Crynodeb

  • Dim gwerthu alcohol o gwbl mewn tafarnau na thai bwyta

  • Busnesau lletygarwch i orfod cau am 18:00 o nos Wener

  • Pecyn cymorth gwerth £340m gan y llywodraeth i fusnesau fydd yn dioddef

  • Rhybudd y gall Cymru wynebu diweithdra tymor hir wedi Covid-19

  • Grant hunan-ynysu: Rhybudd y bydd rhieni sengl ar eu colled

  1. Hwyl am heddiwwedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    BBC Cymru Fyw

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw.

    Mae prif bwyntiau Mark Drakeford o'r gynhadledd ar gael i'w darllen ar ein hafan, gyda'r holl ymateb yn llawn.

    Diolch am ddilyn ein llif byw - hwyl am y tro.

  2. Tair yn rhagor o farwolaethau Covid-19wedi ei gyhoeddi 14:04 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi tair yn ragor o farwolaethau a 802 achos newydd o goronafeirws yng Nghymru.

    Mae cyfanswm o 80,342 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru ers dechrau'r pandemig bellach, a 2,540 o bobl wedi marw.

    Cyfanswm nifer y profion sydd wedi eu cynnal ydy 1,497,197 ac mae 948,365 o unigolion wedi derbyn prawf.

    Roedd 93 o'r achosion newydd yng Nghaerdydd, 87 yn Abertawe a 72 yn Rhondda Cynon Taf.

  3. Rhybudd i dri busnes yn Aberystwythwedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Cyngor Ceredigion

    Mae tri pherchennog busnes yng nghanol tref Aberystwyth wedi cael rhybudd y gallai eu busnesau wynebu gorfod cau os na fyddant yn rhoi "mesurau rhesymol ar waith i ddarparu neu sicrhau bod cyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb yn cael eu defnyddio gan bobl sy’n gweithio ar eu safleoedd".

    Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd Cyngor Ceredigion fod "Hysbysiadau Gwella Mangre wedi cael eu cyflwyno i'r sawl sy’n gyfrifol am G-One ar Rodfa’r Gogledd a Penguin Pizza a Hollywood Pizza ar Heol y Wig, Aberystwyth.

    "Mae’r hysbysiadau gwella yn ei gwneud yn ofynnol i'r busnesau ‘ddarparu neu sicrhau bod cyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb yn cael eu defnyddio gan bob un sy’n gweithio yn y mangreoedd’ ac yn rhybuddio y gallai peidio â chydymffurfio â’r hysbysiadau arwain at gyflwyno hysbysiad cau mangre. Cyflwynwyd yr hysbysiadau i'r busnesau yn dilyn arolygiadau wedi’u cydlynu dros y penwythnos gan Heddlu Dyfed Powys a Thîm Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir Ceredigion.

    "Mae’r camau gweithredu yn dilyn datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd gan y Cyngor yr wythnos diwethaf yn rhybuddio safleoedd am yr angen i sicrhau bod staff yn cydymffurfio â’r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb, ynghyd â chamau gorfodi tebyg ar ddau safle bwyd yn Aberteifi ar 18 Tachwedd 2020."

  4. CBI Cymru: Cyhoeddiad 'dinistriol' i'r sectorwedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Dywedodd Ian Price, Cyfarwyddwr CBI Cymru fod cyhoeddiad y prif weinidog "yn ddinistriol i sector lletygarwch Cymru sydd eisoes yn dioddef o gylch niweidiol o gyfyngiadau.

    "Mae tafarndai, bwytai a siopau a ddylai fod yn fwrlwm yr adeg hon o'r flwyddyn bellach yn wynebu dyfodol hynod ansicr, gyda chau a cholli swyddi bron a bod yn sicr o ddigwydd.

    “I'r cwmnïau hynny sydd wedi cael trafferth, gallai colli'r cyfnod masnachu holl bwysig dros y Nadolig fod yn hoelen olaf... ac ni fydd y seibiant yr oedd llawer yn gobeithio amdano bellach yn digwydd."

