Crynodeb

  • Prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton a'r prif ymgynghorydd gwyddonol, Dr Rob Orford, sy'n arwain y gynhadledd

  • Y Rhif R wedi gostwng islaw 1 a bellach rhwng 0.7 a 0.9

  • Nifer yr achosion positif o coronafeirws yng Nghymru yn parhau i ostwng

  • Llywodraeth Cymru'n hyderus o allu gwahodd pobl dros 70 oed i gael brechiadau

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Dyna'r cyfan am heddiw o'r llif byw.

    • Fe wnaethom glywed fod nifer yr achosion positif o coronafeirws yng Nghymru yn parhau i ostwng.
    • Dywedodd y prif swyddog meddygol Dr Frank Atherton fod y patrwm i'w weld "ymhob rhan o Gymru".
    • Hefyd mae'r Rhif R wedi gostwng islaw 1 a bellach rhwng 0.7 a 0.9.
    • Ond mae pryder o'r newydd am amrywiolyn sy'n ymledu drwy'r wlad.
    • Mae 'amrywiad Caint' wedi ymledu dros Gymru ac mae nawr yn bresennol yn y rhan fwyaf o ranbarthau mewn lefelau o 50% neu fwy.
  2. 100,000 o farwolaethau yn y DU: "Penderfyniadau gwael"wedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Penderfyniadau "gwael" cyn ac yn ystod y pandemig sydd i gyfri am y ffaith taw'r Deyrnas Unedig sydd ag un o'r cyfraddau marwolaeth uchaf drwy'r byd, yn ôl gwyddonwyr.

    Wrth i nifer marwolaethau coronafeirws y wlad gyrraedd o leiaf 100,000, mae'r Prif Weinidog, Boris Johnson yn mynnu fod ei lywodraeth "wir wedi gwneud popeth y gallwn ni".

    Ond mae'r Athro Linda Bauld, arbenigwr iechyd cyhoeddus ym Mhrifysgol Caeredin, yn beirniadu penderfyniadau'r llywodraeth ar yr adegau y cafodd cyfyngiadau eu llacio.

    Dywedodd wrth y BBC fod diffyg canolbwyntio ar brofi ac olrhain, ac "anallu llwyr i gydnabod" angen i fynd i'r afael â goblygiadau teithio rhyngwladol hefyd wedi arwain at nifer fawr o farwolaethau dros y gaeaf.

    Mae'r Blaid Lafur hefyd wedi beirniadu "camgymeriadau anferthol" gan Mr Johnson, o ran oedi cyn dilyn cyngor gwyddonol i gyflwyno cyfnod clo deirgwaith.

    Boris Johnson
  3. Angen negeseuon clir ar gyfer caniatáu ailagor ysgolionwedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Mae angen mwy o wybodaeth am y meini prawf ar gyfer caniatáu i blant ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth, yn ôl y Comisiynydd Plant.

    Mae'r Athro Sally Holland yn galw am negeseuon "clir ac agored" er mwyn lleddfu'r ansicrwydd mae pobol ifanc yn ei deimlo.

    Fe fydd y cyfyngiadau coronafeirws, sy'n cynnwys cau ysgolion a cholegau, yn cael eu hadolygu ddydd Gwener.

    Eisoes mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn debygol na fydd holl ddisgyblion Cymru'n dychwelyd ar ôl hanner tymor fis Chwefror.

    DisgyblionFfynhonnell y llun, PA Media
  4. Ceidwadwyr yn galw am flaenoriaethu staff ysgolionwedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Wrth ymateb i'r gynhadledd i'r wasg dywedodd Aelod y Senedd Laura Ann Jones o'r Ceidwadwyr y dylid mynd ati mor fuan â phosib i frechu staff ysgolion.

    "Mae angen i athrawon a staff gael eu brechu.

    "Mae'n rhaid iddyn nhw fod ar y rhestr blaenoriaeth", meddai.

    "Mae'n holl bwysig fod ein plant yn dychwelyd i'r ysgol, ar gyfer iechyd meddwl ac ar gyfer eu haddysg."

  5. Dim Sioe Frenhinol eto eleniwedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Sioe Frenhinol Cymru

    Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cadarnhau bod y Sioe Frenhinol wedi'i gohirio tan 2022.

    Mae'r cyhoeddiad yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Bydd y gymdeithas yn ystyried cynnal nifer o ddigwyddiadau llai sy'n cydymffurfio gyda rheoliadau Covid dros yr haf.

    Maen nhw hefyd yn anelu at gynnal y Ffair Aeaf yn 2021 "cyn dychwelyd at normalrwydd newydd yn 2022".

