Crynodeb

  • Pedwar person o ddwy aelwyd wahanol yn cael ymarfer corff o ddydd Sadwrn ymlaen

  • Gobeithion y bydd modd llacio'r rheol 'aros adref' ymhen rhyw dair wythnos

  • Disgwyl y bydd holl blant cynradd a rhai uwchradd yn dychwelyd i'r ysgol ganol Mawrth

  • Nifer yr achosion o Covid-19 wedi gostwng yn sylweddol

  • Hawl gan atyniadau ymwelwyr a gwestai i ailagor wythnos nesaf i gynnal seremonïau priodas a phartneriaeth sifil

  1. Covid-19: 16 marwolaeth a 336 achos newyddwedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich 21 Chwefror 2021

    Y ffigyrau dyddiol yn dangos bod 860,083 o bobl bellach wedi derbyn un dos o'r brechlyn.

    Read More
  2. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    A dyna ni am heddiw ar y diwrnod y dywedodd y Prif Weinidog

    • ei fod yn gobeithio y bydd modd llacio'r rheol i "aros adref" ymhen ychydig dros dair wythnos;
    • y gallai holl blant oed cynradd a rhai disgyblion uwchradd ddychwelyd i'r ysgol o ddydd Llun, 15 Mawrth os ydy sefyllfa Covid-19 yn parhau i wella;
    • fod pedwar person o ddau gartref gwahanol yn cael ymarfer corff o ddydd Sadwrn ymlaen ar yr amod eu bod yn cadw pellter cymdeithasol;
    • fod y niferoedd o achosion Covid yn parhau i ostwng.

    Bydd gweddill straeon y dydd a'r penwythnos ar wefan Cymru Fyw ond tan gynhadledd ddydd Llun, cadwch yn ddiogel.

    Hwyl a diolch am eich cwmni.

  3. Ceidwadwyr Cymreig yn 'croesawu elfennau' o'r adolygiadwedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Wrth ymateb i sylwadau y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies AS ei fod yn "croesawu elfennau" o adolygiad y llywodraeth, "yn enwedig dychweliad plant i'r ysgol".

    Ond ychwanegodd ei fod yn "bwysig cael cefnogaeth ariannol ychwanegol" i fusnesau.

    "Rydw i'n cydnabod nad oes modd pennu dyddiadau penodol ond mae angen i gwmnïau baratoi yn ariannol ac yn ymarferol cyn ailagor," meddai.

    Ychwanegodd ei fod yn croesawu'r hawl i adael mwy o bobl i gwrdd y tu allan ar gyfer ymarfer corff, ond "gellid fod wedi gwneud mwy... yn enwedig wrth feddwl am ymarfer corff plant a champfeydd".

  4. Plaid Cymru: 'Doeth bod yn ofalus cyn llacio'wedi ei gyhoeddi 13:44 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Plaid Cymru

    Dywed Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, bod y darlun bellach yn un cadarnhaol ond ei fod e'n parhau i boeni am amrywolion o'r haint.

    "Rwy'n meddwl mai lledaeniad sydyn yr amrywolion newydd sydd wedi arwain at ymateb gofalus heddiw," meddai.

    "Mae ymgynghorwyr y llywodraeth ac adroddiad Y Gell Cyngor Technegol heddiw yn dweud y 'gallai llacio cyfyngiadau yn rhy gynnar neu'n rhy gyflym arwain at achosion newydd fyddai angen triniaeth ysbyty neu farwolaethau'.

    "Felly mae'n rhaid bod yn ofalus gan nad ydym eto yn gwybod digon am effaith yr amrywolion newydd sydd yng Nghymru ar hyn o bryd," ychwanegodd.

  5. Dim ailagor campfeydd am o leiaf tair wythnoswedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Gall gweithgaredd mewn campfeydd beri risg i ledaeniad y feirws, os oes nifer fawr o bobl yn y gampfa wedi'u heintio â Covid ar yr un pryd, yn ôl y cyngor gwyddonol sydd wedi cael ei roi i weinidogion.

    Cadarnhaodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod y cyngor presennol yn dweud y dylai campfeydd aros ar gau - yn enwedig yn sgil cynnydd amrywiolion newydd o'r feirws sy'n lledaenu'n haws.

