Crynodeb

  • Y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fu'n cynnal y gynhadledd am 12:15

  • Rhybudd y bydd addysg disgyblion yn dioddef heb y dechnoleg gywir i ddysgu ar-lein

  • Llywodraeth Cymru i dderbyn £650m ychwanegol gan y Trysorlys o ganlyniad i wariant ar Covid-19

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw, wrth i'r Gweinidog Iechyd ddweud bod y cyfnod clo "wir wedi gweithio", ond bod angen bod yn bwyllog wrth lacio unrhyw gyfyngiadau.

    Fe allwch chi ddarllen crynodeb o'r hyn gafodd ei drafod yn y gynhadledd yn yr erthygl ar ein hafan.

    Fe fydd y llif byw yn ôl ar gyfer cynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher.

    Tan hynny, diolch am ddilyn a hwyl fawr am y tro.

  2. Angen i unrhyw lacio fod yn 'seiliedig ar ddata, nid dyddiadau'wedi ei gyhoeddi 13:19 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Plaid Cymru

    Mae'n rhaid i unrhyw lacio ar y cyfyngiadau fod yn "seiliedig ar ddata, nid dyddiadau", yn ôl Plaid Cymru.

    Dywedodd yr arweinydd, Adam Price ei bod yn "hollol allweddol nad ydy dyddiadau'n cael eu gosod".

    "Mae angen adeiladu'r strategaeth yn seiliedig ar ddata, nid dyddiadau, ac rwy'n credu ei bod yn allweddol bod pethau'n cael eu llacio gam wrth gam yn hytrach na phopeth ar unwaith," meddai.

  3. 'Y peth gwaethaf fyddai llacio'r cyfyngiadau'n rhy gyflym'wedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    "Y peth gwaethaf posib fyddai llacio'r cyfyngiadau'n rhy gyflym" wrth ddod allan o'r cyfnod clo, medd y Gweinidog Iechyd.

    Roedd Vaughan Gething yn ymateb i gwestiwn yn ystod cynhadledd coronafeirws i'r wasg am pryd fyddai'r cyhoedd yn gallu cwrdd tu allan am bryd o fwyd gyda chartref arall.

    Dywedodd, tra'i bod yn bwysig i fod "yn blwmp ac yn blaen gyda phobl Cymru" am y potensial sydd yna, nid oedd yn gallu rhoi unrhyw sicrwydd am ba gyfyngiadau fyddai'n gallu cael eu llacio yn y misoedd i ddod gan ei fod yn ddibynnol ar lefelau'r feirws.

    Dywedodd yn ystod yr adolygiad pob tair wythnos y bydd Llywodraeth Cymru yn "eglur ac yn bwyllog" am beth y maen nhw'n "disgwyl gwneud yn ystod y cyfnodau adolygu sy'n dilyn".

    Ond ychwanegodd mai'r "peth gwaethaf fyddai i symud yn rhy gyflym ac i fod yn ddiofal, ac i wedyn orfod atal llacio'r cyfyngiadau".

  4. Galw am ystyried llacio'r rheolau i gampfeyddwedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Yn ymateb i'r gynhadledd, dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, Andrew RT Davies ei bod yn gywir i fod yn ofalus wrth lacio unrhyw gyfyngiadau, ond ei fod yn gobeithio y gellir ailagor campfeydd.

    "Mae cyfnod clo mor hir wedi rhoi iechyd meddwl pobl dan bwysau - byddwn yn hoffi gweld rhyw fath o ystyriaeth o ailagor campfeydd mewn modd gofalus er mwyn helpu gyda lles pobl," meddai.

    Ychwanegodd bod hefyd angen mynd i'r afael â'r rhestrau aros hir am driniaethau sydd wedi deillio o'r pandemig.

  5. 'Siomedig' nad yw rhai pobl dros 70 wedi cael brechlynwedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dylai pobl dros 70 sydd heb gael apwyntiad am frechlyn gysylltu â'u bwrdd iechyd lleol, meddai'r Gweinidog Iechyd.

