Crynodeb

  • Y Prif Weinidog, Mark Drakeford fu'n cynnal y gynhadledd am 12:15

  • Rhybuddiodd y bydd cyfnod clo arall ar ôl y Nadolig os nad yw achosion yn gostwng

  • Ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru yn newid i ddysgu ar-lein yr wythnos nesaf

  • Y pandemig wedi dangos bod mwy o angen nag erioed am ysgol feddygol lawn yn y gogledd, yn ôl meddyg

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw.

    Mae crynodeb o'r hyn a gyhoeddwyd yn y gynhadledd ar gael yn yr erthygl ar ein hafan.

    Bydd y llif byw yn dychwelyd yr wythnos nesaf, ond yn y cyfamser, diolch am ddilyn ac arhoswch yn ddiogel.

  2. Gleision Caerdydd mewn 'brwydr i oroesi'wedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Mae prif weithredwr clwb rygbi Gleision Caerdydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried maint y cymorth ariannol mae'n ei gynnig yn ystod y pandemig.

    Fe ddefnyddiodd Richard Holland yr enghraifft o £20m o fenthyciadau a grantiau sydd ar gael i brif glybiau rygbi'r Alban, tra bydd clybiau haen uchaf y gamp yn Lloegr yn derbyn £44m, yn bennaf ar ffurf benthyciadau.

    "Mae nawr yn frwydr i oroesi," meddai Holland mewn datganiad.

    Mae gan Lywodraeth Cymru gronfa adfer chwaraeon a hamdden gwerth £14m, ond nid yw'n cynnwys benthyciadau i'w talu'n ôl.

    Ond mae cybiau rhanbarthol y Gleision, y Gweilch, y Scarlets a'r Dreigiau wedi manteisio ar fenthyciadau gwerth £20m oedd wedi eu trefnu gan Undeb Rygbi Cymru.

    GleisionFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  3. Cadarnau 2,234 achos newydd a 29 o farwolaethauwedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 29 o farwolaethau Covid-19 wedi cael eu cofnodi yng Nghymru dros y 24 awr ddiwethaf.

    Cafodd 2,234 o achosion positif newydd eu cadarnhau dros yr un cyfnod.

    O'r achosion newydd, roedd 254 yng Nghaerdydd, 243 yn Abertawe, 219 yng Nghaerffili a 218 yn Rhondda Cynon Taf.

    Cafodd llai na 10 achos eu cofnodi mewn tair sir - Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

    Fe gafodd 17,313 o brofion eu prosesu yng Nghymru ddydd Iau.

    Mae 98,232 o bobl wedi derbyn prawf positif am Covid-19 yng Nghymru ers dechrau'r pandemig bellach, a 2,818 o'r rheiny wedi marw.

  4. Swyddfa Ystadegau Gwladol: Cyfraddau'n cynydduwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Lun o swab Covid 19Ffynhonnell y llun, Getty Images

    Mae cyfran y bobl sy'n profi'n bositif wedi cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf yng Nghymru, yn ôl amcangyfrif arolwg heintiau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    Cafodd profion swab gwddf a thrwyn eu cymryd ar hap gan fwy na 19,400 o bobl yng Nghymru dros chwe wythnos.

    O edrych ar y canlyniadau, mae yna amcangyfrif bod gan 25,600 o bobl yng Nghymru Covid-19 yn yr wythnos hyd at 4 Rhagfyr - sydd 7,500 yn fwy na'r wythnos flaenorol.

    Mae hynny'n un o bob 120 o bobl, neu 0.84% ​​o'r boblogaeth.

    Dywedodd y Swyddfa Ystadegau: "Mae ein modelu yn awgrymu bod canran y rhai sy'n profi'n bositif wedi cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf yng Nghymru."

    Daeth yr arolwg o hyd i gyfanswm o 142 o brofion positif, mewn 122 o bobl o 99 o aelwydydd dros chwe wythnos.

