Crynodeb

  • Dim gwerthu alcohol o gwbl mewn tafarnau na thai bwyta

  • Busnesau lletygarwch i orfod cau am 18:00 o nos Wener

  • Pecyn cymorth gwerth £340m gan y llywodraeth i fusnesau fydd yn dioddef

  • Rhybudd y gall Cymru wynebu diweithdra tymor hir wedi Covid-19

  • Grant hunan-ynysu: Rhybudd y bydd rhieni sengl ar eu colled

  1. Llacio rheolau ymweliadau ac apwyntiadau ysbytywedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bydd partneriaid menywod beichiog sy'n byw mewn ardaloedd â chyfradd isel o achosion Covid-19 yn cael mynychu apwyntiadau mamolaeth yn dilyn newid i reolau ymweld ag ysbytai.

    Bellach bydd yna fwy o hyblygrwydd i fyrddau iechyd a hosbisau gael caniatáu ymweliadau ar sail cyfraddau achosion yn lleol.

    Cyn hyn dim ond dan rai amgylchiadau penodol y bu'n bosib mynychu apwyntiadau meddygol hefo claf ac ymweld â phobl mewn ysbytai.

    Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr hyblygrwydd newydd "yn sgil darlun newidiol trosglwyddiad coronafeirws ar draws Cymru, gyda gwahaniaethau arwyddocaol mewn trosglwyddiad cymunedol ar draws gwahanol rannau o'r wlad".

    TeuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
  2. Canolfan brofi Covid-19 newydd i agor yn Nolgellauwedi ei gyhoeddi 11:59 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Cyngor Gwynedd

    Bydd canolfan brofi newydd yn agor ddydd Mawrth yn Nolgellau i'w gwneud hi'n haws i bobl yn ardal Meirionnydd gael apwyntiad ar gyfer prawf Covid-19 yn agosach i’w cartrefi medd Cyngor Gwynedd.

    Bydd y ganolfan wedi ei lleoli ar y Marian yn Nolgellau a bydd yn weithredol am y ddwy i dair wythnos nesaf. Mae cynlluniau ar waith i symud y cyfleuster symudol i leoliadau eraill yn ardal Meirionnydd o’r sir i helpu i sicrhau bod mynediad at brofion ar gael cyn agosed i gartref â phosibl.

    Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Fel Cyngor, rydym yn falch o weithio gyda'n partneriaid iechyd ar y ganolfan brofi dros dro hon yn Nolgellau.

    “Mae’n gyfnod anodd i unrhyw un sydd â symptomau’r feirws. Rydym yn gobeithio y bydd lleoli uned ym Meirionnydd o fudd i drigolion y rhan hon o’r sir wrth i ni weithio i atal Covid-19 rhag lledaenu a gwarchod ein gwasanaethau iechyd a gofal.

    “Bydd yr uned ar gyfer aelodau’r cyhoedd sydd wedi gwneud apwyntiad, a byddem yn atgoffa trigolion bod y cyfleusterau ar gyfer y bobl hynny sydd â symptomau yn unig. Bydd hyn yn helpu i leddfu pwysau i'n partneriaid iechyd sydd eisoes yn gweithio'n galed iawn i gefnogi ein cymunedau lleol.

    “Byddwn hefyd yn atgoffa trigolion i barhau i ddilyn y rheolau er mwyn cadw cyfradd achosion Covid-19 i lawr. Gall pob un ohonom chwarae ein rhan trwy bellhau’n gymdeithasol, golchi dwylo a gwisgo gorchuddion wyneb lle bo angen.”

    MarianFfynhonnell y llun, Google
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Marian yn Nolgellau

  3. Ysgolion ar gau ym Môn o achos Covid-19wedi ei gyhoeddi 11:54 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Cyngor Ynys Môn

    Mae Cyngor Ynys Môn wedi cyhoeddi fod nifer o ysgolion ar yr ynys ar gau heddiw o achos nifer o achosion o'r haint.

    Dywed y cyngor fod Ysgol Uwchradd Caergybi ag Ysgol Gymraeg Morswyn - sydd hefyd yng Nghaergybi - ac Ysgol y Ffridd, Gwalchmai ar gau.

    Mae swyddogion yn cefnogi'r ysgolion ac mae dysgu o adref yn cael ei weithredu ar gyfer disgyblion yr ysgolion ar hyn o bryd.

    YsgolFfynhonnell y llun, Google
    Disgrifiad o’r llun,

    Ysgol Uwchradd Caergybi

  4. Gall Cymru wynebu diweithdra tymor hir wedi Covidwedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    BBC Cymru Fyw

    Gallai nifer y bobl sy'n ddi-waith am gyfnod hir godi i oddeutu 44,000, yn ôl ymchwil sydd wedi cael ei gomisiynu gan y BBC.

    Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod angen buddsoddi i leddfu'r sefyllfa ond yn rhybuddio bod amser anodd i ddod.

    Ers dechrau 2020 mae canran y bobl sydd heb waith yng Nghymru wedi cynyddu o 41% o gymharu â chynnydd o 18% yn Lloegr, sy'n golygu bod 20,000 yn rhagor o bobl yng Nghymru yn chwilio am waith.

    Ac er newyddion da diweddar am frechlyn posib a diwedd ar gyfnodau clo, mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai'r sefyllfa waethygu.

    Yn ôl David Hagendyk o'r Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru gallai nifer y di-waith yng Nghymru godi i hyd at 44,000.

    "Mae'r cyfnod yma yn mynd â ni nôl i'r 1990au cynnar a'r dirwasgiad oedd yn bod bryd hynny," meddai.

    "Mae'n hollol hanfodol bod y llywodraeth yn gweithredu'n gyflym i atal hyn rhag digwydd."

    DiweithdraFfynhonnell y llun, Getty
  5. Grŵp cyswllt ysgol yng Ngheredigion i hunan-ynysuwedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    Cyngor Ceredigion

    Gofynnwyd i ddisgyblion mewn Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gynradd Ciliau Parc, Ciliau Aeron hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos Covid-19 yn yr ysgol medd Cyngor Ceredigion.

    Rhaid i'r disgyblion a'r staff aros gartref am 14 diwrnod "i leihau lledaeniad posibl y feirws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach."

    Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: "Oherwydd y gweithdrefnau cryf sydd wedi'u rhoi ar waith yn yr ysgol, dim ond un Grŵp Cyswllt y gofynnir iddo hunan-ynysu. Mae'r Ysgol wedi cysylltu â'r holl rieni."

    Mae'r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:

    • tymheredd uchel
    • peswch parhaus newydd
    • colled neu newid i synnwyr arogli neu flas
  6. Bore da a chroesowedi ei gyhoeddi 11:38 Amser Safonol Greenwich 30 Tachwedd 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bore da a chroeso i lif byw BBC Cymru Fyw fydd heddiw'n rhoi sylw i'r hyn fydd yn cael ei drafod yng nghynhadledd Covid-19 Llywodraeth Cymru i'r wasg.

    Y Prif Weinidog Mark Drakeford fydd yn cynnal y gynhadledd am 12:15 ac fe fyddwn yn dod a diweddariadau cyson i chi o'r gynhadledd honno.