    Dywedodd Vaughan Gething ei fod yn "siomedig" nad yw rhai pobl dros 70 wedi derbyn apwyntiad brechlyn.

    Ond dywedodd fod negeseuon i atgoffa pobl wedi cael eu gyrru.

    Pwysleisiodd Mr Gething fod 89.5% o bobl rhwng 70-74 a mwy na 90% o bobl dros 75 wedi derbyn dos cyntaf y brechlyn.

    "Felly rydyn ni'n cyrraedd niferoedd uchel iawn o bobl," meddai.

  6. Y llywodraeth yn ystyried 'pethau bychan' o ran llaciowedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Yn ôl Vaughan Gething mae'r llywodraeth yn edrych ar "bethau bychan" y gellir gwneud er mwyn llacio'r cyfyngiadau, ond dywedodd nad oedd yn barod i ddatgelu'r hyn sy'n cael ei drafod.

    "Rydyn ni'n ystyried a oes yna bethau bychan eraill y gallwn ni wneud," meddai.

    Ond rhybuddiodd "ni fydd yna unrhyw lacio mawr a llawer o gymysgu rhwng cartrefi gwahanol."

    Bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud ddydd Gwener am unrhyw lacio yn y cyfyngiadau ar gyfer yr wythnosau nesaf.

  7. 'Dim sicrwydd pendant' am beidio ail-gyflwyno cyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Nid oes "sicrwydd pendant" na fydd cyfyngiadau yn cael eu hail-gyflwyno yn y dyfodol ar ôl cael eu llacio, yn ôl y Gweinidog Iechyd.

    Dywedodd Vaughan Gething fod gwneud datganiadau pendant yn "beryglus".

    Mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson wedi dweud y bydd y cynllun i lacio'r cyfyngiadau yn Lloegr yn un "pwyllog ond yn benderfyniad terfynol".

    Dywedodd Mr Gething nad yw eisiau gweld dychweliad i fwy o gyfyngiadau, ond does dim sicrwydd na fydd hynny "byth yn digwydd".

    Dywedodd Mr Gething pe bai nifer o gyfyngiadau'n cael eu llacio ond wedyn bod "cynnydd mawr" yn y feirws - fel amrywiolyn newydd - wedyn "byddai gan weinidogion Cymru gyfrifoldeb i weithredu".

  8. 'Y mwyafrif yn ffafrio cyfyngiadau nes ei bod yn ddiogel'wedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd wrth y gynhadledd ei fod yn hyderus y byddai'n well gan y mwyafrif o bobl aros mewn cyfnod clo nes ei bod yn ddiogel i ddechrau llacio'r cyfyngiadau.

    Yn ôl Vaughan Gething "pryder mwyaf y rhan fwyaf o bobl ydy dod allan o'r cyfnod clo yn rhy sydyn a chael y feirws yn cynyddu eto".

    Ychwanegodd bod "pandemig ar ei hanner" yn "risg sylweddol i iechyd cyhoeddus".

  9. Cyfraddau Covid-19 yn 'dangos bod y cyfnod clo yn gweithio'wedi ei gyhoeddi 12:49 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r gostyngiad yn lefelau Covid-19 yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf yn dangos bod y cyfnod clo "wir wedi gweithio", meddai Mr Gething.

    Ond dywedodd ei bod yn fwy aneglur hyd yma pa effaith mae'r rhaglen frechu wedi'i gael ar nifer yr achosion.

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd y bydd y brechlynnau yn "helpu i amddiffyn pobl pan fydd mwy o gymysgu".

    "Er bod llai na 10% o brofion yn dod yn ôl yn bositif, rydyn ni'n dal yn bell iawn o'r cyfraddau isel iawn oedd gennym ar ddiwedd yr haf," meddai.

    Ond ychwanegodd ei fod yn obeithiol y bydd nifer y marwolaethau'n gostwng ac yn aros yn isel yn y dyfodol, gan roi'r hyder bod y brechlynnau yn cael effaith.