    Mae'r cyfraddau'n parhau i fod ar eu huchaf ymhlith plant oed ysgol uwchradd.

  5. Symud canolfan brofi o Ddolgellau i Dywynwedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Bydd y ganolfan brofi symudol sydd wedi bod yn Nolgellau dros yr wythnosau diwethaf yn symud i Dywyn ar ddydd Mercher, 16 Rhagfyr.

    Yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, bwriad y ganolfan ydy "sicrhau fod trigolion ardal Meirionnydd y sir yn cael mynediad at brawf Covid-19 mor agos â phosib i gartref".

    Bydd y ganolfan yn Nolgellau yn parhau ar agor tan ddydd Mawrth, 15 Rhagfyr. Bydd y cyfleuster profi wedi'i leoli ym maes parcio Rheilffordd Talyllyn ar Ffordd Cambrian yn Nhywyn, a bydd yn weithredol am bythefnos.

    Yn ôl y bwrdd iechyd mae cynlluniau ar waith i symud yr uned symudol i leoliadau eraill yn ardal Meirionnydd hefyd "i helpu i sicrhau bod mynediad at brofion ar gael cyn agosed i gartref â phosibl".

  6. Reidiau ffair Nadolig Castell Caerdydd i gauwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Cyngor Caerdydd

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Crynodeb o'r 4 lefel newydd o gyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Lefelau
  8. Y Prif Weinidog am aros yng Nghaerdydd dros yr ŵylwedi ei gyhoeddi 13:20 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd ei fod wedi newid ei gynlluniau ar gyfer y Nadolig, a'i fod bellach yn bwriadu aros yng Nghaerdydd.

    Roedd wedi dweud yn flaenorol ei fod yn bwriadu mynd i weld teulu dros yr ŵyl, ond dywedodd heddiw nad yw'n bwriadu teithio a'i fod yn ceisio cael cyswllt gyda llai o bobl dros y Nadolig.

    "Fe fydda i yn aros yng Nghaerdydd, yn cyfyngu ar y bobl rwyn eu gweld," meddai'r Prif Weinidog.

  9. Galw am gyfyngiadau rhanbartholwedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Plaid Cymru

    Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: “Nid oes ond rhaid i chi edrych ar y llwybr yr ydym arni i weld os na fydd pethau'n gwella, mae'n debygol iawn y bydd angen cyfyngiadau llymach.

    “Mae gen i ddiddordeb gwirioneddol yn y syniad serch hynny o weithredu mewn ffordd ranbarthol sensitif; Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae llawer o bobl yn meddwl sy'n rhesymol."

    Dywedodd fod gan ei etholaeth ei hun - Ynys Môn - niferoedd achosion isel ar hyn o bryd, ond ei fod wedi gweld niferoedd uwch yn gynharach yn y flwyddyn.

    Ychwanegodd: “Y broblem gyda system gwbl genedlaethol yw eich bod efallai’n ceisio cydbwyso’r hyn sy’n effeithiol mewn meysydd sydd â lefelau uchel gyda’r hyn sy’n dderbyniol mewn ardaloedd lle mae'r niferoedd yn isel iawn.”

  10. 'Dim cyfyngiad amser' ar gyfnodau clo yn y dyfodolwedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Cadarnhaodd y Prif Weinidog bod y mesurau newydd yn golygu y gall lefelau gwahanol fod mewn grym mewn rhannau gwahanol o Gymru yn y dyfodol, ac na fyddai cyfyngiad o ran amser ar unrhyw gyfnod clo arall yn y dyfodol.

    Dywedodd Mark Drakeford y byddai cyfyngiadau yn cael eu hadolygu yn gyson yn hytrach na gosod dyddiad am pryd fyddai'n dod i ben.

    Eglurodd na fyddai cyfnodau clo yn y dyfodol yn debyg i'r "clo tân" ym mis Tachwedd oherwydd hynny.

