Crynodeb

  • Pedwar person o ddwy aelwyd wahanol yn cael ymarfer corff o ddydd Sadwrn ymlaen

  • Gobeithion y bydd modd llacio'r rheol 'aros adref' ymhen rhyw dair wythnos

  • Disgwyl y bydd holl blant cynradd a rhai uwchradd yn dychwelyd i'r ysgol ganol Mawrth

  • Nifer yr achosion o Covid-19 wedi gostwng yn sylweddol

  • Hawl gan atyniadau ymwelwyr a gwestai i ailagor wythnos nesaf i gynnal seremonïau priodas a phartneriaeth sifil

  1. Un o bob tri oedolyn wedi cael y brechlynwedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    "Diolch i waith tîm Cymru gyfan, mae'r achosion o coronafeirws ar eu lefel isaf ers diwedd mis Medi tra bod un ym mhob tri o oedolion yng Nghymru wedi derbyn brechlyn," medd Mr Drakeford fore Gwener.

    Mae disgwyl i'r adolygiad nesaf ystyried a ydy hi'n bosib lleihau'r cyfyngiadau ar siopau sy'n gwerthu nwyddau sydd ddim yn hanfodol, a siopau trin gwallt neu harddwch.

    Ond pwysleisiodd Mr Drakeford na fyddai popeth yn ailagor ar unwaith.

    brechlyn
  2. Blynyddoedd 11 a 13 fydd y flaenoriaeth ym mis Mawrthwedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud mai cael disgyblion blynyddoedd 11 a 13 yn ôl i'r dosbarth fydd y flaenoriaeth o ran ysgolion uwchradd, ac yna blynyddoedd 10 a 12.

    Ond ychwanegodd Kirsty Williams ei bod yn debygol mai dychwelyd i'r dosbarth yn rhannol fydd y disgyblion hynny, gydag addysgu ar-lein yn parhau ochr yn ochr ag addysgu wyneb yn wyneb.

    uwchraddFfynhonnell y llun, PA Media
  3. Yr achosion Covid ar eu huchaf yn Sir y Fflintwedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae ffigyrau achosion Covid-19 yng Nghymru ar eu huchaf yn sir y Fflint, gyda gyfradd yn 121.7 o achosion ym mhob 100,000 person, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Caiff hyn ei ddilyn gan Wrecsam, gyda 112.5, Powys gyda 111.8, ac Ynys Môn gyda 111.4.

    Ceredigion sydd â'r nifer isaf o achosion, gyda 22 am bob 100,000 o'r boblogaeth.

    Map of Covid cases per 100,000
  4. Disgwyl y bydd pobl yn cael ymweld â chartrefi gofalwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Fore Gwener dywedodd Mr Drakeford y bydd "nifer o newidiadau bychan" yn cael ei wneud i'r cyfyngiadau o ddydd Llun ymlaen.

    Bydd nifer y bobl sy'n cael ymarfer corff gyda'i gilydd yn yr awyr agored yn cynyddu o ddau i bedwar, ar yr amod eu bod yn cadw pellter cymdeithasol.

    Fe fydd hawl i gynnal mwy o ymweliadau â chartrefi gofal hefyd os ydy hi'n ddiogel i wneud hynny, a bydd mwy o athletwyr elît yn cael ailddechrau hyfforddi.

    Ychwanegodd y Prif Weinidog y bydd modd i fwy o leoliadau ailddechrau seremonïau priodas - nid swyddfeydd cofrestru ac addoldai yn unig.

    Ond mae disgwyl i weddill y canllawiau i aros adref yn aros mewn grym am o leiaf tair wythnos arall.

    Cartref Glyn Nest yn diolch i weithwyr y GIG
    Disgrifiad o’r llun,

    Cartref Glyn Nest yn diolch i weithwyr y GIG yn 2020

  5. Gobeithio rhoi hwb i'r diwydiant twristiaeth erbyn y Pasgwedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Fore Gwener dywedodd Mark Drakeford y bydd angen i gyfraddau barhau i ostwng cyn gwneud unrhyw newidiadau a dywedodd bod yn rhy gynnar i ddweud a fydd pobl yn cael teithio tu hwnt i'w hardaloedd lleol.

    Cadarnhaodd hefyd y gallai holl blant oed cynradd a rhai disgyblion uwchradd ddychwelyd i'r ysgol o ddydd Llun, 15 Mawrth os ydy sefyllfa Covid-19 yn parhau i wella.

    Awgrymodd hefyd fore Gwener bod y llywodraeth yn gobeithio gallu rhoi hwb i'r diwydiant twristiaeth erbyn y Pasg, gan ailagor llety gwyliau hunangynhaliol.

    twristFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd penwythnos y Pasg yn digwydd eleni rhwng Gwener y Groglith ar 2 Ebrill a dydd Llun y Pasg ar 5 Ebrill

  6. Croeso i gynhadledd newyddion ddydd Gwenerwedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich 19 Chwefror 2021

    Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fydd yn arwain cynhadledd Llywodraeth Cymru am 12.15.

    Mae disgwyl iddo ddweud ei fod yn gobeithio llacio'r rheol 'aros adref' ymhen tair wythnos.

    Bydd y wybodaeth ddiweddaraf i'w gweld yma.

    Arhoswch gyda ni.