  10. Angen cynllun 'pwyllog' i ddelio â'r amrywiolionwedi ei gyhoeddi 12:47 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd fod amrywiolion Covid yn golygu bod angen cynllun pwyllog wrth ystyried llacio'r cyfyngiadau.

    "Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn pan rydyn ni'n dod allan o'r cyfnod clo wrth feddwl am amrywiolion newydd a heintus y feirws yn y DU," meddai Vaughan Gething.

    "Amrywiolyn Kent yw amrywiolyn mwyaf amlwg y feirws nawr yng Nghymru."

    Dywedodd fod 13 achos o amrywiolyn De Affrica wedi cael eu darganfod yng Nghymru a bod gan 11 o'r rheiny gyswllt â theithio tramor.

    "Mae'r amrywiolion yma wedi ychwanegu elfen arall i'r pandemig. Mae'n bwysig ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i ostwng lefelau coronafeirws yn ein cymunedau," meddai.

    "Y ffordd orau o leihau'r tebygrwydd o amrywiolyn newydd yn dod i'r amlwg yw cadw'r nifer o achosion yn isel."

  11. Ymchwil byrddau iechyd Cymru 'wedi achub bywydau'wedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd hefyd roi clod i fyrddau iechyd Cymru am weithio gyda Phrifysgol Rhydychen ar ymchwil Covid-19 sydd "wedi achub bywydau".

    Mae'r gwaith ymchwil wedi bod yn ceisio darganfod triniaethau gwell ar gyfer pobl sy'n dioddef yn wael â'r feirws.

    "Mae eisoes wedi dangos bod y steroid rhad - dexamethasone - yn lleihau marwolaethau hyd at draean," meddai Vaughan Gething.

    "Mae hefyd newydd gyhoeddi y gallai cyffur arthritis achub un ym mhob 25 person sy'n ddifrifol wael â coronafeirws."

  12. Y 'gamp fawr nesaf' yw brechu grwpiau pump i nawwedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Gweinidog Iechyd mai'r "gamp fawr nesaf" yw brechu pobl yng ngrwpiau blaenoriaeth pump i naw, yn ogystal â rhoi ail ddos y brechlyn i'r rheiny yn y pedwar grŵp cyntaf.

    "Fe fyddwn yn dechrau gan gynnig apwyntiadau i bobl yng ngrwpiau pump i chwech", meddai Vaughan Gething.

    "Mae hyn yn cynnwys pobl rhwng 65 a 69, pobl rhwng 16 a 64 sy'n byw gyda chyflyrau iechyd, oedolion ifancach sy'n byw mewn llety preswyl a nifer o ofalwyr di-dâl sy'n edrych ar ôl pobl fregus."

    Er hyn, dywedodd: "Mae'n rhaid i ni ystyried arafiad o gyflenwad y brechlyn ar draws y DU fel rhan o'n cynllun dros y cwpl o wythnosau nesaf.

    "Rydw i eisiau bod yn glir - rydyn wedi gweithio hyn mewn i'n cynllun ac ni fydd hyn yn canslo apwyntiad unrhywun am ail ddos.

    "Rydyn ni'n disgwyl cyflenwadau i gynyddu yn gyflym erbyn mis Mawrth ac os yw hyn yn digwydd, byddwn yn gallu cynnig brechlyn i bawb yng ngrwpiau pump i naw erbyn diwedd mis Ebrill."

  13. 'Cael plant yn ôl i'r dosbarth' ydy'r flaenoriaethwedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd Mr Gething mai blaenoriaeth y llywodraeth fydd cael y plant ieuengaf yn ôl i'r ysgol, pan fydd yr arolwg nesaf o'r cyfyngiadau yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener.

    "Rydyn ni eisoes wedi dweud mai cael y plant ieuengaf yn ôl i'r ysgol ar ôl hanner tymor ydy'r flaenoriaeth," meddai'r Gweinidog Iechyd.

    "Rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac undebau er mwyn datblygu cynllun fydd yn gweld y plant ieuengaf yn dychwelyd i'r dosbarth o ddydd Llun nesaf ymlaen."