    Sioe Frenhinol
  6. Pecyn 'amheus' wedi'i dderbyn yn ffatri trin brechlynwedi ei gyhoeddi 13:12 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Mae'r heddlu'n ymateb i ddigwyddiad yn Stad Ddiwydiannol Wrecsam ger ffatri ble mae cyflenwadau'r brechlyn Oxford-AstraZeneca yn cael eu trosglwyddo o danciau mawr i ffiolau dos unigol.

    Mae cwmni Wockhardt wedi cadarnhau bod "pecyn amheus" wedi ei dderbyn yno'r bore ma'.

    Mae'r BBC yn deall fod uned difa bomiau wedi'i galw i ddelio gyda phecyn amheus.

    Does dim adroddiadau o unrhyw anafiadau ac mae rhan o'r safle wedi cael ei wagio.

    Ffatri Wockhardt
  7. 'Dim lle i lacio cyfyngiadau'wedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Dywedodd y prif swyddog meddygol nad oes yna unrhyw le i lacio cyfyngiadau covid ar hyn o bryd.

    Ddydd Gwener, fe fydd y prif weinidog Mark Drakeford yn amlinellu pa gyfyngiadau fydd yna am gyfnod o dair wythnos arall.

    Dywedodd Dr Frank Atherton wrth y gynhadledd i'r wasg mai'r adolygiad nesaf - ymhen tair wythnos- fydd yr un i "feddwl am lacio pellach."

  8. Parhau i ffafrio polisi Cymru gyfanwedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Dywedodd y prif swyddog meddygol ei bod dal yn well cael polisi cenedlaethol nag un rhanbarthol yng Nghymru.

    Roedd Dr Atherton yn ymateb i gwestiynau a ddylid cyflwyno cyfyngiadau lleol unwaith fod y cyfnod clo yma yn dod i ben.

    "Fy marn bersonol yw ei bod yn well cadw at bolisi Cymru gyfan.

    "Un peth rydym wedi ei ddysgu yw bod pethau'n symud yn gyflym iawn o ardal i ardal.

    "Rydym wedi siarad o'r blaen am wahaniaethu rhwng y de a'r gogledd, ac rydym wedi gweld y feirws yn symud yn gyflym o'r de i'r gogledd.

    "Mae'n symud mor gyflym fel mai polisi Cymru gyfan sydd orau yn fy marn i".

  9. 'Rhaid dysgu gwersi a llacio cyfyngiadau'n bwyllog'wedi ei gyhoeddi 12:58 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Rhaid "dysgu o'r hyn sydd wedi digwydd wrth inni ddod mas o gyfnodau clo blaenorol", medd Dr Atherton, wrth benderfynu sut a phryd i lacio'r cyfyngiadau presennol.

    "Pan wnaethon ni lacio pethau, fe wnaethon ni eu llacio mewn ffordd wnaeth adael i'r feirws ailsefydlu ei hun yn gyflym iawn, iawn.

    "Yr hyn mae angen i ni wneud yw llacio pethau'n bwyllog iawn.

    "Mae cael dysgu wyneb yn wyneb mewn ysgolion yn flaenoriaeth uchel iawn felly dyna un o'r pethau rydym yn anelu at ei wneud yn gyntaf."

    Dr Frank Atherton
  10. 'Trywdd cywir o ran brechu'wedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Cymru yn parhau i fod ar y trywydd cywir o ran cynnig y dos cyntaf o'r brechlyn i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol Chwefror, yn ôl y prif swyddog meddygol Dywedodd Dr Frank Atherton:

    "Ar hyn o bryd mae tua 52% o'r rhai dros 80 wedi cael eu brechu.

    "Ond o fewn y grŵp hwnnw, mae pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, a phobl sy'n gweithio yna - mae dros 70% o'r bobl yma wedi cael eu brechu."

    Ychwanegodd nad oedd Cymru erioed wedi gosod dyddiad penodol er mwyn brechu pawb dros eu 80.

  11. 'Brechu rhywun yng Nghymru bob pum eiliad'wedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r ffigyrau brechu diweddaraf - dros 312,000 o bobl wedi cael eu brechiad coronafeirws cyntaf - yn "wir gynnydd", meddai Dr Atherton.

    "Dros yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth ein timau rhagorol frechu rhywun yng Nghymru bob pum eiliad.

    "Mae'r rhaglen frechu'n cyflynu gyda phob wythnos sy'n mynd heibio ac mae lefel yr amddiffyniad yn codi wrth i fwy o bobl gael eu dos cyntaf.

    "Rydym yn canolbwyntio ar frechu pawb sy'n gweithio neu'n byw mewn cartrefi gofal erbyn diwedd y mis i gyrraedd carreg filltir nesaf ein Strategaeth Frechu.

    "Ac rydym ar y trywydd cywir o ran ein carreg filltir gyntaf o gynnig brechiad i'r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol Chwefror."

    Brechu claf
  12. 'Her newydd'wedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Cyfeiriodd Dr Orford hefyd at ddau straen arall, un o Dde Affrica a'r llall o Brasil.

    Hyd yma mae 10 achos o'r math De Affrica wedi ei gofnodi yng Nghymru - y rhain i gyd o bobl sydd wedi teithio dramor.

    "Mae datblygiad yr amrywiad newydd o haint yn codi her newydd oherwydd y posibilrwydd y gallant newid natur y pandemig, drwy gynyddu cyflymder yr haint ac felly'r nifer sy'n cael eu heintio.

    "Ein pryder mwyaf, wrth reswm, yw y gallai straen newydd ymddangos na fydd yn ymateb i'r brechlyn - gan fynd a ni nol i be roedden ni ar gychwyn hyn oll."

    rob
  13. Effaith y straen newydwedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Fe wnaeth y prif ymgynghorydd gwyddonol, Dr Rob Orford, gyfeirio at y straen newydd sydd wedi dod i'r amwlg, sy'n cael ei adnabod fel "amrywiad Caint."

    Ers iddo amlygu ei hun, mae wedi ymledu dros Gymru, gan ddod yn brif straen yn y rhan fwyaf o ardaleodd yma.

    Mae nawr yn bresennol yn y rhan fwyaf o ranbarthau a hynny mewn lefelau o 50% neu fwy, meddai.

    "Rydym yn credu mae'r straen yma sy'n gyfrifol am y nifer uchel o achosion ers cyn ac ar ol y Nadolig."

    prawfFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Pwysau'n parhau ar y gwasanethau iechydwedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae gwasanaethau iechyd "yn dal dan bwysau parhaus", medd Dr Atherton er bod rhai arwyddion bod nifer y cleifion sy'n cael eu danfon i'r ysbytai gyda symptomau coronafeirws "yn dechrau sefydlogi".

    "Rydym hefyd yn dechrau gweld rhai arwyddion bychan ond cynnar o leihad yn y galw am ofal critigol," dywedodd.

    "Ond rydym eto i weld gostyngiad y trosglwyddiad cymunedol yn amlygu ei hun drwodd i'r GIG."

  15. Y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Rhif R yn is - ond y perygl yn parhauwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Rhif R - sy'n dynodi faint o bobl sy'n debygol o gael eu heintio gan glaf gyda'r feirws - hefyd wedi gostwng islaw 1.

    Yn ôl Dr Atherton, mae bellach rhwng 0.7 a 0.9.

    "Mae hyn oll yn dweud wrthym fod trosglwyddiad yr haint yn arafu a maint yr achosion presennol yn lleihau," meddai.

    "Mae hyn yn newyddion positif, ond nid ydym allan o berygl eto.

    Gydag o gwmpas 200 o achosion i bob 100,000 o bobol, mae lefelau coronafeirws yn dal yn uchel iawn."

    Graffeg Rhif RFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Gwyliwch yn fyw nawrwedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Achosion yn gostwng ar draws Cymruwedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton bod Cymru'n "dechrau gweld gwelliant ar y cyfan" o ran achosion coronafeirws yn y gymuned.

    Mae nifer yr achosion wedi bod yn gostwng yn gyson ers yn gynnar ym mis Ionawr, meddai wrth gynhadledd y wasg Llywodreth Cymru.

    Ychwanegodd fod y gyfradd dros saith diwrnod bellach o gwmpas 200 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth.

    "Mae hyn yn sylweddol is na'r cyfraddau uchel iawn o 650 o achosion i bob 100,000 o'r boblogaeth roedden ni'n eu gweld yn yr wythnosau cyn Nadolig," dywedodd.

    Mae'r gostyngiad, meddai, i'w weld "ymhob rhan o Gymru".

  19. Honiad o 'annhegwch' wrth frechu gweithwyr iechyd y gogleddwedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Mae rhai gweithwyr iechyd yn y gogledd yn rhwystredig ynglŷn â phwy sy'n cael blaenoriaeth wrth dderbyn brechiad Covid-19.

    Mae rhaglen Newyddion S4C wedi cael ar ddeall bod ambell achos lle mae staff yn y maes iechyd sy'n gweithio tu ôl i ddesgiau wedi cael y brechlyn tra bod eraill sy'n gweithio ar y rheng flaen heb ei gael.

    Dywedodd un gweithiwr iechyd yn y gogledd, sydd am fod yn ddienw, wrth y rhaglen fod yna annhegwch yn y system ddosbarthu.

    Gweithiwr iechyd yn cael brechiadFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Rhybudd rhag sgamswedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter