'Ceisio lleihau nifer y disgyblion a staff sy'n hunan-ynysu'wedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich 14 Rhagfyr 2020
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd rhaglen brofi am Covid-19 yn cael ei chynnal mewn ysgolion a cholegau o fis Ionawr ymlaen.
Bydd disgyblion a staff fyddai fel arfer yn gorfod hunan-ynysu am eu bod wedi cael eu nodi fel 'cysylltiad agos' i rywun sydd â Covid-19 yn cael cynnig prawf fel bod modd iddyn nhw barhau i fynychu'r ysgol.
Fe fydd yr unigolion hynny yn gallu penderfynu hunan-ynysu neu wneud prawf "llif unffordd" ar ddechrau'r diwrnod ysgol a thrwy gydol y cyfnod hunan-ynysu.
Byddai'r rheiny sy'n cael canlyniad negatif yn gallu parhau i fynychu'r ysgol fel arfer, tra bo'r rheiny sy'n profi'n bositif yn gorfod hunan-ynysu a threfnu prawf arall i gadarnhau'r canlyniad.
Dywedodd y Gweinidog Addysg mai'r nod ydy lleihau nifer y disgyblion a staff sy'n gorfod hunan-ynysu.