    "Dydw i bendant ddim yn disgwyl i gampfeydd ailagor, yn sicr ddim yn ystod y tair wythnos nesaf," meddai Mr Drakeford.

    Ymhen tair wythnos bydd y Y Gell Cyngor Technegol (ymgynghorwyr gwyddonol) yn edrych eto ar y canllawiau, a byddant yn edrych ar beth ellid ei wneud."

    gymFfynhonnell y llun, PA
  6. 'Awyddus i ddysgu gwersi' o'r cyfnod clo cyntafwedi ei gyhoeddi 13:28 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog yn dweud ei fod yn "awyddus i ddysgu gwersi" o'r cyfnod pan laciwyd y cyfyngiadau ar ôl y don gyntaf o Covid-19.

    "Fe wnaeth rhai pethau weithio'n dda ac eraill ddim cystal," meddai.

    Roedd Mr Drakeford yn ymateb i gwestiwn am a ddylai mwy o gefnogaeth gael ei roi i fusnesau sydd wedi cael eu gorfodi i gau dros y cyfnod clo.

    "Beth mae busnesau eisiau yw gallu ailagor a rhedeg busnes lwyddiannus yn yr un ffordd â'r amser hwn y flwyddyn ddiwethaf," meddai.

    "Dywedais heddiw y byddwn yn siarad gyda siopau sy'n gwerthu nwyddau na sy'n angenrheidiol er mwyn canfod a fydd modd ailagor ymhen tair wythnos.

    "Y tro diwethaf, agoron ni siopau trin gwallt yn gyntaf, ac wedyn gwasanaethau eraill tebyg - fel siopau trin ewinedd ac ati.

    "Rydw i'n awyddus i ddysgu gwersi o'r flwyddyn ddiwethaf - parhau i wneud y pethau a wnaeth weithio'n dda y pryd hynny, ac yna gwneud pethau eraill yn well," ychwanegodd.

  7. 'Effaith ailagor ysgolion yn sail i'n penderfyniadau nesaf'wedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog ei bod hi'n annhebygol y bydd y diwydiant lletygarwch yn cael ailagor am o leiaf chwech wythnos.

    Ond os fydd nifer o achosion y coronafeirws yn parhau i ostwng, dywedodd Mark Drakeford y gellid agor yn raddol ac yn ddiogel.

    Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi cwrdd â phenaethiaid y diwydiant twristiaeth ac wedi dweud wrthynt: "...dydy ailagor yn y pythefnos, neu'r tair wythnos nesaf ddim yn debygol."

    Er hyn aeth ymlaen i ddweud: "...Bydd lot yn digwydd yn y chwe wythnos yna a byddwn yn dysgu llawer am effaith ailagor ysgolion ar nifer yr achosion o'r feirws.

    "Bydd ein blaenoriaethau yn parhau i fod yn gysylltiedig â phlant ac addysg a siopau na sy'n gwerthu nwyddau hanfodol."

  8. Eisiau 'osgoi sefyllfa agor ac yna gorfod cau eto'wedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae gweinidogion eisiau osgoi sefyllfa ble mae llefydd fel tafarndai yn cael ailagor, ond wedyn yn gorfod cau eto, yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford.

    Cynhaliodd Mr Drakeford drafodaethau gydag aelodau o fewn y diwydiant ddydd Iau, ond does dim gwybodaeth eto pryd fydd tafarndai a bwytai yn cael ailagor.

    Dywedodd: "Wrth gwrs rydyn ni'n gwrando ac yn cyfathrebu gyda'r sector, a fy neges i iddyn nhw ac i fusnesau eraill yw bod rhaid bod yn bwyllog wrth feddwl am ailagor.

    "Bydd gwneud gormod yn rhy gynnar yn syml yn mynd â ni nôl i'r dyddiau anodd iawn a welon ni cyn y Nadolig."

    Ychwanegodd bod y diwydiant lletygarwch wedi dweud wrtho nad ydyn nhw am agor ac yna gorfod cau eto.

    peintFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Consortiwm Manwerthu Cymru: 'Angen annog cwsmeriaid i siopa eto'wedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Wrth ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog, Mark Drakeford, dywed Sara Jones ar ran Consortiwm Manwerthu Cymru: "Mae nifer o fanwerthwyr wedi cael eu taro'n galed gan y trydydd cyfnod clo a'r un olaf gobeithio ond mae yna lygedyn o obaith bellach y gallwn ailagor ein drysau unwaith eto.

    "Ry'n yn edrych ymlaen i gael trafodaethau adeiladol gyda Llywodraeth Cymru wythnos nesaf.

    "Rhaid cael hyder yn y ffaith y bydd siopau sy'n gwerthu nwyddau na sy'n cael eu hystyried yn angenrheidiol yn agor yn ddiogel a dy'n ni ddim yn credu bod angen agor y siopau yn raddol.

    "Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu agor siopau'r stryd fawr tra hefyd yn amlinellu cynllun economaidd a fydd yn annog cwsmeriaid i ddechrau siopa eto.

    "Rhaid hefyd gael datganiad buan ar Ryddhad Ardrethi Busnesau wedi mis Mawrth."

  10. 'Edrych ymlaen at y gwanwyn ac at y cyfnod pan y gallwn gefnu ar y feirws'wedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    "Ry'n ni gyd wedi dod ffordd bell ers dechrau'r pandemig ond ry'n ni dal angen eich help i gadw ein gilydd yn ddiogel.

    "Dim ond trwy gydweithio mae modd cadw Cymru yn ddiogel ac atal lledaeniad yr haint," meddai Mr Drakeford.

    "Ry'n yn ymwybodol mai amrywiolyn Caint sy'n fwyaf amlwg yng Nghymru ar hyn o bryd.

    "Os ydym am lacio'r cyfyngiadau yn raddol mae'n rhaid i ni gadw nifer yr achosion yn isel - fe fydd hynny hefyd yn atal rhagor o amrywiolion rhag datblygu.

    "Rwy'n edrych ymlaen at flagur y gwanwyn ac at y cyfnod y byddwn yn gallu cefnu ar y feirws," ychwanegodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

  11. Swyddfa Ystadegau: Nifer yn gostwngwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod nifer yr achosion o Covid yng Nghymru yn parhau i ostwng wedi i gannoedd o brofion swab gwddf a thrwyn cael eu cynnal mewn cannoedd o gartrefi ar draws Cymru yn ystod yr wythnos.

    Yn ystod yr wythnos hyd at 12 Chwefror, amcangyfrifir mai 24,600 o bobl yng Nghymru sydd â'r haint - gostyngiad ers yr wythnos flaenorol.

    Mae'r gyfradd bellach yn un ymhob 125 - lle cynt roedd yn un ymhob 85 o bobl.

    Mae'r arolwg yn cael ei ystyried yn ddefnyddiol gan ei fod yn cofnodi pwy sydd â'r haint ond ddim yn dangos unrhyw symptom.

  12. 'Ystyried agor llefydd trin gwallt o fewn tair wythnos'wedi ei gyhoeddi 12:47 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    "Os fydd hi'n bosib cael gwared â'r angen i aros adref yna fe wnawn ni ystyried a yw'n bosib dechrau agor busnesau sy'n gwerthu nwyddau na sy'n angenrheidiol a busnesau fel llefydd trin gwallt.

    "Ymhen tair wythnos wedi hynny, byddwn yn cael trafodaethau pellach gyda'r diwydiant twristiaeth am be sy'n bosib os yw'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i wella.

    "Fe wnes i gyfarfod gyda'r tasglu twristiaeth ddoe ac fe siaradon ni am agor y diwydiant yn raddol gan ddechrau gyda llety hunan-ddarpar," ychwanegodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

  13. 'Disgyblion cynradd a blynyddoedd 11 a 13 i ddychwelyd ymhen tair wythnos'wedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    "Mae cael plant yn dychwelyd i'r ysgol a phobl ifanc i golegau yn flaenoriaeth," medd y Prif Weinidog.

