Crynodeb

  • Y Prif Weinidog, Mark Drakeford fu'n cynnal y gynhadledd am 12:15

  • Rhybuddiodd y bydd cyfnod clo arall ar ôl y Nadolig os nad yw achosion yn gostwng

  • Ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru yn newid i ddysgu ar-lein yr wythnos nesaf

  • Y pandemig wedi dangos bod mwy o angen nag erioed am ysgol feddygol lawn yn y gogledd, yn ôl meddyg

  1. 'Y ffordd fwyaf diogel o dreulio'r Nadolig yw gyda'ch cartref eich hun'wedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Ysgolion uwchradd i addysgu ar-lein yr wythnos nesafwedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Bydd ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru yn newid i ddysgu ar-lein yr wythnos nesaf fel rhan o'r ymdrech i ostwng cyfraddau coronafeirws.

    Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams brynhawn ddoe ei bod eisiau pwysleisio bod ysgolion a cholegau yn llefydd diogel, er bod dros hanner ysgolion Cymru wedi cael o leiaf un achos o Covid-19 ers mis Medi.

    Ond ychwanegodd ei bod yn cydnabod y gall safleoedd addysg gyfrannu at fwy o gymysgu y tu allan i'r ysgol neu'r coleg.

    Dywedodd y gweinidog bod y penderfyniad yn deillio o gyngor gan y Prif Swyddog Meddygol ynglŷn â'r sefyllfa Covid-19 yng Nghymru, sy'n "dirywio".

    YsgolFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich 11 Rhagfyr 2020

    Bore da a chroeso i'n llif byw o gynhadledd Llywodraeth Cymru ar ddydd Gwener, 11 Rhagfyr.

    Y Prif Weinidog, Mark Drakeford fydd yn cynnal y gynhadledd am 12:15.

    Arhoswch gyda ni am y cyfan.