Crynodeb

  • Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cadarnhau cynlluniau am gyfnod clo cenedlaethol byr

  • 979 achos newydd a phum marwolaeth yn cael eu cofnodi yng Nghymru

  • Y rheolau newydd ar deithio i mewn i Gymru o ardaloedd gyda lefelau uchel Covid-19 yn dod i rym heddiw

  • Y Prif Weinidog yn dweud bod 'cadw ysgolion ar agor yn flaenoriaeth'

  1. Plaid Cymru yn galw am gyfnod clo byr heb oediwedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Plaid Cymru

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno cyfnod clo byr heb oedi pellach.

    "Rydym angen datganiad brys gan y Prif Weinidog yn cadarnhau circuit-breaker i Gymru gan amlinellu beth yn union fydd ei effaith ar fywydau pobl a'u cyflogaeth.

    "Tra ei bod i'w groesawu fod cynllunio yn mynd rhagddo, ni allwn wastraffu diwrnod arall wrth i ffigyrau godi i lefelau uwch."

  2. Cyfyngiadau Caerffili i barhauwedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Nos Iau fe gadarnhaodd Cyngor Sir Caerffili y byddan nhw'n ymestyn y cyfyngiadau sydd mewn grym yno am wythnos arall.

    Dywedodd arweinydd y Cyngor, Phillipa Marsden, gan fod Llywodraeth Cymru'n ystyried cyflwyno cyfyngiadau ledled y wlad, bod rhaid iddyn nhw feddwl am "strategaeth ymadael newydd wrth symud ymlaen".

    Mae'r cyfyngiadau wedi bod mewn grym yng Nghaerffili ers 8 Medi.

    CaerffiliFfynhonnell y llun, Huw Fairclough
  3. Y gynhadledd yn dechrau mewn 15 munudwedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Paratoi i dderbyn mwy o gleifion i ysbyty maeswedi ei gyhoeddi 11:58 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Mae bwrdd iechyd sy'n brwydro yn erbyn nifer o farwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid-19 mewn tri o'i ysbytai yn paratoi i dderbyn mwy o gleifion i'w ysbyty maes ddydd Gwener.

    Mae Cwm Taf Morgannwg wedi adrodd 47 o farwolaethau mewn ysbytai yn Llantrisant, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.

    Mae gan y bwrdd iechyd fwy o gleifion coronafeirws nag ar unrhyw adeg ers i'r pandemig ddechrau, yn ôl ffigyrau GIG Cymru.

    Dywedodd Dr Nick Lyons, cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, bod yr "ysbytai'n ofnadwy o brysur ar y funud".

    Mae 38 o'r marwolaethau sy'n gysylltiedig gyda Covid-19 wedi eu cadarnhau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

    Mae nifer o wasanaethau arferol yr ysbyty eisoes wedi eu hatal dros dro, a bydd hynny'n parhau.

    Ers dydd Iau, mae cleifion wedi bod yn cael eu trin mewn ysbyty maes - Ysbyty Seren ym Mhen-y-bont - am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig er mwyn rhyddhau rhywfaint o'r pwysau ar yr ysbytai.

    ysbytyFfynhonnell y llun, Google
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd 155 o achosion positif Covid-19 eu cadarnhau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg hyd at 14 Hydref

  5. Cyngor Ceredigion yn cau Tafarn Ffostrasol Armswedi ei gyhoeddi 11:54 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Cyngor Ceredigion

    Mae busnes yng Ngheredigion wedi cael ei gau am dorri rheoliadau coronafeirws.

    Mae hysbysiad cau wedi'i gyflwyno i Tafarn Ffostrasol Arms yn Ffostrasol, Llandysul gan Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd oherwydd diffyg cydymffurfio parhaus â Rheoliadau Coronafeirws.

    Dywed llefarydd ar ran y Cyngor "bod hysbysiad gwella wedi'i gyflwyno i'r safle o'r blaen, ond sefydlwyd bod tramgwyddau pellach o'r rheoliadau wedi'u nodi ac er mwyn diogelu'r cyhoedd, penderfynwyd cau'r safle.

    Bydd Tafarn Ffostrasol Arms yn aros ar gau hyd nes y gallant ddangos eu bod wedi gwneud gwelliannau ac yn bodloni gofynion rheoliadau’r Coronafeirws."

    Ffostrasol ArmsFfynhonnell y llun, Cyngor Ceredigion
  6. Bwytai, busnesau bwyd ac undebau wedi galw am eglurderwedi ei gyhoeddi 11:51 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    lletygarwch

    Mae'r BBC yn deall y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfnod clo byr a llym mewn ymgais i dorri ar gylchrediad coronafeirws yn ystod y dyddiau nesaf.

    Mae bwytai, busnesau bwyd ac undebau wedi galw am eglurder ynghylch cynlluniau'r llywodraeth i atal Covid-19 rhag ymledu.

    Nid yw'n eglur eto pa bryd y bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud nac am ba hyd y byddai'r cyfnod clo yn para.

    Dywed Llywodraeth Cymru nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud eto.

    Mae'n debyg fod swyddogion wedi briffio busnesau lletygarwch a bod gweinidogion wedi ymgynghori gydag arweinwyr y cynghorau lleol mewn cyfarfodydd yr wythnos hon.

    Mae grŵp o fusnesau yng Nghymru wedi anfon llythyr brys yn gofyn am eglurder gan y Llywodraeth am y sefyllfa a'r "bwriad i gyflwyno mesurau fyddai'n golygu cyfyngiadau i letygarwch".

    Mae'r llythyr wedi cael ei arwyddo gan gwmni Castell Howell, bragdy Brains a'r Welsh Independent Reastaurant Collective sy'n cynrychioli dros 300 o gaffis, tafarndai a thai bwyta.

    Maen nhw o'r farn fod angen "cefnogaeth brys i sicrhau eu parhad".

    Dywed prif weithredwr Brains, bragdy mwyaf Cymru, y "byddai hyn yn hoelen olaf i nifer yn ein sector pe na bai cymorth ar gael yn syth".

  7. Cyfyngiadau atal teithio i Gymru yn dod i rym henowedi ei gyhoeddi 11:48 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Arwydd CymruFfynhonnell y llun, Geoff Caddick
    Disgrifiad o’r llun,

    'Dim croeso i Gymru o rai ardaloedd yn y DU' ar ôl 6 heno

    Bydd cyfyngiadau i atal pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn y DU sydd â lefelau uchel o coronafeirws rhag teithio i Gymru yn dod i rym nos Wener.

    Pwrpas y cyfyngiadau ydy i helpu atal Covid-19 rhag symud o ardaloedd o'r fath i gymunedau lle nad oes cynifer o achosion, meddai Llywodraeth Cymru.

    Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud y gallai gwaharddiad arfaethedig "achosi rhaniadau a dryswch" ymhlith cymunedau.

  8. Croesowedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2020

    Croeso i'n llif newyddion byw.

    Am 12:15 bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn siarad yng nghynadledd ddiweddaraf Llywodraeth Cymru.

    Mae'r BBC yn deall y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfnod clo byr a llym mewn ymgais i dorri ar gylchrediad coronafeirws yn ystod y dyddiau nesaf.