    Ychwanegodd bod gweinidogion yn "edrych ar y posibilrwydd o wneud newidiadau bychan eraill er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i deuluoedd ar ôl cyfnod clo mor hir".

  14. 'Chwarter y boblogaeth wedi'u brechu'wedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd wrth y gynhadledd bod chwarter poblogaeth Cymru bellach wedi derbyn brechlyn yn erbyn coronafeirws.

    "Rydyn ni wedi cyrraedd ein carreg filltir gyntaf ar amser ond ni fyddwn yn gorffwys nawr," meddai Vaughan Gething.

    "Byddwn yn parhau i weithio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un wedi'u gadael ar ôl.

    "Mae'r gyfran sydd wedi dewis cael eu brechu wedi bod yn uchel iawn ymysg y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf," meddai, gan ychwanegu nad yw'n rhy hwyr os ydy pobl yn penderfynu newid eu meddyliau.

  15. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. 'Dos cyntaf o'r brechlyn i naw grŵp erbyn Ebrill'wedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    MD

    Bydd y naw grŵp blaenoriaeth yng Nghymru wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn erbyn diwedd Ebrill, medd y Prif Weinidog.

    Mae'r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf - y rhai dros 70, preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a chymdeithasol rheng flaen a phobl fregus - eisoes wedi cael cynnig y brechlyn.

    Yn ei gyfweliad ar Politics Wales ddydd Sul, dywedodd Mark Drakeford hefyd y bydd map a fydd yn arwyddo'r ffordd allan o'r cyfnod clo presennol yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener.

    Ar ôl hanner tymor bydd plant tair i saith oed yn cael dychwelyd i'r ysgol ynghyd â rhai disgyblion sydd angen cwblhau gwaith ymarferol - mae'r union ddiwrnod yn ddibynnol ar benderfyniad y cyngor sir ar ba mor ddiogel yw hynny.

    Yn ystod y cyfweliad, dywedodd Mr Drakeford na ddylai pobl ddisgwyl llawer mwy o lacio yn y cyfyngiadau yn yr adolygiad diweddaraf o'r sefyllfa ddydd Gwener yma.

  17. Y gynhadledd yn dechrau mewn 10 munudwedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. 784,000 wedi'u brechu yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau hefyd bod 784,809 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn Covid-19 bellach.

    Mae 5,402 wedi derbyn y ddau ddos.

  19. Cofnodi 16 marwolaeth a 363 achos newyddwedi ei gyhoeddi 11:56 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 16 yn rhagor o farwolaethau'n ymwneud â Covid-19 dros y 24 awr ddiwethaf.

    Cafodd 363 o achosion newydd eu cadarnhau hefyd.

    Mae'n golygu bod 5,137 o bobl bellach wedi marw ar ôl cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru, a 199,518 o achosion wedi'u cadarnhau yma ers dechrau'r pandemig.

    Ond mae'r gyfradd achosion yn parhau i ostwng yn araf, gyda 92 achos ar gyfer pob 100,000 o bobl yn ystod y saith diwrnod diwethaf.

  20. £650m yn 'ychwanegol' o'r Trysorlys i Gymruwedi ei gyhoeddi 11:52 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021

    Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru dderbyn £650m ychwanegol gan Drysorlys Llywodraeth y DU o ganlyniad i wariant ychwanegol Covid-19.

    Mae'n dod â chyfanswm y cyllid a drosglwyddwyd o San Steffan i Gaerdydd ers y pandemig i £5.85bn.

    Bydd gweinidogion yng Nghaerdydd yn gallu cario unrhyw ran o'r £650m na fydd yn cael ei wario erbyn mis Ebrill drosodd i'r flwyddyn ariannol nesaf.

    Wrth groesawu'r arian newydd, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod "yn dod ar yr unfed awr ar ddeg".

    Mae rhagor ar y stori hon ar ein hafan.

    ArianFfynhonnell y llun, Getty Images