    "Os yw'r sefyllfa yn gwella yn ystod y tair wythnos nesaf, ein nod yw gweld pob disgybl ysgol gynradd yn dychwelyd i'r ysgol i gael addysg wyneb yn wyneb.

    "Ry'n hefyd am weld disgyblion blynyddoedd 11 a 13 yn dychwelyd a'r rhai sy'n ceisio cael cymwysterau mewn colegau," ychwanegodd.

    MD
  14. Modd priodi wythnos nesafwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    "Yr wythnos nesaf bydd hawl gan atyniadau ymwelwyr a gwestai i ailagor ond dim ond i gynnal seremonïau priodas a phatneriaeth sifil.

    "Wrth i fwy o bobl gael eu brechu mewn cartrefi gofal, byddwn yn ailedrych hefyd ar ein canllawiau ymweld

    "Ry'n yn gwybod bod y sefyllfa yn gallu gwaethygu o fewn wythnosau ond os ydi'r sefyllfa yn parhau i wella ac os nad yw'r amrywolion newydd yn peri mwy o achosion, fe fyddwn yn yr adolygiad nesaf yn ystyried llacio'r cyfyngiadau ond ar sail cyngor gwyddonol," ychwanegodd Mr Drakeford.

    priodasFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Pedwar person o ddwy aelwyd yn cael gwneud ymarfer corffwedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    "Mae cael plant yn ôl i'r ysgol yn flaenoriaeth," medd y Prif Weinidog.

    "Fe fydd y mesurau aros adref yn parhau am dair wythnos arall ond o fory ymlaen fe fydd rhywfaint o newidiadau.

    "Bydd pedwar person o ddwy aelwyd wahanol yn gallu gwneud ymarfer corff y tu allan.

    "Dyw hynny ddim yn golygu gyrru i rywle i ymarfer a dyw e ddim yn golygu cymdeithasu.

    "Bydd Chwaraeon Cymru yn gwneud trefniadau ar gyfer athletwyr i ddechrau ailhyfforddi a chwarae," ychwanegodd Mr Drakeford.

  16. 25,000 o bobl wedi cael yr ail ddos o'r brechlynwedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r cynllun brechu yn mynd o nerth i nerth, medd y Prif Weinidog.

    Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod bron i 840,000 wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn - mae hynny bron yn draean o oedolion Cymru.

    "Yr wythnos hon mae pobl wedi bod yn dechrau cael apwyntiadau am ail ddos o'r brechlyn ac eisoes mae 25,000 wedi cael yr ail ddos," medd Mr Drakeford.

    "Y cam nesaf fydd cynnig y brechlyn yng ngrwpiau blaenoriaeth pump i naw tan ddiwedd Ebrill - gn gymryd bod y cyflenwadau yn ein cyrraedd."

  17. Nifer y rhai sydd mewn ysbyty yn is na 1,800wedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r rhif R bellach yn is nag 1, medd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

    Mae nifer y bobl sydd mewn ysbyty gyda'r haint bellach wedi gostwng yn is na 1,800 - a hynny am y tro cyntaf ers ddechrau mis Rhagfyr.

    Mae nifer y rhai sydd mewn uned gofal dwys oherwydd yr haint 50% 50% yn is nag oedd ar frig y pandemig.

  18. Cynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg yn cychwynwedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Y Prif Weinidog Mark Drakeford sy'n rhoi'r diweddariad ar sefyllfa coronafeirws Cymru ddydd Gwener.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Sefyllfa iechyd cyhoeddus wedi gwellawedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth agor y gynhadledd dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus wedi gwella'n ddirfawr o ganlyniad i'r gwaith da sydd wedi cael ei wneud gan bawb yn ystod y ddau fis diwethaf.

    "Mae'r achosion nawr ar eu hisaf ers diwedd mis Medi," meddai, "gyda'r gyfradd oddeutu 84 achos ymhob 100,000 o bobl.

    "Mae nifer yr achosion yn gostwng ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys gogledd Cymru - lle ry'n wedi gweld y niferoedd uchaf o achosion yn ystod yr wythhosau diwethaf."

  20. Dros 800,000 wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlynwedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fod 839,065 o bobl bellach wedi derbyn y brechlyn cyntaf.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter