Crynodeb

  • Prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton a'r prif ymgynghorydd gwyddonol, Dr Rob Orford, sy'n arwain y gynhadledd

  • Y Rhif R wedi gostwng islaw 1 a bellach rhwng 0.7 a 0.9

  • Nifer yr achosion positif o coronafeirws yng Nghymru yn parhau i ostwng

  • Llywodraeth Cymru'n hyderus o allu gwahodd pobl dros 70 oed i gael brechiadau

  1. 49 o farwolaethauwedi ei gyhoeddi 11:56 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Yn ôl ffigyrau diweddara Iechyd Cyhoeddus Cymru roedd yna 49 yn rhagor o farwolaethau yn gysylltiedig gyda Covid-19 yng Nghymru.

    Daw hyn â'r cyfanswm i 4,610.

    Fe wnaeth 537 o bobl brofi'n bositif i'r haint, gan godi'r cyfanswm i 189,689.

  2. Cynnig brechu pobl dros 70 "cyn diwedd yr wythnos"wedi ei gyhoeddi 11:51 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    BBC Radio Wales

    Mae'r Gweinidog Iechyd yn dweud bod Llywodraeth Cymru'n "hyderus" o allu gwahodd pobl dros 70 oed i gael brechiadau coronafeirws "erbyn diwedd yr wythnos".

    Dywedodd Vaughan Gething wrth raglen frecwast Radio Wales bod hynny'n brawf i ba raddau y mae'r rhaglen frechu'n symud yn ei blaen, er i Lywodraeth Cymru fethu'u tharged gyntaf o frechu 70% o'r bobl dros 80 oed erbyn y penwythnos diwethaf.

    Mynnodd bod Cymru ar y trywydd cywir i frechu'r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol Chwefror.

    "Os edrychwch chi ar yr wythnos ddiwethaf, yn nhermau pa mor gyflym rydym yn mynd, fe wnaethon ni [frechu] mwy fesul pen o'r boblogaeth nag unrhyw un o wledydd y Deyrnas Unedig," meddai.

    Mae dros 300 o feddygfeydd yn cynnig brechiadau erbyn hyn, meddai, ond roedd yn cydnabod nad yw'r cyflenwadau presennol o'r brechlyn yn caniatáu'r nifer mwyaf posib o frechiadau bob dydd, er taw dyna'r gobaith maes o law.

    Claf oedrannus yn cael brechiadFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Bore dawedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich 27 Ionawr 2021

    Croeso i'r llif byw ar ddydd Mercher 27 Ionawr.

    Fe fyddwn yn dod â'r diweddaraf i chi o gynhadledd coronafeirws Llywodraeth Cymru sydd heddiw yn cael ei harwain gan y prif swyddog meddygol, Dr Frank Atherton, a'r prif ymgynghorydd gwyddonol Rob Orford.

    Bydd y gynhadledd yn dechrau am 12:15. Arhoswch efo ni.