Crynodeb

  • Y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething yn nodi cymaint o bwysau sydd ar y GIG ar hyn o bryd

  • Pobl mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru yn cael eu brechu o ddydd Mercher ymlaen

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod 33 yn rhagor wedi marw a bod 1,228 o achosion newydd

  • Rhaglen brofi am Covid-19 i'w chynnal mewn ysgolion a cholegau o fis Ionawr ymlaen

  • 'Nifer o bobl wedi'u heintio mewn ysbytai ond ddim bellach yn heintus,' medd y Gweinidog Iechyd

  • Siopau bach yn dal eu tir er gwaethaf y pandemig

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    A dyna ni am heddiw.

    Prif neges y Gwenidog Iechyd, Vaughan Gething, yw bod yna bwysau aruthrol ar y Gwasanaeth Iechyd ar hyn o bryd ac mae'n pwysleisio bod yn rhaid i bawb fod yn gyfrifol am yr hyn maent yn ei wneud.

    Dywed bod nifer mewn ysbytai wedi'u heintio ond nad ydynt bellach yn heintus.

    Bydd pobl mewn cartrefi gofal yn y Gogledd yn cael eu brechu o ddydd Mercher ymlaen.

    Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru - sydd bellach yn cael eu cyhoeddi am 12:00 - yn nodi bod 33 yn rhagor o bobl wedi marw a bod 1,228 yn fwy o achosion.

    Bydd gweddill straeon y dydd a'r diweddaraf am yr haint ar wefan Cymru Fyw.

    Diolch am eich cwmni heddiw. Cadwch yn ddiogel.

    Hwyl am y tro.

    bauble
  2. Siopau annibynnol yn dal eu tir er gwaetha'r pandemigwedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Wrth i nifer o siopau mawrion ddiflannu oddi ar y stryd fawr, mae'n ymddangos fod siopau bychain annibynnol mewn trefi marchnad yn dal eu tir.

    Mae tref fechan Sanclêr yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin wedi gweld tipyn o fynd a dod yn y blynyddoedd diwethaf, ond bellach mae'r adeiladau gweigion yn dechrau llenwi a siopau newydd wedi agor yn ystod y pandemig.

    Un o'r rheiny yw siop anrhegion Llawn Cariad, agorodd ei drysau am y tro cyntaf fis Awst.

    "Fe welon ni'r siop fach hyn, a thair wythnos o'i gweld hi, o'dd hi ar agor 'da ni!" eglura un o'r perchnogion, Jane Morgan.

    "Dwi ddim wedi difaru dim, achos ni 'di cael cefnogaeth ardderchog o'r gymuned."

    Dyma flas o'r farn ar strydoedd Sanclêr am siopa yn lleol eleni.

    Disgrifiad,

    Ai Nadolig y siopau bach annibynnol fydd hi eleni?

  3. Ceidwadwyr: 'Wedi galw am drefn haenau gwahanol ers tro'wedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywed arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Paul Davies, "bod y sefyllfa yn gwbl ddifrifol yng Nghymru" wrth i nifer yr achosion gynyddu.

    Ychwanegodd ei fod am "ddisgwyl a gweld" beth fydd effaith system haenau newydd Llywodraeth Cymru a bod ei blaid ef wedi galw am "dargedu gwahanol ardaloedd fisoedd yn ôl".

    Ychwanegodd Mr Davies y dylai pedair cenedl y DU gydweithio'n agosach ond ei fod yn croesawu cael system lefelau lleol ar gyfer Cymru.

  4. Llywodraeth Cymru: 'Yn bwysig dilyn y rheolau'wedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth i bryder gynyddu am nifer yr achosion o Covid-19 mae Llywodraeth Cymru yn rhybuddio ei bod yn bwysig dilyn y rheolau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. 'Dim byd wedi'i ddiystyru' o ran cyfyngiadau dros y Nadoligwedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Does "dim byd wedi'i ddiystyru" o ran cyflwyno mwy o gyfyngiadau dros y Nadolig, meddai'r Gweinidog Iechyd.

    Dywedodd Vaughan Gething wrth y gynhadledd bod Llywodraeth Cymru yn "gorfod ystyried yr opsiynau pob dydd".

    Ond ychwanegodd bod y llywodraeth yn gobeithio na fydd yn rhaid newid y rheolau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi, fel y rheol bod tair aelwyd yn gallu cyfuno rhwng 23 a 27 Rhagfyr.

    "Ond dydych chi byth yn gwybod gyda'r pandemig, oherwydd os ydy'r feirws yn parhau i dyfu bydd yn rhaid i ni wneud y penderfyniadau sy'n cadw pobl yn ddiogel," meddai.

    "Felly does dim byd wedi'i ddiystyru, ond mae'n dibynnu ar y dewisiadau ry'n ni oll yn eu gwneud."

  6. Niferoedd yn parhau yn isel yn y gogledd orllewinwedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos mai yng nghymoedd y de y mae'r cyfraddau uchaf o achosion.

    Ddydd Llun dangoswyd mai ym Merthyr y mae'r gyfradd uchaf gyda'r nifer bellach yn 870.3 ym mhob 100,000 yn ystod y saith diwrnod diwethaf.

    Mae'r niferoedd yn parhau yn gymharol isel yng ngogledd orllewin Cymru, gyda'r niferoedd ar Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy yn is na'r gyfradd o 100 achos ym mhob 100,000 o bobl.

    map
    Disgrifiad o’r llun,

    Y ffigyrau fesul 100,000 o'r boblogaeth

  7. Cyhoeddi'r lefelau newydd o gyfyngiadau yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r diweddariad i'w system ‘goleuadau traffig’, sy'n newid cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru i bedair lefel o rybuddion.

    Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford y bydd y system yn sefydlu'r "mesurau y bydd angen inni eu rhoi ar waith i reoli lledaeniad y feirws yn ystod cyfnod anodd y gaeaf ac i ddiogelu iechyd pobl".

    Mae’r cynllun hefyd yn esbonio sut a phryd y bydd Cymru’n symud rhwng y gwahanol lefelau.

    • Lefel 1 (risg isel): Cyfyngiadau agosaf at normalrwydd sy’n bosibl tra mae cyfraddau heintio yn isel a mesurau ataliol eraill yn parhau ar waith, megis cadw pellter cymdeithasol a gweithio gartref.
    • Lefel 2 (risg ganolig): Mesurau rheoli ychwanegol i gyfyngu ar ledaeniad y feirws, gan gynnwys camau gweithredu lleol a roddir ar waith mewn ardaloedd neu safleoedd ble mae clwstwr o achosion.
    • Lefel 3 (risg uchel): Y cyfyngiadau llymaf heblaw am gyfnod atal byr neu gyfnod clo, fel yr ydym ynddi ar hyn o bryd.
    • Lefel 4 (risg uchel iawn): Cyfateb i reoliadau’r cyfnod atal byr neu gyfnod clo. Gellid eu defnyddio’r rhain naill ai fel cyfnod atal byr neu fel cyfnod clo hirach.
  8. Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn dweud fod ysbytai dan bwysau 'sylweddol'wedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

    FaenorFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae achosion coronafeirws mewn un rhan o Gymru yn cynyddu ar "gyfradd frawychus", meddai un bwrdd iechyd.

    Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn y de-ddwyrain fod ysbytai yno dan bwysau "sylweddol" oherwydd nifer y cleifion Covid.

    Roedd y bwrdd eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw'n atal apwyntiadau cleifion allanol a llawdriniaethau wedi'u trefnu sydd ddim yn fater brys o ddydd Llun.

    Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu fod cynnydd sylweddol wedi bod mewn achosion yn nifer o ardaloedd yn ne Cymru.

    Allan o holl ardaloedd awdurdodau lleol y DU, roedd wyth o ardaloedd cynghorau'r de ymysg y deg uchaf o ran cyfraddau achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth, hyd at 8 Rhagfyr.

  9. 'Rhaid cydweithredu er mwyn peidio colli pobl ar y ffordd'wedi ei gyhoeddi 12:49 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r sefyllfa "o fewn rheolaeth" yng Nghymru ac mae Llywodraeth Cymru yn ceisio "arbed bywydau", medd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

    Wrth siarad â'r wasg dywedodd Mr Gething bod y cynnydd mewn achosion "yn bryder i ni gyd" ac mae sefyllfa'r feirws "yn mynd yn fwy difrifol".

    "Ry'n yn gosod y rheolau, ry'n yn rhoi anogaeth i bobl ac ry'n yn ceisio nodi beth yw canlyniad pob dewis ond yn gofyn i bobl feddwl be ddylent fod yn ei wneud," meddai.

    "Ond ry'n ni angen help pawb, all y llywodraeth ddim gwneud hyn ar eu pennau eu hunain. Ry'n am i bobl ar draws Cymru ystyried sut y gallant wneud y peth iawn i ddiogelu eu hunain a phawb arall o'u cwmpas.

    "Mae'r brechlyn," ychwanegodd, "yn cynnig gobaith.

    "Mae yna daith hir cyn cyrraedd hynny a 'dan ni ddim am adael pobl ar ôl ar y daith honno.

    "Y mwyaf 'dan ni'n ei wneud y mwyaf tebygol y down i ddiwedd y twnnel gyda'n gilydd. Os na wnawn gydweithredu mi fyddwn yn colli pobl ar y ffordd."

  10. Profion mewn ysgolion 'ddim am gael gwared â Covid-19'wedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd na fydd y profion fydd yn cael eu cynnal mewn ysgolion yn cael gwared â Covid-19, ond y bydd yn "golygu y bydd yn amharu llai ar addysg plant y flwyddyn nesaf".

    Ychwanegodd Vaughan Gething mai'r bwriad ydy "helpu staff a disgyblion i ddychwelyd i'r ysgol cyn gynted â phosib, a helpu rhieni i fynd yn ôl i'w gwaith".

    Fe gadarnhaodd y bydd yn rhaid i ddisgyblion sydd wedi cael eu nodi fel 'cyswllt agos' i rywun sydd â'r feirws yn gorfod gwneud prawf dyddiol am 10 diwrnod er mwyn parhau i fynychu'r ysgol.

    "Bydd y rheiny sy'n cael prawf negatif yn parhau i fynychu'r ysgol fel yr arfer, ond bydd y rheiny sy'n cael prawf positif yn gorfod hunan-ynysu ac archebu prawf arall i gadarnhau'r canlyniad," meddai.

    YsgolFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. 'Nifer yn yr ysbyty wedi'u heintio ond ddim yn heintus'wedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    "Bydd penderfyniadau o'r math yma (fel un Bwrdd Iechyd Bae Abertawe) yn paratoi ar gyfer y diwrnodau anodd sydd i ddod.

    "Ar hyn o bryd rydym yn edrych yn ofalus sut mae modd cefnogi y bobl yna sydd mewn ysbytai ond sy'n barod ac yn gallu mynd adref.

    "Mae cannoedd mewn ysbytai sydd wedi cwblhau eu triniaeth ar gyfer yr haint ac maent yn gwella.

    "Mae rhai wedi bod mewn ysbytai am wythnosau lawer am eu bod yn parhau i gael prawf positif o'r haint.

    "Mae'r wybodaeth wyddonol ddiweddaraf yn awgrymu eu bod wedi cael yr haint ond nad ydynt bellach yn heintus.

    "Ry'n yn parhau i ddysgu mwy am yr haint a sut i ofalu am bobl gyda threigl amser.

    "Mae papur gan ein Grŵp Cynghori Technegol wedi dangos bod profion yn gallu olrhain yr haint mewn pobl 120 diwrnod wedi iddyn nhw gael eu heintio gyntaf," ychwanegodd Mr Gething.

  12. 'Un o'r penwythnosau prysuraf eleni' i'r GIGwedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Vaughan Gething wrth y gynhadledd ein bod "wedi pasio dwy garreg filltir drist dros y dyddiau diwethaf.

    "Mae nifer yr achosion coronafeirws sydd wedi'u cadarnhau wedi pasio 100,000, a dydd Gwener, am y tro cyntaf, fe wnaeth nifer y cleifion mewn ysbytai sydd â symptomau coronafeirws basio 2,000," meddai.

    Ychwanegodd bod y gwasanaeth iechyd wedi profi un o'r penwythnosau prysuraf eleni wrth i bwysau'r gaeaf a phwysau Covid-19 gyfuno.

    "Bydd nifer o'r bobl sydd angen triniaeth ysbyty yno am wythnosau, ac angen cefnogaeth ddwys i adfer," meddai'r Gweinidog Iechyd.

    "Mae niferoedd sylweddol o staff iechyd i ffwrdd yn sâl neu'n hunan-ynysu, felly mae ardaloedd allweddol yn fyr o staff.

    Ychwanegodd bod byrddau iechyd yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd i ohirio triniaethau er mwyn blaenoriaethu pwysau'r gaeaf a'r pandemig, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, sydd wedi cyhoeddi heddiw eu bod yn gohirio rhai triniaethau ac apwyntiadau.

  13. 'Peidiwch cymysgu gyda phobl eraill'wedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    "Mae yna nifer o resymau na allwn fod yn llawen y Nadolig hwn," medd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

    "Mae achosion niferus o'r haint yng Nghymru yn parhau.

    "Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod yr achosion ar gynnydd ym mhob awdurdod iechyd ond un sy'n dweud wrthym bod y siawns o'i gael yn uwch.

    "Felly rydym yn gofyn i bobl beidio cymysgu gydag unrhyw un heblaw y bobl rydych yn byw gyda nhw," medd Mr Gething.

  14. Dechrau rhoi pigiadau mewn cartrefi gofal ddydd Mercherwedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd wrth y gynhadledd bod dros 6,000 o bobl yng Nghymru eisoes wedi derbyn dos cyntaf y brechlyn Covid-19 gan Pfizer/BioNTech.

    Yn ôl Vaughan Gething bydd pobl mewn cartrefi gofal yn dechrau derbyn eu pigiadau o ddydd Mercher, gan ddechrau yng ngogledd Cymru.

    Dywedodd bod symud y brechlyn i gartrefi gofal yn her oherwydd bod angen ei gadw ar dymheredd isel iawn, a bod perygl y gallai fod yn llai effeithiol os yw'n cael ei symud yn ormodol ar ôl iddo ddadmer.

    "Os ydy popeth yn mynd yn dda yr wythnos hon, byddwn yn darparu'r brechlyn yn gynt i gartrefi gofal cyn y Nadolig, gan amddiffyn rhai o'n pobl fwyaf bregus," meddai.

    Gething
  15. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. 'Ceisio cael y disgyblion i gael cymaint o addysg â phosib'wedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Drwy gydol y pandemig hwn, mae wedi bod yn flaenoriaeth gennym i sicrhau bod dysgwyr yn cael cymaint o addysg â phosibl, a bod y sefyllfa'n amharu cyn lleied â phosibl ar yr addysg honno.

    "Bydd y cynlluniau rydym yn eu cyhoeddi heddiw yn chwarae rhan hollbwysig wrth gyflawni'r flaenoriaeth honno.

    "Rydym yn cydnabod nad yw wedi bod yn hawdd i ddisgyblion a staff sydd wedi gorfod hunan-ynysu o ganlyniad i gael eu nodi'n 'gysylltiad agos', ac rydym yn cydnabod bod hyn wedi cael effaith ar y dysgu wyneb yn wyneb."

    DisgyblionFfynhonnell y llun, PA Media
  17. Y gynhadledd yn dechrau mewn 10 munudwedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. 'Gwella cywirdeb yw'r nod,' medd Iechyd Cyhoeddus Cymruwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    O hyn ymlaen bydd y wybodaeth yn cynnwys achosion a marwolaethau a gofnodwyd hyd at 09:00 y diwrnod blaenorol, yn hytrach na 13:00 y diwrnod blaenorol.

    Mae yna addewid y bydd newid arall "yn gwella mwy ar gywirdeb" nifer yr achosion coronafeirws fesul 100,000 o'r boblogaeth yn ôl ardal awdurdod lleol dros gyfnod o saith diwrnod.

    Bydd hynny yn sgil "ymestyn y cyfnod oedi ar gyfer adrodd ar gyfradd achosion saith diwrnod o ddau i bedwar diwrnod".

    Dywed ICC mai "adnodd hysbysu cyflym i ddarparu'r wybodaeth orau a mwyaf diweddar" yw dashfwrdd yr ystadegau dyddiol, ac mai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) sy'n cyhoeddi'r ystadegau swyddogol ynghylch achosion coronafeirws yng Nghymru.

  19. 33 yn rhagor o farwolaethau a dros 1,200 o achosionwedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 1,228 o achosion newydd o Covid-19 wedi'u cadarnhau yng Nghymru, a bod 33 yn rhagor wedi marw gyda'r feirws.

    Mae'r ystadegau dyddiol marwolaethau ac achosion coronafeirws yng Nghymru yn deygol o fod yn uwch na'r arfer ddechrau'r wythnos hon yn sgil newid i'r ffordd y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cyhoeddi'r wybodaeth.

    Bydd yr ystadegau'n cael eu cyhoeddi am 12:00 bob dydd o ddydd Llun ymlaen - dwy awr yn gynharach yn y dydd nag sydd wedi digwydd hyd yn hyn ers dechrau'r pandemig.

    Doedd yna ddim diweddariad dyddiol ddydd Sul oherwydd gwaith cynnal a chadw i System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru. Dywed ICC y bydd "cyfnod o gysoni a dilysu data" yn dilyn y gwaith uwchraddio'n cael effaith ar y ffigyrau dyddiol "am sawl diwrnod".

    Covid
  20. Canlyniad y profion yn dod o fewn 20 i 30 munudwedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020

    ProfionFfynhonnell y llun, PA Media

    Mae profion llif unffordd (lateral flow tests) yn gallu canfod antigen feirysol Covid-19 ar sampl swab.

    Mae profion o'r fath yn rhoi canlyniad mewn 20 i 30 munud, ac mae'n bosib i bobl gynnal y profion hun arnyn nhw eu hunain.

    Profion o'r math yma sydd wedi bod yn cael eu defnyddio ar gyfer y profi torfol sydd wedi cael eu cynnal ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon.