Crynodeb

  • Prif Swyddog Meddygol Cymru a Phennaeth GIG Cymru sy'n arwain cynhadledd ddydd Mercher - Dr Frank Atherton a Dr Andrew Goodall

  • Comisiynydd yn dweud fod angen "cysondeb dysgu ar-lein"

  • Childline yn apelio am fwy o wirfoddolwyr

  • 'Arwyddion calonogol fod nifer achosion covid yn sefydlogi'

  • Tua 2,870 o gleifion sy'n gysylltiedig â Covid yn ysbytai Cymru

  1. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich 13 Ionawr 2021

    Bore da a chroeso i'r llif byw gyda'r newyddion diweddaraf i chi o gynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg am 12:15.

    Prif Swyddog Meddygol Cymru a Phennaeth GIG Cymru sy'n arwain cynhadledd ddydd Mercher gan roi crynodeb o'r sefyllfa yng Nghymru wrth geisio rheoli'r haint.

    Arhoswch gyda ni am y diweddaraf o'r gynhadledd.