'Addysg disgyblion i ddioddef' heb fwy o dechnolegwedi ei gyhoeddi 11:48 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2021
Ar ddechrau hanner tymor mae 'na rybudd y bydd addysg disgyblion yn dioddef os nad oes gan bob plentyn yng Nghymru'r dechnoleg cywir i ddysgu ar-lein.
Mi fydd rhai o'r disgyblion ifancaf yn dychwelyd i'r dosbarth yr wythnos nesaf gyda dysgu o adref yn parhau i'r gweddill.
"Mae lot o deuluoedd 'da ni lle mae dim ond un cyfrifiadur neu iPad neu mobile sydd gyda'r teulu i gyd," meddai Bethan Jones, sy'n bennaeth cynorthwyol Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin.
Fis Ebrill y llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru glustnodi £3m ar gyfer gliniaduron a dyfeisiadau wi-fi, ond honnir fod nifer o ddisgyblion, yn enwedig o gefndiroedd difreintiedig, yn dal i aros.
Yn mis Ionawr, dywedodd yr elusen Child Poverty Action Group eu bod yn poeni bod rhai ysgolion dim ond yn cynnig help i blant oedd yn cael cinio ysgol am ddim.