    Ychwanegodd:“Trwy gydol y pandemig, mae cwmnïau wedi gofyn am gyfathrebu clir, amserol yn seiliedig ar dystiolaeth ynghylch cyfyngiadau i’w helpu i gynllunio. Maent am ddeall y pwyntiau data allweddol sy'n dylanwadu ar benderfyniadau a bod yn hyderus y bydd y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith yn sicrhau'r canlyniadau cywir.

    “Er mwyn i sector lletygarwch Cymru oroesi’r storm, mae cefnogaeth fusnes ychwanegol yn gwbl hanfodol. Rhaid sicrhau bod adnoddau ar gael i gwmnïau ar unwaith, gyda gwybodaeth glir a phwynt cyswllt yn cael ei greu i'w helpu i gael mynediad iddo. "

    TafarnFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. 'Helpwch fusnesau i aeaf-gysgu'wedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Plaid Cymru

    Rhaid i Lywodraeth Cymru roi cefnogaeth fel bod busnesau lletygarwch a thwristiaeth yn gallu "gaeaf-gysgu", medd Plaid Cymru.

    "Mae busnesau angen cynllunio o flaen llaw," meddai llefarydd iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth AS.

    "I lawer o fusnesau, y peth synhwyrol iddyn nhw wneud rŵan, yn y wybodaeth bod y gefnogaeth gyda nhw, fyddai dweud 'gadewch i ni roi popeth o'r naill ochr am y tro, gwneud yr hyn sydd angen i ofalu am ein staff, sicrhau bod ein busnesau dal yna am flwyddyn arall a gaeaf-gysgu'".

    Ychwanegodd nad yw'n fuddiol i fusnesau orfod "bownsio o un cyfnod clo i un arall".

    Rhun ap Iorwerth
  6. 'Ergyd sylweddol arall' i'r sector lletygarwchwedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Mae'r corff sydd yn cynrychioli dros 300 o fwytai a thafarndai Cymru wedi bod yn ymateb i gyhoeddiad y llywodraeth am gyfyngiadau ar fusnesau lletygarwch.

    Mewn datganiad, dywedodd WIRC - y Wales Independent Restaurant Collective - fod y "cyfyngiadau difrifol ar fasnachu a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn ergyd fawr i'r busnesau sydd wedi gweithio'n anhygoel o galed i wneud lletygarwch yn ddiogel, ac sydd wedi buddsoddi pa arian sydd ganddynt ar ôl yn hyn.

    "Gyda'r cyhoeddiadau diweddaraf, bydd ein busnesau wedi cael eu gorfodi i gau am gyfnod hirach eleni nag yr ydym wedi cael masnachu.

    "Mae lletygarwch wedi dioddef y mwyaf o gyfyngiadau nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU a'r byd ond eto gyda'r mesurau cywir ar waith rydym wedi profi y gall fod yn lle diogel i bobl gwrdd a chymdeithasu yn ystod y pandemig."

    Dywedodd Cerys Furlong, perchennog tafarndai The Lansdowne a The Grange a bwyty Milkwood: “Mae methu â gweini alcohol a chau’n gynnar yn golygu y bydd masnachu ymhell o fod yn hyfyw i fwyafrif y sector, yn enwedig yng nghyfnod y Nadolig, sy’n hanfodol i lwyddiant neu fethiant y mwyafrif o fusnesau lletygarwch.

    "Fodd bynnag, rydym yn croesawu'r cymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru y credwn y bwriedir iddo adlewyrchu maint yr heriau sy'n ein hwynebu.”

    Ychwanegodd Kasim Ali, perchennog Waterloo Tearooms: “Rydym yn hyderus y bydd rhai busnesau yn gwneud eu gorau i agor o dan y rheol 18:00... ond mae'n hanfodol bod cefnogaeth yn canfod ei ffordd yn gyflym i fusnesau teuluol fel aelodau WIRC - mae eu cyllid yn crebachu go iawn.

    "Ni allwn fforddio ailadrodd y dyraniad cyllid blaenorol oedd ar sail y cyntaf i'r felin, gyda phrosesau ymgeisio cymhleth oedd heb eu targedu at y man yr oedd angen ei ariannu fwyaf".

    DiodFfynhonnell y llun, Getty
  7. Cyhoeddi cyngor ar ymweliadau ysbytywedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Rydym wedi clywed eisoes heddiw bod y rheolau'n cael eu llacio o ran galluogi pobl i ymweld â rhywun yn yr ysbyty, ac i ferched beichiog gael eu cymar gyda nhw yn ystod apwyntiadau mamolaeth.

    Mae mwy o hyblygrwydd bellach i fyrddau iechyd ganiatáu'r newidiadau hyn mewn ardaloedd â chyfradd isel o achosion Covid-19.

    Dywedodd Mr Drakeford y bydd cyngor yn cael ei gyhoeddi nes ymlaen heddiw ynghylch ymweliadau ysbyty, i roi gobaith y bydd modd i'r ddau riant "fod â mwy o ran" yng ngofal eu babi cyn yr enedigaeth.

    Merch feichiogFfynhonnell y llun, PA Media
  8. Y mesurau newyddwedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Twitter

    Rhag ofn i chi fethu cyhoeddiad Mark Drakeford am y mesurau newydd sydd yn cael eu cyhoeddi i'r sector lletygarwch heddiw - dyma'r hyn gafodd ei ddweud gan y prif weinidog yn ystod y gynhadledd i'r wasg:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. 'Brechlyn yn fuan - a byddwn yn barod amdano'wedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae GIG Cymru wedi cynnal "prawf mawr a llwyddiannus" o ran materion ymarferol angenrheidiol unwaith y bydd brechlyn wedi cael sêl bendith, medd Mr Drakeford.

    "Gall hynny fod mor fuan ag wythnos yma, a byddwn ni'n barod ei gyfer," meddai yn y gynhadledd.

    Dywedodd hefyd bod yr ymateb i'r profi torfol ym Merthyr Tudful wedi bod yn "ardderchog", a bod dros 10,000 o bobl wedi cael prawf yn yr wyth diwrnod cyntaf.

    Bydd cartrefi gofal yn dechrau defnyddio'r profion canlyniad cyflym yr wythnos hon "i helpu uno teuluoedd sydd wedi bod ar wahân am fisoedd lawer".

    Brechu clafFfynhonnell y llun, Getty
  10. 'Dim diben newid rheolau gwerthu alcohol'wedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd dim newid o ran atal siopau trwyddedig ac archfarchnadoedd rhag gwerthu diodydd, ond roedd yna gyfaddefiad gan Mr Drakeford bod y sefyllfa'n un "anodd".

    Mae'r sector lletygarwch wedi dadlau bod yna fwy o reolaeth wrth weini alcohol mewn tafarndai, bariau a bwytai nag wrth i bobl yfed mewn amgylchiadau eraill.

    Dywedodd Mr Drakeford: "Y farn oedd petai yna derfyn o 18:00 ni fyddai'n gwneud gwahaniaeth".

    "Byddai pobl ond yn prynu'r hyn maen nhw ei angen yn gynharach yn y dydd... fyddai wedi bod yn fesur heb ganlyniad, ac felly fe wnaethon ni benderfynu peidio gwneud hynny."

    Siop trwyddedigFfynhonnell y llun, Thinkstock
  11. Cyfyngiadau cenedlaethol yn 'anghymesur'wedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies, fod cyfyngiadau cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn annheg ar ardaloedd â chyfraddau isel o'r haint.

    Dywedodd fod y cam yn un “anghymesur” ac roedd yn well ganddo weld “dull llawer mwy rhanbarthol”.

    Roedd Mr Davies hefyd yn pryderu y byddai mwy o yfed alcohol yn y cartref yn dilyn y cyhoeddiad am gyfyngiadau ar dafarndai: “Gyda thafarndai a bariau ddim yn gwerthu alcohol, mae perygl y bydd pobl wedyn yn yfed gartref ac yna efallai’n cymysgu hyd yn oed yn fwy nag yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd”.

    PD
  12. Nigel Farage: 'Byddai Cromwell yn falch'wedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Twitter

    Dyma ymateb arweinydd Plaid Brexit i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Dim newid i gyfyngiadau eraill am y trowedi ei gyhoeddi 12:58 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y prif weinidog y bydd mesurau cenedlaethol eraill sydd mewn grym yn aros yr un fath.

    Wrth gyhoeddi’r cyfyngiadau lletygarwch newydd, dywedodd Mark Drakeford na fyddai unrhyw newidiadau i swigod cartrefi, faint o bobl sy’n gallu cwrdd mewn llefydd cyhoeddus dan do neu yn yr awyr agored, na chyfyngiadau ar fusnesau eraill.

    Dywedodd y byddai cyfnod clo Lloegr yn dod i ben ddydd Mercher ac y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad ar gyfyngiadau teithio i mewn ac allan o Gymru yn ddiweddarach yr wythnos hon.

    "Byddwn yn adolygu'r cyfyngiadau hyn yn ffurfiol erbyn Rhagfyr 17 ac yna bob tair wythnos", ychwanegodd.

  14. Ceisio cynnig cymorth 'awtomatig' i fusnesau lletygarwchwedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Prif Weinidog y bydd y system i sicrhau y gall busnesau yn y sector lletygarwch gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt "mor awtomatig ag y gallwn ei wneud".

    Bydd busnesau'n derbyn rhwng £3,000 a £5,000 mewn cefnogaeth trwy'r "Gronfa Cyfyngiadau Busnes" newydd.

    Dywedodd Mr Drakeford: "O ran yr help, byddwn yn defnyddio'r systemau rydyn ni wedi'u defnyddio hyd yma.

    "Felly bydd yr help fyddwch yn ei dderbyn ar sail eich gwerth ardrethol mor awtomatig ag y gallwn ei wneud.

    "Yn amlwg mae'n rhaid i bobl ddweud eu bod nhw am ei dderbyn, ond dydyn ni ddim yn ei gynnig i bobl nad ydyn nhw am ei dderbyn.

    "Cyn belled â'n bod ni'n gwybod eich bod chi am ei dderbyn, ac mae'r system mor awtomatig ag y gallwn ni ei rheoli".

  15. 'Mae'r dystiolaeth i'w gweld'wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r dystiolaeth sy'n cefnogi gosod y cyfyngiadau diweddaraf o fewn cyfres o adroddiadau gan Grŵp Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru, medd Mr Drakeford.

    "Pan fo pobl yn cwrdd mewn lleoliad lletygarwch, dydych chi ddim yn cael cyfarfyddiad byr gyda rhywun fel sy'n digwydd wrth fynd o amgylch archfarchnad," meddai.

    "Ry'ch chi'n eistedd gyda phobl am gyfnod sylweddol o amser, ac mae'r dystiolaeth yna i'w gweld, mae arna'i ofn."

    Ychwanegodd fod "y feirws yn ffynnu" wrth i bobl gymdeithasu, boed yn ein cartrefi neu mewn lleoliad fel tŷ tafarn neu fwyty.

    "Mae'r achosion yn cynyddu ac rydym yn diweddu gyda'r sefyllfa y gwelwn ni yng Nghymru heddiw. Mae'n fater o ofid dwfn oherwydd yr holl waith mae'r sector wedi ei wneud, a'r bobl sy'n gweithio ynddo."

    Y gobaith, meddai, yw "rheoli'r risg i'n gilydd ac i'n gwasanaeth iechyd" wrth lacio'r mesurau diweddaraf dros gyfnod y Nadolig.

  16. Ceisio cynnig ffordd i bobl ifanc gwrdd yn gyfreithiolwedi ei gyhoeddi 12:47 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r rheol sy'n caniatáu i bobl o bedwar cartref gwahanol i gwrdd mewn tafarndai a bwytai "yn y bôn yn cael ei yrru gan ein dymuniad i sicrhau bod gan ein pobl ifanc ffordd gyfreithiol o ddod at ei gilydd", yn ôl y prif weinidog.

    Yn yr Alban, mae cyfyngiadau Lefel Tri yn golygu na all tafarndai a bwytai werthu alcohol, rhaid iddynt gau am 18:00, ond hefyd dim ond chwech o bobl o ddwy aelwyd sy'n gallu cwrdd yn y lleoliadau hynny.

    Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Pan fyddwch chi'n caniatáu i aelwydydd gyfarfod, nid yw'n gweithio i bobl iau.

    "Ni allant gwrdd â'u ffrindiau, ni allant gwrdd â'r bobl y maent yn cymdeithasu â nhw fel arfer ac roeddwn yn awyddus iawn, ac roedd ein cabinet yn awyddus iawn, i beidio â dyfeisio system lle mai'r unig ffordd y gallai pobl gwrdd gyda'n gilydd oedd trwy fynd y tu allan i'r rheolau."

  17. Cyhoeddi cymorth i fusnesau fydd yn cael eu heffeithiowedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Mark Drakeford y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £340m i gefnogi busnesau sydd wedi’u heffeithio gan y cyfyngiadau newydd. Dywedodd mai hwn oedd “y pecyn cymorth mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU”.

    Dywedodd fod hyn yn ychwanegol at y gwahanol gynlluniau cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.

    Elfen gyntaf y pecyn yw Cronfa Cyfyngiadau Busnes gwerth £160m, fydd yn cefnogi hyd at 60,000 o fusnesau ar y rhestr ardrethi annomestig ledled Cymru.

    Bydd busnesau, gan gynnwys rhai ym maes manwerthu, twristiaeth, hamdden a lletygarwch, a'u cadwyni cyflenwi fydd yn cael eu heffeithio yn sylweddol gan y cyfyngiadau, yn derbyn taliadau o rhwng £3,000 a £5,000, meddai.

    "Bydd grantiau o hyd at £ 2,000 yn parhau i fod ar gael i'r rheini nad ydynt ar y rhestr ardrethi annomestig. Cyflwynir y gronfa hon gan awdurdodau lleol. Rwy'n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth barhaus a'u help i gyflawni'r rhan hon o'r pecyn", ychwanegodd.

    Yr ail elfen o'r cymorth yw cronfa gwerth £180m wedi'i thargedu at fusnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden. Bydd yn darparu grantiau o hyd at £100,000 i fusnesau bach a chanolig a £150,000 ar gyfer busnesau mwy.

    MDFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  18. Cyfyngiadau newydd o nos Wener i'r sector lletygarwchwedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    O 18:00 nos Wener yma, bydd cyfyngiadau cenedlaethol newydd yn dod i rym yn achos y sector lletygarwch ac atyniadau adloniant dan do.

    Bydd yn rhaid i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis gau erbyn 18:00, a bydd dim hawl gweini alcohol.

    Wedi 18:00 bydd y busnesau ond yn cael darparu gwasanaethau tec-a-wê.

    Mae'r atyniadau dan do sy'n cael eu heffeithio'n cynnwys:

    • sinemâu
    • neuaddau bingo
    • aleau bowlio
    • canolfannau chwarae meddal
    • casinos
    • lloriau sglefrio, ac
    • arcedau

    Bydd hefyd yn rhaid i amgueddfeydd, orielau a safleoedd treftadaeth gau, ond bydd atyniadau ymwelwyr awyr agored yn cael parhau ar agor.

    Gweini alcoholFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Cynnydd 'trawiadol' yn nifer achosion Covid-19wedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth siarad ar ddechrau cynhadledd y llywodraeth i'r wasg heddiw, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod cynnydd “trawiadol” yn nifer yr achosion coronafeirws yng Nghymru.

    Dywedodd Mr Drakeford fod y ffeithiau’n rhai “llwm” a bod y wybodaeth gyfredol yn awgrymu y gallai 1,600 o bobl ychwanegol golli eu bywydau dros gyfnod y gaeaf.

    Dywedodd mai'r gyfradd dros yr wythnos ddiwethaf oedd 187 achos i bob 100,000 o bobl, ond erbyn heddiw roedd hynny wedi codi i bron i 210 o achosion fesul 100,000 o bobl.

    Ychwanegodd hefyd fod cynnydd pellach wedi bod ymhlith y grŵp oedran dan 25 oed yn 17 o 22 ardal y cynghorau yng Nghymru ond “yn fwy pryderus” dywedodd fod achosion o coronafeirws yn dechrau codi yn y grŵp dros 60 oed yn y rhan fwyaf o’r wlad.

  20. Dilynwch y diweddaraf o'r gynhadledd ymawedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae cynhadledd Covid-19 y llywodraeth i'r wasg ar fin dechrau ac mae modd i chi ddilyn yr hyn sydd yn cael ei drafod gan Mark Drakeford isod:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter