Crynodeb

  • Prif Swyddog Meddygol Cymru a Phennaeth GIG Cymru sy'n arwain cynhadledd ddydd Mercher - Dr Frank Atherton a Dr Andrew Goodall

  • Comisiynydd yn dweud fod angen "cysondeb dysgu ar-lein"

  • Childline yn apelio am fwy o wirfoddolwyr

  • 'Arwyddion calonogol fod nifer achosion covid yn sefydlogi'

  • Tua 2,870 o gleifion sy'n gysylltiedig â Covid yn ysbytai Cymru

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:00 GMT 13 Ionawr 2021

    Dyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw.

    • Clywodd cynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru fod yna arwyddion calonogol fod nifer achosion covid yn sefydlogi.
    • Erbyn hyn mae'r gyfradd o achosion positif yn 410 ymhob 100,000.
    • Ond roedd y niferoedd dal ar gynydd yn Wrecsam a Sir Fflint.
    • Dywedodd Dr Goodall, prif weithredwr y GIG yng Nghymru, fod yr ysbytai yma dal dan bwysau mawr gyda bron i ddwy ran o dair o'r cleifion mewn unedau gofal dwys gyda covid.

    Diolch am ddarllen a hwyl am y tro.

  2. Covid yn atal 'Eisteddfod arferol' yn Llangollenwedi ei gyhoeddi 13:54 GMT 13 Ionawr 2021

    Does "dim modd cynnal Eisteddfod Ryngwladol Llangollenar ei ffurf arferol" oherwydd cyfyngiadau'r pandemig.

    Yn ôl trefnwyr yr ŵyl mae cyfyngiadau ar draws y byd yn gwneud hi'n anodd iawn rhagweld sefyllfa lle all nifer o bobl ddod ynghyd.

    Mae'r Eisteddfod felly yn y broses o gynllunio gweithgareddau, perfformiadau a chystadlaethau digidol ac yn gobeithio cyflwyno 'Eisteddfod Hybrid' lle fydd rhai pethau yn digwydd ar-lein - ac eraill ar lwyfan.

    Dyma fydd yr ail flwyddyn yn olynol i'r ŵyl beidio digwydd ar ei ffurf draddodiadol a hynny oherwydd Covid 19.

    dawns
  3. Cadw cartrefi gofal ar agor yn 'dipyn o gamp'wedi ei gyhoeddi 13:46 GMT 13 Ionawr 2021

    Mae osgoi gweld cartrefi gofal yng Nghymru yn cau oherwydd coronafeirws wedi bod yn “dipyn o gamp”, ond mae’r sefyllfa’n parhau i fod yn “ansicr”, meddai gweinidog o Lywodraeth Cymru.

    Mae cartrefi wedi wynebu costau cynyddol, fel mwy o staffio a PPE, a gostyngiad mewn preswylwyr oherwydd cyfraddau marwolaeth uwch.

    Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, fod cartrefi wedi derbyn cymorth ariannol gan ddefnyddio cronfa caledi, trwy gynghorau lleol.

    "Rydyn ni wedi gallu eu cadw nhw i redeg ond mae wedi bod yn anodd," meddai.

    Roedd Mrs Morgan yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd.

    "Trwy'r gronfa caledi, rydyn ni wedi'i gweithredu trwy lywodraeth leol, rydyn ni wedi gallu osgoi unrhyw gartrefi yn cau oherwydd rhesymau Covid, sydd yn dipyn o gamp yn fy marn i oherwydd mae hynny'n golygu bod pobl sy'n dibynnu ar eu cartrefi yn gweld y gwasanaeth yn parhau," meddai.

    "Rydyn ni'n gwybod pa mor ofnadwy yw hi os oes rhaid i bobl oedrannus symud.

    "Trwy helpu i ariannu'r llefydd gwag, sydd yn anochel wedi cael eu creu mewn cartrefi gofal, rydyn ni wedi gallu eu cadw i redeg, ond mae wedi bod yn anodd.

    "Mae ansicrwydd mewn cadw cartrefi gofal i redeg, ac rwy'n credu ein bod ni'n ymwybodol o hynny trwy'r amser."

    Roedd y pwyllgor yn ystyried cyllideb ddrafft 2021-22 Llywodraeth Cymru.

    Cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty
  4. Ymateb y BMA i'r gynhadleddwedi ei gyhoeddi 13:37 GMT 13 Ionawr 2021

    Wrth ymateb i sylwadau o'r gynhadledd i'r wasg, dywedodd Dr David Bailey, cadeirydd Cyngor Cymru y BMA: “Mae'n dda bod y niferoedd wedi dechrau gostwng, ond bydd hynny'n cymryd tair, pedair, pum wythnos i weithio ei ffordd i'r pwysau gwaith meddygol ar y rheng flaen, mewn unedau meddygol, mewn adrannau derbyniadau brys ac mewn gofal critigol.

    “Mae pobl yn derbyn gofal critigol am nifer o wythnosau - rydych chi'n datblygu salwch difrifol gyda Covid efallai 10 diwrnod ar ôl iddo ddechrau, felly mae'r holl bethau hyn i lawr y ffordd o ran pryd maen nhw'n mynd i gael effaith ar y gwasanaeth iechyd.

    "Felly mae gennym ni o leiaf bedair wythnos arall - efallai bum wythnos o faterion difrifol o'n blaen o ran gallu.”

  5. 'Angen cyflwyno'r brechlyn cyn gynted â phosib'wedi ei gyhoeddi 13:28 GMT 13 Ionawr 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd: “Mae angen i ni gyflwyno’r brechlyn cyn gynted â phosib oherwydd dyna’r ffordd o fynd i’r afael â’r feirws.

    "Derbyniwyd 327,000 dos (yng Nghymru) ond dim ond 101,000 o bobl sydd wedi derbyn y brechlyn ac rydym ar ei hôl hi o gymharu gyda rannau eraill o'r DU.”

    Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am benodi Gweinidog yn Llywodraeth Cymru i oruchwylio'r rhaglen frechu.

  6. Canolfannau brechu 24 awr yn bosibwedi ei gyhoeddi 13:22 GMT 13 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ymateb i gwestiynau pellach ynglŷn â'r broses brechu dywedodd y prif swyddog meddygol y byddai'n disgwyl i fyrddau iechyd sefydlu canolfannau brechu 24 awr pe bai galw am hynny.

    Ond ychwanegodd Dr Atherton fod angen i'r cyhoedd gofio "taw'r un bobl sy'n gweithio i roi brechlyn ag sydd hefyd yn rhan o'r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gwneud dyletswyddau eraill.

    "Felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydym yn gwneud y gwasanaeth yn ansefydlog drwy gynyddu gwaith mewn mannau eraill."

    Dywedodd Dr Goodall, pennaeth y gwasanaeth iechyd, fod "nifer y rhai sydd wedi cael brechlyn wedi dyblu mewn wythnos...rydym eisoes wedi cynyddu nifer y lleoliadau....ond dwi ddim yn credu nad oes dim na allwn ei ystyried o ran y dewisiadau bydd yn rhaid ei gwneud."

    brechlynFfynhonnell y llun, bbc
  7. Lefelau salwch yn y gwasanaeth iechyd yn uwch nag arferwedi ei gyhoeddi 13:20 GMT 13 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae staff ysbytai wedi blino'n ddifrifol ac mae lefelau salwch yn uwch nag arfer ar gyfer yr adeg yma o’r flwyddyn, meddai prif weithredwr y GIG.

    Wrth annerch cynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg, dywedodd Andrew Goodall: “Mae staff ein GIG yn adrodd, yn ddealladwy, eu bod wedi blino’n lân ar hyn o bryd oherwydd bod hwn wedi bod yn bwysau cyson.”

    Roedd tua 9% o staff i ffwrdd yn sâl, o'i gymharu â chyfradd arferol o 5-6% ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn, meddai.

    Roedd tua hanner y salwch oherwydd Covid-19 - naill ai oherwydd bod y staff eu hunain yn sâl neu oherwydd bod yn rhaid iddynt hunan-ynysu.

  8. Cymru yn wynebu "cyfnod heriol"wedi ei gyhoeddi 12:59 GMT 13 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Dr Goodall fod yna bryderon penodol am y gogledd "lle mae nifer y bobl yn yr ysbyty gyda covid wedi dyblu ers Gŵyl San Steffan.

    "Rwy'n credu y bydd y gaeaf hwn yr un mwyaf heriol rwyf i a staff yr NHS wedi ei wynebu.

    "Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mesurau yn eu lle cyn y Nadolig sydd o bosib yn rhoi ychydig o dystiolaeth fod pethau yn dechrau gwella.

    "Mae'n parhau yn heriol iawn, ac yn brysur....ac ein pryder ar gyfer Ionawr yw y bydd y straen newydd yn golygu o bosib y bydd yna gynnydd pellach."

    prawf
  9. Cymru'n aros cyn darparu ail ddos o'r brechlynwedi ei gyhoeddi 12:55 GMT 13 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Cymru yn glynu wrth bolisi ledled y DU ar ohirio ail ddosau o frechlyn Covid-19, meddai’r prif swyddog meddygol.

    Mae data swyddogol yn awgrymu bod llai o bobl yn cael ail bigiadau yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y DU.

    Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol Frank Atherton “bydd yn rhaid i chi ofyn i bobl yn Lloegr pam mae rhai achosion lle mae pobl wedi cael ail ddosau”.

    “Mae yna ychydig achosion yng Nghymru,” ychwanegodd.

    “Ar y cyfan rydw i'n falch iawn bod pawb yng Nghymru yn deall bod ail ddos ​​sy'n cael ei roi nawr yn ddos ​​cyntaf sy'n cael ei wrthod i rywun arall, ac mae angen yr amddiffyniad hwnnw arnyn nhw."

    Roedd ail ddosau wedi'u rhoi mewn rhai achosion er mwyn osgoi gwastraffu brechlyn ar ôl i becynnau gael eu hagor, meddai.

    Roedd llai nag 1% o’r brechlyn yn cael ei wastraffu yng Nghymru, ychwanegodd.

    Ar 30 Rhagfyr cytunodd pedwar prif swyddog meddygol y DU y byddai ail ddos ​​o'r brechlynnau Covid yn cael eu rhoi 12 wythnos ar ôl y pigiad cyntaf, yn lle ar ôl pedair wythnos.

    Mae hynny’n golygu y byddai’r system yn “dosbarthu mwy o'r brechlyn i fwy o bobl”, meddai Dr Atherton.

    BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. 'Angen ein bod yn parhau i ddilyn y rheolau'wedi ei gyhoeddi 12:45 GMT 13 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Dr Atherton ei bod yn bosib ein bod yn gweld rhai arwyddion calonogol a bod y data diweddaraf yn dangos lefelau tebyg i'r hyn a welwyd yn ystod y cyfnod clo byr.

    Ychwanegodd gan fod y straen newydd mor amlwg yng Nghymru ei bod yn bwysig fod pobl yn aros adref ac yn dilyn y rheolau.

    Golygai hyn hefyd, meddai, y dylwn weithio o gartref lle yn bosib.

    "Rydym wedi bod drwy gymaint ond mae yna beth ffordd i fynd eto a bydd angen eich help i wneud yn siŵr fod y rhaglen brechu bresennol yn gweithio.

    "Felly plîs. Arhoswch gartref, amddiffyn y gwasanaeth iechyd ac arbed bywydau.

    siopaFfynhonnell y llun, bbc
  11. Ysbytai dan bwysauwedi ei gyhoeddi 12:41 GMT 13 Ionawr 2021

    Dywedodd Dr Gooddall ei fod yn poeni am yr effaith ar ysbytai.

    Roedd bron dwy ran o dair y cleifion mewn gofal dwys gyda covid.

    "Mae unedau dan bwysau aruthrol", meddai.

    " Mae 150 o bobl mewn unedau dwys gyda covid. Dyma'r nifer uchaf yn ystod yr ail don.

    " Cyfartaledd yr oedran yw 59, ac mae bron ddwywaith gymaint o ddynion ag o fenywod," meddai.

  12. 2,870 o gleifion Covid yn ysbytai Cymruwedi ei gyhoeddi 12:34 GMT 13 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Fe wnaeth Dr Andrew Goodall, prif weithredwr y GIG yng Nghymru, fanylu ar effaith y pandemig ar y gwasanaeth iechyd.

    "Er gwaethaf yr arwyddion calonogol o achosion yn sefydlogi yn y gymuned, rydym yn parhau i fod â phryderon sylweddol ynghylch gallu'r GIG i ddarparu gwasanaethau. Bydd effaith y cyfyngiadau, gan gynnwys y mesurau cloi, yn cymryd rhai wythnosau i'w teimlo yn y gwasanaeth iechyd."

    Ychwanegodd fod 14 ysbyty ar lefel tri neu bedwar - y ddwy lefel uchaf o ran pwysau. Mae tri ysbyty ar lefel pedwar.

    Galwodd ar bobl i wrando ar neges gweithwyr y gwasanaeth iechyd am y pwysau sylweddol sy'n bodoli ar y funud: "Gwrandewch ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud - maen nhw'n dweud wrthych chi fod hyn yn real iawn ac mae'r pandemig yn cael effaith sylweddol ar gleifion ac ar staff.

    "Mae nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty â symptomau coronafeirws wedi parhau i gynyddu dros y pythefnos diwethaf. Erbyn hyn mae tua 2,870 o gleifion sy'n gysylltiedig â Covid yn ysbytai Cymru - yr uchaf a gofnodwyd.

    "Rydym bellach wedi cyrraedd dros ddwbl y niferoedd uchaf o gleifion yn ystod y don gyntaf ym mis Ebrill. Ar y lefel yma, bydd yn rhaid i'r GIG wneud rhai penderfyniadau anodd iawn ynghylch cydbwysedd y gwasanaethau y mae modd eu darparu."

    Ychwanegodd fod mwy na thraean o welyau ysbyty yn cael eu defnyddio gan gleifion sy'n dioddef o'r haint.

    "Mae hyn yn syml yn ddigynsail."

  13. Y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:25 GMT 13 Ionawr 2021

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  14. Newyddion llai calonogolwedi ei gyhoeddi 12:21 GMT 13 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Ond wrth droi at y newyddion llai calonogol dywedodd Dr Atherton nad ydym yn gwybod eto a yw'r amrywiad newydd o'r haint wedi cyrraedd ei binacl.

    Hwn nawr yw'r prif straen yn y gogledd, meddai,ac mae'n ymledu ar hyd y de o'r dwyrain i'r gorllewin.

    Ddoe meddai Dr Atherton fe wnaethom glywed mai'r haint oedd yn gyfrifol am y nifer mwyaf o "farwolaethau ychwanegol" ers yr Ail Ryfel Byd.

    Hefyd yn ôl y Swyddfa Ystadegau fe wnaeth cyfanswm nifer y marwolaethau gyrraedd dros 5,000,

    Cynhadledd
  15. Dros 100,000 wedi eu brechu, a nifer yr achosion yn sefydlogiwedi ei gyhoeddi 12:20 GMT 13 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Ar ddechrau'r gynhadledd i'r wasg heddiw, dywedodd Dr Frank Atherton, prif swyddog meddygol Cymru fod arwyddion calonogol yn awgrymu fod nifer yr achosion o goronafeirws yng Nghymru yn sefydlogi.

    Dywedodd fod gostyngiad bychan wedi bod yn y gyfradd achosion yn ystod y dyddiau diwethaf yn y mwyafrif o ardaloedd ar draws Cymru.

    Ychwanegodd fod y gyfradd erbyn hyn yn 410 ymhob 100,000 o'r boblogaeth ond roedd y niferoedd ar gynnydd yn y gogledd , yn enwedig yn Wrecsam a Sir y Fflint.

    "Yr wythnos diwethaf, pan siaradais â chi ddiwethaf, roedd un o bob pedwar prawf yn gadarnhaol.

    Heddiw, mae un o bob pum prawf yn bositif. Mae hwn yn mynd i'r cyfeiriad cywir ond mae'n dal yn rhy uchel ac yn dangos bod llawer o goronafeirws yn cylchredeg yn y gymuned o hyd.

    "Unwaith eto, mae hyn yn amrywio ledled Cymru - yn Wrecsam mae mwy na 30% o'r profion yn bositif.

    "Rydym hefyd yn parhau i wneud cynnydd gwirioneddol yn brechu pobl - mae'r ffigurau diweddaraf, sydd newydd eu cyhoeddi, yn dangos bod mwy na 101,300 o bobl wedi cael eu dos cyntaf."

  16. 66 yn fwy o farwolaethauwedi ei gyhoeddi 12:10 GMT 13 Ionawr 2021

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 66 marwolaeth a 1,533 achos newydd o Covid-19.

    Mae hyn yn golygu fod cyfanswm y marwolaethau yma yng Nghymru ers dechrau'r pandemig wedi cyrraedd 4,064, a chyfanswm yr achosion positif hyd yma ydy 174,412.

  17. Gwasanaeth iechyd dan straenwedi ei gyhoeddi 12:05 GMT 13 Ionawr 2021

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  18. Anrheg Nadolig unigryw i Mali Elwywedi ei gyhoeddi 11:51 GMT 13 Ionawr 2021

    Cafodd Mali Elwy o Lansannan, sir Conwy, ddiagnosis o ganser pan oedd yn dair oed.

    Roedd y ferch 19 oed i fod i dderbyn trawsblaniad aren gan ei brawd Morgan ddydd Llun 24 Awst, ond bu'n rhaid canslo'r llawdriniaeth oherwydd y pandemig.

    Ond yna, ychydig cyn y Nadolig, fe ddaeth yr alwad i ddweud y byddai'r llawdriniaeth yn gallu digwydd.

    Fe aeth y ddau i'r ysbyty - un i roi, a'r llall i dderbyn - anrheg Nadolig unigryw ac arbennig.

    Nawr mae Mali a Morgan wedi bod yn sôn am y profiad, a sut y maen nhw'n teimlo erbyn hyn.

    maliFfynhonnell y llun, Mali Morgan
  19. Childline yn gofyn am wirfoddolwyrwedi ei gyhoeddi 11:46 GMT 13 Ionawr 2021

    Mae Childline yn apelio am fwy o wirfoddolwyr wedi cynnydd yn nifer yr ymholiadau iechyd meddwl i'r gwasanaeth yn ystod y pandemig.

    Ers Ebrill 2020, mae nifer y sesiynau cwnsela iechyd meddwl i bobl ifanc o Gymru wedi bod 13% uwch na'r cyfnod blaenorol.

    Yn y cyfamser, disgynnodd nifer gwirfoddolwyr yr elusen 40% ar draws y DU.

  20. Addysg ar-lein ysgolion yn 'fratiog ac anghyson'wedi ei gyhoeddi 11:45 GMT 13 Ionawr 2021

    Mae dysgu ar-lein ysgolion Cymru yn "fratiog ac anghyson" ac mae angen strategaeth cenedlaethol gliriach, yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

    Dywed Sophie Howe y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau cysondeb dysgu.

    Fe gyhoeddwyd wythnos diwethaf bod ysgolion yn debygol o aros ynghau tan o leiaf ddiwedd mis Chwefror.

    Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod wedi cael ei chanmol am y ffordd yr oedd wedi darparu dyfeisiau i gael mynediad at wersi ar-lein.

    dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images