    Ychwanegodd mai'r bwriad gyda'r lefelau newydd ydy bod yn fwy eglur am ba gyfyngiadau sydd eu hangen.

  11. 'Sibrydion a newyddion ffug' am fesurau newyddwedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford bod Llywodraeth Cymru wedi sylweddoli'n gynyddol ar "sibrydion a newyddion ffug" am ba fesurau Covid-19 fydd yn dod i rym.

    Ychwanegodd ei fod eisiau cadarnhau na fydd unrhyw gyfyngiadau ar bobl yn gadael eu cartrefi gyda'r nos, ac nad oes bwriad i wahardd gwerthiant alcohol yn llwyr.

    "Fe fyddwch chi wastad yn clywed am newidiadau yn uniongyrchol gennyf fi a fy ngweinidogion, ac fe fyddwn ni wastad yn egluro pam fod yn rhaid gwneud unrhyw newidiadau," meddai.

  12. 'Anodd canfod y cydbwysedd cywir o ran cyfyngiadau'wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog ei bod wastad yn anodd canfod y cydbwysedd cywir o ran cyfyngiadau.

    "Fe wnes i gynnal y gynhadledd yma ddwywaith yr wythnos ddiwethaf a'r cwestiwn i mi dro ar ôl tro oedd 'ydyn ni'n gwneud gormod?'," meddai Mark Drakeford.

    "Yr wythnos yma y cwestiwn ydy 'a ydyn ni'n mynd yn ddigon pell?'

    Ychwanegodd ei fod yn credu bod y mesurau a gyhoeddwyd dros y pythefnos diwethaf yn ddigon i gael effaith ar lefelau'r feirws, ond bod angen rhoi amser i hynny gael effaith.

  13. Cyfraddau 'anhygoel o uchel' mewn rhannauwedi ei gyhoeddi 12:47 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Cynhadledd i'r Wasg Mark Drakeford ASFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi disgrifio'r sefyllfa coronafeirws yng Nghymru fel un "ddifrifol iawn".

    Dywedodd Mr Drakeford fod y cyfnod clo ym mis Tachwedd wedi llwyddo i ostwng cyfraddau Covid-19 ond bod y rhain bellach wedi codi “yn gyflymach nag y mae ein modelau wedi rhagweld”, gan ychwanegu ei fod “wedi ei wreiddio’n gadarn mewn cymaint o rannau o Gymru”.

    "Mewn rhai rhannau o Gymru, fel Castell-nedd Port Talbot, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf, mae'r cyfraddau bellach yn anhygoel o uchel," meddai Mr Drakeford wrth y gynhadledd i'r wasg yng Nghaerdydd.

    "Mae'r lefelau uchel iawn hyn o coronafeirws yn trosi'n anochel i bwysau sylweddol a pharhaus ar ein GIG.

    "Yr wythnos hon pasiodd nifer y cleifion sy'n gysylltiedig â coronafeirws yn yr ysbyty 1,900 am y tro cyntaf ac mae'n parhau i gynyddu.

    "Os bydd y cynnydd hwn yn parhau ar y gyfradd hon, gallem weld 2,500 o bobl â coronafeirws yn yr ysbyty erbyn Dydd Nadolig."

  14. Lefelau gwahanol o gyfyngiadau yn bosib ar draws Cymruwedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd cynllun newydd ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar unrhyw gyfnodau clo pellach yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, a'n destun dadl yn y Senedd ddydd Mawrth, meddai Mark Drakeford.

    Dywedodd y byddai Lefel 4 "gam yn uwch" na'r safle presennol, gan ychwanegu y byddai'n golygu "mwy o gyfyngiadau ar y rhyddid ry'n ni'n gallu eu cynnig i bobl os na allwn ddod â'r niferoedd yn is na'r hyn ydyn nhw heddiw".

    Ychwanegodd ei bod yn bosib yn y dyfodol y byddai cyfyngiadau gwahanol mewn gwahanol rannau o Gymru.

    Ond dywedodd ar hyn o bryd bod achosion o'r feirws yn cynyddu ym mhobman.

  15. Achosion ar gynnydd bron ym mhobmanwedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r graff yma a ddefnyddiodd Mark Drakeford yn y gynhadledd yn dangos y gyfradd Covid-19 mewn gwahanol siroedd, gyda bron pob un ar gynnydd dros yr wythnosau diwethaf.

    GraffFfynhonnell y llun, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  16. Cyfnod clo arall ar ôl y Nadolig os nad yw achosion yn gostwngwedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd cyfnod clo arall ar ôl y Nadolig os nad ydy nifer yr achosion Covid-19 yn gostwng, meddai'r Prif Weinidog.

    Bydd rhai rheolau'n cael eu llacio rhwng 23 a 27 Rhagfyr, ond gyda 1,900 o gleifion Covid yn ysbytai Cymru, mae pwysau i roi rheolau llymach mewn grym wedi hynny.

    Dywedodd Mark Drakeford nad yw hi'n bendant y bydd angen cyfnod clo arall, ond na fydd y gwasanaeth iechyd yn gallu ymdopi os ydy'r lefelau yn parhau i gynyddu.

    Bydd cyhoeddiad hefyd heddiw bod yn rhaid i atyniadau yn yr awyr agored gau.

    "Mae'n rhaid i mi fod yn glir - os nad yw'r mesurau a gyflwynwyd yr wythnos ddiwethaf a'r wythnos yma, ac ymdrechion pob un ohonom yn ddigon i droi'r llanw ar y feirws, yna bydd hi'n anochel y bydd angen i ni symud i lefel 4 ar ôl y Nadolig."

    Lefel 4 ydy'r lefel uchaf o gyfyngiadau o dan system Llywodraeth Cymru.

  17. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Galw am eglurder wedi adroddiadau y bydd cyfyngiadau pellachwedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Mae galwad am eglurder gan Lywodraeth Cymru yn sgil adroddiadau yn y wasg bod cyfyngiadau Covid llym yn cael eu hystyried o 28 Rhagfyr.

    Mae gorsaf radio LBC yn dyfynnu ffynhonnell wrth ddweud bod cyfnod clo arall yn cael ei ystyried ar ôl y Nadolig.

    Dywedodd y Ceidwadwr Andrew RT Davies bod angen i'r prif weinidog wneud "datganiad brys" ar y mater.

    Ar y Post Cyntaf heddiw dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod "gwneud dim, ddim yn opsiwn", gan alw am "ddatganiad clir a chynhwysfawr" gan y llywodraeth.

    Yn ôl Llywodraeth Cymru mae gweinidogion yn adolygu'r cyfyngiadau yn gyson, gan gynnwys edrych ar fesurau pellach.

    Caerdydd
  19. Y gynhadledd yn dechrau mewn 10 munudwedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. 'Pandemig yn amlygu'r angen am ysgol feddygol y gogledd'wedi ei gyhoeddi 11:58 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Mae pandemig Covid-19 wedi dangos bod 'na fwy o angen nag erioed am ysgol feddygol lawn yn y gogledd, yn ôl un meddyg teulu.

    Tra bod nifer cyfyngedig yn gallu astudio rhan o'u cwrs meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor drwy gynllun â Phrifysgol Caerdydd, does dim modd gwneud y cwrs cyfan yno.

    Yn ôl Dr Esyllt Llwyd o feddygfeydd Waunfawr a Llanrug mae'r pandemig wedi golygu bod 'na "bwysau mawr" ar y sector, a byddai'r drefn wedi bod yn "fwy effeithiol" pe bai mwy o feddygon.

    Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ystyried achos busnes dros sefydlu ysgol feddygol lawn, a bod niferoedd recriwtio yn cynyddu.

    Mae rhagor ar y stori hon ar ein hafan.

    Dr Esyllt Llwyd