr er mwyn cynllunio ar ei gyfer yn iawn.

    Mae'n ychwanegu bod angen amser "i siarad a phawb a oedd â rhan yn y penderfyniad".

    Dywedodd ei fod wedi treulio dydd Iau yn siarad gydag arweinwyr awdurdodau lleol yng Nghymru".

  16. Cyfyngiadau llym am 'roi mwy o amser i ni'wedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ni fydd y cyfyngiadau llym yn "hudlath", meddai'r Prif Weinidog wrth y gynhadledd.

    Dywedodd Mark Drakeford na fyddai cyfnod clo o'r fath yn "gwneud i coronafeirws ddiflannu", ond y byddai'n rhoi "mwy o amser i ni".

    "Ein nod os ydyn ni'n penderfynu cael clo llym am gyfnod byr yw y bydd yn ddigon i'n cael ni at y Nadolig," meddai.

    "Dydy hynny ddim yn golygu na fydd angen cymryd mesurau pellach yn ddiweddarach yn y gaeaf, ond rwy'n canolbwyntio ar y sefyllfa bresennol - y trafferthion sy'n cael eu hwynebu gan ein gwasanaeth iechyd oherwydd bod y feirws yn parhau i ledaenu ym mhob rhan o Gymru.

    "Os ydyn ni oll yn chwarae ein rhan, bydd hynny'n rhoi yr amser ry'n ni ei angen i'n cael at y Nadolig heb gyfyngiadau eraill o'r math yma."

  17. 'Aros adref am wythnosau nid misoedd'wedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020
    Newydd dorri

    Llywodraeth Cymru

    "Bydd yn rhaid i ni aros adref eto i arbed bywydau ond y tro hwn am wythnosau nid misoedd," medd Mark Drakeford.

    Bydd cyfnod clo byr yn lleihau achosion o'r feirws, meddai.

    "Gyda'n gilydd gyda rheolau cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru gyfan byddwn yn gallu arafu'r feirws erbyn y Nadolig."

    Mae nifer y bobl sydd mewn ysbyty gyda Covid yn 825 ac mae'r rhif R sef y nifer o bobl y mae person heintus yn ei heintio yn 1.4.

    Mae hyn yn golygu, medd Mark Drakeford, bod nifer yr achosion yn codi yn hytrach na gostwng.

  18. Cadarnhau cynlluniau am glo llym, byrwedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020
    Newydd dorri

    Llywodraeth Cymru

    Fe wnaeth y Prif Weinidog gadarnhau wrth y gynhadledd bod cyfnod clo "byr a llym" yn cael ei gynllunio ar gyfer Cymru.

    Dywedodd Mark Drakeford nad yw'r cynllun terfynol wedi'i baratoi eto, ac y bydd cyhoeddiad llawn ddydd Llun yn dilyn trafodaethau dros y penwythnos.

    Ychwanegodd Mr Drakeford bod 2,500 o bobl yn cael eu heintio yn ddyddiol bellach, a bod unedau gofal critigol ysbytai eisoes yn llawn.

    "Dydy gwneud dim byd ddim yn opsiwn," meddai.

    Ychwanegodd y gallai'r cyfyngiadau fod mewn grym am ddwy neu dair wythnos.

    Dywedodd Mr Drakeford y bydd y cyfnod clo yn "sioc fer, llym i'r feirws, allai droi'r cloc yn ôl, gan arafu'r lledaeniad a rhoi mwy o amser i ni, a mwy o gapasiti allweddol i'r GIG".

    Drakeford
  19. Yr haint yn lledu yn gyflymwedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog yn dangos map sy'n nodi sut mae'r haint wedi lledaenu yn gyflym yn ystod yr wythnosau diwethaf.

    Roedd y ffigyrau yn isel ym mis Awst, meddai, ond yn ystod yr wythnosau diwethaf maent wedi cynyddu yn ddirfawr.

    Bellach mae dros 800 yn cael gofal critigol mewn ysbytai ac yn drist iawn gellid disgwyl mwy o farwolaethau, meddai.

  20. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter